Rôl weinidogol

Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Gweinidog Pensiynau)

Organisations: Adran Gwaith a Phensiynau
Deiliad presennol y rôl: Paul Maynard MP

Cyfrifoldebau

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • budd-daliadau pensiynwyr, gan gynnwys Pensiwn Newydd y Wladwriaeth, Taliadau Tanwydd Gaeaf, Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini
  • pensiynau preifat a galwedigaethol, gan gynnwys pwerau rheoleiddio a’r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST)
  • Cronfa Gymdeithasol (Taliadau Tywydd Oer, Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn a Chynllun Talu Treuliau Angladdau)
  • goruchwyliaeth o gyrff hyd braich, gan gynnwys y Rheoleiddiwr Pensiynau, Cronfa Diogelu Pensiwn, Cynllun Cymorth Ariannol ac Ombwdsmon Pensiynau, a’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
  • dulliau talu, gan gynnwys Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post
  • Sero Net
  • Gweinidog yr Arglwyddi Cysgodol
  • Twyll, gwall a dyled

Deiliad presennol y rôl

Paul Maynard MP

Penodwyd Paul Maynard yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Tachwedd 2023.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2019 a Chwefror 2020.

Bu hefyd yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder rhwng Mai 2019 a Gorffennaf 2019.

Cyn hynny roedd yn Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EF). Roedd Paul yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth rhwng Gorffennaf 2016 ac Ionawr 2018. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Blackpool North a Cleveleys ym mis Mai 2010.

Addysg

Addysgwyd Paul yng Ngholeg St Ambrose, Altrincham a Choleg y Brifysgol, Rhydychen lle bu’n astudio hanes.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Cyn mynd i’r Senedd, gweithiodd Paul fel ymgynghorydd gwleidyddol ac ysgrifennwr areithiau.

Mwy am y person hwn

Deiliaid blaenorol y rôl hon

  1. The Rt Hon Laura Trott MBE MP

    2022 to 2023