Stori newyddion

3 chyfarwyddwr anweithredol wedi’u penodi yn DVLA

Mae Charmion Pears, Stephen Tetlow MBE, a Sarah Williams-Gardener oll wedi cael eu penodi yn gyfarwyddwyr anweithredol i fwrdd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

Mae DVLA heddiw (16 Ionawr 2024) wedi cyhoeddi penodiad 3 chyfarwyddwr anweithredol i’w bwrdd. Mae’r penodiadau yn dod wrthi i Chris Morson a Matt King gwblhau eu tymhorau fel cyfarwyddwyr anweithredol ar fwrdd y DVLA yn llwyddiannus. Bydd y penodiadau newydd yn gweithio ochr yn ochr â gweddill bwrdd y DVLA, sy’n cynnwys David Jones, a benodwyd yn Gadeirydd yn ddiweddar.  

Mae’r penodiadau canlynol wedi cael eu gwneud:

MaeCharmion Pears wedi cael ei phenodi fel Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg DVLA. Mae ganddi brofiad helaeth fel cyfarwyddwr anweithredol, ac ymddiriedolwr â ffocws ar y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae gan Charmion arbenigedd profedig mewn arweinyddiaeth strategol, â chraffter ariannol cryf a dealltwriaeth eglur o ymarferion llywodraethiant cadarn. Mae Charmion yn eistedd ar hyn o bryd ar Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn fwyaf diweddar roedd hi’n gyfarwyddwr anweithredol o Bristol Waste Company a Corserv Ltd.

MaeStephen Tetlow MBE yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol sy’n cyflawni newid wedi’i ffocysu ar y cwsmer a digideiddio ar raddfa fawr ac arloesedd gwasanaeth. Mae ganddo gefndir mewn peirianneg a gwyddoniaeth mewn amddiffyn, gan gynnwys arweinyddiaeth technoleg. Mae Stephen ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr anweithredol yn y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Sarah Williams-Gardener yw Prif Swyddog Gweithredol Fintech Cymru, gan arwain ar ei orchwyl i sefydlu Cymru fel canolfan ragoriaeth a adnabyddir yn fyd-eang. Mae profiad Sarah yn deillio o lawer o rolau, a’r llinyn cyffredin yw arloesedd technegol i gynyddu cynhyrchiant a phrofiad cynhwysol cwsmeriaid. Mae gan Sarah brofiad arweinyddiaeth fewnol ac allanol helaeth ac mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr yn Goroesi Camdriniaeth Economaidd.

Dywedodd Weinidog y Ffyrdd, Guy Opperman:

Hoffwn i ddiolch i Chris a Matt am eu hymroddiad a’u gwaith rhyfeddol gyda DVLA.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Charmion, Stephen a Sarah i sicrhau bod DVLA yn parhau ei waith ardderchog i gyflawni gwasanaethau cyflym, effeithlon a chynyddol ddigidol i gwsmeriaid.

Dywedodd Charmion Pears:

Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno â DVLA fel rhan o’r bwrdd, yn gweithio gyda chydweithwyr i gyflawni yn erbyn amcanion strategol yr asiantaeth – gan roi cwsmeriaid, cydweithwyr ac arloesedd wrth galon popeth rydym yn ei wneud.

Dywedodd Stephen Tetlow MBE:

Mae DVLA yn cyffwrdd â bywydau miliynau o ddinasyddion a busnesau. Mae’n rhan hanfodol o’n seilwaith cenedlaethol. Rwy’n freintiedig i gael y cyfle i gyfrannu at ei rôl hanfodol, i helpu dwyn ei hagenda ddigidol yn ei blaen, ac i gefnogi buddiannau ei holl randdeiliaid.

Dywedodd Sarah Williams-Gardener:

Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y swydd anweithredol gyda DVLA, gan gydnabod y rôl hanfodol mae’n ei chwarae wrth ffurfio dyfodol trafnidiaeth a sicrhau gweithrediad llyfn systemau ffyrdd ein cenedl. Rwy’n awyddus i gyfrannu fy arbenigedd a chydweithio â’r tîm uchel ei barch yn DVLA i ysgogi arloesedd, gwella effeithlonrwydd, a hyrwyddo dyfodol mwy diogel a mwy cynaliadwy i holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Gyda’n gilydd, rydym yn cychwyn ar daith o effaith gadarnhaol a gwasanaeth i’r gymuned.

Cyhoeddwyd ar 16 January 2024