Rôl weinidogol

Gweinidog Gwladol (Gweinidog Cyflogaeth)

Organisations: Adran Gwaith a Phensiynau
Deiliad presennol y rôl: Jo Churchill MP

Cyfrifoldebau

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • y farchnad lafur
  • mynd i’r afael ag anweithgarwch i wella cyflenwad llafur a thwf economaidd
  • dilyniant yn y gwaith
  • sgiliau
  • amodoldeb a sancsiynau
  • uwchraddio ar Cap ar Fudd-daliadau
  • rheolaeth gyffredinol a chyflenwi Credyd Cynhwysol a budd-daliadau ‘legacy’
  • Canolfan Byd Gwaith
  • rhyngwladol
  • Rhifau Yswiriant Gwladol (NINO)
  • Iechyd Galwedigaethol a Thâl Salwch Statudol
  • Gofal plant
  • Tlodi a chostau byw

Deiliad presennol y rôl

Jo Churchill MP

Penodwyd Jo Churchill yn Weinidog Gwladol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 13 Tachwedd 2023.

Cyn hynny, roedd hi’n Is-Siambrlen Tŷ Ei Fawrhydi (Chwip y Llywodraeth) rhwng 7 Medi 2022 a 13 Tachwedd 2023.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig rhwng 17 Medi 2021 a 6 Gorffennaf 2022.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhwng 26 Gorffennaf 2019 a 16 Medi 2021. Cyn hynny, roedd hi’n Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth rhwng 9 Ionawr 2018 a 26 Gorffennaf 2019.

Mwy am y person hwn

Deiliaid blaenorol y rôl hon

  1. Guy Opperman MP

    2022 to 2023