News story

Cefnogi recriwtio mwy diogel yn y sector blynyddoedd cynnar ac addysg

Mae ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel’ Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan ein gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol.

Decorative image that reads: Ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS) wedi lansio cam diweddaraf yr ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel’. Anelir y cam yma o’r ymgyrch at y sector blynyddoedd cynnar ac addysg ac mae’n amlygu’r ystod o gyngor am ddim a hyfforddiant sydd ar gael i sefydliadau o bob maint. Mae cyngor a hyfforddiant yn amrywio o gynnwys gwiriadau Datgelu a Gwahardd a chymhwysedd, i’r ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad i wahardd, a sut i wneud atgyfeiriad.

Mae’r Gwasanaeth wedi ymuno gyda sefydliadau partner yn y blynyddoedd cynnar ac addysg sydd wedi elwa o gymorth y DBS yn flaenorol, i helpu hyrwyddo’r ymgyrch i gyflogwyr eraill yn y sector. Mae partneriaid yn cynnwys Blynyddoedd Cynnar CymruPACEY – y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar, Hyfforddiant Estio ac EPM.

Lansiwyd yr ymgyrch ‘Gwneud Recriwtio’n Fwy Diogel’ yn wreiddiol ym mis Mehefin 2022 ac mae wedi targedu’r sectorau elusennol a ffydd yn flaenorol.

Dywedodd Eric Robinson, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyflawni rôl hanfodol wrth helpu i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed drwy gefnogi cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Mae’n bleser gennym lansio ein hymgyrch newydd gyda’r sector blynyddoedd cynnar ac addysg i dynnu sylw at yr hyfforddiant a chyngor am ddim y gallwn eu darparu i sefydliadau drwy ein gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol.

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu un pwynt cyswllt i sefydliadau ar gyfer pob ymholiad a chwestiwn yn ymwneud â’r DBS, yn ogystal â’r cyfle i gael mynediad at hyfforddiant DBS sydd wedi’i deilwra ar gyfer eu staff a’u gwirfoddolwyr. Mae’r tîm hefyd yn coladu adborth er mwyn sicrhau y gellir gwneud gwelliannau yn y dyfodol i wasanaethau a phrosesau’r DBS.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am #DBSMakingRecruitmentSafer.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol y DBS yn ein canllawiau allgymorth.

Published 1 September 2022