Skip to main content
Stori newyddion

Gwobr Arian ERS i 20 o gyflogwyr

Cynhaliwyd Salíwt Gynnau Frenhinol i danio’r dathliadau wrth i ugain o gyflogwyr sy’n cefnogi’r lluoedd arfog yng Nghymru gael eu cydnabod gyda gwobr nodedig.

Group photograph of the 2026 ERS Silver Award recipients. Copyright: RFCA for Wales

Cyflwynwyd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2026 i ugain sefydliad o bob cwr o Gymru. Roeddent ymhlith 331 o gyflogwyr a wobrwywyd ledled y Deyrnas Unedig eleni.

Cafodd cynrychiolwyr o blith y sefydliadau eu gwobrwyo mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd. Cyn y seremoni wobrwyo, cafodd y gwesteion wahoddiad arbennig i’r Saliwt Frenhinol gyda 21 Taniad Gwn i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi y Frenhines yng Ngerddi Alexandra.

Croesawyd y gwesteion gan Sian Lloyd, arweinydd y seremoni wobrwyo, a chafwyd yr anerchiad agoriadol gan y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd y 160ain Brigâd (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru. Cyflwynwyd yr araith glo gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Dyma’r cyflogwyr a wobrwywyd:

  • Canolfan Siopa Aberafan
  • Albert & Flaherty Ltd
  • Conjay Collectors Ammunition Ltd
  • Delivery Solutions (DELSOL) Ltd
  • Female Veterans Alliance CIC
  • Genuine JayJays Ltd
  • Gus Periscopes Limited
  • HF Owen Transport & Storage Limited
  • Mental Health Matters Wales
  • Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Oceaneering International Ltd
  • Premier Compliance
  • Protectoseal Ltd
  • Redberth Croft CIC
  • Heddlu De Cymru
  • Stable Resources Ltd
  • Tactical Medical Rescue Ltd
  • Tata Steel UK
  • Wrexham Lager Beer Company Limited
  • Wynne Construction

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Brigadydd Mark Davis CBE, yr Is-gyrnol Daryl Powell, Dirprwy Gomander Rhanbarthol y Llynges yng Nghymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Rob Woods OBE.

Meddai Ruth Knoyle, Pennaeth Caffael Talent a Phrofiad Gweithwyr yn Tata Steel UK:

Mae’n fraint bod yn un o ddim ond 20 sefydliad yng Nghymru i gael eu cydnabod gan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2026. Mae ein cefnogaeth eisoes wedi’i dangos trwy ein Polisïau AD ac edrychaf ymlaen at feithrin ein perthynas â chadetiaid, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd dros y misoedd nesaf a gweithredu mwy o fentrau buddiol i’r ddwy ochr.

Meddai Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP):

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni’r statws arian o dan y cynllun cydnabod cyflogwyr. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad gwirioneddol a pharhaus i gefnogi cydweithwyr sy’n gysylltiedig â chymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r wobr hon yn tynnu sylw at y pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi i gynhwysiant, hyblygrwydd a chreu amgylchedd cefnogol lle mae milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu.

Mae Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy roi polisïau ymarferol ar waith yn y gweithle.

I ennill y statws Arian, rhaid i sefydliadau fynd ati’n rhagweithiol i ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg yn eu polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol ar faterion mewn perthynas â Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion yn y Llu Cadetiaid, a gwŷr/gwragedd a phartneriaid y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Cafodd y cyflogwyr eu cydnabod am y gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y digwyddiad ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Craig Middle, DRM y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru

Rydym yn falch iawn bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda’r Wobr Arian.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2026