Buddion ffeilio ar lein
Cyfrifwyr yn dweud wrthym am fuddion ffeilio ar lein iddyn nhw.
Gall rhan fwyaf o’r dogfennau cael eu ffeilio ar lein.
Gofynasom i gwmnïau cyfrifyddu o gwmpas y Deyrnas Unedig pam eu bod nhw’n ffeilio’n ddigidol gyda ni. Dywedasant wrthym eu bod yn ei chael yn haws, yn gynt, yn fwy diogel ac yn rhatach na ffeilio ar bapur. O gwmnïau amlwladol i rai llai, aethom i weld amrywiaeth fawr o gyfrifwyr. Cewch wybod (yn Saesneg) pam mae’n well ganddyn nhw ffeilio ar lein yn ein hastudiaethau achos fideo.
Cynt, effeithlon, mwy o reolaeth
Crowe Clark Whitehill
Mae Crowe Clark Whitehill yn gwmni cenedlaethol o gyfrifwyr yng Nghanolbarth Lloegr sydd â 600 o aelodau o’r staff a 75 o bartneriaid. Mae’r rheolwr datrysiadau busnes, Raj Basra, yn dweud bod ffeilio’n ddigidol gyda ni wedi gwella cyflymder, effeithlonrwydd, ymateb a diogelwch.
Haws, rhatach, mwy diogel
Flex Accounting Services Ltd
Beverley Flanagan yw rheolwr gyfarwyddwr Flex Accounting Services Ltd sydd â swyddfeydd yn Sheffield a Llundain ac sy’n cyflogi 5 aelod o’r staff. Dywed Beverley fod ffeilio ar lein gyda ni yn “chwa o awyr iach” o gymharu â ffeilio ar bapur ac na fyddai byth yn mynd yn ôl at ffeilio trwy’r post.
Gwybodaeth ar amrantiad
Moore Scarrott
Dywed Duncan Nicholas, cysylltai gyda’r cyfrifwyr siartredig Moore Scarrott, pan mae’n ffeilio ar lein, mae’r data’n ymddangos yn gynt ar wasanaeth Tŷ’r Cwmnïau. Dywed Duncan fod hyn yn gwneud gallu ei gleientiaid i gael credyd yn llawer gwell.
Lleihau gwallau a risg cosbau ffeilio hwyr
Thomson Reuters
Kimberley Green yw’r uwch-gyfarwyddwr gyda’r cwmni amlwladol Thomson Reuters. Dywed Kimberley mai’r cymhelliad i’w chwmni hi ffeilio ar lein gyda ni oedd symleiddio ei broses cynhyrchu cyfrifon. Roedd eisiau lleihau risg gwallau a chosbau ffeilio hwyr.
Cydnabyddiaeth trwy e-bost a gwell gwasanaeth i’r cleientiaid
Henderson Loggie
Dywed Fiona Morgan, partner yn Henderson Loggie sydd â swyddfeydd ledled yr Alban, mai prif fuddion ffeilio ar lein gyda ni yw ei fod “yn hawdd, yn fwy diogel ac mae llai o waith gweinyddu”.
Dywedodd cwmnïau cyfrifyddu o wahanol fathau a meintiau ledled y wlad wrthym eu bod yn well eu byd wrth ffeilio’n ddigidol. Maen nhw’n manteisio ar fwy o ddiogelwch, cyflymder ac effeithlonrwydd ac mae llai o risg methu terfynau amser.
Cwbl ddigidol
Ein nod yw bod mor agos ag sy’n bosibl at fod yn sefydliad cwbl ddigidol erbyn diwedd 2019. Mae hyn yn golygu mai nawr yw’r adeg ddelfrydol i ymuno â’r llu o gwmnïau cyfrifyddu sydd eisoes wedi manteisio ar newid o ffeilio ar bapur i ffeilio digidol.
Cafodd bron 2 filiwn o setiau o gyfrifon iXBRL eu ffeilio gyda ni yn ystod y flwyddyn i Fawrth 2016. Erbyn hyn mae mwy na 75% o’r holl gyfrifon sy’n cael eu ffeilio yma yn ein cyrraedd yn ddigidol.
Mae llawer o bractisau’n defnyddio meddalwedd a all ddefnyddio iXBRL i baratoi cyfrifon cleientiaid ond yn dal i’w ffeilio ar bapur. Os ydych chi’n gweithio i gwmni sy’n ffafrio ffeilio ar bapur, gofynnwch i’ch darparwyr meddalwedd sut y gallwch newid i ffeilio cyfrifon iXBRL yn ddigidol ar gyfer y cofnod cyhoeddus.
Prif lun: Undrey/Shutterstock.com, defnyddiwyd o dan drwydded.