Ymagwedd Newydd at Ddiweddariadau’r RAM
Bydd y broses yn galluogi cynhyrchwyr i gymryd rôl gryfach wrth lunio diweddariadau yn y dyfodol i'r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM).
Mae PecynUK a UK Packaging PRO wedi cyflwyno proses newydd ar gyfer diweddariadau blynyddol i’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM), gan roi llwybrau ymgysylltu cliriach i’r cynhyrchwyr a mwy o welededd o ran sut mae tystiolaeth yn cael ei hasesu a sut y bydd diweddariadau yn y dyfodol yn cael eu pennu a’u blaenoriaethu.
Mae’r ymagwedd newydd wedi’i datblygu mewn ymateb i adborth gan gynhyrchwyr a rhanddeiliaid ar draws y gadwyn werth pecynwaith, a ofynnodd am fwy o allu i rag-weld a mwy o amser i ddeall a pharatoi ar gyfer newidiadau yn y fethodoleg. Bydd yn darparu’r fframwaith ar gyfer diweddariadau i’r RAM yn y dyfodol trwy broses strwythuredig, wedi’i seilio ar dystiolaeth a honno wedi’i chynllunio i roi mwy o eglurder i’r cynhyrchwyr.
Dywedodd Jeremy Blake, Prif Swyddog Gweithredol PecynUK:
Dyma gyfle gwerthfawr i PecynUK ac UK Packaging PRO gydweithio, gan gyfuno’n harbenigedd a’n pwrpas cyffredin i wneud gwelliannau ystyrlon sydd wedi’u llunio gan adborth rhanddeiliaid o bob rhan o’r gadwyn werth pecynwaith.
Trwy gyflwyno’r llwybr pwrpasol yma i’r cynhyrchwyr ymwneud â’r RAM a chyfrannu ato, rydym yn rhoi llais cryfach i’r diwydiant wrth lywio datblygiadau yn y dyfodol a sicrhau bod ystod eang o fewnwelediad yn cael ei adlewyrchu yn y modd mae’r fethodoleg yn esblygu dros amser.
Fel rhan o’r ymagwedd newydd, bydd UK Packaging PRO yn helpu i gydlynu, adolygu a blaenoriaethu cynigion a gyflwynir gan randdeiliaid, gan adeiladu ar ei rôl fel y corff dan arweiniad y cynhyrchwyr ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith. Bydd cynhyrchwyr yn gallu cyflwyno ceisiadau am newid trwy broses glir a strwythuredig wedi’i hategu gan dystiolaeth, gan helpu i sicrhau bod arbenigedd y diwydiant yn cael ei ystyried wrth i ddiweddariadau yn y dyfodol gael eu datblygu.
Dywedodd Karen Graley, Prif Swyddog Gweithredu UK Packaging PRO:
Rydym yn falch iawn o fod yn cymryd mwy o rôl wrth lunio dyfodol yr RAM. Fel sefydliad dan arweiniad y cynhyrchwyr, un o’n blaenoriaethau allweddol yw helpu i sicrhau bod y system EPR yn deg, wedi’i harwain gan dystiolaeth ac yn darparu gwerth am arian, wrth hybu gwaith dylunio pecynwaith sy’n ategu ailgylchadwyedd a chanlyniadau ailgylchu gwell.
Rydym yn gwybod mor bwysig yw’r RAM i’r cynhyrchwyr, ac mae’r broses yma yn gyfle gwirioneddol i ddod ag arbenigedd y diwydiant a phrofiad ymarferol i mewn i’w ddatblygiad yn y dyfodol.
Hoffwn annog cynhyrchwyr o bob maint i gymryd rhan. Rydyn ni eisiau clywed beth sy’n gweithio’n dda, ble mae angen gwelliannau a beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthon ni.
Ar gyfer RAM 2028, bydd PecynUK ac UK Packaging PRO yn canolbwyntio ar nifer llai o feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys y rhai sydd eisoes wedi’u hamlygu gan y cynhyrchwyr, megis canllawiau ar gynlluniau derbyn yn ôl. Disgwylir i’r diweddariadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth wedi’u targedu, gan ddarparu mwy o ragweladwyedd i’r cynhyrchwyr a sicrhau bod y fethodoleg yn dal i esblygu yn unol â’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ac adborth y rhanddeiliaid.
Dylai cynhyrchwyr a rhanddeiliaid ar draws y gadwyn werth pecynwaith sydd eisiau cyflwyno ceisiadau am newid i’w hystyried yn RAM 2028 roi tystiolaeth ategol i UK Packaging PRO erbyn 31 Rhagfyr 2026.
Bydd UK Packaging PRO yn adolygu’r cyflwyniadau i asesu a oes achos dros newid ac efallai y bydd yn cysylltu â’r cynhyrchwyr yn uniongyrchol i ofyn cwestiynau dilynol, gofyn am wybodaeth ychwanegol neu drefnu sgwrs i bwyso a mesur mater yn fanylach.
Pan fo cyflwyniadau’n dangos achos cryf dros ragor o ymchwil, bydd y PRO yn asesu’r dystiolaeth ac yn helpu i ddatblygu argymhellion i PecynUK.
Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad am y dull newydd ar gael ar wefan UK Packaging PRO drwy’r ddolen ganlynol: Dull newydd o ddiweddaru’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd