Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn apelio at gefnogwyr pêl-droed Cymru i fod yn wyliadwrus

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn galw am “gefnogaeth frwd ond cyfrifol” yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Gornest fywiog ar y cae a chefnogaeth frwd ond cyfrifol o’r stand ydi’r nod ar gyfer y gêm heddiw.

“Rydw i mewn cysylltiad â’r Swyddfa Gartref sy’n cysylltu ac yn trafod â’r Awdurdodau yn Ffrainc. Rwyf hefyd wedi sôn wrth Gymdeithas Bêl-droed Cymru am y rhagofalon diogelwch a fydd yn eu lle er mwyn diogelu cefnogwyr Cymru. Ond byddwn yn apelio ar gefnogwyr Cymru i fod yn wyliadwrus, ac i osgoi unrhyw gynnwrf. Nid oes angen dweud na ddylai pobl deithio i’r ardal os nad oes ganddyn nhw docyn ar gyfer y gêm.

“Felly pob lwc Cymru, gadewch i ni weld yr un perfformiad gwych heddiw ag a welsom ni’r penwythnos diwethaf - diwrnod o bêl-droed penigamp.”

Cyhoeddwyd ar 16 June 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 June 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.