Ymgynghoriad ar bwerau i awdurdodau lleol roi rhybuddion amodol i droseddwyr tipio anghyfreithlon
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae arnom eisiau gwybod beth ydych chi’n ei feddwl am gyflwyno pwerau i awdurdodau lleol roi rhybuddion amodol i droseddwyr sy’n tipio’n anghyfreithlon. Mae’r rhybuddion hyn yn un o amrywiaeth o sancsiynau cymunedol cyn mynd i’r llys.
Mae arnom eisiau clywed eich safbwyntiau am sut gellid gorfodi’r rhybuddion hyn, gan gynnwys a ddylid erlyn troseddwyr sy’n methu â chydymffurfio neu sydd ond yn cydymffurfio’n rhannol.
Mae arnom hefyd eisiau gwybod os gallwch chi rannu gwybodaeth am y canlynol:
- yr effaith debygol ar erlyniadau
- y gofynion gweithredu tebygol
- y costau tebygol a’r arbedion posibl drwy waith glanhau gan droseddwyr
- y sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i oruchwylio gweithgarwch o’r fath
Byddem hefyd yn hoffi clywed eich barn ar unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu amgylcheddol, ac a fyddai mesurau eraill yn fwy effeithiol i atal tipio anghyfreithlon.