Stori newyddion

Newidiadau i reoliadau cyfrifyddu

Rheoliadau newydd yn dod â newidiadau ar gyfer cyfrifon cwmnïau

pile of pound coins

Daeth Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau a Grwpiau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2015 i rym ar 6 Ebrill 2015. Mae’r rhain yn nodi nifer o newidiadau i’r hyn mae’n rhaid i gwmnïau ei wneud wrth baratoi a ffeilio eu cyfrifon.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, ni all cwmnïau bach neu ganolig ffeilio cyfrifon cryno (abbreviated accounts) gyda ni mwyach. Gall y cwmnïau lleiaf oll baratoi cyfrifon micro-endidau, a gall cwmnïau bach eraill baratoi set o gyfrifon talfyredig (abridged accounts) i’w haelodau, y gellir hefyd eu ffeilio gyda ni. Gellir gweld fformatau cyfrifon talfyredig a’r fantolen berthnasol yn y rheoliadau.

Rhai o’r prif newidiadau:

  1. Mae’n ofynnol cyflwyno datganiad newydd mewn set o gyfrifon talfyredig cwmni bach er mwyn dangos bod yr aelodau wedi cytuno i’r talfyrru.
  2. Mae’r trothwyon ar gyfer maint cwmni wedi newid. Ar gyfer cwmnïau bach: * mae terfyn y trosiant yn codi o £6.5 miliwn i £10.2 miliwn * mae terfyn cyfanswm y fantolen yn codi o £3.26 miliwn i £5.1 miliwn * mae terfyn nifer y cyflogeion yn aros yr un peth, sef 50 ar y mwyaf
  3. Ar gyfer cwmni canolig mae terfyn y trosiant yn codi o £25.9 miliwn i £36 miliwn ac mae terfyn cyfanswm y fantolen yn codi o £12.9 miliwn i £18 miliwn. Mae terfyn nifer y cyflogeion yn aros yr un peth, sef 250 ar y mwyaf

Yn ddiweddar rydym wedi lanlwytho blog (yn Saesneg) sy’n rhoi trosolwg ar y newidiadau.

Cyhoeddwyd ar 3 May 2016