Stori newyddion

Gwiriwch i weld a allwch wneud cais am ad-daliad o ffioedd dirprwyo

Bydd cynllun y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ad-dalu unrhyw un a dalodd ormod o ffioedd dirprwyo

Caiff ad-daliadau eu cynnig i unrhyw un y codwyd mwy o ffioedd dirprwyaeth arno nag oedd angen iddo eu talu rhwng y 1af o Ebrill 2008 a’r 31ain o Fawrth 2015.

Lansiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y cynllun ad-dalu ar y 4ydd o Hydref 2019.

Gall unrhyw un hawlio ad-daliad ar yr amod:

  • ei fod wedi cael dirprwy yn y gorffennol
  • ei fod yn gweithredu ar ran rhywun oedd â dirprwy ac sydd wedi marw

Mae’n rhaid bod y ddirprwyaeth mewn grym rhwng y 1af o Ebrill 2008 a’r 31ain o Fawrth 2015.

Ni fydd pawb a dalodd ffioedd yn ystod y cyfnod hwn yn cael ad-daliad - dim ond y cleientiaid hynny a dalodd fwy na chost goruchwylio’r dirprwyaethau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Bydd dirprwyon presennol sy’n gweithredu ar ran cleientiaid presennol yn cael ad-daliad yn awtomatig os bydd arian yn ddyledus iddynt.

Bydd y cynllun yn cael ei redeg gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac nid yw’n berthnasol i ffioedd a delir naill ai i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr Alban, i’r Swyddfa Gofalu a Gwarchod yng Ngogledd Iwerddon neu i’r Llys Gwarchod.

Mae canllawiau llawn ar y cynllun ad-dalu a phwy sy’n gymwys i wneud cais ar gael ar y dudalen Hawlio ad-daliad dirprwyaeth.

Cyhoeddwyd ar 9 October 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 October 2019 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.