Stori newyddion

Hwb o £44 miliwn i helpu prosiectau ymchwil a datblygu rhanbarthol yn ne Cymru

Bydd prosiect mawr newydd yn Ne Cymru yn sbardun i arloesi mewn sectorau allweddol o gyfathrebu i gerbydau awtonomaidd

compound semi-conductor

compound semi-conductor

  • Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth, ei nod yw helpu uwchsgilio busnesau gweithgynhyrchu Cymru i ddarparu technolegau yn y dyfodol
  • Prosiect yn rhan o dros £400 miliwn o gyllid gan y llywodraeth a diwydiant ar gyfer prosiectau arloesol ymchwil a datblygu ledled y DU

Heddiw (26 Mehefin) mae prosiect mawr newydd yn ne Cymru sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd o’r enw CSconnected wedi derbyn £44miliwn gan Llywodraeth y DU a diwydiant.

Bydd yr arian yn cryfhau diwydiannau datblygol yn Ne Cymru gan gyflwyno datblygiadau technolegol mawr mewn meysydd fel cyfathrebu, 5G, cerbydau awtonomaidd a theclynnau meddygol.

Bydd y prosiect yn helpu i sefydlu clwstwr o ragoriaeth ym maes gweithgynhyrchu, gan gynnwys Academi Sgiliau newydd i ddarparu hyfforddiant mewn gweithgynhyrchu a thechnoleg i fusnesau cyfrwng-bach yn y rhanbarth, ac yn bartneriaeth rhwng brifysgolion Abertawe a Chaerdydd â chwe chwmni gweithgynhyrchu blaenllaw yng Nghymru.

Dywedodd Alok Sharma yr Ysgrifennydd Busnes:

Mae diwydiannau ymchwil a datblygu y DU yn Ne Cymru yn allweddol i ail-danio ein heconomi.

Gyda’r buddsoddiad mawr hwn o £44 miliwn, rydym yn cefnogi rhai o wyddonwyr ac ymchwilwyr gorau’r rhanbarth, wrth iddynt weithio i hyrwyddo arloesedd mewn sectorau sy’n amrywio o gyfathrebu i gerbydau ymreolaethol.

Mae’r gwaith ymchwil arloesol hwn rydym yn ei gefnogi nid yn unig yn dda i ddefnyddwyr, ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi ledled de Cymru.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd ein buddsoddiad o £44 miliwn yn y prosiect dan arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhoi hwb i’r ymchwil anhygoel sydd eisoes yn cael ei wneud yn y maes hwn ar draws de-ddwyrain Cymru.

Mae buddsoddi yn y dechnoleg ddatblygol hon yn ein galluogi i greu gwaddol o beiriannu a gweithgynhyrchu yng Nghymru a fydd yn parhau am amser maith, ac yn creu swyddi gyda sgiliau uchel a thwf economaidd wrth i ni ddod allan o’r argyfwng coronafeirws.

Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

Mae hyn yn gyflawniad arbennig yn wyneb cefndir o heriau economaidd sylweddol – mae’n symbol o’r gobaith a’r cyfle sydd o’n blaenau.

Mae hwn yn ddiwydiant y dyfodol ac yn arwyddocaol o ran cefnogi twf mewn telegyfathrebu, 5G, cyfathrebu, systemau egni i’r dyfodol, moduro a thechnoleg meddygol y dyfodol.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o Gronfa flaenllaw Llywodraeth y DU ar Gryfder Mewn Llefydd (Stength in Places Fund) gyda’i hamcan o yrru ymchwil ac arloesedd sy’n cael effaith amlwg ar dwf economaidd lleol. Bydd prosiectau ledled y DU yn elwa o gyfran o’r £186 miliwn o fuddsoddiad y llywodraeth, gyda chymorth ychwanegol o £230 miliwn gan gwmniau preifat ac awdurdodau lleol.

Mae’r datganiad hefyd yn dilyn Llywodraeth y DU yn dwblu ei buddsoddiad yn y Gystadleuaeth Dechrau Cyflym (Fast Start Competition) i £40 miliwn i gynorthwyo gyda gyrru datblygiadau technolegol ymlaen ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fusnesau arloesol yn y DU.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd y prosiect gyda chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru gwerth £43.7 miliwn yn cael ei gefnogi gan £25.44 miliwn o gyllid gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa flaenllaw Llywodraeth y DU, Cryfder Mewn Llefydd (Stength in Places Fund).

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid ar draws De Cymru gan gynnwys:

  • Prifysgol Abertawe
  • Cyngor Caerdydd
  • Llywodraeth Cymru
  • Compound Semiconductor Centre Limited
  • Microsemi Semiconductor Limited
  • IQE PLC
  • Newport Wafer Fab Ltd
  • SPTS Technologies Limited
  • Compound Semiconductor Applications Catapult Limited
  • Microlink Devices UK Ltd
  • Rockley Photonics Limited

  • Mae’r project sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn un o saith prosiect sy’n derbyn cyllid – gan helpu i greu miloedd o swyddi a hybu ymchwil ac arloesedd o’r radd flaenaf ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Y chwe phrosiect arall sy’n derbyn cyllid yw:

  • £114 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Ysgol Feddygaeth Drofannol Lerwpl sydd yn sicrhau bod cynnyrch a datrysiadau gofal iechyd newydd ac arloesol ar gyfer heintiau dynol ar gael yn gynt ac yn rhatach ar gyfer pobl yn y Gogledd Orllewin. Gall hyn helpu i wneud y gwaith diagnosis yn haws, lleihau yr angen i dynnu gwaed a lleihau y risg sy’n codi o nodwyddau wedi eu heintio.
  • £55 miliwn ar gyfer Prifysgol Caeredin i gynorthwyo i wella bywydau pobl yn yr Alban trwy ymchwil i ddeall ymddygiadau ariannol a helpu i ymdrin gyda heriau ariannol megis cael gafael ar gredyd, perchenogaeth eiddo a chynilo arian.
  • £46 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Prifysgol Bryste i gefnogi dulliau digidol newydd o wneud ffilmiau yn y De Orllewin gan gynnwys profiadau newydd mewn creu ffuglen, rhaglenni nodwedd, gemau a pherfformiadau byw.
  • £33 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth yr Institiwt Cenedlaethol ar Fotaneg Amaethyddol ar gyfer cynyddu’r buddsoddiad mewn technolegau datblygol yn y De Ddwyrain megis Deallusrwydd Artiffisial (AI), awtomatiaeth a phecynnu clyfar ar gyfer cynhyrchu bwyd i gynorthwyo gyda gwella effeithlonrwydd, lleihau gwastraff a chynhyrchu cynnyrch sy’n saff, fforddiadwy a maethlon.
  • £91 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Prifysgol Glasgow i gynorthwyo gyda gyrru twf economaidd yn Glasgow trwy roi ar waith ddulliau newydd mewn Meddygaeth Fanwl sy’n galluogi meddygon i ddewis triniaethau ar gyfer cleifion sy’n seiliedig ar eneteg yr afiechyd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau effeithlonrwydd barhaus a deilliannau iechyd gwell i’r cleifion, mewn meysydd megis trïn ymatebion andwyol i feddyginiaethau ac adnabod y cyfuniad o gyffuriau mwyaf effeithiol ar gyfer person.
  • £63 miliwn ar gyfer consortiwm dan arweinyddiaeth Artemis Technologies Cyf i ddatblygu technolegau di-allyriadau yng Ngogledd Iwerddon i gyflwyno hybridiau gwynt-trydan ar gyfer llongau morol, gan gynnwys cynllun tacsi dŵr di-allyriadau.
Cyhoeddwyd ar 26 June 2020