Consultation outcome

Strengthening police powers to tackle unauthorised encampments: consultation document (Welsh) (accessible version)

Updated 2 September 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 05/11/2019.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 05/03/2020.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

At: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd. Byddwn yn awyddus iawn i glywed gan awdurdodau lleol, lluoedd heddlu, cymunedau Sipsiwn, Roma, a Theithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Hyd: O 05/11/2019 hyd 05/03/2020.

Ymholiadau at:

Strengthening police powers to tackle unauthorised encampments
consultation
Police Powers Unit
Home Office
6th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost: UnauthorisedEncampmentsConsultation@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb: Rhowch eich ymateb erbyn 05/03/2020.

Os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy e-bost neu trwy’r post at:

Strengthening police powers to tackle unauthorised encampments
consultation
Police Powers Unit
Home Office
6th floor, Fry Building
Home Office
2 Marsham Street
London SW1P 4DF

E-bost: UnauthorisedEncampmentsConsultation@homeoffice.gov.uk

Cysylltwch â’r Uned Grymoedd yr Heddlu (fel uchod) os oes arnoch angen gwybodaeth ar unrhyw fformat arall megis Braille, print bras, sain neu iaith arall. Ni allwn ddadansoddi ymatebion na fydd wedi eu cyflwyno yn y ffurfiau a ddarperir.

Papur ymateb: Bydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi

1. Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Rydym yn ffodus i fod yn byw yn un o’r gwledydd mwyaf goddefgar yn y byd, sydd â thraddodiad balch o hyrwyddo parch i reolaeth y gyfraith, i eiddo ac i’n gilydd. Mae’r Llywodraeth hon yn ymroddedig i greu gwlad deg a chyfiawn, lle mae cyfartaledd cyfle yn ffynnu a chyfleoedd pawb mewn bywyd yn cael eu cryfhau. Rwy’n glir bod raid i hyn gael ei adeiladu ar hawliau, cyfrifoldebau a chyfleoedd a rennir.

Yn Ebrill 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad ar effeithiolrwydd gorfodi yn erbyn datblygiadau a gwersylloedd heb ganiatâd. Roedd yn ceisio barn gan nifer o randdeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, lluoedd heddlu, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol ar raddfa’r broblem, a ellid defnyddio’r grymoedd sy’n bodoli yn fwy effeithlon ac a oedd angen unrhyw rymoedd ychwanegol.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddodd fy rhagflaenydd, y Gwir Anrhydeddus Sajid Javid AS, y byddai’r Llywodraeth yn edrych i ddiwygio adrannau 61 a 62A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i ostwng y meini prawf sy’n rhaid eu cyrraedd i’r heddlu allu cyfeirio pobl i ffwrdd oddi ar safleoedd heb ganiatâd.

Cadarnhaodd hefyd y byddai swyddogion y Swyddfa Gartref yn adolygu sut y gallai’r Llywodraeth hon droseddoli’r weithred o dresmasu wrth osod gwersyll heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr, gan ddysgu oddi wrth y ddeddfwriaeth dresmasu sy’n bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae’r ddogfen ymgynghorol hon yn nodi’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, yn gwneud cynigion i newid ac yn ceisio cael barn ar y cynigion hynny.

Mae’r ddogfen hon yn ymgynghori ar a fyddai troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd yn well na’r diwygiadau a gynigwyd yn wreiddiol i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, ac os felly, sut y dylai weithio. Mae’n nodi pecyn arfaethedig o gamau mewn peth manylder, yn ogystal â rhai cwestiynau mwy cyffredinol.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod y cynigion sydd yn yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i leiafrif sylweddol o Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n parhau i deithio. Nod trosfwaol y Llywodraeth yw sicrhau triniaeth deg a chyfartal i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mewn modd sy’n hwyluso eu ffordd draddodiadol a chrwydrol o fyw gan barchu buddiannau’r gymuned ehangach. Ym Mehefin eleni cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn arwain ar ddatblygu strategaeth ar draws y llywodraeth i wella deilliannau i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

2. Crynodeb gweithredol

Hoffem ymgynghori ar gamau i;

  • Droseddoli’r weithred o dresmasu wrth osod gwersyll heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr.

Byddem hefyd yn hoffi ymgynghori ar y dull gwahanol canlynol o ymdrin â’r mater hwn:

  • Diwygio adran 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i ganiatáu i’r heddlu gyfeirio tresmaswyr i safleoedd addas gyda chaniatâd sydd yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.
  • Diwygio adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i gynyddu’r cyfnod o amser pan na fyddai tresmaswyr wedi cael eu cyfeirio o dir yn gallu dychwelyd iddo o 3 mis i 12 mis.
  • Diwygio adran 61 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i leihau’r nifer o gerbydau y mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o wersyll heb ganiatâd cyn y gall yr heddlu arfer eu grymoedd o chwech i ddau neu fwy o gerbydau.
  • Diwygio adran 61 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i alluogi’r heddlu i symud tresmaswyr oddi ar dir sy’n rhan o’r briffordd.

Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor hyd 05/03/2020; nodir manylion sut i ymateb tua dechrau’r ddogfen hon.

3. Cyflwyniad

Mae mwyafrif helaeth y cymunedau teithiol yn byw mewn carafanau ar safleoedd teithwyr gyda chaniatâd. Yn wir, o’r 23,726 o garafanau yng Nghymru a Lloegr yng Ngorffennaf 2018, dim ond 1049 (4.4%) oedd ar safleoedd heb ganiatâd nad oedd yn eiddo i’r deiliaid. Ond, bu pryderon ers amser maith am effaith anghymesur y gwersylloedd heb ganiatâd yma, lle mae gofid sylweddol wedi cael ei achosi i gymunedau lleol a lle mae awdurdodau lleol wedyn wedi gorfod ymdrin ag amrywiaeth o broblemau.

Wrth gydnabod y pryderon yma, cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad yn Ebrill 2018 ar effeithiolrwydd gorfodi yn erbyn datblygiadau a gwersylloedd heb ganiatâd. Trwy’r ymgynghoriad hwnnw, roeddem yn ceisio barn gan nifer o randdeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, lluoedd heddlu, cymunedau teithiol a’r cyhoedd yn gyffredinol i gasglu a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau y gall y grymoedd sy’n bodoli gael eu defnyddio yn fwy effeithiol ac a oes angen grymoedd ychwanegol. Fe’i harweiniwyd gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol mewn partneriaeth â’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn glir, gan awgrymu bod problemau sylweddol yn cael eu hachosi gan lawer o wersylloedd heb ganiatâd. Roedd yr ymatebion yn amlygu’r ymdeimlad o anesmwythyd a bygythiad y mae preswylwyr yn ei deimlo pan fydd gwersyll heb ganiatâd yn digwydd, y rhwystredigaeth o fethu a gallu cael mynediad at gyfleusterau, tir cyhoeddus a safleoedd busnes, a’r gwastraff a’r gost sy’n cael eu gadael ar ôl i’r gwersyll symud ymlaen.

Mae’r Senedd eisoes wedi rhoi grymoedd a dyletswyddau sylweddol i awdurdodau lleol a’r heddlu a ddyluniwyd i’w helpu i reoli effaith gwersylloedd heb ganiatâd ar gymunedau lleol, gan gynnwys grymoedd awdurdodau lleol a’r heddlu yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

Ond, clywodd y Llywodraeth dystiolaeth rymus, mewn ymatebion i’r ymgynghoriad, bod angen grymoedd cryfach i allu ymdrin â’r problemau a’r pryderon a godwyd.

Dyna pam, yn Chwefror 2019, y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref blaenorol y bydd y Llywodraeth yncyhoeddi ymgynghoriad pellach ar ymestyn grymoedd yr heddlu trwy wneud cyfres o ddiwygiadau i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994. Byddai’r diwygiadau hyn yn gadael i’r heddlu gyfeirio tresmaswyr at safleoedd eraill addas yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos (yn ogystal â’r awdurdod yr oedd y gwersyll presennol o fewn ei ardal); i gynyddu’r cyfnod o amser na fyddai tresmaswyr sydd wedi cael cyfarwyddyd i adael tir yn gallu dychwelyd iddo o dri i ddeuddeng mis; i ostwng y nifer o gerbydau sydd angen iddynt fod yn rhan o wersyll heb ganiatâd cyn y gall grymoedd yr heddlu gael eu harfer o chwech i ddau gerbyd; ac i alluogi’r heddlu i symud tresmaswyr o’r tir sy’n rhan o’r briffordd.

Clywodd y Llywodraeth hefyd ddadleuon y dylai Cymru a Lloegr ddilyn y ‘model Gwyddelig’ fel y’i gelwir ar gyfer ymdrin â gwersylloedd heb ganiatâd. Mae’r dull hwn yn troseddoli tresmasu mewn rhai amgylchiadau. Dangosodd yr ymatebion i’n hymgynghoriad bod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn credu y dylai’r Llywodraeth ystyried troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr, trwy greu trosedd o dresmasu wrth sefydlu gwersyll heb ganiatâd.

Dyna pam y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref blaenorol y byddai swyddogion y Swyddfa Gartref yn cynnal adolygiad o sut y gallai’r Llywodraeth hon droseddoli’r weithred o dresmasu wrth osod gwersyll heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr, gan ddysgu oddi wrth y ddeddfwriaeth dresmasu sy’n bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Ar ôl ystyried canfyddiadau’r adolygiad hwnnw, hoffem brofi’r awch i symud ymhellach ac ehangu’r categorïau presennol o dresmasu troseddol i gynnwys tresmaswyr ar dir sydd yno at y diben o breswylio yn eu cerbyd am unrhyw gyfnod, ac i roi’r grymoedd perthnasol i’r heddlu i arestio troseddwyr yn y fan a’r lle ac atafaelu unrhyw gerbydau neu eiddo arall ar wersylloedd heb ganiatâd sy’n bodoli (neu’r rhai sydd yn y broses o gael eu gosod) ar unwaith.

Rydym felly yn ymgynghori ar sut ac a ddylid gwneud sefydlu neu fyw ar wersyll heb ganiatâd yn drosedd, yn ogystal â cheisio barn ar y newidiadau a gynigiwyd o’r blaen i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i ostwng y meini prawf sy’n rhaid eu cyrraedd i’r heddlu allu cyfeirio pobl i ffwrdd oddi ar safleoedd heb ganiatâd, y gellid ei gyflwyno fel dewis gwahanol i droseddoli.

4. Y cynigion

Mae’r bennod hon yn nodi’r dewisiadau i ymestyn grymoedd yr heddlu i daclo gwersylloedd heb ganiatâd, gan gynnwys creu trosedd o dresmasu wrth sefydlu gwersyll heb awdurdod, yn ogystal â chamau eraill i ymestyn grymoedd yr heddlu i gyfeirio tresmaswyr, sydd â’r bwriad o fyw yno, i adael darn o dir.

4.1. Troseddoli Gwersylloedd Heb Ganiatâd

Trwy ymgynghoriad y Llywodraeth ar effeithiolrwydd gorfodi yn erbyn datblygiadau a gwersylloedd heb ganiatâd, dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr eu bod yn credu y dylem ystyried troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd, fel sydd wedi digwydd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae trosedd debyg yn bodoli yn yr Alban hefyd.

Tresmasu troseddol a darparu safleoedd: Gweriniaeth Iwerddon



Mae Llywodraeth Iwerddon wedi troseddoli tresmasu dan rai amgylchiadau, ar y cyd â gofyn statudol i awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i deithwyr. Wrth ymateb i bryderon am dresmaswyr yn meddiannu mannau cyhoeddus a thir preifat, cyflwynodd Gweriniaeth Iwerddon Ddeddf Tai (Darpariaethau Amrywiol) 2002 (y Ddeddf).

Gwnaeth y Ddeddf hi’n drosedd pan fydd unrhyw unigolyn yn mynd i mewn i dir a’i feddiannu heb ganiatâd y perchennog- neu ddwyn unrhyw “wrthrych” ar y tir - os yw hyn yn debygol o greu “difrod sylweddol” i’r tir neu ymyrryd ag o.

Mae’r drosedd sydd yn Adran 24 o’r Ddeddf yn cael yr effaith o droseddoli tresmaswyr sy’n meddiannu tir heb ganiatâd. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cyfateb â gwaharddiad ar bob gwersyll heb ganiatâd. Mae’n troseddoli gwersylloedd sy’n difrodi’r tir yn ‘sylweddol’ neu yn atal y perchennog neu ddefnyddwyr cyfreithlon eraill rhag ei ddefnyddio.

Mae’r Ddeddf yn rhoi disgresiwn i heddlu Iwerddon roi cyfarwyddyd i dresmaswyr adael tir os oes amheuaeth bod y drosedd hon yn cael ei chyflawni. Gellir cosbi peidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd hefyd trwy ddirwy a/neu ddedfryd o garchar am fis. Yr heddlu ddylai ystyried pa ddull i’w fabwysiadu gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol yr achos a’r gwersyll.

Yr Alban: Tresmasu troseddol



Dan Ddeddf Tresmasu (Yr Alban) 1865, mae’n drosedd meddiannu tir preifat heb ganiatâd y perchennog tir.

Yn gyffredinol roedd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn 2018 yn ystyried y byddai troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd yn gweithredu fel rhwystr i wersylloedd yn y dyfodol ac yn gadael i’r heddlu orfodi symud y tresmaswyr mewn modd mwy prydlon. Roedd y manteision yn cael eu gweld fel rhai ariannol o ran cost troi tresmaswyr allan a chostau glanhau.

Hoffem gasglu barn ar ehangu’r categorïau presennol o dresmasu troseddol.

Gallai’r Llywodraeth ei gwneud yn drosedd mynd i mewn i dir neu ei feddiannu yn amodol ar fodloni rhai amodau. Byddem yn croesawu eich barn ar ba amodau y dylid eu gosod a’r trothwy ar gyfer y drosedd hon. Er enghraifft, yng Ngogledd Iwerddon mae’n drosedd mynd i mewn i dir neu ei feddiannu heb ganiatâd y tirfeddiannwr neu ddwyn “gwrthrych” ar y tir - os yw hyn yn debygol o achosi “difrod sylweddol”. Bydd gosod amodau fel yr angen i ofyn am brawf bod difrod neu niwed wedi eu hachosi yn helpu i gyfyngu ar yr erlyniadau i achosion lle mae elfen o anhrefn gyhoeddus lle mae budd i ddiogelu ac adlewyrchu’r cydbwysedd rhwng hawliau’r tir feddiannwr i fwynhau ei eiddo yn heddychlon a hawliau’r teithwyr i breifatrwydd a bywyd teuluol.

Cwestiwn

C1: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai mynd ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr gan wybod hynny gael ei wneud yn drosedd os yw hynny er mwyn preswylio ar y tir?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Cwestiwn

C2: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai dim ond mynd ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr gan wybod hynny er mwyn preswylio ar y tir hwnnw gyda cherbydau ddylai gael ei wneud yn drosedd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Gallai’r Llywodraeth ei gwneud yn amod bod raid i’r tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr gymryd camau rhesymol i ofyn i dresmaswyr adael. Gallai hynny helpu’r 11 heddlu i ddangos pan fydd tresmaswr yn tresmasu gan wybod hynny. Ond, ar rai achlysuron, gall tirfeddianwyr fod ag ofn mynd at dresmaswyr.

Cwestiwn

C3: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr gymryd camau rhesymol i ofyn i unigolion sy’n meddiannu ei dir symud eu hunain a’u heiddo cyn y gall meddiannu’r tir gael ei ystyried yn drosedd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Cwestiwn

C4: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai dim ond pan fydd yr amodau canlynol wedi eu bodloni y bydd trosedd wedi ei chyflawni?

a) y gwersyll yn atal pobl sydd â hawl i ddefnyddio’r tir rhag ei ddefnyddio;

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

b) y gwersyll yn achosi neu yn debygol o achosi difrod i’r tir neu gyfleusterau;

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

c) y rhai yn y gwersyll wedi mynnu arian gan y tirfeddiannwr i adael y tir; a/neu

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

d) y rhai sydd yn y gwersyll yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yn debygol o fod.

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Cwestiwn

C5: Pa amodau eraill nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr uchod ddylem ni eu hystyried?

4.2. Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

Dan Adran 61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, mae gan yr heddlu rymoedd sy’n gadael iddynt roi cyfarwyddyd i dresmaswyr adael tir. Ar hyn o bryd gofynion y grymoedd hynny yw:

I. bod gan y tresmaswyr fwriad i breswylio ar y tir am unrhyw gyfnod;

II. bod y deiliad neu rywun ar ran y deiliad wedi cymryd camau rhesymol i ofyn i’r tresmaswyr adael;

III. bod: naill ai (a)

  • unrhyw un o’r tresmaswyr wedi achosi difrod i dir neu eiddo; neu
  • bod unrhyw un o’r tresmaswyr wedi defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus tuag at y deiliad, aelod o deulu’r deiliad neu weithiwr neu asiant i’r deiliad;

neu (b) bod gan y tresmaswyr rhyngddynt chwech neu fwy o gerbydau ar y tir.

Mae Adran 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn gadael i’r heddlu roi cyfarwyddyd i’r tresmaswyr symud eu hunain a’u cerbydau a’u heiddo oddi ar y tir y mae ganddynt fwriad i breswylio arno pan fydd safle addas ar gael yn ardal yr un awdurdod lleol. Rhaid i’r heddlu ymgynghori â phob awdurdod lleol y mae’r tir yn eu hardal i gadarnhau a oes safle addas ar gael ar safle perthnasol.

Amlygodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad gan yr heddlu a rhai awdurdodau lleol bod diffyg argaeledd safleoedd i deithwyr yn golygu nad ydynt yn gallu arfer rhai o’r grymoedd sydd ganddynt fel adran 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sy’n rhoi grym i symud tresmaswyr i safleoedd gwahanol sydd ar gael.

Byddem yn croesawu barn a ddylid diwygio adran 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i ganiatáu i’r heddlu gyfeirio tresmaswyr i safleoedd addas gyda chaniatâd sydd yn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos.

Byddai ymestyn y grym hwn yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallai’r heddlu weithredu pan fydd prinder safleoedd yn un ardal benodol. Ond, credwn y gallai newidiadau o’r fath fod yn ddarostyngedig i amodau yn ymwneud â:

  • Chytundebau wedi eu gwneud rhwng awdurdodau lleol. Hysbysodd awdurdodau lleol ni y byddai defnyddio grym o’r fath heb gytundebau yn eu lle yn eu hatal rhag creu rhagor o safleoedd â chaniatâd. Byddai hyn yn wrthgynhyrchiol.
  • Uchafswm o ran pellter y dylid cyfeirio’r tresmaswyr ar ei hyd. Mewn rhai ardaloedd gwledig, gallai safle yn ardal awdurdod lleol cyfagos fod sawl awr i ffwrdd mewn cerbyd. Gallai gael ei ystyried yn afresymol symud rhywun mor bell â hynny.

Cwestiwn

C6: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i gyfeirio tresmaswyr i safleoedd addas gyda chaniatâd yn ardal awdurdod lleol cyfagos?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

C7: A ddylai hyn fod yn amodol ar amodau yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau lleol?

C8: A ddylid cael uchafswm o ran pellter y gellid cyfeirio tresmaswr ar ei hyd?

Dylai Na
   

Os dylai, pa bellter ddylai hynny fod?

C9: A ddylid cael unrhyw amodau eraill y dylid eu hystyried wrth gyfeirio tresmaswr ar draws awdurdodau cyfagos.

Dylid Na
   

Os dylid, beth ddylai’r rhain fod?

Mae peidio â chydymffurfio â chyfarwyddyd gan yr heddlu dan Adran 61 neu 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn drosedd y gellir ei chosbi trwy ddirwy a/neu ddedfryd o garchar am hyd at dri mis, fel y mae ail fynd ar y tir gan unigolion sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd cyn pen tri mis.

Awgrymodd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad y dylid cynyddu’r cyfnod presennol o dri mis pan fydd tresmaswr yn cael ei wahardd rhag dychwelyd i leoliad ar ôl cael ei gyfeirio o’r safle gan yr heddlu.

Byddem yn croesawu barn a ddylid diwygio adrannau 61 a 62A i gynyddu’r cyfnod o amser pan na fyddai tresmaswyr wedi cael eu cyfeirio o dir yn gallu dychwelyd iddo o dri mis i ddeuddeng mis. Byddai hyn yn rhoi mwy o ddiogeliad i dir a dargedir gan yr un grŵp o dresmaswyr yn gyson.

Cwestiwn

C10: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu yn anghytuno y dylai’r amser na fyddai tresmaswyr sydd wedi cael cyfarwyddyd i adael tir yn cael dychwelyd iddo gael ei gynyddu o dri mis i ddeuddeng mis?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Mae Adran 61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn rhoi’r grym i’r heddlu roi cyfarwyddyd i dresmaswyr adael os oes chwech neu fwy o gerbydau ar y tir y maent yn tresmasu arno. Ond, os oes llai na chwech o gerbydau yn bresennol, nid yw’r heddlu yn cael y grym i roi cyfarwyddyd i dresmaswyr adael.

Byddem yn croesawu barn a ddylid diwygio adran 61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i leihau’r nifer o gerbydau y mae’n rhaid iddynt fod yn rhan o wersyll heb ganiatâd o chwech i ddau, cyn y gall yr heddlu arfer eu grymoedd. Bydd hyn yn cynyddu’r cyfle i’r heddlu ymyrryd pan fydd gwersylloedd llai yn bodoli.

Cwestiwn

C11: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r nifer o gerbydau sydd angen iddynt fod yn rhan o wersyll heb ganiatâd cyn y gall grymoedd yr heddlu gael eu defnyddio gael ei ostwng o chwech i ddau gerbyd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Byddem yn croesawu barn a ddylid diwygio adran 61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i alluogi’r heddlu i symud tresmaswyr oddi ar dir sy’n rhan o’r briffordd. Ar hyn o bryd mae’r heddlu yn cael eu cyfyngu wrth ymdrin â’r gwersylloedd hyn oni bai bod safle addas yn ardal yr un awdurdod lleol. Gall hyn ei gwneud hi’n haws i’r heddlu daclo gwersylloedd problemus.

Cwestiwn

C12: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i symud tresmaswyr oddi ar dir sy’n rhan o’r briffordd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Credwn y gallai rhoi grym i’r heddlu i atafaelu eiddo, gan gynnwys cerbydau alluogi’r heddlu i symud gwersylloedd heb ganiatâd yn gyflymach a gweithredu fel rhwystr i atal sefydlu gwersyll heb ganiatâd. Byddem yn croesawu barn a ddylid rhoi grym i’r heddlu atafaelu eiddo oddi ar dresmaswyr a dan ba amgylchiadau y dylent gael y grymoedd hyn.

Cwestiwn

C13: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i atafaelu eiddo, gan gynnwys cerbydau, oddi ar dresmaswyr sydd ar dir gyda’r bwriad o breswylio arno?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

C14: A ddylai’r heddlu allu atafaelu eiddo:

i) Unrhyw un y maent yn ei amau o dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno;

ii) Unrhyw un y maent yn ei arestio am dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno; neu

iii) Unrhyw un a gollfernir am dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno?

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

Fel y nodwyd yn gynharach, byddem yn rhagweld y byddai’r diwygiadau uchod i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn ddewis gwahanol i droseddoli gwersylloedd heb ganiatâd, yn hytrach nag yn ychwanegol at hynny.

Cwestiwn

C15: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y byddai’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sydd yn yr ymgynghoriad hwn yn gamau digonol i daclo’r problemau anhrefn cyhoeddus sy’n gysylltiedig â gwersylloedd heb ganiatâd heb y gofyn ar gyfer cyflwyno grymoedd penodol sy’n troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

Esboniwch eich ateb os gwelwch yn dda

4.3. Effeithiau ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Tra bydd heriau amlwg yn cael eu codi i gymunedau sefydlog gan wersylloedd heb ganiatâd, mae’n debygol iawn y gall gwersylloedd anghyfreithlon o’r fath arwain at galedi sylweddol i’r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr eu hunain.

Nod trosfwaol y Llywodraeth yw sicrhau triniaeth deg a chyfartal i deithwyr, mewn modd sy’n hwyluso eu ffordd draddodiadol a chrwydrol o fyw gan barchu buddiannau’r gymuned sefydlog. Felly byddem yn croesawu barn am unrhyw effeithiau niweidiol y gallai’r cynigion hyn eu cael ar y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Cwestiwn

C16: A ydych yn disgwyl i’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sydd yn yr ymgynghoriad hwn gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd neu ddeilliannau addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Effaith gadarnhaol iawn Effaith gadarnhaol Effaith ddim yn gadarnhaol na negyddol Effaith negyddol Effaith negyddol iawn
         

Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r farn hon, a/neu awgrymiadau o ran beth y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn

C17: A ydych yn disgwyl i droseddoli gwersylloedd heb ganiatâd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd neu ddeilliannau addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Effaith gadarnhaol iawn Effaith gadarnhaol Effaith ddim yn gadarnhaol na negyddol Effaith negyddol Effaith negyddol iawn
         

Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r farn hon, a/neu awgrymiadau o ran beth y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

4.4. Sylwadau Eraill

Cwestiwn

C18: A oes gennych unrhyw sylwadau eraill i’w gwneud ar fater gwersylloedd heb ganiatâd nad ydynt yn cael eu trin yn benodol gan unrhyw un o’r cwestiynau uchod?

5. Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun.

Q19: Enw llawn  
Q20: Teitl swydd neu yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Q21: Dyddiad  
Q22: Enw cwmni/sefydliad (os yn berthnasol)  
Q23: Cyfeiriad  
Q24: Cod post  
Q25: Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn  
Y cyfeiriad y dylid anfon cydnabyddiaeth iddo, os yn wahanol i’r uchod  

Q26: Os ydych yn cynrychioli grŵp, dywedwch enw’r grŵp a rhoi crynodeb o’r bobl neu sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.



6. Manylion cyswllt a sut i ymateb

Ymatebwch trwy ddefnyddio’r system ar-lein.

Cyflwynwch eich ymateb erbyn 05/03/2020.

Os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy e-bost neu trwy’r post at:

Strengthening police powers to tackle unauthorised encampments consultation
Police Powers Unit
Home Office
6th Floor NW, Fry Building
Home Office
2 Marsham Street
LONDON
SW1P 4DF

E-bost: UnauthorisedEncampmentsConsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.

Copïau ychwanegol

Mae copïau papur pellach o’r ymgynghoriad hwn ar gael o’r cyfeiriad hwn ac mae ar gael ar-lein.

Gellir gofyn am fersiynau ar ffurfiau gwahanol o’r cyhoeddiad hwn o:

UnauthorisedEncampmentsConsultation@homeoffice.gov.uk

Cyhoeddi ymateb

Bydd papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ymhen [rhowch y dyddiad cyhoeddi, a ddylai fod cyn belled ag y mae’n bosibl o fewn tri mis i ddyddiad cau’r ymgynghoriad] mis. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a sefydliadau y maent yn eu cynrychioli wrth ymateb.

Cyfrinachedd

Gall unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â chyfundrefnau mynediad i wybodaeth (yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i’r wybodaeth a roddwch gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, bod Cod Ymarfer statudol yn bodoli y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag o ac sy’n delio â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill. O ganlyniad, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam yr ydych yn ystyried fod y wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo ei hun, yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a, gan amlaf, bydd hyn yn golygu na ddatgelir eich data personol i drydydd parti.

7. Effaith y Cynigion

Asesiad Effaith

Yn unol â’r Llawlyfr Fframwaith Rheoleiddio Gwell a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) , cynhaliwyd asesiad cychwynnol o effeithiau’r cynigion hyn ac ni ragwelir unrhyw effaith ariannol perthnasol ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol. Disgwylir i’r effaith ar y sector cyhoeddus, fel yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yn gymharol fychan.

Datganiad Cydraddoldeb

Mae Adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion ac Adrannau, wrth arfer eu swyddogaethau, i roi ‘ystyriaeth ddyledus’ i’r angen i ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon dan Ddeddf 2010, hybu cydraddoldeb cyfle rhwng gwahanol grwpiau a meithrin perthnasau da rhwng gwahanol grwpiau.

Yn unol â’r dyletswyddau hyn, rydym wedi ystyried effaith y newidiadau arfaethedig ar y rhai sy’n rhannu nodweddion a ddiogelir er mwyn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r materion a grybwyllir uchod.

Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon

Mae’r gymuned o Deithwyr yn cynnwys Sipsiwn Romani a Theithwyr o Loegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon ac maent yn cael eu cydnabod fel grwpiau ethnig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Rydym yn cydnabod y gall y cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon gael effaith niweidiol ar rai aelodau o’r grŵp lleiafrifol hwn. Yn wir, wrth ymateb i’r ymgynghoriad gwreiddiol, dywedodd rhai grwpiau hawliau dynol a sefydliadau cyfreithiol wrthym y byddai troseddoli tresmasu yn ymateb anghymesur a fyddai’n cael effaith ar eu ffordd o fyw. Ond, rydym hefyd yn cydnabod y gofid y mae cymunedau lleol a busnesau yn ei wynebu o ganlyniad i wersylloedd heb ganiatâd. Er ein bod yn cydnabod nad yw pob gwersyll heb ganiatâd yn amharu ac yn effeithio ar gymunedau, mae tystiolaeth sy’n dangos, pan fydd hyn yn wir, bod y costau ariannol sy’n disgyn ar berchenogion tir i droi pobl oddi ar eu tir ac i glirio safleoedd ynghyd â’r effaith ar y gymuned yn gallu bod yn sylweddol.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio barn ar y cynigion ac unrhyw gamau i’w lliniaru i gyfyngu ar unrhyw effaith anghymesur ar y gymuned o Deithwyr, yn ogystal ag unrhyw effeithiau anuniongyrchol ar nodweddion eraill a ddiogelir, fel anabledd. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ddyletswydd parhaus a fydd yn cael ei adolygu yn gyson wrth i ni ddatblygu’r polisi.

Hybu cyfle cyfartal rhwng grwpiau gwahanol

Rydym yn cydnabod hawliau Sipsiwn Romani a Theithwyr o Loegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon i ddilyn ffordd grwydrol o fyw yn unol â’u traddodiad.

Mae mwyafrif llethol y gymuned o Deithwyr, a amcangyfrifir i fod yn 80%, yn byw mewn carafanau gan aros ar safleoedd cyhoeddus a phreifat parhaol sydd â chaniatâd cynllunio, neu mewn preswylfeydd o frics a morter. Mae lleiafrif bychan o garafanau Sipsiwn a Theithwyr sy’n cael eu galw yn rhai heb ganiatâd yn rhai sy’n aros mewn un ardal ac sy’n debygol o fod ar restrau aros tai awdurdod lleol, yn rhai sy’n teithio yn dymhorol i gael gwaith a nifer fechan iawn sy’n teithio ar draws y wlad.

Nod trosfwaol y Llywodraeth yw sicrhau triniaeth deg a chyfartal i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mewn modd sy’n hwyluso eu ffordd draddodiadol a chrwydrol o fyw gan barchu buddiannau’r gymuned ehangach. Ym Mehefin eleni cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn arwain ar ddatblygu strategaeth traws-lywodraethol i wella deilliannau mewn meysydd fel iechyd, addysg a gwaith i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio barn ar yr holl gynigion ac unrhyw gamau lliniaru i gyfyngu ar unrhyw effaith anghymesur ar y gymuned o Deithwyr.

Meithrin perthynas dda rhwng grwpiau gwahanol

Mae’n bosibl y gallai’r camau hyn arwain at ostyngiad mewn gwersylloedd heb ganiatâd, a allai yn ei dro wella cysylltiadau. Ar y llaw arall, mae hefyd yn bosibl y gallai sylw i’r camau hyn gryfhau rhagfarn yn erbyn Teithwyr, hyd yn oed y rhai sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio barn ar yr holl gynigion ac unrhyw gamau lliniaru i gyfyngu ar unrhyw effaith anghymesur ar y gymuned o Deithwyr.

8. Cwestiynau’r Ymgynghoriad

C1. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai mynd ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr gan wybod hynny gael ei wneud yn drosedd os yw er mwyn preswylio ar y tir?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C2. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai dim ond mynd ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr gan wybod hynny er mwyn preswylio ar y tir hwnnw gyda cherbydau ddylai gael ei wneud yn drosedd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C3. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr gymryd camau rhesymol i ofyn i unigolion sy’n meddiannu ei dir i symud eu hunain a’u heiddo cyn y gall meddiannu’r tir gael ei ystyried yn drosedd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C4. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai dim ond pan fydd yr amodau canlynol wedi eu bodloni y bydd trosedd wedi ei chyflawni?

a) y gwersyll yn atal pobl sydd â hawl i ddefnyddio’r tir rhag ei ddefnyddio;

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

b) y gwersyll yn achosi neu yn debygol o achosi difrod i’r tir neu gyfleusterau;

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

c) y rhai yn y gwersyll wedi mynnu arian gan y tirfeddiannwr i adael y tir; a/neu

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

d) y rhai sydd yn y gwersyll yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yn debygol o fod.

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C5. Pa amodau eraill nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr uchod ddylem ni eu hystyried?

C6. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i gyfeirio tresmaswyr i safleoedd addas gyda chaniatâd yn ardal awdurdod lleol cyfagos?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C7: A ddylai hyn fod yn amodol ar amodau yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau lleol?

C8: A ddylid cael uchafswm o ran pellter y gellid cyfeirio tresmaswr ar ei hyd?

Dylid Na
   

Os dylid, pa bellter ddylai hynny fod?

C9: A ddylid cael unrhyw amodau eraill y dylid eu hystyried wrth gyfeirio tresmaswr ar draws awdurdodau cyfagos. Os dylid, beth ddylai’r rhain fod?

Dylid Na
   

Os dylid, beth ddylai’r rhain fod?

C10. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r amser na fyddai tresmaswyr sydd wedi cael cyfarwyddyd i adael tir yn cael dychwelyd iddo gael ei gynyddu o 3 mis i 12 mis?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C11. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r nifer o gerbydau sydd angen iddynt fod yn rhan o wersyll heb ganiatâd cyn y gall grymoedd yr heddlu gael eu defnyddio gael ei ostwng o chwech i ddau gerbyd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C12. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i symud tresmaswyr oddi ar dir sy’n rhan o’r briffordd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C13: I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r heddlu gael y grym i atafaelu eiddo, gan gynnwys cerbydau, oddi ar dresmaswyr sydd ar dir gyda’r bwriad o breswylio arno?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C14: A ddylai’r heddlu allu atafaelu eiddo:

i) Unrhyw un y maent yn ei amau o dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno;

ii) Unrhyw un y maent yn ei arestio am dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno; neu

iii) Unrhyw un a gollfernir am dresmasu ar dir gyda’r diben o breswylio arno?

C15. I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y byddai’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sydd yn yr ymgynghoriad hwn yn gamau digonol i daclo’r problemau anhrefn cyhoeddus sy’n gysylltiedig â gwersylloedd heb ganiatâd heb y gofyn ar gyfer cyflwyno grymoedd penodol sy’n troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd?

Cytuno’n bendant Cytuno Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno Anghytuno’n bendant
         

C16. A ydych yn disgwyl i’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sydd yn yr ymgynghoriad hwn gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd neu ddeilliannau addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r farn hon, a/neu awgrymiadau o ran beth y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

Effaith gadarnhaol iawn Effaith gadarnhaol Effaith ddim yn gadarnhaol na negyddol Effaith negyddol Effaith negyddol iawn
         

C17. A ydych yn disgwyl i droseddoli gwersylloedd heb ganiatâd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd neu ddeilliannau addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r farn hon, a/neu awgrymiadau o ran beth y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

Effaith gadarnhaol iawn Effaith gadarnhaol Effaith ddim yn gadarnhaol na negyddol Effaith negyddol Effaith negyddol iawn
         

C18. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill i’w gwneud ar fater gwersylloedd heb ganiatâd nad ydynt yn cael eu trin yn benodol gan unrhyw un o’r cwestiynau uchod?

9. Egwyddorion yr ymgynghoriad

Nodir yr egwyddorion y dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.