Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â chynllun nodedig gwresogi â dŵr mwynglawdd
Agorwyd cynllun gwresogi â dŵr mwynglawdd masnachol cyntaf Cymru, yn Rhydaman, yn swyddogol heddiw gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans.

Agorwyd cynllun gwresogi â dŵr mwynglawdd masnachol cyntaf Cymru, yn Rhydaman, yn swyddogol heddiw gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru Rebecca Evans.
Datblygwyd y prosiect arloesol gan Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, yn ei gynllun Lindsay trin dŵr mwynglawdd presennol, mewn partneriaeth â’r cwmni ynni adnewyddadwy lleol Thermal Earth Ltd, ac Innovate UK.
Mae gwresogi a dŵr poeth carbon isel bellach yn cael eu darparu i uned ddiwydiannol a swyddfeydd ar Ystâd Ddiwydiannol Capel Hendre mewn enghraifft flaenllaw o sut mae Cymru’n troi ei gorffennol diwydiannol yn ddyfodol ynni cynaliadwy.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Yng Nghymru, rydyn ni am arwain y ffordd mewn atebion ynni adnewyddadwy sy’n gwneud y gorau o’n treftadaeth ddiwydiannol.
Drwy ailddefnyddio ein seilwaith mwyngloddio blaenorol i ddarparu gwres glân a chynaliadwy, nid yn unig rydyn ni’n lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn creu cyfleoedd economaidd newydd yn ein cymunedau, ac yn cryfhau economïau lleol.
Mae’r cynllun Lindsay yn defnyddio cyfnewidwyr gwres sydd wedi’u trochi mewn pyllau trin i echdynnu gwres o ddŵr mwynglawdd sy’n cael ei gynhesu’n naturiol, sydd wedyn yn cael ei hybu i gymryd lle gwresogi tanwydd ffosil, gan arbed tua 17.5 tunnell o CO₂ yn flynyddol.
Fe’i nodwyd fel cyfle gwych drwy fapio gwres dŵr mwynglawdd manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ddarparwyd gan Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Mae’r gwaith hwn yn rhan o Strategaeth Gwres Cymru ac yn tynnu sylw at feysydd lle gallai cynlluniau dŵr mwyngloddiau chwarae rhan sylweddol wrth ddadgarboneiddio gwres a chefnogi cynllunio ynni lleol.

Dywedodd Andrew Simpson, pennaeth Arloesi, Sgil-gynhyrchion a Chyflenwi Gwasanaethau yn Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio:
Mae heddiw yn nodi moment o falchder i bawb sy’n gysylltiedig. Nid cyflawniad technegol yn unig ydi hwn, mae hefyd yn ddatganiad o fwriad. Rydyn ni’n dangos y gall gwres dŵr mwynglawdd fod yn ateb ymarferol, graddadwy ar gyfer datgarboneiddio gwres. Mae’n fodel rydyn ni’n gobeithio ei weld yn cael ei efelychu ledled Cymru a thu hwnt.
Ychwanegodd Nick Salini, rheolwr gyfarwyddwr Thermal Earth Ltd:
Mae’r prosiect yma’n brawf y gall arloesedd lleol ysgogi newid cenedlaethol. Fel busnes sydd â’i wreiddiau yn Rhydaman, rydyn ni’n falch o fod yn rhan o gynllun sydd nid yn unig yn lleihau ein hôl troed carbon, ond hefyd yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio gyda gweledigaeth gyffredin.
Aeth partneriaid a rhanddeiliaid y prosiect ar daith o amgylch y safle, sydd wedi bod ar waith ers mis Mawrth 2025, ac sy’n rhan o raglen ehangach gan Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i archwilio potensial ynni geothermol meysydd glo Prydain, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd mewn mwy nag 80 o safleoedd trin dŵr mwyngloddiau y mae eisoes yn eu gweithredu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd.
Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar lwyddiant prosiectau cynharach yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, gan gynnwys y cynllun a ariennir yn breifat yn Lanchester Wines, Gateshead, sydd wedi bod yn defnyddio dŵr mwynglawdd i ddarparu gwresogi gofod carbon isel ers 2018.
Yn fwy diweddar, dechreuodd rhwydwaith gwres dŵr mwynglawdd Cwmni Ynni Gateshead, cynllun graddfa fawr cyntaf y DU o’i fath, gyflenwi gwres i gartrefi, adeiladau cyhoeddus a busnesau yn 2023.
Mae’r prosiectau yma wedi dangos dibynadwyedd a photensial gwres dŵr mwyngloddiau, gan osod y sylfaen ar gyfer mabwysiadu ehangach ledled y DU.
Mae momentwm pellach yn cynyddu gyda phrosiect Pentref Gardd Seaham yn Swydd Durham, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, sy’n anelu at ddefnyddio gwres dŵr mwynglawdd i gyflenwi 750 o gartrefi newydd, gan ddangos sut y gall ynni dŵr mwynglawdd gefnogi datblygiadau tai cynaliadwy ar raddfa fawr.
Mae’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio hefyd yn bwrw ymlaen â thrafodaethau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y diwydiant ledled Prydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys cwmpasu safleoedd posibl yng Nghymru gyda chynghorau Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Sir y Fflint a Blaenau Gwent, yn ogystal ag ymgysylltu ehangach i nodi a datblygu cynlluniau gwresogi dŵr mwyngloddiau yn y dyfodol a all gefnogi’r newid i wresogi carbon isel ar raddfa fawr.