Datganiad i'r wasg

Codi’r gwastad drwy ddarparu band eang ffeibr llawn i 600 o adeiladau cyhoeddus yng Nghymru

Mae dros 600 o ysbytai, gorsafoedd heddlu, llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill yng Nghymru wedi cael eu cysylltu â band eang ffeibr llawn cyflym iawn fel rhan o ymgyrch gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaethau cyhoeddus a chyflymu’r broses o’u cyflwyno.

Image on Wales with text saying '600 public buildings in Wales upgraded to full fibre broadband'
  • Hwb band eang gwerth £11.5m i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, De-ddwyrain Cymru, Sir Benfro ac ardaloedd gwledig Cymru
  • Mae’r adeiladau cysylltiedig yn cynnwys ysbytai, meddygfeydd, cartrefi gofal, llyfrgelloedd a chanolfannau ieuenctid
  • Bydd cyllid yn annog cwmnïau band eang i ymestyn rhwydweithiau i gartrefi a busnesau cyfagos
  • Mae’n nodi’r broses o gwblhau’r prosiect band eang mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU

Mae’n nodi’r broses o gwblhau’r prosiect band eang mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cael ei ariannu gan lywodraeth y DU fel rhan o’i strategaeth codi’r gwastad ledled y DU – gan wneud gwahaniaeth pendant i fywydau teuluoedd, pobl a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Mae gwasanaethau lleol hanfodol, gan gynnwys canolfannau hamdden, cyrchfannau i dwristiaid a chanolfannau ieuenctid ledled Gogledd Cymru, De-ddwyrain Cymru, Sir Benfro ac ardaloedd eraill, nawr yn gallu cael mynediad at gyflymderau rhyngrwyd o leiaf ddeg gwaith yn gyflymach na’u hen gysylltiadau copr yn bennaf, diolch i fuddsoddiad o £11.5 miliwn gan Lywodraeth y DU.

Nawr, mae gan bob un o’r 620 o adeiladau gysylltedd dibynadwy iawn a gwell o lawer i helpu i wella cynhyrchiant a phrofiad defnyddwyr o’r gwasanaethau cyhoeddus maent yn eu cynnig ac, wrth i’w gofynion gynyddu yn y dyfodol, byddant yn gallu manteisio ar gyflymderau o fwy na gigabit (1,000 megabit) yr eiliad.

Mae’n golygu y gall meddygon a swyddogion yr heddlu arbed amser wrth aros am ffeiliau mawr fel pelydrau X a fideos teledu cylch cyfyng i’w llwytho i lawr. Bydd preswylwyr cartrefi gofal yn cael gwell mynediad at adloniant a therapi ar-lein, a bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn mwynhau Wi-Fi cyflymach ar gyfer pori’r we.

Bydd y cysylltiadau hefyd yn cymell darparwyr band eang masnachol i uwchraddio cartrefi a busnesau cyfagos yng Nghymru drwy ganiatáu iddynt ymestyn y rhwydwaith gigabit sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth, sy’n rhatach ac yn gyflymach na gorfod ei adeiladu o’r newydd.

Dywedodd Julia Lopez, y Gweinidog Seilwaith Digidol:

Rydyn ni wedi ariannu cannoedd o waith uwchraddio band eang cyflymach ledled Cymru i roi gwasanaethau cyhoeddus ar flaen y gad yn ddigidol er mwyn iddyn nhw allu darparu mwy i gymunedau.

Mae hyn yn ychwanegol at ein Prosiect Gigabit gwerth £5 biliwn a fydd yn dod â band eang gwell i ddegau o filoedd o gartrefi a busnesau gwledig ledled Cymru a’r DU a fyddai’n cael eu gadael ar ôl fel arall.

Mae’r cysylltiadau cyflym ar waith mewn 166 o adeiladau cyhoeddus ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Phont-y-pŵl ac mewn ardaloedd mwy gwledig fel Hengoed, Treharris a Brynbuga.

Yng Ngogledd Cymru, uwchraddiwyd 311 o adeiladau cyhoeddus gan gynnwys ym Mae Colwyn, Rhuddlan, y Rhyl, Llandudno, Wrecsam a threfi a phentrefi llai fel Betws-y-coed a Cherrigydrudion.

Mae 68 o adeiladau cyhoeddus wedi cael eu huwchraddio yn Sir Benfro, gan gynnwys yn Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod, ac mae 75 o safleoedd mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru hefyd wedi cael eu cysylltu gan gynnwys ger y Trallwng, Bangor a Thyddewi.

Mae’r buddsoddiad yn un ffordd ymhlith nifer y mae llywodraeth y DU yn gwella cysylltedd yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd gweinidogion y gallai hyd at 234,000 o adeiladau gwledig yng Nghymru fod yn gymwys i fod yn rhan o brosiect uwchraddio band eang, Prosiect Gigabit: rhaglen gwerth £5 biliwn sy’n blaenoriaethu’r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar gyfer gwaith uwchraddio sy’n ddigon cyflym i gefnogi hyd yn oed y technolegau mwyaf dwys o ran data, fel ffrydio fideo 8k a gemau realiti rhithwir.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hwn yn gam sylweddol a fydd yn hwyluso bywyd cynifer o bobl yng Nghymru.

Bob dydd, mae mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar-lein. Mae’r buddsoddiad o £11.5m gan Lywodraeth y DU i wella cysylltedd yn golygu y bydd gan y cyhoedd well mynediad at y gwasanaethau hyn a fydd yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

Ac i’r rheini sy’n gwneud y gwaith hanfodol yn y lleoliadau hyn, fel meddygfeydd, canolfannau gofal dydd a llyfrgelloedd – byddant yn sylwi ar drawsnewidiad a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu gwaith pwysig yn haws.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gyflawni blaenoriaethau’r bobl yng Nghymru.

Mae llawer o safleoedd yng Nghymru eisoes yn elwa. Mae Canolfan Gweithgareddau Cymdeithasol Anchorage, canolfan ddydd yn Noc Penfro, yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu neu ddementia. Diolch i’r gwaith uwchraddio, mae cyflymder y rhyngrwyd wedi cynyddu o ddau megabit yr eiliad i 80 megabit yr eiliad.

Mae’r hwb band eang wedi galluogi grwpiau i ymgysylltu â manteision system therapi digidol sy’n cynnwys sgrin gyffwrdd fawr gyda deunyddiau i wella hwyliau a lles, gan gynnwys therapi cerdd, gemau rhyngweithiol, lluniau a chlipiau archif y BBC. Mae dau Alexa wedi cael eu harchebu ar gyfer y safle, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n defnyddio cerddoriaeth, ac mae cynlluniau i gysylltu’n ddigidol â gwasanaethau hamdden a llyfrgell.

Dywedodd Esther Gray, yr Uwch Gydlynydd Tîm yng Nghanolfan Gweithgareddau Cymdeithasol Anchorage:

Mae Ffeibr wedi rhoi’r cyflymder i ni weithio’n fwy effeithiol ac nid oes rhagor o gylchoedd yn troi a throi wrth i ni aros i bethau lwytho. Mae hyn wedi rhoi hwb ychwanegol i ni ailddyfeisio ein gwasanaeth a symud ymlaen.

Ni wnaethom fanteisio rhyw lawer ar TG cyn y pandemig mewn gwirionedd, ond gyda brwdfrydedd ein staff a’r gwaith uwchraddio i ffeibr, gallwn barhau i adeiladu ar hynny. Mae cysylltiad cyflymach yn hanfodol i ni wrth symud ymlaen.

Yn Llyfrgell Aberdaugleddau, mae cyflymder y cysylltiad wedi cynyddu’n syfrdanol o bedwar megabit yr eiliad i 150 megabit yr eiliad. Mae gan aelodau’r cyhoedd fynediad at 17 o gyfrifiaduron cyhoeddus a WiFi am ddim, ac yn sgil y gwasanaeth sy’n gallu delio â gigabits, mae’r cwynion am rwydwaith araf wedi dod i ben.

Dywedodd Tracy Collins, Cydlynydd Safle yn Llyfrgell Aberdaugleddau:

Mae llawer o aelodau’r cyhoedd yn dod i mewn i ddefnyddio’r cyfrifiaduron i chwilio am swyddi. Roedd pobl yn arfer dweud bod y rhyngrwyd yn araf iawn, yn enwedig pan oeddent yn llwytho dogfennau i lawr a byddai’n rhaid i ni ymddiheuro ond doedd dim y gallem ei wneud am y peth. Mae wedi bod yn wych hyd yma, ac mae hwn yn gam mawr ymlaen.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Cafodd y gwaith uwchraddio ei gyflawni drwy’r rhaglen Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol (LFFN) i helpu i gyflwyno’r genhedlaeth nesaf o gysylltiadau band eang ffeibr llawn, cyflymach i adeiladau cyhoeddus cymwys a’r rhaglen Hybiau Cysylltedd Gigabit Gwledig (RGC) i ddarparu cysylltiadau sy’n gallu delio â gigabits ledled y wlad mewn lleoliadau sy’n annhebygol o elwa o fuddsoddiad masnachol.

Prosiectau Hwb LFFN ac RGC - Manylion

Prosiect LFFN Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Cyflwynir gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda’r deg awdurdod lleol sy’n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. £2.5m o gyllid y DU, 166 o safleoedd cyhoeddus.
Prosiect Sector Cyhoeddus LFFN Cyngor Sir Penfro Cyflwynir gan Gyngor Sir Penfro. £1m o gyllid y DU, 68 o safleoedd cyhoeddus.
Prosiect Cronfa Her LFFN Gogledd Cymru Caiff ei arwain gan Sir Ddinbych, gan weithio gyda’r chwe awdurdod lleol sy’n rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. £6.5m o gyllid y DU, 311 o safleoedd cyhoeddus.
Hyb RGC - Prosiect Gweddill Cymru Cyflwynir gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag 11 o awdurdodau lleol gwledig yng Nghymru. £0.93m o gyllid y DU, 75 o safleoedd cyhoeddus.

Dadansoddiad o’r safleoedd

Dadansoddiad o safle Sir Benfro (68):

Crymych - 2 Abergwaun - 4 Hwlffordd - 22 Cilgeti - 1 Aberdaugleddau - 11 Arberth - 2 Trefdraeth - 2 Penfro - 2 Doc Penfro - 11 Saundersfoot - 3 Tredemel - 1 Dinbych-y-pysgod - 7

Dadansoddiad o safle Gogledd Cymru (311):

Abergele - 6 Amlwch - 1 Bangor - 8 Abermaw - 2 Biwmares - 1 Betws-y-coed - 5 Blaenau Ffestiniog - 2 Bodorgan - 1 Caernarfon - 10 Cemaes - 1 Cerrigydrudion - 11 Caer - 3 Bae Colwyn - 16 Conwy - 5 Glannau Dyfrdwy - 11 Dinbych - 13 Dolgellau - 6 Dolwyddelan - 1 Y Fflint - 4 Harlech - 2 Caergybi - 9 Treffynnon - 6 Llandudno - 14 Llangefni - 5 Llanerchymedd - 1 Llanfairfechan - 3 Llangollen - 7 Llanidloes - 1 Llanrwst - 6 Llanfair Pwllgwyngyll - 2 Porthaethwy - 1 Yr Wyddgrug - 14 Penmaenmawr - 1 Penrhyndeudraeth - 1 Porthmadog - 5 Prestatyn - 3 Pwllheli - 8 Rhuddlan a’r Rhyl - 27 Rhuthun - 16 Star Gaerwen - 1 Llanelwy - 6 Trefriw - 2 Tywyn - 2 Tŷ Goes - 1 Wrecsam - 60

Dadansoddiad o safle Dinas-ranbarth Caerdydd (166):

Aberdâr - 2 Y Fenni - 4 Abertyleri - 9 Bargoed - 6 Y Coed Duon - 3 Pen-y-bont ar Ogwr - 18 Caerffili - 13 Cil-y-coed - 4 Caerdydd - 12 Cas-gwent - 2 Cwmbrân - 8 Glynebwy - 7 Glynrhedynog - 4 Hengoed - 2 Maesteg - 3 Merthyr Tudful - 1 Trefynwy - 3 Aberpennar - 2 Casnewydd - 26 Penarth - 2 Pont-y-pŵl - 11 Pontypridd - 10 Tredegar - 8 Treharris - 1 Treorci - 2 Brynbuga - 3

Dadansoddiad o safle gweddill Cymru (75)

Henffordd - 1 Llandrindod - 1 Aberhonddu - 4 Llanwrtyd - 2 Trefyclo - 1 Llanandras - 1 Llangollen - 1 Corwen - 4 Betws-y-coed - 1 Llanrwst - 1 Conwy - 2 Dolgellau - 2 Blaenau Ffestiniog - 1 Abermaw - 1 Porthmadog - 1 Caernarfon - 2 Bangor - 1 Porthaethwy - 1 Rhosneigr - 1 Amlwch - 1 Benllech - 2 Gors Felin - 1 Glyn-nedd - 2 Gwaun Cae - 2 Meddygfa - 2 Abertawe - 3 Hendy-gwyn ar Daf - 2 Castellnewydd Emlyn - 2 Llanybydder - 1 Aberteifi - 4 Llanbedr Pont Steffan - 1 Tyddewi - 2 Arberth - 1 Dinbych-y-pysgod - 2 Penfro - 3 Trefaldwyn - 1 Llanidloes - 2 Machynlleth - 2 Y Trallwng - 5 Llanfyllin - 2 Aberystwyth - 3 Tregaron - 1

Cyhoeddwyd ar 10 March 2022