Parliamentary Under Secretary of State
Cyfrifoldebau
Mae Guy Opperman yn gyfrifol am:
- cynnal a chadw ffyrdd a darparu seilwaith (gan gynnwys Priffyrdd Cenedlaethol)
- asiantaethau moduro (DVLA, DVSA, VCA)
- trafnidiaeth leol gan gynnwys bysiau, tacsis, rheilffyrdd ysgafn
- teithio llesol (beicio a cherdded)
- Caint gan gynnwys BROCK, TAP
- EES a ffiniau
- cludo
- Dyfodol Cludo Nwyddau
- diogelwch merched
- hygyrchedd (arweinydd trawsbynciol fel Hyrwyddwr Anabledd Gweinidogol)
Deiliad presennol y rôl
Guy Opperman MP
Bu’n Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 13 Tachwedd 2022 a 27 Hydref 2023, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr un adran rhwng 14 Mehefin 2017 ac 8 Medi 2022.
Gwasanaethodd fel Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM) o 12 Mai 2015 i 14 Mehefin 2017. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Hexham ym mis Mai 2010.
Addysg
Addysgwyd Guy yn Ysgol Harrow; aeth ymlaen i ddarllen y gyfraith ym Mhrifysgol Buckingham. Enillodd hefyd ddiploma dosbarth cyntaf o Brifysgol Lille.
Gyrfa wleidyddol
Gwasanaethodd Guy fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Mark Harper, y Gweinidog Mewnfudo ar y pryd. Gwasanaethodd fel Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Mai 2015 tan fis Gorffennaf 2016.
Gyrfa cyn gwleidyddiaeth
Galwyd Guy i’r bar ym 1989.Treuliodd ugain mlynedd fel bargyfreithiwr a bu hefyd yn Gyfarwyddwr busnes peirianneg ei deulu tan 2009.
Bywyd personol
Mae Guy yn joci amatur ac enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf yn 1985.