Alun Cairns yn rhagweld perfformiad "syfrdanol" gan dîm Cymru yn UEFA 2016
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi ysgrifennu at Chris Coleman, i ddymuno pob lwc i dîm Cymru ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd UEFA

I Chris Coleman
Llongyfarchiadau i chi am sicrhau lle Cymru ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd UEFA am y tro cyntaf er 1976. Mae’r twrnament yn prysur agosáu a hoffwn ddymuno pob lwc i chi a’r tîm.
Mae ennill lle yn y twrnament yn dipyn o gamp, ac rwyf fi a phobl Cymru y tu ôl i chi ac yn eich cefnogi gant y cant. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich gêm gyntaf yn erbyn Slofacia, ac rwy’n falch iawn y byddaf yn cael cyfle i fynd i weld eich gêm yn erbyn Lloegr yn Stade Bollaert-Delelis.
Mae Cymru’n gallu cystadlu yn erbyn y goreuon, ac rwy’n rhagweld perfformiad syfrdanol drwy gydol y twrnament.
Gan ddymuno pob llwyddiant i chi drwy gydol y Bencampwriaeth.