Closed consultation

Privacy note - Welsh language version

Updated 22 August 2022

Bydd eich gwybodaeth bersonol (enw, sefydliad, cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu pwy ydych chi), a ddarperir at ddibenion yr ymgynghoriad hwn, yn cael ei chadw a’i phrosesu gan y:

Swyddfa Gartref
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

Y Swyddfa Gartref fydd rheolydd y wybodaeth hon. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan gaiff ei chasglu neu ei phrosesu gan drydydd partïon ar ein rhan.

Sut a pham y bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio eich gwybodaeth

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd y Swyddfa Gartref yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ac unigolion allanol i gasglu safbwyntiau a fydd yn cael eu defnyddio fel sail i bolisïau a deddfwriaeth yn y dyfodol. Bydd y Swyddfa Gartref yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys y wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad hwn, i’w galluogi i gyflawni ei swyddogaethau statudol a’i swyddogaethau eraill.

Dim ond pan fydd sail gyfreithlon dros wneud hynny y caniateir i’r Swyddfa Gartref brosesu eich data a dim ond at ddibenion yr ymgynghoriad hwn y

defnyddir eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Swyddfa Gartref yn dibynnu ar sail gyfreithlon erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, sy’n caniatáu i ni, fel un o adrannau’r llywodraeth, brosesu data personol at ddibenion tasg gyhoeddus, fel yr ymgynghoriad hwn.

Bydd y data personol a gesglir yn ein helpu i ddeall safbwyntiau’r ymatebwyr ac yn helpu i ddatblygu polisïau yn y dyfodol. Os bydd ymatebwyr yn rhoi cyfeiriad e-bost ac yn dweud eu bod yn fodlon i ni gysylltu â nhw, efallai y byddwn yn cysylltu â nhw i drafod pynciau penodol sydd wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad. Efallai y byddwn hefyd yn egluro’r canfyddiadau drwy ddefnyddio dyfyniadau a roddwyd i’r ymgynghoriad. Byddwn yn sicrhau y caiff y dyfyniadau hyn eu gwneud yn ddienw mewn modd priodol ac na fyddant yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffyrdd y gall y Swyddfa Gartref ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ba ddibenion y byddwn yn ei defnyddio, y sail gyfreithlon, a phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth â nhw, ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.

Sut y byddwn yn prosesu eich data personol

Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriadau IP nac unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn anfwriadol yn yr ymatebion. Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data a Siarter Gwybodaeth Bersonol y Swyddfa Gartref.

At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, ni fydd y Swyddfa Gartref yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill, ar wahân i’r rhai sy’n prosesu data personol ar ei rhan.

Ni chaiff eich data personol eu defnyddio i wneud unrhyw benderfyniadau awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y bydd y Swyddfa Gartref yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.

Storio eich gwybodaeth

Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw am gyfnod o hyd at 12 mis ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, ac ar ôl hynny caiff ei dinistrio’n ddiogel, yn unol â pholisi cadw’r Swyddfa Gartref. Mae rhagor o fanylion am y polisi hwn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.

Gofyn am gael gweld eich data personol

Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y wybodaeth bersonol sydd gan y Swyddfa Gartref amdanoch. Mae manylion am sut i wneud hyn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.

Hawliau eraill mewn perthynas â’ch data personol

Yn unol ag Erthygl 15-22 o’r GDPR mae gennych hawl mynediad gan y testun at eich data personol, hawl i’w cywiro, i’w dileu, i gyfyngu ar eu prosesu, ac i wrthwynebu eu prosesu, yn ogystal â’r hawl i gludadwyedd data. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.

Cwestiynau neu bryderon am data personol

Byddwn yn prosesu eich data personol mewn modd cyfreithlon yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y ffordd y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu, ei defnyddio neu ei datgelu, neu os byddwch yn teimlo bod eich data’n cael eu prosesu’n groes i ddeddfwriaeth diogelu data, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

E-bost: dpo@homeoffice.gov.uk

Ffôn: 020 7035 6999

Neu ysgrifennwch i:

Office of the DPO
Home Office
Peel Building
2 Marsham Street London
SW1P 4DF

Mae gennych hefyd hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd y mae’r Swyddfa Gartref yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae manylion am sut i wneud hyn ar gael yma: Siarter gwybodaeth bersonol.