Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn mynd am Bordeaux i gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016

Mae Alun Cairns wedi rhoi ei air i dîm Cymru fod y wlad yn eu cefnogi cyn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth bêl-droed Ewro 2016

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r wlad gyfan wedi’u swyno cyn gornest gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.

Mae mynd drwodd i’r twrnamaint yn gamp eithriadol ac mae pobl Cymru’n rhoi eu cefnogaeth lwyr i’r tîm. Rwyf wrth fy modd fy mod yn Bordeaux ar gyfer y gêm heno yn erbyn Slofacia i weld Cymru’n cystadlu ar y llwyfan mawr.

Mae dynion a merched o fyd chwaraeon yng Nghymru wedi ennyn balchder awr ynom dros y misoedd diwethaf, ac rwy’n rhagweld y bydd ein carfan ddawnus yn gwneud yr un fath. Pob lwc i Chris a’r tîm wrth iddynt baratoi ar gyfer y gic gyntaf mewn digwyddiad a fydd gobeithio’n llwyddiannus iawn.

Cyhoeddwyd ar 11 June 2016