Stori newyddion

Newidiadau i ffïoedd Cofrestrfa Tir EM

Ffïoedd cofrestru tir Cofrestrfa Tir EM i godi.

O 31 Ionawr 2022, bydd rhai o ffïoedd cofrestru tir Cofrestrfa Tir EM yn codi am y tro cyntaf er 2009.

Bydd hyn yn effeithio ar geisiadau am gofrestriad cyntaf a chofrestru trosglwyddiadau, prydlesi a morgeisi eiddo (graddfeydd 1 a 2).

Ar gyfer y mwyafrif o’r ceisiadau yr effeithir arnynt – y rhai a gyflwynir yn electronig – bydd y ffi yn codi gan 11%. Bydd y rhai a gyflwynir trwy’r post yn codi gan 21%.

Yn ogystal, bydd rhai mân newidiadau i ffïoedd ac eithriadau. Mae’r prif newidiadau yn y cyd-destun hwn fel a ganlyn:

  1. Cynnwys cyfeiriad penodol at y ffi ar gyfer ceisiadau am gofnod sy’n ymwneud â chwmnïau Hawl i Reoli o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. Y nod yw gwneud hyn yn gliriach, gan nad oes unrhyw newid yn y ffi.

  2. Newid i’r ffïoedd ar gyfer cael copïau hanesyddol o’r gofrestr, fel eu bod yn cyfateb â’r ffïoedd ar gyfer copïau swyddogol o’r gofrestr.

  3. Eithriad newydd ar gyfer ceisiadau i nodi ymwadiadau eiddo a wneir gan ddatodwyr, Cyfreithiwr y Trysorlys, ac ymddiriedolwyr mewn methdaliad.

Gweler Cynnydd mewn ffïoedd Cofrestrfa Tir EM am ragor o wybodaeth.

Mae’r cynnydd mewn ffïoedd yn golygu y gall Cofrestrfa Tir EM symud ymlaen gyda chynlluniau i gyflawni’r hyn y mae ei angen ar gwsmeriaid – mwy o gysondeb a chyflymder wrth ddarparu gwasanaethau trwy fuddsoddi mewn gallu gweithredol a chyflymu digideiddio ac awtomeiddio gwasanaethau.

O dan adran 102 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae angen gwneud newidiadau i ffïoedd Cofrestrfa Tir EM trwy orchymyn ffi (sy’n offeryn statudol). Cafodd ei roi gerbron y Senedd ar 2 Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd ar 3 November 2021