Newidiadau i’r ffordd y mae Cofrestrfa Tir EF yn anfon negeseuon ebost am geisiadau
Sut mae Cofrestrfa Tir EF yn cynyddu diogelwch a symlrwydd gyda dogfennau ar gael trwy gyswllt diogel yn hytrach nag fel atodiad i ebost.
O 23 Awst 2026, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno ffordd newydd o anfon gohebiaeth yn ymwneud â cheisiadau trwy ebost, megis ymholiadau, llythyrau a rhybuddion.
Yr hyn sy’n newid
Yn hytrach na chael dogfennau fel atodiadau PDF, bydd cwsmeriaid yn cael cyswllt diogel yn yr ebost a fydd yn eu galluogi i gyrchu eu gohebiaeth.
Bydd y cyswllt diogel yn yr ebost ar gael am 200 diwrnod, gan roi amser i gwsmeriaid gyrchu a chadw dogfennau yn ôl yr angen.
Wrth glicio ar y cyswllt, gofynnir i gwsmeriaid nodi’r cyfeiriad ebost yr anfonwyd yr ebost ato yn wreiddiol. Os anfonir yr ebost ymlaen at aelod arall o’r tîm, gallant barhau i gyrchu’r cyswllt, ar yr amod eu bod yn gwybod cyfeiriad ebost y derbynnydd gwreiddiol.
Anfonir negeseuon ebost o’r fath o hm.land.registry@notifications.service.gov.uk. Efallai bydd cwsmeriaid am ychwanegu’r cyfeiriad ebost hwn at eu rhestr o anfonwyr diogel er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn parhau i gael gohebiaeth heb darfu.
Beth na fydd yn newid
Bydd cwsmeriaid yn parhau i gael hysbysiadau ebost am ymholiadau, llythyrau a rhybuddion – dim ond y dull o gyrchu’r dogfennau sy’n newid. Bydd diweddariadau a negeseuon atgoffa pellach yn cael eu rhannu â chwsmeriaid cyn y newid.
Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y dangosir PDFs yn y porthol.
Ni fydd hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy’n cael gohebiaeth trwy feddalwedd sydd wedi ei gysylltu ag APIs Business Gateway Cofrestrfa Tir EF (rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau).
Mae’r newid hwn yn dilyn diweddariadau i feddalwedd ebost Microsoft, a bydd yn helpu i sicrhau y gall Cofrestrfa Tir EF barhau i ddarparu gwasanaeth diogel a dibynadwy. Anfonir y negeseuon ebost gan ddefnyddio GOV.UK Notify, sef platfform diogel gan y llywodraeth y mae Cofrestrfa Tir EF wedi bod yn ei ddefnyddio i anfon rhai rhybuddion ers dros flwyddyn.
Updates to this page
-
Updated "late August" to 23 August 2026.
-
First published.