Datganiad i'r wasg

Chwe busnes yng Nghymru'n cael eu cydnabod am ragoriaeth menter ar ben blwydd Ei Mawrhydi yn 91 oed

Chwe busnes yng Nghymru'n cael eu cydnabod am ragoriaeth menter ar ben blwydd Ei Mawrhydi yn 91 oed

Chwe busnes yng Nghymru’n cael eu cydnabod am ragoriaeth menter ar ben blwydd Ei Mawrhydi yn 91 oed.

  • Sefydlwyd Gwobrau Menter y Frenhines yn 1965 ac maent yn dathlu busnesau bach a chanolig y DU
  • Mae’r enillwyr eleni’n cynnwys y grŵp cyntaf ar gyfer y categori Hybu Cyfleoedd
  • Mae gwaith ymchwil yn dangos bod bron i 75% o enillwyr y gorffennol yn diolch i Wobrau’r Frenhines am werthiant rhyngwladol cynyddol
  • Mae gwobrau 2018 ar agor o heddiw ymlaen

Heddiw enwodd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, enillwyr Gwobrau Menter y Frenhines i ddathlu pen blwydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn 91 oed.

Maent yn cynnwys chwe busnes o Gymru ben baladr sydd wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniad at ddatblygiad cynaliadwy, masnach ryngwladol ac arloesi.

Ymhlith yr enillwyr mae busnesau sy’n arwain y ffordd mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau - o system monitro o bell ar gyfer dŵr yn gollwng i gynllun prentisiaeth ar gyfer y diwydiant adeiladu, datblygu a gweithgynhyrchu systemau pecynnu amgylcheddol, a gweithgynhyrchydd halen môr.

Yn eu 51ain mlynedd erbyn hyn, mae Gwobrau Menter y Frenhines ymhlith y gwobrau busnes mwyaf anrhydeddus yn y wlad, gyda’r busnesau sy’n ennill yn gallu defnyddio emblem uchel ei barch Gwobrau’r Frenhines am y pum mlynedd nesaf.

Enillwyr y wobr datblygiad cynaliadwy

  • The Anglesey Sea Salt Company Ltd yn masnachu fel Halen Môn, Llanfairpwll Enillwyr y wobr arloesi
  • HMW-Water Ltd, Cwmbrân.
  • Siltbuster Ltd, Trefynwy
  • Cyfle Building Skills Ltd (SWWRSAL), Rhydaman. Enillwyr y wobr masnach ryngwladol
  • Green Light International Ltd, Caerdydd
  • SPTS Technologies Group Ltd, Casnewydd

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Gwobrau’r Frenhines yn tynnu sylw at fusnesau gorau Prydain - yn gwobrwyo eu helfen entrepreneuraidd gadarn, eu huchelgais i lwyddo gartref a thramor a’r cyfraniad hanfodol maen nhw’n ei wneud at ein heconomi ni.

O Ynys Môn i Drefynwy, mae cwmnïau Cymru dderbyniodd wobr heddiw’n llwyddiant ysgubol ac yn dangos bod pob cornel o Gymru ar agor am fusnes.

Dylai pob un ohonyn nhw fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Gobeithio bydd eu llwyddiannau’n ysbrydoliaeth i fusnesau eraill Cymru geisio ennill y wobr anrhydeddus yma yn y dyfodol.

Dywedodd Greg Clark, yr Ysgrifennydd Busnes:

Mae Gwobrau’r Frenhines ar gyfer menter yn tynnu sylw at bopeth sy’n wych am fusnesau’r DU heddiw.

Mae gennym ni rai o’r entrepreneuriaid gorau a’r meddyliau mwyaf arloesol yn y byd, sydd wrth galon busnesau bach newydd sy’n darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol i fusnesau mwy sy’n datblygu datrysiadau byd-eang. Mae mwy na miliwn o fusnesau newydd wedi cael eu creu ers 2010 ac mae’r rhain i gyd yn chwarae rhan hanfodol mewn creu swyddi a sbarduno twf ledled y DU.

Rydw i’n eithriadol falch o weld cymaint o gyfoeth o fusnesau ledled Cymru’n cael eu cydnabod heddiw. Drwy gyfrwng ein Strategaeth Ddiwydiannol, byddwn yn adeiladu ar lwyddiannau’r busnesau llewyrchus hyn, gan helpu i greu Prydain fyd-eang sy’n gadarnach ac yn fwy ffyniannus, ac yn edrych mwy ar y byd mawr y tu allan.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Strathclyde, mae 73% o’r enillwyr Masnach Ryngwladol rhwng 2012 a 2015 wedi priodoli eu gwerthiant rhyngwladol cynyddol yn uniongyrchol i ennill Gwobr Fenter y Frenhines. Mae posib ymgeisio am Wobrau 2018 o 21 Ebrill 2017 ymlaen ac maent yn cau ddydd Gwener 1 Medi 2017. I wneud cais ac am fwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/queens-awards-for-enterprise/overview

Cyhoeddwyd ar 21 April 2017