Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn dweud bod yr economi’n fywiog wrth i gyfraddau diweithdra ostwng i’w lefel isaf mewn degawd

Mae’r gyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i’w lefel isaf mewn degawd gyda marchnad swyddi ddeinamig yng Nghymru yn rhagori ar weddill y DU.

Image of people walking

Mae’r gyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i’w lefel isaf mewn degawd gyda marchnad swyddi ddeinamig yng Nghymru yn rhagori ar weddill y DU.

Yn ôl ystadegau’r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw mae mwy nag 1.4 miliwn o bobl mewn gwaith bellach - fymryn yn is na’r lefelau uchaf erioed. Gwelwyd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn gostwng yn gynt nag unrhyw ranbarth arall yn y DU dros y flwyddyn - ac mae bellach 0.3 y cant yn is na’r gyfradd diweithdra ar gyfer y DU gyfan.

Mae penawdau ystadegau heddiw fel a ganlyn:

• Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 4,000 dros y chwarter ac mae’r gyfradd wedi cynyddu 0.6 pwynt canran i 72.6 y cant, sef y lefel uchaf erioed. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 45,000 ac mae’r gyfradd wedi cynyddu 1.9 pwynt canran. Mae 1.454 miliwn o bobl mewn cyflogaeth, dim ond 1,000 yn is na’r lefel uchaf erioed a welwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. • Mae lefel cyflogaeth wedi gostwng 6,000 dros y chwarter ac mae’r gyfradd wedi gostwng 0.4 pwynt canran i 4.6 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 30,000 ac mae’r gyfradd wedi gostwng 2.0 pwynt canran. Roedd 70,000 o bobl ddi-waith yn y data diweddaraf, yr isaf ers dechrau 2008, ac mae’r gyfradd diweithdra ar ei hisaf ers 2005. • Mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng 4,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol, gyda’r gyfradd yn gostwng 0.2 pwynt canran. Dros y flwyddyn, gostyngodd anweithgarwch economaidd 7,000 ac mae’r gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran. • Cynyddodd cyfanswm y gyflogaeth ar gyfer y DU 176,000 dros y chwarter diwethaf ac gyda’r gyfradd yn cynyddu 0.3 pwynt canran. Roedd cyflogaeth wedi cynyddu 624,000 dros y flwyddyn (y gyfradd wedi cynyddu 1.0 pwynt canran). Mae cyfradd cyflogaeth y DU sef 74.4 y cant ar ei huchaf erioed.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ledled Cymru, mae economi fywiog a newidiadau i lesiant yn creu hinsawdd lle mae busnesau ac entrepreneuriaid yn teimlo’n hyderus i ehangu a chyflogi staff newydd.

Bydd Brexit yn golygu cryn heriau ond mae entrepreneuriaid yn ffynnu yn wyneb newid. Mae arweinyddion ym myd busnes yn dweud wrtha i eu bod yn galonogol ynghylch y dyfodol a’u bod yn gyffrous ynghylch cyfleoedd allforio ymhellach i ffwrdd. Rydym yn sicrhau bod tîm masnach a diwydiant y DU ar gael i helpu busnesau yng Nghymru i archwilio marchnadoedd newydd ac i ddangos bod Cymru yn agored i fusnes.

Cyhoeddwyd ar 20 July 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.