Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn barod i’ch cefnogi chi ar ôl y refferendwm, meddai Alun Cairns wrth arweinwyr busnesau Cymreig

Llywodraeth y DU yn barod i’ch cefnogi chi ar ôl y refferendwm, meddai Alun Cairns wrth arweinwyr busnesau Cymreig

Heddiw (Mehefin 29), bydd Alun Cairns yn cwrdd ag arweinwyr busnes Cymreig er mwyn eu sicrhau bod Llywodraeth y DU yn barod i’w cefnogi wrth i’r wlad baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd â chynrychiolwyr o fusnesau Cymreig blaenllaw ynghyd â CBI Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr, bydd yn nodi cynlluniau’r Llywodraeth i greu uned Undeb Ewropeaidd arbennig er mwyn mynd i’r afael â materion cymhleth, megis cytuniadau masnachu a chytundebau cyfreithiol. Bydd yn rhoi pob sicrwydd iddynt y bydd Llywodraeth y DU yn adeiladu ar y sylfeini economaidd cryf mae wedi’u sefydlu ac yn anelu i beidio â gadael i’n heconomi ffyniannus lithro. Bydd Mr Cairns hefyd yn cwrdd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion gweithredol ym maes addysg uwch.

Dywedodd Mr Cairns: “Mae’n ddyddiau cynnar ar newid sylweddol i’r DU. Rydw i yng Nghymru i roi sicrwydd i arweinwyr cynghorau a busnesau ein bod yn benderfynol o fynd i’r afael â’u pryderon, ac o sicrhau llwyddiant y setliad newydd. “Mae economi Cymru yn ffyniannus ac yn ddeinamig bellach, gyda mwy o bobl nag erioed mewn gwaith, a llawer o bobl yn dod o dramor i’n prifysgolion sy’n perfformio’n dda. Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau ein bod yn cynnal y llwyddiant hwn, ac yn rheoli’r trosglwyddiad i’r trefniadau newydd mewn ffordd bwyllog a digynnwrf.

“Mae’r cyfarfodydd heddiw yn ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau y byddaf yn eu cynnal ledled Cymru. Er ein bod yn dal i fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, dydw i ddim am oedi cyn dechrau ar y gwaith o wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau’r fargen orau i Gymru.” Dywedodd Mike Plaut, Cadeirydd CBI Cymru: “Yn ystod y misoedd nesaf bydd raid i fusnesau a’r llywodraeth yng Nghymru weithio gyda’i gilydd yn agosach nag erioed er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru yn y trafodaethau hyn, a chynnal natur agored economi Cymru.
“Mae hyn yn golygu mynd ati i ddiogelu tariffau a mynediad dirwystr at y Farchnad Sengl, sicrhau bod modd i gwmnïau barhau i ddenu’r bobl orau sy’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i’r DU, gan gydnabod pryderon y cyhoedd ynglŷn â mewnfudo ar yr un pryd.”

Cyhoeddwyd ar 29 June 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 June 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.