Skip to main content
Stori newyddion

Newid i'r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gyda phlant o 1 Medi 2026

O 1 Medi 2026, caiff yr eithriad goruchwylio ar gyfer gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant ei ddileu. Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu i'ch sefydliad.

O 1 Medi 2026, bydd y gyfraith ynghylch gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant yng Nghymru a Lloegr yn newid. Caiff y rheol bresennol ynghylch goruchwylio staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sy’n cyflawni gweithgareddau penodol gyda phlant ei dileu o’r diffiniad cyfreithiol. Mae’r gyfraith hefyd yn newid yng Ngogledd Iwerddon; cyfeiriwch at wefan yr Adran Cyfiawnder https://www.justice-ni.gov.uk/articles/regulated-activity-and-enhanced-checks am ragor o wybodaeth.

Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant o 1 Medi 2026 ymlaen pan nad oeddent yn gwneud hynny o’r blaen oherwydd eu bod yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan rywun arall. Bydd hyn yn berthnasol os ydynt yn gwneud y gwaith yn ddigon aml, neu dros nos.

Mae gweithgaredd a reoleiddir yn waith na chaiff person sydd wedi’i wahardd ei wneud. Mae’n groes i’r gyfraith i:

  • berson sydd wedi’i wahardd ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir;

  • caniatáu person sydd wedi’i wahardd ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir;

Dim ond gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant y mae’r newid hwn yn effeithio arno. Ni wneir unrhyw newid i’r diffiniad o weithgaredd a reoleiddir gydag oedolion.

Pwy y mae hyn yn effeithio arno

Mae’r newid hwn yn effeithio ar unrhyw sefydliad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd â staff cyflogedig neu wirfoddolwyr sy’n addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant. Mae’n effeithio ar bobl nad oeddent mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant yn benodol oherwydd bod rhywun arall a oedd yn cynnal gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant wedi’u goruchwylio i lefel ddigonol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i amgylchiadau sy’n cynnwys:

  • pobl sy’n gwirfoddoli mewn ysgolion, fel cynorthwywyr darllen sy’n cael eu goruchwylio gan athro

  • pobl sy’n hyfforddi clybiau chwaraeon plant, fel hyfforddwyr cynorthwyol sy’n cael eu goruchwylio gan brif hyfforddwr

  • pobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda phlant mewn canolfannau gweithgareddau awyr agored, grwpiau ieuenctid, elusennau neu grwpiau cymunedol, ac sy’n cael eu goruchwylio gan rywun arall sydd mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant

Beth sy’n newid

Cyn 1 Medi 2026, nid yw pobl sy’n dysgu, yn hyfforddi, yn cyfarwyddo, yn gofalu am neu’n goruchwylio plant yn ddigon aml yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant os yw rhywun arall sy’n ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir yn eu goruchwylio’n ddigonol. Mae hyn yn golygu y gall sefydliad ofyn am wiriad DBS Manwl ar gyfer y gweithlu sy’n gweithio gyda phlant, ond nid oes modd cael gwiriad yn erbyn y Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant ar gyfer y rôl honno sy’n cael ei goruchwylio.

O 1 Medi 2026 ymlaen, ni fydd y rheol oruchwylio hon yn gymwys mwyach. Os bydd person yn addysgu, yn hyfforddi, yn cyfarwyddo, yn gofalu am neu’n goruchwylio plant yn ddigon aml, neu dros nos, byddant yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant, hyd yn oed os bydd rhywun arall yn eu goruchwylio. Mae hyn yn golygu y bydd sefydliad yn gallu gofyn am wiriad DBS Manwl ar gyfer y gweithlu sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys gwiriad yn erbyn y Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant.

Ystyrir bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddigon aml, neu dros nos, os yw’n digwydd:

  • ar fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 30 diwrnod

  • unwaith dros nos, rhwng 2am a 6am

Gweler rhai enghreifftiau isod – gellir cymhwyso’r enghreifftiau hyn at weithgareddau tebyg a gynhelir mewn lleoliadau eraill.

Enghraifft 1 – gwirfoddolwr darllen wythnosol yn yr ysgol

Mae rhiant yn gwirfoddoli mewn ysgol gynradd i wrando ar blant yn darllen. Maen nhw’n gwneud hyn bob bore Llun yn ystod y tymor. Gan fod athro bob amser gerllaw ac yn eu goruchwylio, penderfynodd yr ysgol fod y rhiant yn cael ei oruchwylio’n ddigonol yn unol â’r canllawiau a osodwyd gan yr Adran Addysg ) (DfE) a gofynnwyd i’r rhiant wneud cais am wiriad DBS Manwl heb wiriad yn erbyn y Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant

Cyn 1 Medi 2026, nid oedd y rhiant yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant gan fod athro yn eu goruchwylio. Yn dilyn y newid yn y ddeddfwriaeth, o 1 Medi 2026 ymlaen, bydd y rhiant yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant a gall gael gwiriad Lefel Uwch sy’n cynnwys y Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant  Dylai’r ysgol ystyried y canllawiau gan yr Adran Addysg (DfE) ynghylch y newidiadau hyn er mwyn sicrhau bod y gwirfoddolwr yn dal i fod yn addas ar gyfer y rôl.

Enghraifft 2 – gwirfoddolwr celf ysgol (misol)

Mae rhiant arall yn gwirfoddoli unwaith y mis yn yr ysgol gynradd i helpu gyda gweithgareddau celf. Unwaith eto, mae athro yn bresennol bob amser i oruchwylio. Nid yw’r rhiant hwn yn ymgymryd â gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant gan nad ydynt yn cyflawni’r rôl yn ddigon aml. Gofynnwyd i’r rhiant wneud cais am wiriad DBS Manwl heb wiriad yn erbyn y Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant.

Nid oes angen i’r ysgol ystyried y newidiadau o ran goruchwyliaeth ar gyfer y rôl hon gan nad yw’n cael ei chyflawni’n ddigon aml i fod yn weithgaredd wedi’i reoleiddio gyda phlant.

Enghraifft 3 – gwirfoddolwr clwb cerddoriaeth

Mae gwirfoddolwr yn helpu mewn clwb cerddoriaeth cymunedol i blant ddwywaith yr wythnos lle rhoddir gwersi a lle mae plant yn cael y cyfle i chwarae gyda’i gilydd. Mae’r prif hyfforddwr yno bob amser ac yn goruchwylio’r gwirfoddolwr.

Cyn 1 Medi 2026, efallai na fydd y gwirfoddolwr wedi bod mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant os yw’r clwb wedi penderfynu bod y prif hyfforddwr yn eu goruchwylio’n ddigonol. O 1 Medi 2026, bydd y gwirfoddolwr mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant oherwydd eu bod yn hyfforddi neu’n goruchwylio plant yn ddigon aml. Dylai’r clwb ystyried a oes angen gwiriad DBS Manwl ar y gwirfoddolwr o’r Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant

Enghraifft 4 – canolfan gweithgareddau awyr agored

Mae hyfforddwr gweithgareddau â thâl yn gweithio mewn canolfan gweithgareddau awyr agored. Maent yn arwain sesiynau dringo a chanŵio ar gyfer gwahanol grwpiau o blant ysgol 4 diwrnod yr wythnos. Mae athrawon yn bresennol ac mae uwch hyfforddwr bob amser yn goruchwylio gwaith yr hyfforddwr.

Cyn 1 Medi 2026, efallai na fyddai’r hyfforddwr wedi bod mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant os yw’r ganolfan wedi penderfynu bod yr uwch hyfforddwr wedi’u goruchwylio’n ddigonol. O 1 Medi 2026, bydd yr hyfforddwr mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant oherwydd eu bod yn cyfarwyddo plant yn ddigon aml. Dylai’r ganolfan ystyried a oes angen gwiriad DBS Manwl ar yr hyfforddwr o’r Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant

Beth ddylai sefydliadau ei wneud nawr

Dylai sefydliadau baratoi cyn i’r newid ddechrau. Dylent:

  • nodi rolau lle mae pobl yn addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo, gofalu am, neu oruchwylio plant ac yn cael eu goruchwylio ar hyn o bryd gan rywun arall mewn gweithgaredd a reoleiddir

  • gwirio a yw’r gweithgaredd yn cael ei wneud yn ddigon aml neu dros nos

  • gwirio a oedd tystysgrif DBS gyfredol y person yn cynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant

  • penderfynu a oes angen gwiriad DBS Manwl newydd gyda gwybodaeth Rhestr Waharddedig ar gyfer Plant yn unol â chanllawiau penodol i’r sector

  • diweddaru camau recriwtio, gwirfoddoli a diogelu fel eu bod yn cynnwys y newid o 1 Medi 2026

Os bydd rôl person yn newid, neu os bydd y ffordd y maent yn cyflawni’r rôl yn newid, dylai sefydliadau wirio cymhwysedd DBS eto.

Gwybodaeth bellach

Atebion DBS i gwestiynau cyffredin ynghylch dileu’r eithriad goruchwylio - Gweithgaredd wedi’i reoleiddio gyda phlant: cam-syniadau cyffredin ynghylch y newidiadau i’r Eithriad Goruchwylio ym mis Medi 2026 - GOV.UK

Canllawiau Adran Addysg y DU ar oruchwylio mewn ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant - [Gweithio neu wirfoddoli mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda phlant] - GOV.UK] (https://www.gov.uk/government/publications/working-or-volunteering-in-regulated-activity-with-children?utm_medium=email&utm_campaign=govuk-notifications-topic&utm_source=21540ac4-0a4e-4f3b-b8c9-46e632f9e85b&utm_content=daily)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Medi 2026 Show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Article has been clarified to confirm who this applies to across the UK .

  3. First published.