Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: “Dylai cwmnïau gweithgynhyrchu o Gymru fod ar flaen y gad ym maes arloesi wrth i ni adael yr UE”

Yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno’r prif anerchiad yng nghinio gweithgynhyrchu blynyddol EEF

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn galw ar fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i barhau’n gystadleuol a gweithredu mor effeithiol â phosibl wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Mr Cairns yn cyflwyno’r prif anerchiad i gwmnïau yng nghinio blynyddol EEF heno (26 Hydref), lle mae disgwyl iddo amlinellu’r cynlluniau i fynd i’r afael â chyfradd cynhyrchiant isel Cymru drwy Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer y DU gyfan sy’n galw ar gwmnïau o Gymru i fod ar flaen y gad ym maes arloesi a masnach allforio, er mwyn rhannu ffyniant ledled y wlad.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn elwa ar sylfaen gweithgynhyrchu ei heconomi, sy’n cyflogi tua 150,000 o bobl ac yn cynnwys dros 5,000 o gwmnïau, y mae 97% ohonynt yn fusnesau bach a chanolig. Ond Cymru yw’r rhanbarth lleiaf cynhyrchiol yn y DU, gyda chynhyrchiant dim ond 80.5% o gyfartaledd y DU.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddweud:

Os ydym eisiau ysgogi pob rhan o’n heconomi, yna mae angen i ni greu’r amodau priodol ar gyfer creu syniadau ac arloesi - mae angen i ni feithrin entrepreneuriaeth.

Mae gan Gymru fantais o sylfaen arloesedd gref - boed hynny’r lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd, y dechnoleg amaethyddol yn Aberystwyth, neu’r gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy.

Bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi £4.7 biliwn ychwanegol erbyn 2020-21 mewn cyllid ymchwil a datblygu ac yn creu Cronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol newydd i helpu’r DU i fanteisio ar ei chryfderau ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd mewn gweithgynhyrchu.

Bydd Mr Cairns hefyd yn dweud:

Rydym yn gwybod bod gan Gymru botensial enfawr yng nghyd-destun masnach a buddsoddi, gan fod dros 3,800 o fusnesau yng Nghymru yn allforio ar hyn o bryd.

Fe hoffwn weld busnesau yng Nghymru yn manteisio ar y gefnogaeth fyd-eang sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau mai Cymru a’r DU yw’r lle gorau yn y byd i gynnal busnes.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn darparu £4.7 biliwn ychwanegol erbyn 2020-21 ar gyfer ymchwil a datblygu ac mae wedi creu Cronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol newydd i helpu’r DU i fanteisio ar ei chryfderau ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd mewn gweithgynhyrchu.
  • Ar hyn o bryd, mae mwy na 3,800 o fusnesau’n allforio yng Nghymru, gyda chyfanswm eu gwerth yn £13 biliwn yn chwarter cyntaf 2017. Mae Cymru hefyd yn lle deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi, ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddiad tramor uniongyrchol wedi digwydd yng Nghymru, gan greu 2,581 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 arall.
  • Yn ddiweddar mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at fwy na 26,000 o fusnesau Cymru a nodwyd fel allforwyr posib, gan gynnwys copi i Ganllaw Allforio Cymru. Mae’r canllaw penodol i Gymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus. Gallwch ddarllen y canllaw ar-lein yma.
Cyhoeddwyd ar 26 October 2017