Newidiadau i fesurau atal gwyngalchu arian yn y DU
Mae mesurau gwrth gwyngalchu arian wedi newid ar 26 Mehefin 2017.

Ers 26 Mehefin 2017, mae newidiadau’n wedi cael eu gwneud i fesurau atal gwyngalchu arian yn y DU er mwyn helpu atal gwyngalchu arian a chyllido gan derfysgwyr. Mae’n cynyddu tryloywder ar y rhain hynny sy’n berchen ar ac yn rheoli cwmnïau a phartneriaethau yn y DU.
Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi gwneud newidiadau i ofynion cyfredol ynglŷn â gwybodaeth am bobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA).
Effaith ar gwmnïau
Bydd angen i chi ddweud wrthym pan mae’r wybodaeth eich PRhA yn newid. Mae gennych 14 diwrnod i ddiweddaru’ch cofrestr a 14 diwrnod arall i anfon y wybodaeth atom.
Mae ein canllaw PRhA yn dweud wrthych sut i adnabod eich PSC, ac anfonwch ni atom ni gwybodaeth. (Saesneg yn unig)¶
Newidiadau i eithriadau
Mae cwmnïau DTR5 wedi cael eu heithrio rhag y gofynion i gadw gwybodaeth am eu PRhA. Ers 26 Mehefin mae’r eithriadau hyn yn newid, ac efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am PRhA. Os yw’ch cwmni yn masnachu ar AEE neu farchnad Atodlen 1, mae’n cael ei eithrio o hyd. Os nad yw’ch cwmni wedi cael ei eithrio, mae angen i chi anfon gwybodaeth am PRhA i ni pan fydd newidiadau yn digwydd.
Effaith ar fathau eraill o gwmni
Partneriaethau Cyfyngedig Albanaidd (SLP)
O 24 Gorffennaf, rhaid i SLP gweithredol gofrestru gwybodaeth am PRhA gyda ni. Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau o fewn 14 diwrnod. Bob blwyddyn, mae’n rhaid i chi gadarnhau bod y manylion yn gywir. O 24 Gorffennaf, bydd angen i chi roi gwybodaeth am PRhA wrth gofrestru SLP newydd.
Partneriaethau Cyffredinol Albanaidd (SP)
O 24 Gorffennaf, bydd angen unrhyw SP lle mae’r holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol, cofrestru gwybodaeth am PRhA gyda ni. Rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau o fewn 14 diwrnod ac yn cadarnhau y wybodaeth hon bob blwyddyn ar y datganiad cadarnhau.
Cyfundrefn diogelu
Mae newidiadau i’r drefn amddiffyn. Pan fydd SP a SLP yn rhoi gwybodaeth am PRhA i ni, daw’r drefn amddiffyn ar gael iddynt. Gallwch wneud cais am gyfyngiad ar eich gwybodaeth cael ei datgelu ar y gofrestr gyhoeddus. Dim ond asiantaethau cyfeirio credyd ac awdurdodau cyhoeddus penodedig sy’n gallu cyrchu’r wybodaeth hon ar hyn o bryd. Mae’r ddeddfwriaeth atal gwyngalchu arian newydd yn ymestyn hyn i sefydliadau credyd ac ariannol, gan fod y rhain yn cynnal diwydrwydd dyledus gwsmer. Lle bo’n briodol, bydd gwybodaeth am PRhA, gan gynnwys gwybodaeth warchodedig, ar gael iddynt.