Datganiad i'r wasg

£1.7miliwn o ôl-daliad wedi’i ganfod ar gyfer y nifer mwyaf erioed, sef 16,000 o gyflogeion wrth i 260 o gyflogwyr gael eu henwi am dalu llai na’r isafswm cyflog

Yng Nghymru, enwyd naw o gyflogwyr am dandalu

  • Mae’r Llywodraeth wedi canfod £1.7 miliwn o ôl-daliad ar gyfer 16,000 o weithwyr – mwy o weithwyr nac mewn unrhyw rownd enwi flaenorol.
  • 260 o gyflogwyr wedi’u henwi ac wedi cael dirwyon o gyfanswm o £1.3 miliwn am dalu llai na chyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol. *Y sectorau manwerthu, lletygarwch a thrin gwallt oedd y sectorau a enwyd amlaf yn y rownd hon.
  • Yng Nghymru, enwyd naw o gyflogwyr, ac mae cyfanswm o £11,000 yn ddyledus, £9000 mewn cosbau, gan effeithio ar 14 o weithwyr.

Heddiw (8 Rhagfyr) enwodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) 260 o gyflogwyr am fethu â thalu o leiaf cyfraddau’r isafswm cyflog i 16,000 o weithwyr.

Canfu archwilwyr y Llywodraeth £1.7 miliwn o ôl-daliadau ar gyfer rhai o’r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y DU a rhoddwyd dirwy o £1.3 miliwn i gyflogwyr am dandalu.

Busnesau manwerthu, lletygarwch a thrin gwallt oedd ymysg y troseddwyr mynychaf yn y rownd hon. Rhesymau cyffredin dros gamgymeriadau a wnaed oedd: methu â thalu i weithwyr a oedd yn teithio o un lle i’r llall, didynnu arian o gyflogau am lifrai a pheidio â thalu goramser.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n annerbyniol i gyflogwyr beidio â thalu i’w staff y cyflogau y dylent fod yn eu cael.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos fel y mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â naw o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi methu â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’w gweithwyr.

Rwy’n annog cyflogeion sy’n credu eu bod yn cael eu tandalu, i geisio cyngor gan y Llywodraeth i sicrhau eu bod yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n galed i greu’r amodau cywir ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi yng Nghymru, ond heb beryglu hawliau cyflogeion.

Dywedodd Margot James, y Gweinidog Busnes:

Does dim esgus dros beidio â thalu’r cyflogau y mae gan staff hawl iddynt, a bydd y llywodraeth yn cosbi’n galed y busnesau sy’n torri’r rheolau.

Dyna pam ein bod heddiw yn enwi cannoedd o gyflogwyr sydd wedi bod yn talu llai nag y dylent i’w gweithwyr; er mwyn sicrhau fod y canlyniadau’n effeithio ar eu coffrau yn ogystal ag ar eu henw da, rydym wedi codi miliynau mewn ôl-daliadau a dirwyon.

Dywedodd Bryan Anderson, Cadeirydd y Comisiwn Cyflogau Isel:

Mae sgyrsiau’r Comisiwn Cyflog Isel gyda chyflogwyr yn awgrymu bod y risg o gael eu henwi’n annog busnesau i ganolbwyntio ar gydymffurfio. Hefyd, mae’n dda gweld bod Cyllid a Thollau EM yn parhau i dargedu cyflogwyr mawr sydd wedi tandalu nifer fawr o weithwyr, yn ogystal ag achosion lle nad oedd ond ychydig o weithwyr yn cael eu heffeithio, lle mae gweithwyr mewn perygl o gael eu hecsbloetio yn y modd mwyaf difrifol. Mae’n hanfodol i’r llywodraeth barhau i roi pwysau ar bob cyflogwr sy’n torri cyfraith isafswm cyflog.

Os yw gweithwyr yn bryderus nad ydynt yn cael eu talu ar y gyfradd gywir, yna gallant geisio cyngor gan arbenigwyr gweithleoedd Acas.

Ers 2013, mae’r cynllun wedi canfod £8 miliwn mewn ôl-daliadau i 58,000 o weithwyr, gyda 1,500 o gyflogwyr yn cael cyfanswm o £5 miliwn o ddirwyon. Eleni, bydd y llywodraeth yn gwario’r swm uchaf erioed, sef £25.3 miliwn ar orfodi’r isafswm cyflog.

Bydd y cyfraddau’n codi eto ym mis Ebrill 2018, gan roi i weithwyr ifanc yn benodol yr hwb mwyaf o ran cyflogau mewn degawd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich cyflog, neu os ydych yn credu eich bod yn cael eich tandalu, ewch i wefan benodol yr Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Y cwmnïau Cymreig a enwyd oedd:

  • Mr Martin Brindley Station Cars, Wrecsam LL11, methodd â thalu £5,303.74 i 1 gweithiwr.
  • Total Site Maintenance Limited, Castell-nedd Port Talbot SA12, methodd â thalu £3,176.62 i 127 o weithwyr.
  • Brynamman One Stop Limited, Castell-nedd Port Talbot SA18, methodd â thalu £1,252.76 i 1 gweithiwr.
  • Ron Skinner & Sons Ltd, Blaenau Gwent NP22, methodd â thalu £863.50 i 2 weithiwr.
  • Rothwell & Robertson Limited yn masnachu fel Ye Olde Bull’s Head Inn, Ynys Môn LL58, methodd â thalu £627.53 i 1 gweithiwr.
  • Men At Work (Cymru) Limited, Conwy LL31, methodd â thalu £310.80 i 1 gweithiwr.
  • Mr Stephen Gomes yn masnachu fel Moksh, Caerdydd CF10, methodd â thalu £263.22 i 2 weithiwr.
  • Vale Holiday Parks Limited, Ceredigion SY23, methodd â thalu £213.38 i 2 weithiwr.
  • Schoolhouse Daycare Limited yn masnachu fel Swansea DVLA Schoolhouse Daycare, Abertawe SA6, methodd â thalu £125.37 i 1 gweithiwr.
Cyhoeddwyd ar 8 December 2017