Stori newyddion

Newidiadau i Ddeddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 2010

Bydd Deddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 2010 fe y’i diwygiwyd gan Ddeddf Yswiriant 2015 a Rheoliadau Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 2016 yn dod i rym ar 1 Awst 2016.

Read about changes to Third Parties Act 2010

Beth mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei wneud

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i drydydd parti ddwyn achos yn uniongyrchol yn erbyn yr yswiriwr, gan ddileu’r angen i adfer y cwmni sydd wedi’i ddiddymu er mwyn cyflwyno hawliad.

Mae Deddf 2010 yn moderneiddio ac yn symleiddio Deddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 1930 a Deddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) (Gogledd Iwerddon) 1930. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r Deyrnas Unedig gyfan.

Mae’r Ddeddf:

  • wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y cyfreithiau ansolfedd ers y 1930au megis trefnau gwirfoddol
  • yn rhestru’r amgylchiadau ansolfedd a thebyg i ansolfedd (gan gynnwys diddymu) y gall Deddf 2010 fod yn berthnasol i gwmnïau ynddynt
  • yn dileu’r gofyniad i hawlwyr adfer cwmnïau sydd wedi’u diddymu sydd wedi’u dileu o’r gofrestr er mwyn datrys hawliadau yn erbyn partïon wedi’u hyswirio sy’n ansolfent

Lle y bydd y gyfraith newydd yn berthnasol

Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol lle ymrwymodd cwmni i rwymedigaeth:

  • ac yr aeth i gyflwr o ansolfedd ar neu ar ôl 1 Awst 2016
  • cyn 1 Awst 2016 ac y dechreuodd yr ansolfedd ar neu ar ôl 1 Awst 2016
  • ar neu ar ôl 1 Awst 2016 ac y dechreuodd yr ansolfedd cyn 1 Awst 2016

Os ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth ac yr aethpwyd i’r cyflwr o ansolfedd, ill dau, cyn 1 Awst 2016, bydd Deddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 1930 yn dal i fod yn berthnasol. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd angen adfer y cwmni er mwyn bwrw ymlaen â hawliadau anaf personol.

Mae’r un rheolau’n berthnasol lle mae cwmni, yn lle mynd i gyflwr o ansolfedd, yn cael ei ddiddymu o dan adran 1000, 1001 neu 1003 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth darllenwch Deddf Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 2010 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Trydydd Partïon (Hawliau yn erbyn Yswirwyr) 2016.

Cyhoeddwyd ar 14 June 2016