Consultation outcome

Ymateb y Llywodraeth i’r Ymgynghoriad ‘Cryfhau Pwerau’r Heddlu i Fynd i’r Afael â Gwersylloedd Anawdurdodedig’ (accessible version)

Updated 2 September 2021

Rhagair y Gweinidog

Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef helyntion ac aflonyddwch ar stepen eu drws. Dyna pam, yn Araith y Frenhines 2019, y gwnaethom nodi ein bwriad i gyflawni ein hymrwymiad maniffesto i gryfhau pwerau’r heddlu i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig, yn cynnwys creu trosedd newydd. Rwy’n falch o allu cyflawni’r addewid hwnnw nawr.

Mae pobl am weld mwy o ddiogelwch i gymunedau lleol ac i’r heddlu gael mwy o bwerau i fynd i’r afael â thresmaswyr. Gall gwersylloedd anawdurdodedig achosi gofid a thrallod i’r rhai sy’n byw gerllaw gan fod problemau megis sŵn gormodol a thaflu sbwriel yn difetha ardaloedd. Maent yn cael effaith ar drethdalwyr hefyd, gan fod cynghorau’n cael eu llwytho â chostau glanhau sylweddol. Maent hefyd yn aml yn rhoi delwedd annheg, negyddol o fwyafrif helaeth y teithwyr sy’n cadw at y gyfraith.

Byddwn bob amser yn cefnogi’r heddlu i fynd i’r afael â throseddu a gwasanaethu eu cymunedau, ac wrth gwrs rhaid iddynt arfer unrhyw bwerau newydd yn deg ac yn gymesur. Mae’r mesurau y byddwn yn eu cyflwyno wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan wersylloedd anawdurdodedig niweidiol trwy sicrhau y gellir eu symud yn gyflym ac yn effeithiol.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel MP

Crynodeb Gweithredol

Mae’r ddogfen hon yn nodi mesurau arfaethedig y Llywodraeth i gryfhau pwerau’r heddlu i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig yn dilyn ymgynghoriad y Swyddfa Gartref o’r un enw. Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a gymerodd amser i ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae Pennod Un o’r ddogfen hon yn nodi’r cyd-destun ar gyfer yr ymgynghoriad a’r achos dros weithredu. Mae’r Llywodraeth yn deall bod mwyafrif llethol y rhai sy’n byw ar wersylloedd yn ddinasyddion sy’n ufudd i’r gyfraith ond rydym hefyd yn cydnabod y gall gwersylloedd anawdurdodedig achosi gofid a thrallod i’r rhai sy’n byw gerllaw. Mae’r safleoedd hyn yn aml yn rhoi delwedd annheg, negyddol o gymunedau sy’n ufudd i’r gyfraith, sydd yn ei dro yn niweidio cysylltiadau cymunedol ehangach. Mae’r Llywodraeth yn credu y dylid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan rai gwersylloedd anawdurdodedig, gan barchu hawliau’r rhai sy’n dymuno dilyn ffordd grwydrol o fyw.

Mae Pennod Dau yn rhoi trosolwg o ymatebion yr ymgynghoriad. Mae Penodau Tri i Ddeg yn nodi’r ymatebion i bob un o’r cwestiynau yn fwy manwl ac ymateb y Llywodraeth.

Mae Pennod 11 yn nodi’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd. Byddwn yn cyflwyno tramgwydd troseddol ble:

  • Mae person 18 oed neu hŷn yn preswylio neu’n bwriadu preswylio ar dir heb ganiatâd meddiannwr y tir;
  • Mae ganddo, neu mae’n bwriadu cael, o leiaf un cerbyd gydag ef ar y tir;
  • Mae wedi achosi neu mae’n debygol o achosi difrod, amhariad neu ofid arwyddocaol
  • Mae, heb esgus rhesymol:
    • yn methu â gadael y tir gyda’i eiddo unwaith y bydd tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr neu heddwas wedi gofyn iddo wneud hynny; neu
    • Yn mynd i, neu wedi gadael, yn dychwelyd i’r tir gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd y tirfeddiannwr, a gyda’r bwriad o gael o leiaf un cerbyd gydag ef, o fewn 12 mis i gais i adael a chlirio ei eiddo oddi ar y tir gan dirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr neu heddwas.
  • Ble ceir amheuaeth resymol bod unigolyn wedi cyflawni’r drosedd hon rhoddir pŵer i heddwas atafaelu ei gerbyd / eiddo arall am hyd at dri mis o ddyddiad atafaelu neu, os yw achos troseddol wedi ei gychwyn, nes bydd yr achos wedi ei gwblhau.

Bydd amodau pellach gan gynnwys darpariaethau lliniaru ynghlwm wrth y drosedd newydd. Cyflwynir y rhain ym Mhennod 11.

Byddwn hefyd yn:

  • diwygio adran 61(1)(a) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (CJPOA) i ehangu’r mathau o niwed y gellir ei ddal gan y pŵer i gyfeirio tresmaswyr dan y ddarpariaeth honno, i gynnwys difrod, amhariad a gofid;
  • diwygio adrannau 61(4 (b), 62B(2) a 62(C) i gynyddu’r cyfnod pan na ddylai tresmaswyr a gyfarwyddir i ffwrdd o’r tir o dan adrannau 61 a 62A ddychwelyd o 3 mis i 12 mis;
  • diwygio adran 61(9)(b) i alluogi’r heddlu gyfarwyddo tresmaswyr sydd â’r pwrpas cyffredin o breswylio ar dir i adael tir sy’n rhan o briffordd;

Credwn y bydd y cyfuniad o’r drosedd newydd ac ymestyn y pwerau presennol yn y CJPOA yn rhoi’r offer i’r heddlu ddelio ag amrywiaeth o niweidiau a achosir gan wersylloedd anawdurdodedig mewn ffordd gymesur, effeithiol ac effeithlon.

Pennod 1 – Yr Achos dros Weithredu

Mewn rhai achosion, gall Gwersylloedd Anawdurdodedig achosi niwed a thrallod i’r rhai y maent yn effeithio arnynt a gall fod yn drafferthus a chostus i gymunedau lleol eu symud.

Gall rhai o’r niweidiau a’r problemau sy’n cael eu hachosi gynnwys:

  • ymyrraeth â chyflenwadau trydan, dŵr neu nwy
  • anifeiliaid heb eu rheoli neu’n ymosod ar bobl sy’n defnyddio’r tir neu’n pasio gerllaw
  • anifeiliaid yn ymgarthu ar y tir heb i’r perchnogion glirio wedi hynny
  • llygredd sŵn gormodol o ganlyniad i ymddygiad megis chwarae cerddoriaeth uchel neu sbarduno peiriannau cerbydau modur
  • gadael gwastraff neu garthffosiaeth ddynol yn amhriodol megis dŵr baddon)
  • methu â chael gwared ar sbwriel gormodol
  • gwaredu gwastraff clinigol

Dangosodd yr ymatebion i’n hymgynghoriad yn 2018, ‘Pwerau ar gyfer Delio â Gwersylloedd Datblygu Anawdurdodedig’, fod cefnogaeth y cyhoedd i weithredu mwy i atal neu gael gwared ar y gwersylloedd hyn. Cafodd yr ymrwymiad i gyflwyno’r pwerau hynny ei gynnwys yn ein Maniffesto 2019.

Yn eu hymatebion i ymgynghoriad 2018, darparodd awdurdodau lleol a’r heddlu dystiolaeth yn ymwneud â’r niwed a achoswyd gan wersylloedd anawdurdodedig, gyda rhai’n dangos cynnydd mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fel rheol, dim ond y gwersylloedd mwy, mwy trafferthus, y mae’r heddlu’n eu cofnodi. Mae ymyrraeth yr heddlu yn amrywio gan ddibynnu ar yr amgylchiadau a’r ardal: mewn rhai awdurdodau lleol, mae swyddogion y cyngor a swyddogion heddlu yn ymyrryd ar y cyd fel mater o drefn, ond mewn eraill mae ymyrraeth yr heddlu yn seiliedig ar p’un a gyflawnwyd troseddau difrifol.

Darparodd awdurdodau lleol ddata ar nifer a graddfa’r gwersylloedd anawdurdodedig – roedd y rhain yn amrywio o niferoedd isel i dros 150 dros y ddwy flynedd flaenorol mewn awdurdodau lleol mwy. Roedd y costau’n amrywio hefyd, o gostau isel iawn mewn awdurdodau lleol a oedd â safle tramwy ar gyfer arosiadau dros dro neu ble’r oedd stopio wedi’i negodi yn cael ei ymarfer, i gostau uchel iawn mewn awdurdodau lleol nad oedd ganddynt safle tramwy a ble’r oedd eiddo wedi’i ddifrodi i gael mynediad.

Stopio wedi’i negodi yw’r arfer lle mae awdurdodau lleol yn gwneud cytundeb â theithwyr, y mae eu telerau’n amrywio yn dibynnu ar y sefyllfa, ond sydd fel arfer yn cynnwys gwaredu gwastraff yn gywir a phethau eraill y gellir eu disgrifio fel ‘bod yn gymydog da’. Yn aml bydd darparu a defnyddio gwasanaethau, megis portaloos a gwaredu gwastraff cartref, yn rhan o’r cytundeb. Mae rhai awdurdodau hefyd yn cyflenwi dŵr lle mae hynny’n bosibl. Gall hyd y cytundeb amrywio o 2 wythnos i sawl mis ond mae’n tueddu i fod oddeutu 28 diwrnod.

Gall costau a dynnir gan awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai ar gyfer costau glanhau, fod yn uchel. Er enghraifft, yn 2016 fe wnaeth costau troi allan a glanhau gwersylloedd anawdurdodedig gostio £700,000 i Gyngor Dinas Birmingham. Yn ogystal, yn 2018 adroddodd rhai awdurdodau lleol am gostau ar gyfer sicrhau eu lleoedd agored trwy ffensys ychwanegol, neu atgyweiriadau i ffensys presennol.

Mae busnesau a pherchnogion tir preifat yn ysgwyddo costau glanhau ar ôl gwersyll anawdurdodedig ac yn aml maent yn dioddef achosion mynych. Mae parciau busnes, meysydd parcio siopau manwerthu a chanolfannau hamdden hefyd mewn perygl o’r niwed neu’r difrod a achosir gan rai gwersylloedd anawdurdodedig.

Adroddodd aelodau’r cyhoedd hefyd yn eu hymatebion i ymgynghoriad 2018 am eu rhwystredigaeth â gwersylloedd anawdurdodedig ac am y golled i’w cymunedau o’r defnydd o amwynderau cyhoeddus. Roedd y pryderon mwyaf dybryd yn ymwneud â gwastraff (yn arbennig gwastraff dynol), bygwth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r canfyddiad bod yr awdurdodau yn ddi-rym i weithredu. Daeth y syniad bod y gyfraith yn annheg ac yn ‘cosbi’ dinasyddion sy’n ufudd i’r gyfraith ar draws yn gryf iawn.

Er i ymatebion i ymgynghoriad 2018 fod cynnydd mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cyd-fynd â rhai gwersylloedd anawdurdodedig, roedd eraill wedi amlygu achosion lle nad oedd gwersylloedd anawdurdodedig yn achosi unrhyw broblemau a lle oedd teithwyr yn glanhau ar ôl eu hunain, heb unrhyw gost i’r cyngor. Dywedodd mwyafrif yr awdurdodau eu bod wedi defnyddio adrannau 77 a 78 o’r CJPOA i droi allan gyda rhywfaint o orfodaeth gan yr heddlu. Roedd hyd y camau gorfodi yn amrywio o ychydig ddyddiau, i sawl wythnos mewn achosion mwy cymhleth.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau ymgynghoriad 2018, a wnaeth yr achos dros weithredu, lansiwyd ail ymgynghoriad ‘Cryfhau Pwerau’r Heddlu i Fynd i’r Afael â Gwersylloedd Anawdurdodedig’ ym mis Tachwedd 2019 i geisio barn ar sut y gallai’r weithred o dresmasu, wrth sefydlu neu breswylio ar wersyll anawdurdodedig, gael ei throseddoli. Fe wnaethom hefyd ofyn am farn ar ymestyn y pwerau cyfredol sydd gan yr heddlu o dan y CJPOA i gyfarwyddo pobl i ffwrdd o safleoedd anawdurdodedig.

Roedd llawer o’r ymatebion yn gwrthwynebu’r cynigion i droseddoli tresmasu ac i ddiwygio’r CJPOA oherwydd yr effaith yr oeddent yn teimlo y gallai hyn ei chael ar deithwyr a ffordd grwydrol o fyw. Er bod y llywodraeth yn cydnabod hawl pobl i fyw bywyd crwydrol, rhaid cydbwyso hyn yn erbyn hawliau tirfeddianwyr a’r rhai sy’n byw yn y cyffiniau i fyw eu bywydau heb orfod delio ag amhariad neu ofid.

Mewn ymateb i ymgynghoriad 2019 roedd rhywfaint o gefnogaeth hefyd i welliannau i’r CJPOA ac i droseddoli tresmasu pan yw gwersyll yn atal pobl sydd â hawl i ddefnyddio’r tir rhag ei ddefnyddio; pan yw’r gwersyll yn achosi neu’n debygol o achosi difrod i’r tir neu’r amwynderau; a phan yw’r rhai sydd ar y gwersyll wedi mynnu arian gan y tirfeddiannwr i adael y tir.

Mae’r penodau dilynol yn nodi ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad a’n mesurau arfaethedig, a ddilynir gan ymatebion yr ymgynghoriad sydd wedi bod yn sail i ddatblygiad y cynigion hyn.

Pennod 2 – Ymatebion i’r Ymgynghoriad

Trosolwg

Lansiwyd ymgynghoriad y Swyddfa Gartref, ‘Cryfhau Pwerau i Fynd i’r Afael â Gwersylloedd Anawdurdodedig’, ar 5 Tachwedd 2019 a daeth i ben ar 5 Mawrth 2020. Fe wnaeth ddilyn ymgynghoriad 2018 ‘Pwerau ar gyfer Delio â Datblygu a Gwersylloedd Anawdurdodedig’ lle ymatebodd 52% o blaid troseddoli gwersylloedd anawdurdodedig. Gofynnodd ein hymgynghoriad dilynol farn ar sut i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig, ar ôl i’r achos dros fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig gael ei wneud yn 2018.

Cynhaliodd Cyfeillion, Teuluoedd a Theithwyr eu gwaith ymgysylltu targedig eu hunain, gan gyflwyno eu cwestiynau eu hunain, yn benodol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT). Rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymgysylltiad.

Methodoleg

Roedd ymgynghoriad y llywodraeth yn cynnwys 18 cwestiwn yn ymwneud ag ystod eang o bynciau a’r amodau y gellid eu rhoi ar waith i dramgwydd troseddol gael ei gyflawni pan yw rhywun yn preswylio ar wersyll anawdurdodedig, neu’n bwriadu preswylio arno, gan gynnwys yr amgylchiadau lle gallai’r heddlu arfer pwerau arestio ac atafaelu; ac ar ddiwygio’r darpariaethau presennol yn y CJPOA. Roedd ymatebwyr yn gallu rhoi sylwadau ar ba effaith y credent y byddai’r pwerau hyn yn ei chael ar gymunedau GRT.

Roedd ymatebwyr yn gallu ateb pob cwestiwn mewn blychau ticio, o gytuno’n gryf i anghytuno’n gryf. Ar lawer o’r cwestiynau, rhoddwyd blwch testun rhydd i ymatebwyr i egluro eu dewis.

Mewn ymateb i rai o’r cwestiynau, awgrymodd rhai eu bod yn anghytuno’n gryf â’r cynigion oherwydd bod y cynigion yn mynd yn rhy bell, gyda rhai yn anghytuno’n gryf oherwydd nad ydynt yn mynd yn ddigon pell.

Er mwyn cefnogi’r ymgynghoriad, rhoddodd dadansoddwyr data’r Swyddfa Gartref gyngor ar gynllun cwestiynau’r ymgynghoriad ac adolygwyd yr ymatebion gan dîm o ddadansoddwyr y Swyddfa Gartref a swyddogion polisi.

Cyflawnodd dadansoddwyr y Swyddfa Gartref rywfaint o ddadansoddiad arbrofol hefyd, gan gynnwys dadansoddeg testun. Roedd hyn yn caniatáu iddynt nodi ymatebion dyblyg, dadansoddi’r geiriau neu’r ymadroddion poblogaidd a ddefnyddir gan wahanol grwpiau o ymatebwyr ac fe wnaeth hyn ganiatáu iddynt brofi technegau dadansoddi teimladau ar set ddata fawr. Gwnaed hyn yn ychwanegol at goladu’r data, ystyried pob ymateb a gwiriadau sicrhau ansawdd ar y data. Rydym felly’n hyderus bod yr holl ymatebion wedi’u hystyried yn briodol.

Cafwyd dros 26,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac roedd bron i 9,500 ohonynt yn ymatebion i’r ymgynghoriad a gynlluniwyd gan y Llywodraeth. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb.

Roedd y Llywodraeth yn ofalgar wrth ystyried ei hymateb i’w dyletswydd i gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“EHRC”) ac o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nifer yr Ymatebwyr

Ymatebion i Ymgynghoriad y Swyddfa Gartref

Sianel Ymateb Nifer yr Ymatebion
Ar-lein 9,145
Word/PDF (a dderbyniwyd trwy e-bost) 286

Ymatebion Eraill

Sianel Ymateb Nifer yr Ymatebion
Gwaith ymgysylltu a gyflawnwyd gan Ffrindiau, Teuluoedd a Theithwyr. 10,620
E-byst gan Hawliau Dynol Liberty. 6,268
Post 18

Cyfanswm

26,337

Mae Pennod 3 yn darparu crynodeb o’r 9,431 o ymatebion ar-lein a Word/PDF a dderbyniwyd i ymgynghoriad y llywodraeth. Nodir ymatebion eraill ym Mhenodau 9 a 100.

Pennod 3 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch troseddoli tresmasu

Mae’r adran hon yn nodi’r ymatebion i bum cwestiwn cyntaf yr ymgynghoriad. Roedd yr adran hon yn cynnwys cwestiynau ar ba amodau sy’n ofynnol i sefydlu, neu breswylio ar wersyll anawdurdodedig, fod yn dramgwydd troseddol.

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid gwneud mynd i mewn i dir yn fwriadol heb ganiatâd y tirfeddiannwr yn dramgwydd troseddol os yw at ddiben preswylio arno?

Ymatebion i gwestiwn 1

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 54% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 18% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, gydag 20% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac 8% yn cynnig dim barn.

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid gwneud y weithred o fynd i mewn i dir yn fwriadol heb ganiatâd y tirfeddiannwr yn dramgwydd troseddol dim ond os yw at ddiben preswylio arno gyda cherbydau?

Ymatebion i gwestiwn 2

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 55% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 17% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, nid oedd 20% yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 8%yn cynnig unrhyw farn.

Cwestiwn 3

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr gymryd camau rhesymol i ofyn i bersonau sy’n meddiannu eu tir symud eu hunain a’u heiddo cyn y gellir ystyried bod meddiannu’r tir yn dramgwydd troseddol?

Ymatebion i gwestiwn 3

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 40% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, roedd 28% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 21% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 11% yn cynnig unrhyw farn.

Cwestiwn 4

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno mai dim ond pan fydd yr amodau dilynol wedi’u diwallu y gellir cyflawni tramgwydd troseddol?

a) Mae’r gwersyll yn atal pobl sydd â hawl i ddefnyddio’r tir rhag ei ddefnyddio

b) Mae’r gwersyll yn achosi neu’n debygol o achosi difrod i’r tir neu’r amwynderau

c) Mae’r rhai ar y gwersyll wedi mynnu arian gan y tirfeddiannwr i adael y tir

d) Mae’r rhai ar y gwersyll yn gysylltiedig â neu’n debygol o fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymatebion i gwestiwn 4

4a) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 34% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 30% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, roedd 23% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 12% yn cynnig unrhyw farn.

4b) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 32% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 31% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, roedd 23% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 13% yn cynnig unrhyw farn.

4c) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 36% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, roedd 29% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 21% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 13% yn cynnig unrhyw farn.

4d) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 39% yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, roedd 23% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, roedd 25% ddim yn cytuno nac yn anghytuno ac nid oedd 13% yn cynnig unrhyw farn.

Cwestiwn 5

Pa amodau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr uchod y dylen ni eu hystyried?

Ymatebion i Gwestiwn 5

Roedd yr awgrymiadau ar gyfer amodau ychwanegol yn cynnwys:

  • digwyddiadau o faeddu, taflu sbwriel a difrod i dir
  • defnyddio tir pan nad yw’r tirfeddiannwr wedi cydsynio a/neu’n gwrthod gadael pan yw’r tirfeddiannwr wedi gofyn
  • mae troseddau eraill yn digwydd e.e. dwyn o dir, rhedeg busnesau didrwydded oddi ar dir, torri hawliau lles plant ac anifeiliaid
  • effeithir ar fusnesau neu weithrediadau eraill, neu mae hawl tramwy gyhoeddus yn cael ei rhwystro
  • mae tresmaswyr yn defnyddio neu’n arddangos ymddygiad bygythiol neu ymosodol
  • gorfodwyd mynediad i gyrchu tir e.e. torri neu niweidio cloeon/rhwystrau i gael mynediad i dir
  • mae tresmaswyr yn achosi niwsans cyhoeddus
  • mae tresmaswyr yn defnyddio cerbydau didrwydded
  • mae tir dan feddiant yn cael ei ‘warchod’ gan y gyfraith

Pennod 4 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch diwygiadau i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

Cwestiwn 6

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid rhoi pŵer i’r heddlu gyfarwyddo tresmaswyr i safleoedd awdurdodedig addas mewn ardal awdurdod lleol gyfagos?

Ymatebion i Gwestiwn 6

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 46% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 30% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, gyda 18% ddim yn cytuno nac yn anghytuno a 6% yn cynnig dim barn.

Cwestiwn 7

A ddylai hyn fod yn ddarostyngedig i amodau ynghylch cytundebau sydd ar waith rhwng awdurdodau lleol?

Ymatebion i Gwestiwn 7

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 42% y dylai ac atebodd 37% na ddylai. Ni chynhigiodd 21% unrhyw farn.

Cwestiwn 8

A ddylai fod pellter mwyaf y gellir cyfarwyddo tresmaswr ar ei draws? Os oes, pa bellter ddylai hynny fod?

Ymatebion i Gwestiwn 8

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 56% y dylai ac atebodd 31% na ddylai. Ni chynhigiodd 13% unrhyw farn. O’r rhai a atebodd y dylai i’r cwestiwn hwn:

  • Dywedodd 1,189 y dylai 0.5 i 10 milltir fod y pellter mwyaf.
  • Dywedodd 214 y dylai rhwng 10 ac 20 milltir fod y pellter mwyaf.
  • Dywedodd 196 y dylai rhwng 20 a 50 milltir fod y pellter mwyaf.
  • Dywedodd 24 y dylai rhwng 50 a 100 milltir fod y pellter mwyaf.
  • Dywedodd 20 y dylai’r pellter mwyaf fod yn fwy na 100 milltir.

Nododd oddeutu 3,000 o ymatebion i gwestiwn 8 y dylid cael pellter mwyaf y gellir cyfarwyddo tresmaswr ar ei draws, ond ni wnaeth y rhain nodi beth ddylai’r pellter hwnnw fod, neu ni chategoreiddiwyd eu hymateb. Troswyd yr awgrymiadau a roddwyd mewn unedau metrig.

Cwestiwn 9

A ddylai fod unrhyw amodau eraill y dylid eu hystyried wrth gyfarwyddo tresmaswr ar draws awdurdodau cyfagos. Os felly, beth ddylai’r rhain fod?

Ymatebion i Gwestiwn 9

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 50% y dylai ac atebodd 32% na ddylai. Ni chynhigiodd 18% unrhyw farn. Roedd yr awgrymiadau ar gyfer amodau ychwanegol yn cynnwys:

  • Lefel yr effaith negyddol ar bobl, gan gynnwys plant ac oedolion sy’n agored i niwed, a’u gallu i aros yn agos at waith, addysg, gwasanaethau iechyd, cymorth i bobl anabl a’r effaith ar berthnasoedd. (tua 25%)
  • Argaeledd darpariaeth safle amgen addas a diogel. (tua 5%)

Cwestiwn 10

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cynyddu’r cyfnod o amser lle na ddylai tresmaswyr sy’n cael eu cyfarwyddo o dir ddychwelyd o 3 mis i 12 mis?

Ymatebion i Gwestiwn 10

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 60% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 21% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, gyda 13% ddim yn cytuno nac yn anghytuno a 6% yn cynnig dim barn.

Cwestiwn 11

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid gostwng nifer y cerbydau y mae angen iddynt fod yn rhan o wersyll anawdurdodedig cyn y gellir arfer pwerau’r heddlu o chwech i ddau gerbyd?

Ymatebion i Gwestiwn 11

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 65% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 19% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, gyda 9% ddim yn cytuno nac yn anghytuno a 6% yn cynnig dim barn.

Cwestiwn 12

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid rhoi pŵer i’r heddlu symud tresmaswyr o dir sy’n rhan o’r briffordd?

Ymatebion i Gwestiwn 12

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 59% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 23% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf, gyda 12% ddim yn cytuno nac yn anghytuno a 6% yn cynnig dim barn.

Pennod 5 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch heddlu’n atafaelu eiddo

Cwestiwn 13

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid rhoi pŵer i’r heddlu atafaelu eiddo, gan gynnwys cerbydau, oddi wrth dresmaswyr sydd ar dir â’r pwrpas o breswylio arno?

Ymatebion i Gwestiwn 13

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 70% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, tra bod 18% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf a 6% ddim yn cytuno nac yn anghytuno. Ni chynhigiodd 5% unrhyw farn.

Cwestiwn 14

A ddylai’r heddlu allu atafaelu eiddo:

a) Unrhyw un y maent yn amau ei fod yn tresmasu ar dir â’r pwrpas o breswylio arno

b) Unrhyw un y maent yn ei arestio am dresmasu ar dir â’r pwrpas o breswylio arno

c) Unrhyw un a gafwyd yn euog o dresmasu ar dir â’r pwrpas o breswylio arno

Ymatebion i Gwestiwn 14

14a) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 81% na ddylai, atebodd 13%y dylai ac ni chynhigiodd 6% unrhyw farn.

14b) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 77% na ddylai, atebodd 17% y dylai ac ni chynhigiodd 6% unrhyw farn.

14c) Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, atebodd 73% na ddylai, atebodd 21% y dylai ac ni chynhigiodd 6% unrhyw farn.

Pennod 6 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch diwygiadau pellach i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

Cwestiwn 15

I ba raddau yr ydych yn cytuno neu’n anghytuno y byddai’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 sydd yn yr ymgynghoriad hwn yn gamau digonol i daclo’r problemau anhrefn cyhoeddus sy’n gysylltiedig â gwersylloedd heb ganiatâd heb y gofyn ar gyfer cyflwyno grymoedd penodol sy’n troseddoli gwersylloedd heb ganiatâd?

Ymatebion Cwestiwn 15

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 32% o bobl yn anghytuno neu’n anghytuno’n bendant, tra bod 16% yn cytuno neu’n cytuno’n bendant, a 36% ddim yn cytuno ac anghytuno. Nid oedd gan 16% farn ar y mater.

Pennod 7 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ynghylch effeithiau ar gymunedau GRT

Cwestiwn 16

A ydych yn disgwyl y byddai’r diwygiadau arfaethedig i adrannau 61 a 62A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a gynhwysir yn yr ymgynghoriad hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ganlyniadau iechyd neu addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i ategu’r farn hon, a neu awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

Ymatebion i Gwestiwn 16

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 72% o bobl o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn ac roedd 8% o’r farn y byddai’n cael effaith gadarnhaol neu gadarnhaol iawn. Roedd 14% o’r farn na fyddai’n cael effaith gadarnhaol na negyddol ac ni chynhigiodd 5% unrhyw ymateb.

Roedd awgrymiadau i liniaru effeithiau negyddol yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o safleoedd awdurdodedig (c.10%).

Cwestiwn 17

A ydych yn disgwyl y byddai troseddoli gwersylloedd anawdurdodedig yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd neu ganlyniadau addysgol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr? Os felly, a oes gennych unrhyw dystiolaeth i ategu’r farn hon, a/neu awgrymiadau ar gyfer yr hyn y gellid ei wneud i liniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol?

Ymatebion i Gwestiwn 17

Mewn ymateb i’r cwestiwn hwn, roedd 73% o bobl yn disgwyl y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn ac roedd 8% yn disgwyl effaith gadarnhaol neu gadarnhaol iawn. Nid oedd 12% yn disgwyl effaith gadarnhaol na negyddol ac ni chynhigiodd 5% unrhyw farn.

Roedd awgrymiadau i liniaru effeithiau negyddol yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o safleoedd awdurdodedig (tua 5%).

Pennod 8 – Ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth: sylwadau eraill

Cwestiwn 18

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill i’w gwneud ar fater gwersylloedd diawdurdod nad ydynt yn cael sylw penodol gan unrhyw un o’r cwestiynau uchod?

Ymatebion i Gwestiwn 18

Nid oedd llawer o bobl a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn cefnogi’r naill na’r llall o’r cynigion i ddiwygio’r ddeddfwriaeth gyfredol nac i droseddoli tresmasu, gyda rhai yn ychwanegu na fydd mater gwersylloedd anawdurdodedig yn cael ei ddatrys gan y cynigion hyn (tua10%).

Cafwyd awgrymiadau gan oddeutu 15% o’r ymatebwyr y dylai awdurdodau lleol a’r Llywodraeth ddarparu mwy o safleoedd, caeau a thir fel dewis arall yn lle gwersylloedd anawdurdodedig. Roedd yr ymatebion hyn hefyd yn cynnwys sylwadau y dylai awdurdodau lleol a’r llywodraeth weithio’n agosach gyda chymunedau GRT i sicrhau bod mwy o gyfleoedd addysgol a chyflogaeth yn agored iddynt.

Awgrymodd rhai sylwadau (tua 10%) fod y cynigion yn gwahaniaethu yn erbyn cymunedau GRT ac nad ydynt yn ystyried eu hanghenion. Dywedodd ychydig y dylai cymunedau GRT allu ymarfer eu ffordd o fyw dewisol yn rhydd ac y byddai cynigion yn torri hawliau a rhyddid dynol sylfaenol (tua 5%). Fel y nodwyd uchod, mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o’i dyletswydd i gydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“ECHR”) ac o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ystyried ei hymateb.

Yn ogystal, roedd rhai pobl yn poeni y byddai’r cynigion ynghylch tresmasu yn cael effaith negyddol ar hawl y cyhoedd i grwydro pe byddent yn cael eu gweithredu (tua 5%). Roedd y sylwadau hefyd yn cynnwys barn ar yr effaith yr oedd pobl yn credu y gallai cynigion ei chael ar bobl sy’n cysgu allan, pobl sy’n byw mewn faniau neu gychod, gwersyllwyr gwyllt a chrwydrwyr (tua 5%). Mae cynigion y llywodraeth yn sicrhau nad yw’r bobl hyn yn cael eu dal gan y drosedd.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn croesawu’r holl ymatebion i’r cwestiynau hyn. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion cyn penderfynu ar y camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i gryfhau grymoedd yr heddlu i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig.

Dengys ymatebion ymgynghoriad 2018 bod yna awydd i ymestyn y pwerau sydd ar gael i’r heddlu wrth ddelio â gwersylloedd anawdurdodedig. Gofynnodd yr ymgynghoriad hwn sut y dylem ymestyn y pwerau hynny. Barn y Llywodraeth yw mai creu trosedd droseddol newydd ac ymestyn pwerau presennol o dan y CJPOA yw’r opsiwn a fydd yn rhoi pwerau digonol i’r heddlu i orfodi’n gyflym ac effeithiol yn erbyn ystod o niwed sy’n deillio o wersylloedd anawdurdodedig. Mae’r drosedd yn ceisio creu effaith ataliol, gan helpu atal y niwed a achoswyd gan wersylloedd anawdurdodedig rhag digwydd yn y lle cyntaf, ac mae hefyd yn ceisio galluogi’r heddlu gymryd camau mwy effeithiol ac effeithlon mewn ymateb i wersyll anawdurdodedig.

Roedd 66% o’r bobl a ymatebodd ar ran awdurdodau lleol i ymgynghoriad 2019 o blaid tramgwydd troseddol newydd am dresmasu bwriadol. Roedd 94% yn cefnogi un neu fwy o’r diwygiadau arfaethedig i’r CJPOA i ymestyn y pwerau sydd gan yr heddlu i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir. Mae hyn yn dangos awydd clir gan awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â’r mesurau a ddisgrifiwyd gennym yn y ddogfen hon.

Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod yr ymateb i wersylloedd anawdurdodedig yn galw am ymateb amlasiantaethol lleol, wedi’i arwain gan awdurdodau lleol a’i gefnogi gan yr heddlu. Mae’r penderfyniad i symud tresmaswyr oddi ar safle’n benderfyniad annibynnol i’w wneud gan yr heddlu a’r awdurdod lleol perthnasol, a dylid delio â phob achos yn ôl ei deilyngdod ei hun.

Yn ogystal, mae creu trosedd newydd a’r defnydd cysylltiedig o bŵer atafaelu fel y’i nodir yn y ddogfen hon wedi eu pennu ar y sail y dylai’r camau gorfodi gael eu gweithredu ble fo’n gymesur ac yn angenrheidiol i wneud hynny, ac y dylid eu cymryd ar y cyd â’r awdurdod lleol, a fyddai angen cynnig sicrwydd y bydd ganddynt fesurau perthnasol ar waith i ddiwallu anghenion lles a diogelu’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan golli eu llety. Fodd bynnag, heb allu’r heddlu i atafaelu cerbyd ac eiddo arall person a amheuir yn rhesymol i fod wedi cyflawni’r drosedd, byddai gan yr heddlu lai o allu i daclo’r problemau a achosir gan wersylloedd anawdurdodedig yn effeithiol a chyflym.

Yn yr un modd, bydd y camau gorfodi y gellir eu cymryd gan ddefnyddio pwerau CJPOA estynedig yn parhau i fod yn gymesur â’r niwed a achosir gan y rhai sy’n byw ar dir heb ganiatâd.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd trwy gydol yr ymgynghoriad wedi’u hystyried ac maent wedi llywio’r camau nesaf gan gynnwys yr amodau ar gyfer y drosedd newydd a fydd yn cael eu rhoi i’r senedd i’w craffu. Rhaid i berson fodloni amodau’r drosedd newydd er mwyn cymryd camau gorfodi yn eu herbyn. Nodir yr amodau hyn yn yr adran Camau Nesaf.

Bydd yr amodau ar gyfer y drosedd newydd yn ceisio sicrhau na fydd unrhyw un sy’n cyrchu cefn gwlad, gan gynnwys cerddwyr a heicwyr sy’n mynd trwy dir preifat, yn cael eu dal gan y cynigion newydd. Mae’r Llywodraeth yn glir mai’r bwriad y tu ôl i’r drosedd newydd yw atal tresmaswyr rhag sefydlu neu breswylio mewn gwersyll anawdurdodedig a chefnogi camau i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig lle mae angen.

Mae’r Llywodraeth yn nodi’r angen i safleoedd tramwy a pharhaol fod ar gael. Mae data Cyfrif Carafanau yn nodi bod lleiniau tramwy wedi cynyddu 41% (356 llain) ledled Cymru a Lloegr dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2018, atgoffodd y Llywodraeth awdurdodau lleol o bwysigrwydd cynllunio ar gyfer safleoedd tramwy fel rhan o asesiadau o angen awdurdodau lleol. Mae’r Llywodraeth wedi atgoffa awdurdodau lleol o bwysigrwydd darparu safleoedd yn eu cynlluniau lleol, yn ogystal â chydweithio rhwng awdurdodau lleol. Dylai awdurdodau cynllunio lleol asesu’r angen a nodi tir ar gyfer safleoedd.

Mae’n ofynnol i awdurdodau tai lleol yn Lloegr asesu eu hanghenion tai a llety o dan Ddeddf Tai 1985 (fel y’i diwygiwyd gan adran 124 y Ddeddf Tai a Chynllunio 2016), gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n byw mewn carafanau.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod yr anghenion llety yn cael eu hasesu’n briodol a bod yr angen a nodir am leiniau yn cael ei ddiwallu. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arfer eu pwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, cyn belled ag y bo angen, i sicrhau y darperir ar gyfer safleoedd. Fel y sefydlwyd yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, os yw asesiad cymeradwy awdurdod lleol yn nodi angen o fewn ardal yr awdurdod parthed darparu safleoedd, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol i’r fath raddau ag sydd angen i fodloni’r anghenion hynny.

Pennod 9 – Ymatebion i waith Ymgysylltu a Gyflawnwyd gan Ffrindiau, Teuluoedd a Theithwyr

Cynhaliodd Ffrindiau, Teuluoedd a Theithwyr (FFT) rywfaint o waith ymgysylltu targedig, gan gyflwyno eu cwestiynau eu hunain yn benodol ar gyfer cymunedau GRT yn ogystal â’r ymgynghoriad. Cafodd y barnau hyn eu cyflwyno’n ôl i’r Llywodraeth gan FFT ac fe ystyriom yr ymatebion hyn ynghyd â’r ymatebion i ymgynghoriad y llywodraeth. Cyflwynir crynodeb isod.

Cynhyrchodd FFT holiadur ar gyfer cymunedau GRT yn seiliedig ar y rhagosodiad o wrthwynebu unrhyw fesurau newydd sy’n cael eu cyflwyno. Roedd yr holiadur FFT yn cynnwys pedwar datganiad a ddewiswyd gan ymatebwyr, i ddangos eu bod yn cytuno, neu fel arall yn eu gadael yn wag.

Fe wnaeth cwestiwn ychwanegol wahodd i ymatebwyr gyflwyno testun rhydd ynghylch pam eu bod yn credu bod cynigion y Llywodraeth yn wael a sut fyddent yn effeithio arnynt.

Derbyniwyd 10,620 o ymatebion trwy’r sianel hon. Nodir yr ymatebion isod.

1. ‘Rwy’n gwrthwynebu troseddoli tresmasu ar unrhyw ffurf’

Dewisodd 9,215 (87%) o ymatebwyr y datganiad hwn.

2. ‘Nid wyf yn cytuno ag unrhyw bwerau cynyddol yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 i’r Heddlu eu defnyddio i droi Teithwyr allan’

Dewisodd 10,147 (96%) o ymatebwyr y datganiad hwn.

3. ‘Rwy’n credu y byddai cynigion y Llywodraeth i droseddoli tresmasu a chryfhau pwerau’r heddlu yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn cael effaith ddinistriol ar Sipsiwn a Theithwyr’

Dewisodd 10,184 (96%) o ymatebwyr y datganiad hwn.

4. ‘Rwy’n credu bod angen i’r Llywodraeth greu mwy o safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr fyw arnynt’

Dewisodd 10,158 (96%) o ymatebwyr y datganiad hwn.

5. ‘Pam ydych chi’n credu bod cynigion y Llywodraeth yn ddrwg? Cynhwyswch gymaint o wybodaeth â phosib ynglŷn â sut y byddent yn effeithio arnoch chi’

Atebodd 6,570 (62%) o ymatebwyr y cwestiwn hwn.

Dywedodd rhai bod y cynigion yn torri hawliau dynol ac yn troseddoli eu ffordd o fyw a bod y cynigion yn hiliol. Fe wnaethant nodi bod gan bobl hawl gynhenid i fyw ffordd grwydrol. Dywedodd rhai pobl hefyd y byddai cynigion yn cael effaith negyddol ar deuluoedd a chymunedau, yn arbennig plant a’r henoed. Gwnaed sylwadau eraill y byddai cynigion yn cael effaith negyddol ar bobl sy’n cysgu allan, gwersyllwyr gwyllt, pobl sy’n byw mewn cychod a faniau, yn ogystal â phrotestwyr. Fodd bynnag, fel y nodwyd, ni fydd ein cynigion yn effeithio ar y bobl hyn, ac mae’n rhaid i’r heddlu arfer eu pwerau’n gymesur. Awgrymodd rhai sylwadau fod diffyg tir ar draws pob rhanbarth ac felly y dylai’r Llywodraeth greu neu ddarparu mwy o safleoedd, lleiniau a thir.

Fel yr ydym wedi nodi, mae’r Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o’i dyletswydd i ystyried hawliau o dan yr ECHR ac o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, wrth ystyried ei hymateb. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i’r heddlu, mewn cydymffurfiad â’i rwymedigaethau ECHR, ddefnyddio eu pwerau newydd mewn modd teg a chymesur.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth hon am i bob cymuned allu byw fel y maent yn ei ystyried orau, heb niweidio eraill. Rydym am sicrhau y gall cymunedau teithiol a sefydlog fyw’n gytûn. Mae’r Llywodraeth yn glir bod angen rheolau a ffiniau teg i gyflawni hyn. Rhaid i ni sicrhau triniaeth deg a chyfartal i bawb ac mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall cymunedau teithiol barhau â’u ffordd draddodiadol, grwydrol o fyw tra gall cymunedau sefydlog fyw’n heddychlon.

Pennod 10 – Ymatebion E-bost/Post

Derbyniodd y Swyddfa Gartref 6,268 o negeseuon e-bost lle rhoddodd ymatebwyr eu barn ar gynigion yr ymgynghoriad yn gyffredinol, yn hytrach nag ateb cwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad. Derbyniwyd 18 ymateb cyffredinol trwy’r post hefyd. Mae’r ymatebion hyn wedi’u crynhoi isod.

1. E-bost templed Hawliau Dynol Liberty: 5,948 o e-byst

Creodd Hawliau Dynol Liberty e-bost templed a oedd yn gwrthwynebu pob newid arfaethedig yn ymgynghoriad y Llywodraeth. Roedd aelodau’r cyhoedd yn gallu rhoi eu cyfeiriad e-bost ar wefan Grŵp Hawliau Dynol Liberty a gynhyrchodd e-bost (yr oedd modd ei olygu) y gallai aelodau ei anfon i gyfeiriad e-bost ymgynghoriad y llywodraeth.

Anfonwyd 188 o negeseuon e-bost eraill gan Hawliau Dynol Liberty. Mynegodd yr e-byst hyn hefyd wrthwynebiad i droseddoli a diwygiadau i’r CJPOA.

2. Mae’r tabl isod yn grwpio’r 150 e-bost sy’n weddill yn gategorïau

Roedd 73% o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r dull hwn yn erbyn cynigion y Llywodraeth tra bod 27% yn eu cefnogi.

E-byst a Phost eraill

Categori Nifer yr E-byst/Post
Yn erbyn troseddoli a diwygiadau i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 110 (73%)
Cefnogol i welliannau i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn hytrach na throseddoli 10 (7%)
Cefnogol i droseddoli yn hytrach na diwygiadau i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 16 (11%)
Cefnogol i droseddoli a diwygiadau i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 neu’n fodlon ar y naill neu’r llall 14 (9%)

Pennod 11 – Y Camau Nesaf

Cyhoeddodd y Llywodraeth ein hymrwymiad i fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol diwethaf. Roedd cefnogaeth ar gyfer cryfhau pwerau’r heddlu i gyflawni hyn yn thema allweddol yn yr ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad y llywodraeth ar wersylloedd anawdurdodedig a gynhaliwyd yn 2018.

Rydym wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad dilynol ynghylch sut i gryfhau pwerau’r heddlu er mwyn mynd i’r afael â’r niwed a’r gofid a achosir gan rai gwersylloedd anawdurdodedig.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cymuned yn cael ei thrin yn deg a bod y safbwyntiau a fynegwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn i gyd wedi’u hystyried ac wedi llywio’r penderfyniadau a wnaethom.

Rydym yr un mor glir na fyddwn yn goddef torri’r gyfraith ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod gan yr heddlu’r pwerau sydd eu hangen arnynt i gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau. Bydd y cynigion a nodir yn yr ymateb hwn yn darparu cefnogaeth gryfach i’r rheini sy’n mynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig ac i’r cymunedau hynny sy’n byw gyda nhw neu’n agos atynt.

Felly bydd y Llywodraeth yn cyflwyno trosedd newydd ac yn ymestyn y pwerau presennol yn y CJPOA i’r heddlu fynd i’r afael â gwersylloedd anawdurdodedig, trwy’r Mesur yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Bydd y drosedd ddiannod yn unig newydd yn cynnwys yr amodau dilynol:

  • Person 18 neu hŷn sy’n preswylio neu’n bwriadu preswylio ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr;
  • Mae ganddo, neu mae’n bwriadu cael, o leiaf un cerbyd gydag ef ar y tir;
  • Mae wedi achosi neu mae’n debygol o achosi difrod, amhariad neu ofid arwyddocaol;
  • Mae, heb esgus rhesymol:
    • yn methu â gadael y tir gyda’i eiddo unwaith y bydd tirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr neu heddwas wedi gofyn iddo wneud hynny; neu
    • Yn mynd i, neu wedi gadael, yn dychwelyd i’r tir gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd y tirfeddiannwr, a gyda’r bwriad o gael o leiaf un cerbyd gydag ef, o fewn 12 mis i gais i adael a chlirio ei eiddo oddi ar y tir gan dirfeddiannwr neu gynrychiolwyr y tirfeddiannwr neu heddwas.
  • Ble ceir amheuaeth resymol bod unigolyn wedi cyflawni’r drosedd hon rhoddir pŵer i heddwas atafaelu ei gerbyd / eiddo arall am hyd at dri mis o ddyddiad atafaelu neu, os yw achos troseddol wedi ei gychwyn, nes bydd yr achos wedi ei gwblhau.
  • Y gosb uchaf fydd tri mis o garchar gyda dirwy neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 (£2,500) ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
  • Bydd yr arést a phwerau atafaelu cerbyd/eiddo yn cael ei arfer ble mae gan yr heddwas sail resymol i amau (ar gyfer arestio) neu os yw’n amau’n rhesymol (pŵer atafaelu) bod unigolyn wedi bodloni amodau’r drosedd. Mae’r “amddiffyniad” esgus rhesymol yn galluogi unigolyn i ddianc atebolrwydd ble gall ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu cydymffurfio cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol gyda chais i adael a symud ei eiddo neu am gael mynediad neu ail-fynediad o fewn 12 mis i’r cais gyda bwriad i breswylio heb ganiatâd. Bydd hyn yn galluogi’r heddlu i ystyried unrhyw ystyriaethau lles ac mae’n helpu sicrhau na fydd pobl yn cael eu troseddoli neu’n amodol i bwerau atafaelu mewn achosion ble byddai camau o’r fath yn anghymesur. Bydd beth sy’n cyfateb i ‘esgus rhesymol’ yn ddibynnol ar yr amgylchiadau ffeithiol, bydd canllawiau yn sefydlu enghreifftiau o beth allai gyfateb i esgus rhesymol i gynorthwyo’r heddlu i weithredu’n briodol.
  • Gellir fforffedu cerbyd neu eiddo arall sydd wedi ei atafaelu dim ond yn dilyn gorchymyn y llys sy’n collfarnu unigolyn ar gyfer y drosedd. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i atafaelu a chadw cerbyd ac eiddo arall am gyfnod penodol o amser ac yn sicrhau y bydd gwaredu neu gyfarwyddiadau eraill parthed trin y cerbyd ac eiddo arall yn barhaol yn amodol i drosolwg barnwrol yn dilyn ystyriaethau o unrhyw sylwadau a wneir gan berchennog y cerbyd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod yr heddlu a’r llywodraeth yn bodloni eu gofynion hawliau dynol.

Bydd y Pwerau Presennol yn y CJPOA yn cael eu hymestyn fel sy’n dilyn:

  • Diwygio adran 61(1)(a) i ehangu’r mathau o niwed y gellir ei ddal gan y pŵer i gyfeirio tresmaswyr dan y ddarpariaeth honno, i gynnwys difrod, amhariad a gofid.
  • Bydd adran 61 yn parhau i roi pŵer i gwnstabl, lle na ellir nodi bod unigolyn unigol yn cyflawni’r difrod, amhariad neu ofid (diwygiedig), i gyfarwyddo pob tresmaswr sydd â phwrpas cyffredin i breswylio ar y tir ac y mae’r tirfeddiannwr wedi gofyn iddynt i adael y tir ac i symud unrhyw gerbydau neu eiddo arall sydd gyda nhw ar y tir.
  • Diwygio adrannau 61(4 (b), a.62B a 62(C) i gynyddu’r cyfnod pan na ddylai tresmaswyr a gyfarwyddir i ffwrdd o’r tir o dan adrannau 61 a 62A ddychwelyd o 3 mis i 12 mis.
  • Diwygio adran 61(9)(b) i alluogi’r heddlu gyfarwyddo tresmaswyr sydd â’r pwrpas cyffredin o breswylio ar dir i adael tir sy’n rhan o briffordd (os bodlonir amodau eraill c.6).

Ceisiodd ymgynghoriad y Llywodraeth hefyd farnau ar ddiwygio 62A i ganiatáu i’r heddlu gyfarwyddo tresmaswyr i safleoedd awdurdodedig addas wedi’u lleoli mewn ardaloedd awdurdodau lleol cyfagos. Nid ydym yn credu y dylem ddilyn y mesur hwn, o ystyried y gallai hyn atal awdurdodau lleol rhag datblygu mwy o ddarpariaeth o safleoedd awdurdodedig ac felly y gallai gael effaith gwrthgynhyrchiol.

Ni cheisiodd ymgynghoriad y Llywodraeth farn ar ddiwygio adran 61(1)(a) ond yn hytrach ceisiodd farn ar leihau nifer y cerbydau y gellir eu dal gyda’r pŵer i gyfarwyddo tresmaswyr, lle nad oes unrhyw niwed yn cael ei achosi o chwech i ddau. Credwn fod diffinio set ehangach o niweidiau y gellir eu cipio gan y pŵer i gyfarwyddo dan a.61(1)(a) yn fesur tecach a mwy cymesur a bod y mesurau hyn yn cydymffurfio â chyfraith hawliau dynol.

Bydd y darpariaethau’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig. Er nad ydym yn deddfu ar faterion datganoledig yng Nghymru, gallai’r polisi hwn gael effaith ar gymwyseddau datganoledig yng Nghymru. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddeall unrhyw effaith ar gymwyseddau datganoledig a chytuno sut y bydd y rhain yn cael eu rheoli.