Alun Cairns i gyfarfod â’r Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol i drafod dyfodol masnach Cymru
Caiff Dr Liam Fox ei groesawu i Gaerdydd heddiw gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i siarad â busnesau am fasnach a buddsoddi ar ôl Brexit

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal cyfarfod bwrdd crwn gyda Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol a busnesau cynnyrch llaeth blaenllaw i drafod cyfleoedd masnach yn y dyfodol, unwaith y byddwn ni’n gadael yr UE.
Yn 2016, allforiodd Cymru gwerth £14.6bn o nwyddau, sy’n gynnydd o 10.4% o £13.3bn yn 2015, gyda marchnadoedd sy’n tyfu nad ydynt yn aelodau o’r UE fel yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Canada, Twrci a Tsieina i gyd ymhlith ei 15 cyrchfan uchaf ar gyfer allforio.
Mae Cymru yn parhau i fod yn ganolfan ar gyfer buddsoddi byd-eang, ac yn ôl yr ystadegau diweddaraf gwelwyd nifer y swyddi yng Nghymru a gafodd eu creu neu eu diogelu yn sgil prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor yn codi i 11,000 yn y flwyddyn ddiweddaf, sy’n gynnydd o 7,000 yn 2015/16.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cymru yn wlad uchelgeisiol sy’n wynebu allan. Mae ein gwlad ni’n gartref i rai o’r cwmnïau mwyaf arloesol a chyffrous ac mae cynhyrchion yng Nghymru yn cael eu gwerthu dros y byd i gyd.
Fel rhan o’r Deyrnas Unedig, mae Cymru yn elwa o’r diogelwch economaidd a’r dylanwad rhyngwladol sy’n deillio o gronni ein hadnoddau.
Mae Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi busnesau Cymru i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd.
Dywedodd Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol hefyd:
Mae’r Adran Masnach Ryngwladol yn ymrwymedig i helpu busnesau yng Nghymru i hybu eu hallforion, dod o hyd i farchnadoedd newydd a dangos pam mae ganddyn nhw enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth, o amaethyddiaeth i awyrofod.
Fel adran economaidd ryngwladol, byddwn ni hefyd yn parhau i adeiladu ar y cynnydd anhygoel yn nifer y swyddi a gefnogir gan Fuddsoddiad Uniongyrchol o Dramor, ac yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddylunio polisi masnach yn y dyfodol er budd cenedlaethol y DU gyfan.
Papur Gwyn Masnach
Mae’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol yn sefydlu’r egwyddorion a fydd yn llywio polisi masnach y DU yn y dyfodol, yn ogystal â phennu’r camau ymarferol a fydd yn cefnogi’r nodau hynny. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
-
cymryd camau i alluogi’r DU i gadw manteision Cytundeb Caffael Llywodraethu Sefydliad Masnach y Byd;
-
sicrhau bod y DU yn gallu cefnogi economïau sy’n datblygu drwy barhau i roi mynediad ffafriol iddynt i farchnadoedd y DU;
-
paratoi i drosglwyddo, i gyfraith y DU, gytundebau masnach rhwng yr UE a gwledydd nad ydynt yn aelodau o’r UE, gan roi sicrwydd i fusnesau a buddsoddwyr byd-eang; a
-
chreu awdurdod newydd i ymchwilio i gymhorthion masnachu y DU
Gallwch anfon adborth gan fusnesau at stakeholder.engagement@trade.gsi.gov.uk erbyn 6 Tachwedd.
Rhagor o wybodaeth
-
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae’r DU dros y 12 mis diwethaf wedi sicrhau mwy o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor nag erioed o’r blaen, mae allforion y DU wedi cynyddu 13.1% o gymharu â’r 12 mis blaenorol yn y flwyddyn hyd at fis Awst 2017 a gwelwyd y diffyg yn y cyfrif cyfredol yn lleihau i £101.3 biliwn yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2017, o £113.8 biliwn yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2016.
-
Yn 2016/17 croesawodd Cymru 85 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor gan greu neu ddiogelu dros 11,000 o swyddi.
-
Allforiodd Cymru werth £14.6bn o nwyddau yn 2016.
-
Er bod Ewrop yn farchnad bwysig i Gymru, mae gwledydd nad ydynt yn aelodau o’r UE gan gynnwys yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Canada, Twrci a Tsieina i gyd ymhlith y 15 cyrchfan uchaf ar gyfer allforio nwyddau o Gymru. Yr Unol Daleithiau yw marchnad allforio nwyddau fwyaf Cymru o hyd.
-
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu Canllaw Allforio Cymru - dogfen sy’n nodi’r amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, ac mae’n cynnwys storïau i ysbrydoli am gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus.
-
Cewch lawrlwytho copi o’r canllaw yma