Datganiad i'r wasg

£57,000 wedi ei godi gan staff DVLA ar gyfer Tŷ Olwen

Yn ddiweddar, trosglwyddodd DVLA siec am £57,100 i Tŷ Olwen. Codwyd y cyfanswm mawreddog ar gyfer yr hosbis gan staff DVLA drwy godi arian drwy gydol 2019.

Julie Lennard presenting the cheque to representatives from Tŷ Olwen

Mae Tŷ Olwen yn cynnig ansawdd bywyd i gleifion, ynghyd â gofal diwedd oes priodol a thosturiol pan ddaw’r amser. Mae cleifion yn cael gofal naill ai yn Tŷ Olwen ei hun, yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau ysbytai lleol. Mae’r gofal yn cael ei ymestyn i deulu a ffrindiau, ac mae’r cymorth yn cael ei roi am gyhyd ag sydd ei angen.

Dewisodd staff Tŷ Olwen fel elusen o ddewis yr asiantaeth ar gyfer 2019 ac maent wedi codi’r arian trwy nifer o weithgareddau gan gynnwys gwerthu cacennau, heriau beicio, rhedeg marathon, heriau ar gyfer cyrsiau antur a chyngerdd elusen ‘Tiwniau ar gyfer Tŷ Olwen’.

Derbyniodd Helen Murray MBE, Cadeirydd Tŷ Olwen, y siec gan Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA yn ystod digwyddiad Nadolig blynyddol yr asiantaeth a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:

Rwy’n falch iawn bod ein staff wedi rhoi cymaint o’u hamser eu hunain i godi arian i Tŷ Olwen eleni. Unwaith eto, rydym wedi gweld amrywiaeth enfawr o weithgareddau codi arian drwy gydol y flwyddyn ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gefnogodd yr achos hynod o dda hwn.

Meddai Helen Murray MBE, Cadeirydd Tŷ Olwen:

Mae gweithio gyda phawb yn DVLA fel elusen o’u dewis dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn brofiad gwych. Nid yn unig y maent i gyd wedi gweithio’n galed i godi’r swm anhygoel hwn o arian, ond maent wedi ein llethu â’u haelioni drwy gyfrannu wyau Pasg, bagiau croeso, siolau a blancedi.

Yn ogystal â hyn oll ni allwn roi gwerth ar faint fydd Tŷ Olwen yn elwa am flynyddoedd lawer i ddod gan eu bod wedi helpu i godi ein proffil yn y gymuned.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 20 December 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 December 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.