Skip to main content
Ymgynghoriad caeedig

Atodiad A: amlinelliad o’r asesiad effaith drafft

Cyhoeddwyd 19 Mawrth 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Yn unol ag arferion gorau, bydd yr ASB yn cynhyrchu asesiad effaith o’r drefn ddiwygiedig i roi gostyngiadau. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio gweinidogion wrth iddynt wneud eu penderfyniad terfynol ar y cynllun a chaiff ei gyhoeddi pan fydd wedi’i gwblhau.

Yn seiliedig ar wybodaeth sydd wedi dod i law hyd yma o drafodaethau â rhanddeiliaid, data a gedwir gan yr ASB ac ymchwil a gynhaliwyd gan Ymgynghorwyr Riber, mae’r ASB wedi mynegi rhai effeithiau’n ariannol. Mae’r costau a asesir yn rhai dros dro, ac mae’r ASB yn ceisio tystiolaeth ychwanegol gan y diwydiant i lywio’r asesiad effaith terfynol o’r holl gostau a buddion.

Ar gyfer yr asesiad effaith, rydym wedi ystyried tri opsiwn:

  • Opsiwn 1 (llinell sylfaen) – parhau â’r model sy’n seiliedig ar fandiau [gyda llwybr parhaus tuag at adennill costau llawn]
  • Opsiwn 2a – Model cefnogaeth ostyngol gydag 1 flwyddyn o ddata mewnbwn
  • Opsiwn 2b – Model cefnogaeth ostyngol gyda 3 blynedd o ddata mewnbwn

Efallai y bydd opsiynau ychwanegol pellach i’w harchwilio o fewn yr Asesiad Effaith ynghylch lleoliad Trothwy 2. Mae Adran 8 o’r ymgynghoriad hwn yn nodi’r rhesymeg y tu ôl i leoliad y trothwy. Mae amrywiad posib yn cynnwys gosod Trothwy 2 unrhyw le o ddwy i dair gwaith Trothwy 1 (y lleoliad lle mae twf wedi’i ddiogelu) i bum gwaith Trothwy 1, sef y lleoliad lle y credir bod y baich rheoleiddiol yn gymesur. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym wedi ystyried yr opsiwn y dylid gosod Trothwy 2 bum gwaith swm Trothwy 1.

Opsiwn 1 – Llinell sylfaen – Parhau â’r model sy’n seiliedig ar fandiau

Bydd costau a buddion opsiynau 2a a 2b yn cael eu cymharu â’r llinell sylfaen yn yr Asesiad Effaith terfynol.

Bydd yr opsiwn llinell sylfaen yn cynnwys parhau â’r model cyfredol o ran rhoi gostyngiadau sy’n seiliedig ar fandiau.

Opsiwn 2a – Model cefnogaeth ostyngol gydag 1 flwyddyn o ddata mewnbwn

Costau wedi’u mynegi’n ariannol

Costau i fusnesau

Cost barhaus ar gyfer gostyngiadau i ladd-dai

Amcangyfrifir y bydd lladd-dai yn wynebu costau ychwanegol parhaus oherwydd dyraniad is o ostyngiad, gan na fydd lladd-dai mwy bellach yn gymwys i gael gostyngiad, nac i gael gostyngiad is, ar yr oriau a dreulir ar reolaethau swyddogol.

Bydd hyn yn arwain at ostyngiad llai, ac felly bydd yn rhoi mwy o bwysau cost ar ladd-dai o dan y system ostyngiadau ddiwygiedig. Rhoddir gwerth ariannol ar y gost hon ar ôl yr ymgynghoriad fel rhan o asesiad effaith.

Costau ymgyfarwyddo untro i sefydliadau

Amcangyfrifir y bydd lladd-dai yn wynebu cost ymgyfarwyddo untro oherwydd yr angen i ymgyfarwyddo â’r system ddiwygiedig o ostyngiadau.

Yn unol â’n methodoleg safonol ar asesu amser ymgyfarwyddo â chanllawiau newydd, byddwn yn amcangyfrif yr amser ymgyfarwyddo untro drwy rannu cyfanswm nifer geiriau’r canllawiau diweddaredig hyn ynghylch rhoi gostyngiadau wrth godi tâl ar gig, gan gynnwys atodiadau, â nifer cyfartalog y geiriau y gall person eu darllen y funud ar gyfer testun rhyddiaith (275 gair y funud)[troednodyn 1].

Rydym yn tybio y bydd swydd y rhai sy’n ymgyfarwyddo â’r canllawiau yn debygol o amrywio, yn dibynnu ar faint y busnes. Ar gyfer lladd-dai bach a chanolig, lle mae un person yn aml yn ysgwyddo sawl rôl, rydym yn disgwyl i’r unigolyn weithredu fel “Rheolwr a Pherchennog mewn Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig ag Amaethyddiaeth”[troednodyn 2] Ar gyfer lladd-dai mwy, rydym yn tybio mai “Gweinyddiaeth Gyllid”[troednodyn 3] fydd yr alwedigaeth berthnasol, a bydd dau aelod o staff yn gyfrifol, fesul lladd-dy, am ymgyfarwyddo â’r canllawiau.

Er mwyn mesur a mynegi’n ariannol gyfanswm y gost ymgyfarwyddo untro i’r diwydiant, byddwn yn lluosi’r gost ymgyfarwyddo fesul busnes â nifer y lladd-dai. Bydd hyn yn arwain at gost ymgyfarwyddo untro fras i fusnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rhoddir gwerth ariannol ar y gost hon ar ôl yr ymgynghoriad fel rhan o asesiad effaith.

Costau i Awdurdodau Cymwys

Y costau a nodir isod yw’r costau a godir ar yr ASB o ganlyniad i ddiwygio’r drefn ostyngiadau, ac ni fyddant yn cael eu hychwanegu at y taliadau ar gyfer arolygu rheolaethau swyddogol.

Cost untro i’r ASB yng Nghymru a Lloegr ar gyfer datblygu system TG newydd

Mae’r ASB yng Nghymru a Lloegr wedi amcangyfrif cost untro gychwynnol rhwng £100,000 a £300,000 i ddatblygu’r llwyfan TG a fydd yn gweinyddu’r system ostyngiadau ddiwygiedig. Rhagwelir y bydd staff a chontractwyr yr ASB yn datblygu un system TG ar gyfer yr ASB yng Nghymru a Lloegr.

Cost untro i’r ASB yng Nghymru a Lloegr ar gyfer hyfforddiant ar y systemau TG

Amcangyfrifir y bydd yr ASB yn wynebu costau untro er mwyn darparu hyfforddiant ar y system TG, gan y bydd angen hyfforddi staff yr ASB i ddefnyddio’r system TG newydd sydd wedi’i datblygu ar gyfer y system ostyngiadau ddiwygiedig. Er mwyn meintioli a mynegi’n ariannol gostau hyfforddi TG untro i’r ASB, yn unol â methodoleg Modelu Cost Safonol (SCM), rydym yn cyfrifo’r gost lafur fesul gweithiwr drwy luosi’r gyfradd gyflog fesul awr, sy’n cynnwys costau nad ydynt yn gyflogau ac sy’n deillio o ddata cyflogau’r ASB, â’r amser sydd ei angen. Yna, caiff hyn ei luosi â nifer y staff sydd eu hangen o bob grŵp a’i gyfuno ar draws pob grŵp o weithwyr i roi’r gost lafur gyffredinol sy’n gysylltiedig â hyfforddi staff yr ASB yn y system ostyngiadau ddiwygiedig.

Gan fod y systemau TG yn dal yn gynnar yn eu datblygiad, bydd cyfanswm cost un-tro i’r ASB ar gyfer hyfforddiant TG yn cael ei bennu pan fydd manylebau’r systemau’n gwbl hysbys. Bydd yn cynrychioli’r gost i’r ASB ar gyfer Cymru a Lloegr. Felly bydd y gost hon yn cael ei mynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Datblygu system TG newydd i DAERA (Gogledd Iwerddon)

Mae system ostyngiadau Gogledd Iwerddon yn cael ei gweinyddu gan DAERA. Mae’r ASB yn amcangyfrif na fydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo wrth ddatblygu a chreu llwyfan TG newydd i weinyddu’r system ostyngiadau ddiwygiedig yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn oherwydd bod DAERA yn codi costau TG yn barhaus fel rhan o gostau cyffredinol, ac mae’r gwaith hwn yn cael ei ystyried yn fusnes fel arfer.

Cost untro i’r ASB yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer hyfforddi staff i ddefnyddio system TG newydd DAERA

Ar gyfer lladd-dai Gogledd Iwerddon, bydd system TG newydd DAERA yn cael ei defnyddio i benderfynu a ydych yn gymwys i gael gostyngiad. Felly, bydd angen i staff ychwanegol gyflwyno a chael hyfforddiant ar systemau TG DAERA. O ystyried ansicrwydd ynghylch y system TG, bydd cyfanswm y gost untro i’r ASB o hyfforddi staff ar system TG DAERA yn hysbys unwaith y bydd manyleb y systemau TG wedi’i chadarnhau. Bydd y gost hon, felly, yn cael ei mynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Cost untro i’r ASB ar gyfer rhoi gwybod i ladd-dai am y system ostyngiadau ddiwygiedig

Amcangyfrifir y bydd yr ASB yn ysgwyddo costau untro ar gyfer rhoi gwybod i ladd-dai am y system ostyngiadau ddiwygiedig, gan y bydd angen i staff yr ASB ddrafftio, cymeradwyo ac anfon canllawiau, yn ogystal â llythyr eglurhaol, at ladd-dai.

Er mwyn meintioli a mynegi’n ariannol y costau staff untro i’r ASB o ddrafftio a chymeradwyo canllawiau ar y system ostyngiadau ddiwygiedig, yn unol â methodoleg yr SCM, rydym yn cyfrifo’r gost lafur fesul gweithiwr drwy luosi’r gyfradd gyflog fesul awr, sy’n cynnwys costau nad ydynt yn gyflogau ac sy’n deillio o ddata cyflogau’r ASB, â’r amser sydd ei angen. Yna, caiff hyn ei luosi â nifer y staff sydd eu hangen o bob grŵp a’i gyfuno ar draws pob grŵp o weithwyr i roi’r gost lafur gyffredinol sy’n gysylltiedig â drafftio a chymeradwyo canllawiau a llythyr eglurhaol ar y system ostyngiadau ddiwygiedig. Bydd yr ASB hefyd yn ysgwyddo costau llafur a phostio sy’n gysylltiedig ag anfon y canllawiau ar y drefn ostyngiadau i ladd-dai. Er mwyn mesur a mynegi’n ariannol gost llafur untro i’r ASB o anfon canllawiau a’r llythyr eglurhaol, bydd methodoleg y SCM yn cael ei defnyddio.

Mae’r cynllun ar gyfer ymgysylltu â’r sector yn dal i gael ei ddatblygu, ac felly bydd cyfanswm y gost untro a godir ar yr ASB yn cael ei fynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Costau i ddefnyddwyr

Effaith ar ddefnyddwyr

Mae’r ASB yn tybio y bydd yr effaith uniongyrchol ar ddefnyddwyr yn ddibwys. Mae canfyddiadau cynnar o ymchwil allanol gan Riber Consultants yn awgrymu mai’r prif effaith ar ddefnyddwyr o newidiadau i strwythurau codi tâl ar ladd-dai yw llai o argaeledd cynnyrch, nid prisiau uwch.

Buddion wedi’u mynegi’n ariannol

Buddion i fusnesau

Budd parhaus o ran baich gweinyddol llai i ladd-dai

Amcangyfrifir y bydd cael y gostyngiad yn golygu llai o faich gweinyddol, gan fod y model cefnogaeth ostyngol arfaethedig wedi’i gynllunio i fod yn symlach ac yn haws i’w ddehongli na’r system sy’n seiliedig ar fandiau.

Nid yw’r gost hon wedi’i mynegi’n ariannol eto. Gofynnir am wybodaeth gan y diwydiant drwy’r arolwg ymgynghori, gyda’r bwriad o fesur y gost.

Buddion i Awdurdodau Cymwys

Budd parhaus o ran baich gweinyddol llai i’r ASB ar gyfer Cymru a Lloegr

Amcangyfrifir y bydd yr ASB yn gweld buddion parhaus drwy lai o faich gweinyddol wrth gyfrifo gostyngiadau lladd-dai yng Nghymru a Lloegr, gan fod y model cefnogaeth ostyngol arfaethedig wedi’i gynllunio i fod yn symlach ac yn haws i’w ddehongli na’r system sy’n seiliedig ar fandiau.

Er mwyn mesur a mynegi’n ariannol y gostyngiadau parhaus yn y baich gweinyddol i’r ASB, bydd methodoleg yr SCM yn cael ei defnyddio.

Gan fod y systemau TG yn dal yn gynnar yn eu datblygiad, bydd cyfanswm y budd parhaus i’r ASB o leihau’r baich gweinyddol wrth gyfrifo gostyngiadau lladd-dai yn cael ei gyflawni pan fydd manyleb y systemau TG yn gwbl hysbys. Bydd yn cynrychioli’r budd i’r ASB ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd y gost hon, felly, yn cael ei mynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Budd parhaus o ran baich gweinyddol llai i’r ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon

Amcangyfrifir y bydd yr ASB yn gweld buddion parhaus drwy lai o faich gweinyddol wrth gyfrifo gostyngiadau lladd-dai yng Ngogledd Iwerddon, gan fod y model cefnogaeth ostyngol arfaethedig wedi’i gynllunio i fod yn symlach ac yn haws i’w ddehongli na’r system sy’n seiliedig ar fandiau. Bydd hyn yn cael ei fesur a’i fynegi’n ariannol yn unol â methodoleg yr SCM a fabwysiadwyd ar gyfer Cymru a Lloegr.

Gan fod y systemau TG yn dal yn gynnar yn eu datblygiad, bydd cyfanswm y budd parhaus i’r ASB o leihau’r baich gweinyddol wrth gyfrifo gostyngiadau lladd-dai yn cael ei gyflawni pan fydd manyleb y systemau TG yn gwbl hysbys. Bydd yn cynrychioli’r budd i’r ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon. Bydd y gost hon, felly, yn cael ei mynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Buddion i drethdalwyr

Budd parhaus i drethdalwyr mewn perthynas â swm gostyngiad llai

Amcangyfrifir y bydd y trethdalwyr yn cael buddion parhaus oherwydd dyraniad is o ostyngiad, gan na fydd lladd-dai mwy bellach yn gymwys i gael gostyngiad, neu byddant yn cael llai o ostyngiad, ar yr oriau a dreulir ar reolaethau swyddogol. Bydd hyn yn arwain at arbedion parhaus i drethdalwyr o dan y system ostyngiadau ddiwygiedig.

Ar ôl cadarnhau manyleb y modelau gostyngiadau, gall dadansoddwyr yr ASB a phartneriaid cyllid amcangyfrif y gost ariannol a’r arbedion i’r sector cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r system ostyngiadau ddiwygiedig. Bydd y gost hon, felly, yn cael ei mynegi’n ariannol ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben fel rhan o Asesiad Effaith.

Effeithiau economaidd ehangach

Mae’r ASB yn rhagweld rhai effeithiau economaidd ehangach o ganlyniad i’r newidiadau i’r gyfundrefn ostyngiadau. Mae enghreifftiau’n cynnwys costau cludo posib i berchnogion da byw, effeithiau ar les anifeiliaid a newidiadau strwythurol i ladd-dai. Bydd yr effeithiau hyn yn cael eu hesbonio’n fanwl yn yr Asesiad Effaith terfynol.

Opsiwn 2b – Model cefnogaeth ostyngol gyda 3 blynedd o ddata mewnbwn

Mae Opsiwn 2b bron yr un fath ag Opsiwn 2a o ran sut mae’r gostyngiad yn gweithio a sut mae’n cael ei gyfrifo. Mae’r prif wahaniaeth yn ymwneud â’r data mewnbwn ar gyfer trwybwn y lladd-dai. O dan Opsiwn 2a, defnyddir un flwyddyn o ddata, ond o dan Opsiwn 2b, defnyddir 3 blynedd o ddata.

Gan mai dim ond gwahaniaeth bach sydd yn y dull cyfrifo gostyngiad rhwng y ddau opsiwn, rhagwelir y bydd yr effaith gyfanredol ar y diwydiant a’r ASB yr un peth. Hynny yw, mae’r costau a’r buddion yn union yr un fath ar gyfer Opsiwn 2a ac Opsiwn 2b.