Diogelu 150 o swyddi yn Swyddfa Basbort Casnewydd
Heddiw [Dydd Llun 23 Mai], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newydd y bydd 150 o swyddi’n cael eu diogelu yn Swyddfa Basbort…
Heddiw [Dydd Llun 23 Mai], croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newydd y bydd 150 o swyddi’n cael eu diogelu yn Swyddfa Basbort Casnewydd.
Heddiw, cyhoeddodd Damian Green, Gweinidog yn y Swyddfa Gartref, ganlyniad yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig yn Swyddfa Basbort Casnewydd. Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wedi ategu ei ymrwymiad i Gymru drwy sefydlu canolfan rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid, fel rhan o gynigion i ailstrwythuro ei gweithrediadau.
O fis Mai 2012 ymlaen, ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau bellach yn prosesu ceisiadau drwy’r post na cheisiadau ar lein yng Nghasnewydd. Bydd y Gwasanaeth yn parhau i gynnig canolfan gwasanaeth cwsmeriaid yng Nghasnewydd i wasanaethu De Cymru a De-orllewin Lloegr a bydd Casnewydd yn dod yn ganolfan ar gyfer nifer o wasanaethau cymorth i gwsmeriaid ar ran y rhwydwaith rhanbarthol. Bydd 150 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghasnewydd.
Dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu diogelu 150 o swyddi i Gymru yn Swyddfa Basbort Casnewydd. Ers cyhoeddiad y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau fis Hydref diwethaf, mae Swyddfa Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth glos a’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i ddiogelu gymaint o swyddi ag y bo modd yng Nghasnewydd.
“Mae cyhoeddiad Damian Green, y Gweinidog dros Fewnfudo, heddiw, yn golygu y caiff 100 swydd arall ei lleoli yng Nghasnewydd, yn ogystal a’r 50 swydd a ddiogelwyd ar gyfer y ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid fis Hydref diwethaf, i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws rhwydwaith y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cau wedi ei ymestyn ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein bod wedi gwrando ar bryderon pobl leol ac wedi ymateb iddynt.”
Meddai Damian Green, Gweinidog yn y Swyddfa Gartref: _“_Rydym wedi ymrwymo erioed i gadw Swyddfa Basbort i wasanaethu pobl Cymru ac ar ol gwrando’n astud ar yr hyn mae pobl wedi’i ddweud wrthym, byddwn yn cadw 150 o swyddi yng Nghasnewydd, sydd gryn dipyn yn fwy na’r cynnig gwreiddiol.
“_Rwy’n deall y bydd hwn yn gyfnod anodd i’n staff yn y swyddfa yng Nghasnewydd, ond rydym wedi gwneud ein gorau i leddfu effaith y penderfyniadau anodd hyn gymaint ag y bo modd wrth sicrhau’r arbedion a’r enillion effeithlonrwydd angenrheidiol ar gyfer y busnes ar yr un pryd. _Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn parhau i gydweithio’n agos ag adrannau eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i gynorthwyo’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio ac i ganfod cyfleoedd eraill ar eu cyfer.”
Nodiadau
Daw’r cyhoeddiad yn sgil cyfnod ymgynghori estynedig a staff, undebau llafur a phartion eraill a budd dros gyfnod o 150 diwrnod. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael drwy ddilyn y ddolen ‘Cyhoeddiadau’ ar www.ips.gsi.gov.uk