Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: “Mae Cymru ar y llwybr cyflym i gael cyfleoedd newydd yn y Gwlff”

Ysgrifennydd Cymru mewn ymweliad dau ddiwrnod i Kuwait a Qatar ar hedfaniad gyntaf Doha-Caerdydd

Mae Cymru ar fin camu i mewn i un o economïau’r byd sydd sy’n tyfu gyflymaf gydag hedfaniad newydd o Gaerdydd i Doha, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Siaradodd Alun Cairns heddiw (Dydd Sul, 29ain Ebrill) wrth iddo gychwyn ar ymweliad deuddydd i Kuwait a Qatar. Mae’r ymweliad yn dod i benllanw gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymuno â’r hedfaniad uniongyrchol cyntaf o brifddinas Qatar i Gaerdydd ar 1af Mai, sy’n cael ei weithredu gan y cludwr cenedlaethol, Qatar Airways.

Mae Mr Cairns yn cwrdd â Gweinidogion y Llywodraeth o ddwy o wladwriaethau’r Gwlff mewn rhaglen lawn sy’n dechrau yn Kuwait cyn trosglwyddo i Qatar yn hwyrach heddiw. Yn ogystal, bydd yn cwrdd â phobl fusnes, sy’n amrywio o uwch brif weithredwyr banciau at y cyfranddaliwr mwyaf mewn gwneuthurwyr ceir moethus Aston Martin** a phennaeth grŵp lletygarwch a gwestai mwyaf Qatar.

Daw’r ymweliad i ben gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn mynd ar Fws Awyr 350 Qatar Airways – gyda’r adenydd wedi’u gwneud yn ffatri Airbus yng Ngogledd Cymru – a fydd yn glanio ym Maes Awyr Caerdydd cyn 1pm ar ôl hedfaniad a oedd yn para am 6 awr a 50 munud. Bydd yn nodi’r hedfaniad dyddiol cyntaf rhwng y ddwy ddinas.

Dywedodd Mr Cairns:

Mae Cymru ar y llwybr cyflym i gael cyfleoedd newydd yn y Gwlff. Mae’r hedfaniad newydd o Gaerdydd i Doha yn cysylltu ein hentrepreneuriaid yn syth i un o’r economïau mwyaf dynamig yn y Dwyrain Canol, a maes awyr sy’n cynnig 150 o gyrchfannau eraill drwy’r byd.

Mae Qatar yn dymuno arallgyfeirio ei economi oddi wrth olew a nwy a mentro i ofal iechyd, addysg, digwyddiadau chwaraeon a meysydd eraill. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd digyffelyb gan fod y rhain i gyd yn feysydd twf i Gymru – mae ein sector gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd yn un o’r rhai hynny sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain, mae gennym brifysgolion arbennig sy’n awyddus i gymryd myfyrwyr o Qatar, mae gennym ni sector twristiaeth sy’n adnabyddus drwy’r byd, gyda gallu profedig i groesawu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol.

Mae’r hedfaniad agoriadol o Gaerdydd i Doha yn benllanw misoedd o waith gan Lywodraeth y DU, yn gyhoeddus a thu ôl i’r llenni fel ei gilydd. Trafododd yr Ysgrifennydd Gwladol yr uchelgais am hedfaniad dyddiol mwy na blwyddyn yn ôl pan gyfarfu â phrif weithredwr Qatar Airways, Akbar Al Baker mewn uwchgynhadledd buddsoddi gan y DU. Roedd y cysylltiadau a oedd yn datblygu rhwng y ddwy wlad yn cael eu pwysleisio mis Medi diwethaf gyda thaith fasnach Llywodraeth y DU i Qatar, a ddaeth i ben gydag arddangosfa 20 munud gan y Red Arrows dros Doha.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae Cymru yn awr yn benderfynol o ymuno â Phrif Gynghrair y gwledydd sy’n masnachu yn y Gwlff. Bydd ymwelwyr ar y hedfaniad dyddiol o Doha yn cael croeso cynnes a neges glir – dyma wlad gydag awyr agored, sy’n agored ar gyfer busnes.

Nodiadau i olygyddion:

  • Tra’i fod yn y Gwlff, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd â Gweinidogion sy’n gyfrifol am fasnach, yr amgylchedd, addysg, gwasanaethau ariannol, ffigurau busnes Cymru yn y rhanbarth a chyn-fyfyrwyr Qatari o Brifysgolion Cymru.
  • Mae’r ymweliad â Kuwait yn cynnwys cyfarfod â’r cyllidwr Najeeb Al-Humaidhi, y cyfranddaliwr mwyaf yn Aston Martin UK, sy’n eistedd yn ogystal ar brif fwrdd y cwmni. Mae’r cwmni ceir moethus yn mynd i gynhyrchu ei gar DBX yn Sain Tathan yng Nghymru.
  • Mae’r hedfaniad yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd am 12.50 amser y DU
  • Mae Qatar eisoes yn fusnes mawr i’r DU. Y llynedd, allforiodd economi Cymru nwyddau gwerth mwy na £150 miliwn i Qatar. O weithgynhyrchu at ein bwydydd enwog, mae cynnyrch o Gymru yn cael eu hallforio mewn cyflenwadau mawr i Qatar.
  • Mae Qatar eisoes wedi buddsoddi mwy na £35biliwn i economi’r DU.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 April 2018