Stori newyddion

Penodi Cadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn falch o gyhoeddi bod Dr Margaret Flynn wedi’i phenodi’n Gadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol.

Mae’r Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder a dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Dr Margaret Flynn yn Gadeirydd newydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol am gyfnod o dair blynedd. Bydd penodiad Dr Flynn yn rhedeg rhwng 7 Mawrth 2022 a 6 Mawrth 2025.

Sefydlwyd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2015, mewn ymateb i adroddiad craffu ôl-ddeddfwriaethol yn 2014 gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Nod y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol yw codi ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a gwella ei gweithrediad drwy gysylltu rhanddeiliaid o amrywiaeth eang o sectorau lle mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol, fel iechyd a gofal cymdeithasol, bancio, sefydliadau cyfreithiol a thrydydd sector.

Penodir Cadeirydd y Fforwm Cenedlaethol gan yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder a dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r penodiadau yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Dr Margaret Flynn

Ers 2019, mae Dr Flynn wedi bod yn Ymddiriedolwr yn Anheddau Cyf, elusen nid-er-elw sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a heriau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru. Penodwyd Dr Flynn hefyd yn Gyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn 2018. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Flynn and Eley Associates Ltd ers 2009 ac mae wedi dal nifer o rolau golygyddol ar gyfer y Journal of Adult Protection ers 1999.

Mae Dr Flynn wedi cadeirio ac ysgrifennu sawl adolygiad yn ymwneud â phobl sydd â nam ar eu gallu meddyliol, yn arbennig adolygiad o Ysbyty Winterbourne View yn ystod 2011. Yn 2013, fe’i comisiynwyd gan Brif Weinidog Cymru i gynnal adolygiad o esgeulustod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal fel rhan o Ymgyrch Jasmine. Yn fwy diweddar, cadeiriodd Dr Flynn Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol cyntaf Cymru ac ysgrifennodd yr adolygiad ynghylch Ysbyty Cawston Park.

Cyhoeddwyd ar 8 April 2022