Consultation outcome

Summary of consultation responses and conclusion (Welsh) (accessible version)

Updated 9 August 2021

Rhagair yr Ysgrifennydd Cartref

Mae bywydau pobl ifainc yn cael eu colli oherwydd troseddau cyllyll, mae troseddau cyllyll yn chwalu teuluoedd ac mae’n creu ofn mewn cymunedau. Rwyf wedi cwrdd â rhieni dioddefwyr ac wedi gweld o lygad y ffynnon y dinistr llwyr a’r galar unigryw y maent yn cael eu gorfodi i’w dioddef. Ni ddylai unrhyw fam na thad orfod rhaid mynd drwy’r profiad hwnnw. Mae arnom ddyletswydd iddynt hwy, a phawb sydd wedi colli anwyliaid i drais difrifol, wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â hyn.

Fel Ysgrifennydd Cartref, rwyf wedi cefnogi’r heddlu bob cam o’r ffordd yn yr ymdrech hon. Yr wyf wedi rhoi mwy o bwerau ac adnoddau iddynt fynd ar ôl troseddwyr chymryd cyllyll ac arfau peryglus eraill oddi ar ein strydoedd, gan gynnwys recriwtio 20,000 rhagor o swyddogion.

Ond mae llawer mwy i’w wneud. Mae troseddau cyllyllyn parhau i fod yn broblem ddifrifol. . Mae cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heffeithio’n anghymesur, gyda data’n dangos bod unigolion duon yn fwy tebygol o ddioddef trais difrifol a dynladdiad. Dengys astudiaethau diweddar fod cyfraddau erledigaeth dynladdiad ers 2000 wedi bod bum gwaith yn uwch ar gyfer dioddefwyr duon o gymharu â dioddefwyr gwynion[footnote 1], yn cynyddu i ddeg gwaith yn uwch ar gyfer rhai 16 i 24 mlwydd oed[footnote 2]. Mae’r data diweddaraf rhwng 2018 a 2019 yn dangos bod y risg dynladdiad i bobl dduon ifainc yn 24 gwaith yn uwch na phobl wynion ifainc[footnote 3]. Er bod data hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos bod cyfraddau derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer ymosod â gwrthrych miniog bum gwaith yn uwch ar gyfer unigolion duon o gymharu ag unigolion gwynion[footnote 4].

Gan fod y teuluoedd a’r cymunedau hyn yn dioddef, mae gennym ddyletswydd foesol i weithredu. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVROs) ym Mesur yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) 2021.

Gwyddom fod yr heddlu’n gweld stopio a chwilio fel dull hanfodol i fynd i’r afael â throseddau treisgar, ac yr ydym eisoes wedi ei gwneud yn haws i heddluoedd ddefnyddio pwerau sydd eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, mae gormod o droseddwyr sy’n cario cyllyll ac arfau yn troseddu tro ar ôl tro, ac nod Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol yw helpu i roi diwedd i’r cylch hwnnw.

Bydd y gorchmynion yn galluogi’r heddlu i gymryd ymagwedd fwy rhagweithiol a thargedu’n well y rhai sydd eisoes wedi’u cael yn euog o droseddau penodol yn ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol. Byddant hefyd yn gallu rhwystro troseddwyr rhag cario cyllyll neu arfau drwy gynyddu’r risg o gael eu dal.

Cefnogir y gorchmynion gan gamau gweithredu eang y Llywodraeth i leihau trais difrifol. Gwyddom mai dim ond un rhan o’r ateb yw gorfodi’r gyfraith llym ac yr ydym yn buddsoddi mewn dull cyson a lleol at wrthdroi’r broses. Mae hyn yn cynnwysein rhwydwaith o Unedau Lleihau Trais, sy’n gweithredu dull system leol o fynd i’r afael â thrais a byddwn hefyd yn treialu Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll ac yn cyflwyno dyletswydd gyfreithiol newydd mewn ardaloedd lleol i atal trais difrifol gyda’n gilydd. Mae cyfleoedd i ymyrryd, cyn i unrhyw blentyn neu berson ifanc godi cyllell neu arf, a rhaid inni fanteisio arnynt.

Yn anad dim, mae hyn yn ymwneud ag achub bywydau. Fel Ysgrifennydd Cartref, fy mhrif flaenoriaeth yw diogelwch ein dinasyddion. Bob tro y bydd rhywun yn cario cyllell neu arf, mae perygl iddynt ddifetha eu bywyd eu hun a bywydau pobl eraill. Mae pob trywaniad yn gadael llwybr o ddioddefaint. Wrth fynd i’r afael â’r mater hwn, mae’r cyhoedd am gael gweithredu. Mae’r cyhoedd am i’w cymunedau fod yn fwy diogel. Yr ydym wedi clywed y neges honno’n uchel ac yn groch, ac yr wyf yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn troi pob carreg yn ein cenhadaeth i atal mwy o dywallt gwaed a cholli bywyd.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb or ymatebion ir ymgynghoriad

1. Ar 14 Medi 2020, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad ar Orchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVROs), gorchymyn llys newydd i helpu achub bywydau a lleihau trais difrifol drwy geisio newid ymddygiad rhai sy’n cario cyllyll ac arfau. Nod yr ymgynghoriad oedd mesur barn y cyhoedd, yr heddlu, elusennau a sefydliadau eraill am gynnwys y gorchmynion hyn.

2. Roedd yr ymgynghoriad ar agor i’r cyhoedd. Defnyddiwyd nifer o wahanol gyfryngau i annog cynifer o bobl â phosibl i fynegi eu barn. Gwnaethom ysgrifennu at fwy na 100 o sefydliadau yn eu gwahodd i roi barn a gwnaethom gynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gofyn am farnau gwahanol arbenigwyr ac ymarferwyr.

3. Mae’r Llywodraeth bellach wedi dadansoddi’r ymatebion, a grynhoir yn y ddogfen hon. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion (tua 77%) yn cefnogi’r defnydd o orchmynion, yn enwedig gan aelodau o’r cyhoedd a deimlai fod angen yr awdurdod hwn i helpu i leihau arfau yn cael eu cario drwy gefnogi’r heddlu i fynd i’r afael â’r rhai sy’n cario arfau, gan achub bywydau a gwneud cymunedau yn fwy diogel. Roedd rhai ymatebion hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod SVROs yn cael eu defnyddio yn briodol ac yn cydnabod yr effaith bosibl ar gymunedau, ac yn rhoi cyngor ar sut y gellid gweithredu’r gorchmynion.

4. Wedi ystyried yr ymatebion a’r ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn fanwl yn ystod y cyfnod ymgynghori, mae’r Llywodraeth wedi datblygu nifer o gynigion ar gyfer Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol, a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan oFesur yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd(PCSC)ar sail cynllun peilot.

5. Gofynnodd yr ymgynghoriad am sylwadau ar y cynigion a’r cwestiynau canlynol:

  • Mae’r Llywodraeth o’r farn mai’r ffordd orau o’i gwneud yn haws i’r heddlu stopio a chwilio rhai sy’n cario cyllyll yw creu gorchymyn llys newydd, y Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol (SVRO). Ydych chi’n cytuno?
  • Pryd ddylai’r llys gael yr awdurdod i roi SVRO i rywun?
  • A ddylid SVRO ddigwydd yn awtomatig ar gollfarn?
  • A ddylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion yn unig?
  • Am ba hyd y dylai SVRO bara?
  • A ddylem gyflwyno trosedd ar wahân o dorri SVRO?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau ar sut y dylai’r heddlu ddefnyddio SVROs yn ymarferol?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd y gallai SVROs gael effaith ar gymunedau?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau am y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn mewn perthynas â’r effaith nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

6. Cyfanswm nifer yr ymatebion a gafwyd oedd 549. Nid oedd pob ymateb yn ateb pob cwestiwn.

7. Gallai pobl ymateb i’r ymgynghoriad naill ai drwy lenwi arolwg ar-lein drwy gov.uk neu drwy anfon e-bost i flwch post Ymgynghoriad SVRO. Derbyniwyd y mwyafrif helaeth o’r ymatebion gan aelodau o’r cyhoedd ar-lein, tra bod y mwyafrif o grwpiau cymunedol a hawliau sifil, lluoedd heddlu ac ymarferwyr cyfiawnder cyfreithiol a throseddol wedi ymateb drwy e-bost.

8. Gweler isod dadansoddiad o nifer yr ymatebion a dderbynnir:

  • Arolwg ar-lein: 476 (87%)
  • E-bost: 73 (13%)

9. O’r 549 o ymatebion, cyflwynwyd tua 12% ohonynt ar ran sefydliadau, a’r gweddill wedi eu cyflwyno gan unigolion, gan gynnwys ymarferwyr yn ymateb yn rhinwedd eu swydd.

10.Derbyniwyd ymatebion o ledled y DU, ac o’r rhai a gofnodwyd, roedd tua 60% ohonynt gan ymatebwyr yn Lloegr, a’r gweddill o Gymru a’r Alban.

11.Codwyd sawl thema allweddol yn yr ymatebion, gan gynnwys:

  • Pwerau Heddlu Uwch: Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr, aelodau o’r cyhoedd yn bennaf, bwysigrwydd rhoi’r pwerau priodol i’r heddlu fynd i’r afael â throseddau treisgar. Awgrymodd llawer y gallai SVROs fod yn rhwystr effeithiol ac y gallai stopio a chwilio mwy penodol arwain at ddal y troseddwyr mwyaf difrifol a byddai’r risg gynyddol o ganfod yn helpu i atal eraill rhag cario arfau.
  • Diogelwch Cymunedol: Pwysleisiodd rhai ymatebwyr bwysigrwydd SVROs yn gwneud cymunedau yn fwy diogel. Awgrymwyd y byddai cymunedau yn teimlo’n sicr ac yn fwy diogel gan wybod bod yr heddlu yn parhau i flaenoriaethu mynd i’r afael â throseddau treisgar.
  • Craffu a goruchwylio effeithiol: Pwysleisiodd ymatebwyr, yn benodol ymarferwyr, bwysigrwydd bod yn gwbl clir am sut yr oedd SVROs yn cael eu defnyddio, i roi sicrwydd i gymunedau bod y gorchmynion yn cael eu defnyddio yn gymesur, a nodwyd y dylai gweithredu SVROs gael eu monitro yn gadarn. Nododd rhai bwysigrwydd i’r heddlu ymgysylltu â’r gymuned wrth weithredu SVROs.
  • Yr effaith ar adsefydlu. Roedd rhai ymatebwyr yn cefnogi’r gorchmynion newydd yng nghyd-destun adsefydlu ehangach, tra bod eraill yn cynnig barn y gallai’r gorchmynionymestyn troseddoli unigolion heb fynd i’r afael â materion ffurfiol yn ymwneud â chario cyllyll.
  • Risg o symud: Nodwyd mewn rhai ymatebion bod ‘effaith symud’ yn bosibl ar oedolion sy’n rhoi eu harfau i eraill (yn enwedig plant) os ydynt yn dod dan SVRO.
  • Anghymesuredd a’r effaith ar bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) : Cododd llawer bryderon am yr anghymesuredd posibl o’r gorchmynion, yn enwedig o ran yr effaith bosibl ar grwpiau ac unigolion BAME.

12.Trafodir y themâu hyn yn fwy manwl yn yr adrannau canlynol sy’n ystyried yr ymatebion i bob un o’r cynigion yn ymgynghoriad y Llywodraeth.

13.Mae’r Llywodraeth yn ddiolchgar iawn am yr holl ymatebion a dderbyniwyd ac wedi ystyried yn ofalus y safbwyntiau a’r dystiolaeth a ddarparwyd. Mae’r ymatebion wedi darparu sail i’r model arfaethedig gael ei gyflwyno fel rhan o Mesur yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd (PCSC) .

14.Byddwn yn parhau i gynnwys cymunedau a phartneriaid allweddol wrth inni ddatblygu’r cynllun peilot ar gyfer SVROs i sicrhau bod adborth yn cael ei ystyried wrth ei gynllunio a’i weithredu.

Ymatebion ir cynigion

Cwestiwn 1: Maer Llywodraeth or farn mair ffordd orau oi gwneud yn haws ir heddlu stopio a chwilio rhai syn cario cyllyll yw creu gorchymyn llys newydd, Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol. Ydych chin cytuno?

15.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried a ddylid creu gorchymyn newydd neu, yn lle hynny, gellid diwygio pwerau neu orchmynion presennol i gyflawni ein nod o’i gwneud yn haws i’r heddlu stopio a chwilio rhai sy’n cario cyllyll. Awgrymwyd y pwerau a’r gorchmynion canlynol fel opsiynau posibl:

A. Ydw.

B. Nac ydw, Adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984;

C. Nac ydw, Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus (CJPO) 1994;

D. Nac ydw, Gorchmynion Ymddygiad Troseddol (CBOs) a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014;

E. Nac ydw, Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) a gyflwynwyd gan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019.

16.O safbwynt y Llywodraeth, y ffordd orau o’i gwneud yn haws i’r heddlu stopio a chwilio rhai sy’n cario cyllyll yw creu gorchymyn llys newydd, sef y SVRO, ac felly opsiwn A fydd ein dewis cyntaf.

17.O’r rheiny a ymatebodd i’r cwestiwn hwn ar-lein (459 o ymatebwyr), roedd y mwyafrif (77.8%) yn cytuno y dylid creu gorchymyn newydd. Dywedodd 8.3% o’r ymatebwyr y dylid diwygio adran 1 PACE; roedd 2.6% o’r farn y dylid diwygio adran 60 Deddf CJPO; dywedodd 2.4% y dylid diwygio CBOs; a dywedodd 8.9% y dylid diwygio KCPOs yn lle hynny.

18.O’r rheiny a ymatebodd drwy e-bost (73 o ymatebwyr), ni ddewisodd tua 44% o’r ymatebwyr un o’r cynigion ac yn hytrach roeddent yn gwrthwynebu cyflwyno SVROs. Roedd tua 20% o’r ymatebwyr yn cytuno mai’r ffordd orau o’i gwneud yn haws i’r heddlu stopio a chwilio rhai sy’n cario cyllyll yw creu SVROs. Dywedodd tua 1% o’r ymatebwyr y dylid diwygio Adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Dywedodd tua 1% o’r ymatebwyr y dylid diwygio Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a dywedodd tua 3% o’r ymatebwyr y dylid diwygio Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll. Dywedodd tua 1% o’r ymatebwyr ydylid diwygio adran 1 PACE 1984 a KCPOs. Ni atebodd 28% o’r ymatebwyr y cwestiwn.

19.Roedd llawer o’r ymatebion a oedd o blaid cyflwyno SVROs, yn enwedig rhai gan aelodau o’r cyhoedd, yn awgrymu bod angen yr awdurdod hwn i helpu’r heddlu i fynd i’r afael â rhai sy’n cario arfau, gan achub bywydau a gwneud cymunedau yn fwy diogel. Awgrymodd rhai y gallai SVROs gael effaith sylweddol ar gymunedau petai nhw’n cael eu defnyddio fel rhan o ddull tymor hir o fynd i’r afael â throseddau cyllyll.

20.Mynegodd rhai a oedd yn bresennol yn ein digwyddiadau ymgysylltu safbwyntiau tebyg a derbyniodd y ddeddfwriaeth fel ffordd o roi sicrwydd i’r gymuned bod y troseddwyr mwyaf parhaus yn cael eu targedu yn effeithiol gan yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Gwnaethom siarad yn uniongyrchol ag un ymarferydd sy’n gweithio gyda theuluoedd sydd wedi colli plant i drais difrifol, a oedd o blaid rhoi mwy o bwerau i’r heddlu.

21.Cododd y rhai a wrthwynebodd gyflwyno SVROs, yn enwedig y rhai o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a ymatebodd, bryderon y gallai gorchymyn ychwanegol o’r math hwn wneud drwg wrth adsefydlu troseddwr, gan bwysleisio na all pwerau’r heddlu yn unig lleihau trais difrifol ac mae ymgysylltu cadarnhaol yn allweddol wrth ddargyfeirio unigolion rhag troseddu pellach.

22.Cododd llawer bryderon y gallai’r gorchmynion newydd effeithio’n anghymesur ar grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Mynegodd nifer o sefydliadau cymunedol farn y gallai SVROs gynyddu’r gwahaniaethau presennol sydd yn y system cyfiawnder troseddol gyda rhai yn awgrymu bod rhaid mynd i’r afael ag amghymesuredd wrth ddefnyddio pwerau stopio a chwilio yn gyntaf.

23.Nododd nifer o luoedd heddlu a ymatebodd i’r ymgynghoriad y risg bosibl y gellid defnyddio’r gorchmynion hyn yn anghymesur gydag unigolion BAME. Awgrymodd rhai heddluoedd y dylid defnyddio cynllun peilot a gwerthusiad i brofi’r angen a’r effaith ar grwpiau ac unigolion BAME yn benodol.

24.Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cytuno bod ymgysylltu cadarnhaol â chymunedau, eglurder a monitro yn allweddol wrth orfodi unrhyw bŵer stopio a chwilio.

Ymateb y Llywodraeth

25.Mae’r Llywodraeth yn cytuno y dylem greu gorchymyn newydd i helpu achub bywydau a lleihau trais difrifol, ac mae’n gobeithio y bydd y SVRO yn gwneud hynny drwy helpu i newid ymddygiad rhai sy’n cario cyllyll ac arfau drwy gynyddu’r risg o gael eu dal, a’i gefnogi gan ein hymdrechion ehangach mewn perthynas â lleihau trais difrifol.

26.Byddai darparu pŵer stopio a chwilio o fewn Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn arwain at dargedu amrywiaeth ehangach o ymddygiad trosedol, y tu hwnt i droseddau perthnasolsy’n ymwneud â chario neu ddefnyddio arfau, ac efallai na fydd yn gymesur nac yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau lle gellid gwneud cais am CBO i’r heddlu gael pwer stopio a chwilio penodol. Mae rhai ymatebwyr wedi awgrymu y dylid diwygio Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs). Er hynny, nid oes angen cael collfarn ar KCPOs am drosedd berthnasol, gan fod KCPOs yn darparu camau dargyfreiriol drwy ofynion cadarnhaol, ac gwelwn ei bod yn anghymesur cyflwyno pŵer atal a chwilio sicr yn absenoldeb collfarn. Ein bwriad yw, yn dilyn collfarn, y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi ynghylch a oes angen rhoi SVRO ar y cyd â KCPO.

27.Mae’r Llywodraeth yn cynnig treialu SVROs mewn un neu fwy o ardaloedd heddlu i ddatblygu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r gorchmynion newydd yn fwyaf effeithiol, fel rhan o ymdrechion ehangach yr ardal ynghylch lleihau trais a lleihau troseddu. Byddai hyn yn golygu bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch effeithiolrwydd a gwerth cyflwyno SVRO yn y dyfodol. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio SVROs fel rhan o strategaeth ehangach mewn ardal ynghylch trais a throseddu, gyda’r nod o leihau trais difrifol, achub bywydau a gwneud cymunedau yn fwy diogel.

28.Mae’r Llywodraeth yn cytuno bod angen craffu a goruchwylio effeithiol er mwyn sicrhau rhoi sicrwydd i gymunedau bod SVROs yn cael eu defnyddio yn briodol ac y dylai eu gweithredu gael eu monitro yn barhaus mewn ffordd gadarn ac yn glir. Rydym yn cydnabod bod angen monitro yn effeithiol y defnydd o unrhyw bŵer i stopio a chwilio er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn briodol. Wrth inni gydnabod pwysigrwydd o ddeall gwahaniaethau hiliol yn y defnydd o bwerau i stopio a chwilio, maen rhaid inni hefyd gydnabod bod pobl o gefndiroedd BAME yn anghymesur o fwy tebygol o ddioddef troseddau treisgar ac felly gallai’r polisi fod yn fwy o fudd iddynt.

29.Cynyddodd nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer ymosodiad gan wrthrych miniog fwy nag 20% rhwng y flwyddyn a ddaeh i ben ym Medi 2014 a Medi 2020. Bu gostyngiad diweddar o tua 10% o flwyddyn i flwyddyn rhwng Medi 2019 a Medi 2020. Mae’n bosib bod ychydig o’r rheswm am hyn yw effaith cyfyngiadau symud Covid-19, er roedd derbyniadau i’r ysbyty wedi dechrau gostwng cyn Mawrth 2020.

30.Mae dioddefwyr yn anghymesur o debygol i fod o grwpiau ethnig BAME, neu grwpiau duon yn benodol. Mae dioddefwyr hefyd yn anghymesur o debygol i fod yn wrywaidd. Dangoswyd mewn astudiaethau diweddar fod cyfraddau erledigaeth dynladdiad ers 2000 wedi bod tua phum gwaith yn uwch ar gyfer dioddefwyr duon o gymharu â dioddefwyr gwynion[footnote 5]. Mae’r gwahaniaeth mwyaf, ac mae wedi bod yn cynyddu, yn y grwp oedran 16-24. Ar gyfer y grwp hwnnw, mae cyfraddau erledigaeth pobl dduon wedi bod mwy na deng gwaith yn uwch na chyfraddau pobl wynion ar gyfartaledd ers 2000 gyda’r data diweddaraf o 2018-19 yn dangos risg dynladdiad ar gyfer pobl dduon ifainc yn 24 gwaith yn uwch na phobl wynion ifainc [footnote 6]. Yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, roedd y cyfraddau ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty am ymosodiad gyda gwrthrych miniog yn 5 gwaith yn uwch ar gyfer unigolion duon o gymharu ag unigolion gwynion[footnote 7]. Mae gan y Llywodraeth rheidrwydd i weithredu. Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch ein dinasyddion, ac mae’r cyhoedd yn awyddus iawn i weld gweithredu.

Cwestiwn 2: Pryd ddylai’r llys gael y pŵer i ddefnyddio SVRO?

31.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried a ddylid SVROs ddigwydd pan fydd unigolyn yn cael ei gollfarnu o:

A. drosedd cyllyll;

B. drosedd sy’n ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol (pethau sydd wedi’u haddasu neu eu defnyddio i achosi anaf, megis sgriwdreifar miniog neu far metel);

C. unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thrais.

32.Rydym wedi ystyried a ddylem sicrhau bod SVROs yn digwydd pan fyddai rhywun wedi’i gael yn euog o unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thrais neu o droseddau cyllyll yn unig. Credwn y dylai’r SVRO ddigwydd yn syth ar gollfarn am droseddau sy’n ymwneud â chyllyll a throseddau sy’n ymwneud ag arfau ymosodol eraill, ac felly ein dewis cyntaf yw opsiwn B.

33.O’r rhai a ymatebodd ar-lein i’r cwestiwn hwn (456 o 476 o ymatebion), dywedodd 8.6% o’r ymatebwyr y dylai SVROs ddigwydd ar gollfarn am drosedd cyllell yn unig. Dywedodd 36.2% o’r ymatebwyr y dylid digwydd ar gollfarn am droseddau sy’n ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol, a dywedodd 55.3% y dylai SVROs ddigwydd ar gollfarn unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thrais.

34.O’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd trwy e-bost, atebodd 27 y cwestiwn hwn: dywedodd tua 22% o’r ymatebwyr y dylai SVROs ddigwydd i’r rhai a gollfarnwyd am drosedd cyllyll yn unig. Dywedodd tua 67%o’r ymatebwyr y dylai SVROs ddigwydd i’r rhai a gollfarnwyd am droseddau cyllyll a throseddau arfau ymosodol. Dywedodd tua 11% o’r ymatebwyr y dylid rhoi’r gorchmynion i’r rhai a gollfarnwyd am drosedd yn ymwneud â thrais.

35.Roedd llawer o ymatebion gan asiantaethau gorfodi, rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol a heddluoedd yn cytuno â’n cynnig y dylai’r gorchymyn ddigwydd pan fydd unigolyn wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai sicrhau bod SVROs yn digwydd i’r rhai a gollfarnwyd am droseddau cyllyll yn unig greu rheswm dros gario arf ymosodol arall.

36.Awgrymodd rhai rhanddeiliaid plismona a chymunedol y gallai sicrhau bod SVROs yn digwydd i’r rhai a gollfarnwyd am unrhyw drosedd yn ymwneud â thrais – p’un a oedd arf yn cael ei ddefnyddio neu ei gario ai peidio – wanhau ffocws ac effeithiolrwydd y pwerau hyn.

Ymateb y Llywodraeth

37.Rydym yn cynnig y dylai’r gorchymyn ddigwydd ar gollfarn am droseddau sy’n ymwneud â meddiannu neu ddefnyddio cyllell neu arf ymosodol arall. Gall hyn gynnwys meddu ar asidau a sylweddau cyrydol yn anghyfreithlon, meddu ar ynnau yn anghyfreithlon, neu droseddau treisgar lle roedd arf wedi ei ddefnyddio neu ei gario gan y troseddwr.

38.Rydym yn cydnabod bod 55% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg ar-lein o blaid defnyddio SVROs ar gyfer unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thrais. Gwnaethom ystyried y gefnogaeth i gynnwys unrhyw droseddau sy’n ymwneud â thrais, a mesur hynny yn erbyn y ffaith mai diben y gorchymyn yw lleihau trais difrifol drwy ganolbwyntio ar atal troseddwyr rhag cario arfau. Rydym o’r farn y byddai ymestyn SVROs i gynnwys unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thrais yn rhy eang, gan y gallai olygu y gellid atal person a chwilio am arf, er nad oedd y person wedi’i gollfarnu o gario neu ddefnyddio arf.

39.Credwn felly y dylai’r SVRO ddigwydd ar gollfarn am droseddau sy’n ymwneud â meddiannu neu ddefnyddio cyllell neu arf ymosodol arall. Mae hyn yn adlewyrchu gwir diben SVROs i leihau trais difrifol drwy atal unigolion rhag cario arfau drwy gynyddu’r risg o gael eu dal a thrwy roi sail gredadwy iddynt ar gyfer gwrthsefyll pwysau gan gyfoedion neu rai eraill i’w cario. Ni chredwn y byddai’n briodol ymestyn SVROs i unigolion nad ydynt wedi cyflawni trosedd yn ymwneud â chario neu ddefnyddio arf.

Cwestiwn 3: A ddylid SVRO ddigwydd yn syth ar gollfarn?

40.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried a ddylid SVRO:

A. ddigwydd yn syth ar gollfarn;

B. beidio â digwydd yn syth ond dylai fod rhagdybiaeth y bydd gorchymyn yn cael ei wneud gan y llys oni bai bod rhesymau gorfodol dros beidio â’i gwneud;

C. ddod dan awdurdod y llys.

41.O’r 476 o ymatebion a roddwyd ar-lein, rhoddodd 459 ateb i’r cwestiwn hwn. O’r rhain, dywedodd 58.2% o’r ymatebwyr y dylid gorchymyn ddigwydd yn syth. Dywedodd 25.5% o’r ymatebwyr na ddylid digwydd yn syth ond dylai fod rhagdybiaeth y bydd gorchymyn yn cael ei wneud. Dywedodd 16.3% o’r ymatebwyr y dylai’r awdurdod fod gan y llys yn unig i benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn.

42.O’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd trwy e-bost, atebodd 32 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Dywedodd tua 9% o’r ymatebwyr y dylid SVROs gallu digwydd yn syth. Dywedodd tua 32% o’r ymatebwyr y dylai fod rhagdybiaeth y bydd gorchymyn yn cael ei wneud, ond dylai’r awdurdod fod gan y llys i wrthod gwneud gorchymyn pebai rhesymau gorfodol am wneud. Dywedodd tua 59% o’r ymatebwyr y dylai’r awdurdod fod gan y llys yn unig i benderfynu am orchymyn.

43.Roedd ymateb cyfunol gan un set o ymarferwyr cyfiawnder troseddol yn dadlau y dylai gorchymyn allu digwydd yn syth i newid ymddygiad cynifer o droseddwyr â phosibl. Nodwyd, ganddyn nhw, y byddai’n anodd dod o hyd i unrhyw “rhesymau gorfodol” pam na ddylai’r gorchymyn ddigwydd yn dilyn collfarn berthnasol am feddu ar wrthrych palfog neu arf ymosodol mewn man cyhoeddus. Roeddynt o’r gred ei bod yn gymesur y dylai’r troseddwr fod o fwy o bwysigrwydd i’r heddlu, am gyfnod cyfyngedig y SVRO, ar ôl cael collfarn.

44.Fodd bynnag, dadleuodd y mwyafrif o’r ymatebion gan ymarferwyr eraill, grwpiau cymunedol a rhyddid sifil, heddluoedd a rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol y dylai’r gorchymyn dod dan awdurdod y llys yn unig. Roeddynt yn dadlau fod rhaid i’r llys allu ymateb i bob achos yn unigol, gan ystyried nodweddion ac amgylchiadau penodol, felly ni ddylai SVRO allu digwydd yn syth.

Ymateb y Llywodraeth

45.Er bod tua hanner y nifer a ymatebodd ar-lein yn cefnogi’r gorchmynion yn digwydd yn syth, dadleuodd y mwyafrif o’r ymatebion gan ymarferwyr, grwpiau cymunedol a rhyddid sifil, heddluoedd a rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol a fyddai’n rhan o weithredu SVROs y dylai’r gorchymyn dod dan ddoethineb y llys fel mesur ychwanegol i sicrhau defnydd cymesur.

46.Gwnaethom ystyried y gefnogaeth ar gyfer gorchmynion sy’n cael eu gwneud yn syth a mesur hynny yn erbyn y dystiolaeth a gyflwynwyd i ni am orchmynion yn cael eu gwneud gan y llys yn unig.

47.Rydym yn cynnig diwygio’r model er mwyn i’r broses o wneud SVROs ddod dan awdurdod y llys yn unig. Bydd rhoi caniatâd i SVRO gael ei benderfynu gan y llys yn golygu y ceir amgylchiadau unigol eu hystyried wrth benderfynu am roi SVRO neu beidio. Rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i’r llys ystyried a oes angen cael y gorchymyn i ddiogelu’r cyhoedd, neu aelodau penodol o’r cyhoedd, gan gynnwys amddiffyn yr unigolyn rhag risg o niwed sy’n ymwneud â chyllell neu arf ymosodol neu i atal yr unigolyn rhag cyflawni trosedd bellach sy’n ymwneud â meddu ar arfau o’r math neu ddefnyddio arfau o’r math.

Cwestiwn 4: A ddylai SVRO fod yn berthnasol i oedolion yn unig?

48.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried a ddylai SVROs fod yn berthnasol i:

A. oedolion 18 oed a hŷn;

B. pobl ifainc 12 oed a hŷn;

C. rhai sy’n 14 oed a hŷn.

49.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 458 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. O’r rhain, dywedodd 14.6% o’r ymatebwyr y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion yn unig. Dywedodd 64.6% o’r ymatebwyr y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion a phobl ifainc 12 oed a hŷn. Dywedodd 20.7% o’r ymatebwyr y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion a phlant 14 oed a hŷn.

50.O’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd drwy e-bost, atebodd 29 o’r ymatebwyr y cwestiwn hwn. Roedd tua 55% yn cytuno y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion yn unig. Dywedodd tua 21% o’r ymatebwyr y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion a phobl ifainc 12 oed a hŷn. Dywedodd tua 21% o’r ymatebwyr y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion a phlant 14 oed a hŷn. Roedd un ymatebwr yn anghytuno gyda phob un o’r opsiynau ac awgrymodd y dylai SVROs fod yn berthnasol i oedolion a phlant 16 oed a hŷn.

51.Nodwyd, mewn ymatebion a oedd o blaid i SVROs fod yn berthnasol i blant yn ogystal ag oedolion, bod yn fwywy cyffredin clywed am achosion pobl ifainc dan 18 oed yn cario gwrthrychau palfog, yn enwedig pobl ifainc 16 a 17 oed. Drwy stopio a chwilio troseddwyr yn y grwp oedran hwn, dadleuwyd y byddai’r heddlu yn gallu targedu grwp sydd, yn ôl data dedfrydu, yn ymwneud â throseddau cyllyll.

52.Roedd ymatebwyr a oedd o blaid i SVROs fod yn berthnasol i oedolion yn unig yn cydnabod bod cymryd rhan mewn troseddau cyllyll yn parhau i fod yn broblem ynhlith pobl ifainc dan 18 oed, ond nodwyd bod y plant a phobl ifainc sydd a’r risg fwyaf o gymryd rhan mewn trais anghenion diogelu cymhleth yn aml iawn. Dadleuwyd bod angen gwaith i newid cyfeiriad yr unigolion, yn hytrach na phwerau stopio a chwilio ychwanegol, i’w hatal rhag cario cyllyll.

53.Nodwyd hefyd bod hyn yn hynod o bwysig o gofio’r mater presennol am anghymesuredd yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae’r ffaith bod plant a phobl ifainc duon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn anghymesur o debygol o gael eu hatal gan yr heddlu, ac i gael canlyniad negyddol gan y system cyfiawnder troseddol, wedi’i gysylltu â diffyg ymddiriedaeth a hyder ymhlith plant a phobl ifainc BAME yn y system.

54.P’un a yw’n gefnogol neu beidio, nododd llawer o’r ymatebion ‘effaith symud’ ar oedolion sy’n rhoi eu harfau i eraill (yn enwedig plant) os ydynt yn dod dan SVRO, a allai arwain at droseddoli plant.

Ymateb y Llywodraeth

55.Mae’r Llywodraeth yn cynnig bod SVROs yn berthnasol i oedolion 18 oed a hŷn. Yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, dengys ffigurau fod 17,086 o droseddau cyllyll ac arfau ymosodol wedi arwain at rybudd neu gollfarn i’r rhai 18 oed a hŷn, a bod 4,412 o droseddau ar gyfer rhai rhwng 10 a 17 oed. Mae’r ffigur olaf o’r ddau wedi cynyddu 65% ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2014.[footnote 8] Mae’r ffigurau diweddaraf (y flwyddyn hyd at Fedi 2020 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol) yn dangos gostyngiad o 24% yn y grwp iau na 18 oed, ond mae’n debygol mai cyfyngiadau symud Covid-19 oedd y rheswm am hyn. Roedd 4,487 o oedolion a dderbyniwyd ail rybudd neu gollfarn am gario cyllyll/arf ymosodol yn y flwyddyn hyd atFawrth 2020 ac roedd 379 o bobl ifainc iau na 18 oed wedi derbyn yr un peth. Mae cyfanswm nifer o aildroseddwyr wedi cynyddu 16% ers 2017.[footnote 9]

56.Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i helpu i atal troseddwyr o bob oedran rhag cymryd rhan mewn trais difrifol drwy ddatblygu gwydnwch, cefnogi dewisiadau amgen a darparu ymyriadau amserol. Mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn ganolog i’w dull o fynd i’r afael â thrais difrifol. Mae Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll, sydd ag ystod o ofynion cadarn, wedi’u cynllunio yn benodol i helpu amddiffyn plant sy’n 12 oed a hŷn rhag trais a chamfanteisio. Er rydym o’r farn y bydd SVRO yn cael effaith ataliol bwysig, gan helpu troseddwr i gadw i ffwrdd o bwysau i gario arfau ac i’w wrthod, nid ydym ar hyn o bryd yn bwriadu ymestyn y model SVRO i fod yn berthnasol i bobl iau na 18 oed. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn parhau i adolygu hyn yn weithredol. Mae’r dystiolaeth yn dangos mai pobl ifanc yn 14/15 oed yw’r brigoedran ar gyfer cario cyllyll, ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar yr holl opsiynau i helpu atal gangiau troseddu rhag manteisio ar y plant hyn.

57.Rydym yn cydnabod pa mor hanfodol yw hi i gael mesurau yn y tymor byr a’r tymor hir i leihau trais difrifol. Dyna pam, yn ogystal â chynnig SVROs i helpu lleihau trais difrifol nawr ac yn y dyfodol, yr ydym hefyd wedi buddsoddi dros £220 miliwn mewn prosiectau ymyrraeth gynnar dros ddeng mlynedd. Mae hyn yn cynnwys y Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) sy’n gwerth £200 miliwn. Cyhoeddodd yr YEF ddyfarniad cyntaf o £17.1 miliwn ar gyfer 23 o brosiectau ledled Cymru a Lloegr yn Hydref 2019, yn dilyn cyllid Covid-19, a lansiwyd ym Mai 2020. Rydym hefyd wedi agor Unedau Lleihau Trais (VRUs), a buddsoddi mewn mwy na 175 o fentrau i atal trais difrifol yn y flwyddyn gyntaf o gyllid gan y Llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni mewn ysgolion, cymunedau, carchardai ac ysbytai.

58.Rydym wedi nodi’r risg o ‘effaith symud’ ar oedolion sy’n rhoi eu harfau i blant, yn enwedig mewn achos lle mae plant eisoes yn agored i niwed. Mae’r arfer o unigolion yn gorfodi eraill i gario arfau, cyffuriau, neu bethau eraill ar eu rhan, yn gyffredin mewn grwpiau troseddol. Byddwn yn parhau i fonitro hyn yn ofalus yn ystod y cyfnod peilot.

Cwestiwn 5: Am ba hyd y dylai SVRO bara?

59.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried a ddylai fod cyfnod penodol ar gyfer SVROs, a ddylent bara am hyd y dedfryd a roddwyd gan y llys, neu a ddylai fod cyfnod mwyaf ac isaf.

60.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 456 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Dywedodd 27% o’r ymatebwyr y dylai fod cyfnod penodol ar gyfer SVROs. Dywedodd 14.5% o’r ymatebwyr y dylai SVROs bara am hyd y ddedfryd a roddwyd gan y llys. Dywedodd 58.6% o’r ymatebwyr y dylai fod cyfnod mwyaf ac isaf ar gyfer SVROs.

61.O’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd drwy e-bost, atebodd 30 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Dywedodd tua 3% o’r ymatebwyr y dylai fod cyfnod penodol ar gyfer SVROs. Dywedodd tua 3% o’r ymatebwyr y dylai SVROs bara am hyd y ddedfryd a roddwyd gan y llys. Dywedodd 90% o’r ymatebwyr y dylai fod cyfnod mwyaf ac isaf ar gyfer SVROs. Awgrymodd un ymatebydd gyfaddawd rhwng opsiwn b) a c).

62.Dadleuwyd gan randdeiliaid cyfiawnder troseddol na ddylai SVRO bara am fwy o amser na hyd y ddedfryd a roddwyd gan y llys, oherwydd unwaith y bydd rhywun wedi cwblhau ei ddedfryd yn llwyddiannus yn ddi-dor, dylent gael eu hailsefydlu. Dadleuwyd y dylid rhoi awdurdod i’r llys wneud SVRO am unrhyw gyfnod y mae’n barnu i fod yn angenrheidiol, gyda’r hyd mwyaf yn cael ei bennu fel hyd y ddedfryd a osodir.

63.Awgrymwyd y gallai SVROs fod yn un o’r amodau yn y drwydded lle byddai’r troseddwr yn cael ei ryddhau o’r ddalfa, neu gallai fod yn amod goruchwylio ôl dedfryd, i’r troseddwyr hynny a gafodd ddedfryd o garchar yn syth.

Ymateb y Llywodraeth

64.Mae’r Llywodraeth yn cytuno y dylai fod rôl ar gyfer y llys i ystyried hyd y SVRO ac mae’n cynnig y dylai fod cyfnod mwyaf ac isaf ar gyfer SVROs, gyda’r llys yn penderfynu ar hyd y SVRO o fewn y categori hwn. Byddai’r gorchymyn yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei wneud, ond os rhoddir dedfryd o garchar i berson yn syth, yna gallai’r gorchymyn ddechrau ar y pwynt lle caiff y person ei ryddhau o’r ddalfa.

Cwestiwn 6: A ddylem greu trosedd ar wahân ar gyfer torri SVRO?

65.Gofynnwyd i ymatebwyr ystyried:

A. a fyddai’r drosedd hon yn cael ei chyflawni drwy wrthod cydweithredu pan fydd swyddog heddlu yn ceisio stopio a chwilio person sydd â SVRO, a gan berson sydd â SVRO yn cario cyllell neu arf ymosodol eto;

B. a oes angen trosedd ar wahân oherwydd dylid trin â thorri SVRO fel dirmyg llys;

C. a ddylem ddefnyddio darpariaethau cyfreithiol presennol ynghylch aildroseddwyr ar gyfer deilio â thorri amodau.

66.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 459 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Roedd 75.4% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid creu trosedd ar wahân.Dywedodd 7.4% o’r ymatebwyr y dylid trin â thorri SVRO fel dirmyg llys. Dywedodd 17.2% o’r ymatebwyr y dylid defnyddio darpariaethau cyfreithiol presennol wrth ddelio ag aildroseddwyr sydd wedi torri amodau.

67.O’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd drwy e-bost, atebodd 29 o’r ymatebwyr y cwestiwn hwn. Dywedodd tua 48% o’r ymatebwyr y dylid creu trosedd ar wahân. Dywedodd tua 21% o’r ymatebwyr y dylid trin â thorri SVRO fel dirmyg llys. Dywedodd tua 31% o’r ymatebwyr y dylid defnyddio darpariaethau cyfreithiol presennol wrth ddeilio ag aildroseddwyr.

68.Awgrymwyd mewn ymatebion gan ymarferwyr cyfiawnder troseddol y dylai fod ystod o gosbau ar gael gan y llys ar gyfer torri gorchymyn llys, er roedd rhai yn cytuno a rhai yn anghytuno ynghylch a ddylid gwneud hyn drwy greu trosedd newydd neu ddefnyddio darpariaethau cyfreithiol presennol. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd nad ydym yn cosbi troseddwr y canfuwyd ei fod yn meddu ar wrthrych palfog neu arf ymosodol am dorri SVRO a meddu ar wrthrych palfog neu arf ymosodol.

69.Awgrymwyd mewn un o’r ymatebion, gan ymarferwyr cyfiawnder troseddol, os bydd y troseddwr yn cael ei ganfod i feddu ar gyllell neu arf ymosodol, dylid ystyried torri SVRO fel ffactor gwaethygol wrth ddedfrydu ail feddu ar wrthrych palfog neu arf ymosodol.

Ymateb y Llywodraeth

70.Rydym yn cynnig y byddai SVRO yn gosod gofynion hysbysu penodol ar unigolyn, sy’n golygu y byddai gan yr heddlu fanylion diweddaraf am eu henw a ble maen nhw’n byw. Byddai torri SVRO yn golygu methu â chydymffurfio â’r gofynion hysbysu hyn.

71.Os canfuwyd bod person sy’n dod o dan SVRO yn cario cyllell neu arf ymosodol, credwn y dylid defnyddio’r troseddau presennol sy’n berthnasol i’r ymddygiad hwnnw, gan gynnwys darpariaethau cyfreithiol presennol ynghylch aildroseddwyr.

72.Fodd bynnag, credwn y byddai torri SVRO, unigolyn sy’n dod o dan SVRO sy’n rhoi gwybodaeth ffug ynghylch y gofynion hysbysu, dweud wrth swyddog heddlu nad ydynt yn dod o dan SVRO neu rwystro swyddog heddlu sydd â phŵer stopio a chwilio, yn fater difrifol. Mae’r Llywodraeth yn cytuno y dylid trin â rhain fel troseddau ar wahân.

Cwestiwn 7: Sut y dylair heddlu ddefnyddio SVROs yn ymarferol?

73.Gofynnwyd am sylwadau ar sut y dylai’r heddlu ddefnyddio SVROs yn ymarferol. Ni roddodd pob ymateb sylw ar gyfer y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, fel rhan o’n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, ymarferwyr y system cyfiawndertroseddol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau statudol, rydym wedi derbyn adborth ychwanegol.

74.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 245 o ymatebwyr y cwestiwn hwn a rhoddwyd barn gan y mwyafrif o’r 73 ymateb a dderbyniwyd drwy e-bost. Roedd yr ymatebion yn canolbwyntio ar themâu allweddol, gan gynnwys defnyddio gwybodaeth a data’r heddlu, hyfforddiant yr heddlu, a rôl y llysoedd a chyrff cyhoeddus eraill wrth weithredu a monitro SVROs.

75.Awgrymwyd gan ymatebwyr y dylid sicrhau bod data ynglyn â defnyddio SVROs ar gael i’r cyhoedd, y dylai heddluoedd ofyn am barn paneli stopio a chwilio cyn gwneud cais am SVRO, a dylai’r gorchmynion ond yn cael eu defnyddio gan dimau rheoli troseddwyr ochr yn ochr ag ymdrechion i gefnogi’r broses adsefydlu. Nodwyd mewn nifer o ymatebion gan heddluoedd a swyddogion bod heriau posibl o ran canfod pa unigolion sy’n dod dan SVRO ac awgrymwyd y byddai defnyddio chwiliadau SVRO fel rhan o ddull gweithredol yn fwyaf effeithiol.

76.Rhoddwyd adborth gan rai ymarferwyr, os caiff y gorchmynion eu creu, y dylid eu defnyddio yn ofalus i beidio ag amharu ar hawliau dinasyddion, ac y dylid eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus yn unig. Dywedodd ymatebwyr fod angen cael sicrwydd o fewn yr heddlu a’r system llysoedd bod gorchmynion yn cael eu cofnodi yn gywir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) / Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND) a’u dileu o’r un systemau pan ddaw’r gorchymyn i ben.

Ymateb y Llywodraeth

77.Mae’r angen am graffu a goruchwylio effeithiol ynglyn â sut y defnyddir SVROs yn ymarferol wedi bod yn thema gyffredin mewn ymatebion i’r ymgynghoriad. Maen rhaid inni allu rhoi sicrwydd i gymunedau bod SVROs yn cael eu defnyddio yn briodol ac y bydd eu gweithredu yn cael eu monitro yn llym.

78.Rydym wedi nodi’r heriau gweithredu sydd wedi’u codi, a byddwn yn gweithio gyda’r heddlu a phartneriaid eraill wrthddatblygu canllawiau ac yn ystod y cyfnod peilot i sicrhau bod gwaith craffu a mesurau diogelu effeithiol mewn lle i sicrhau bod y gorchmynion yn effeithiol ac yn cael eu defnyddio yn briodol.

79.Mae’r Llywodraeth o’r farn y bydd y defnydd mwyaf effeithiol o SVROs yn cael ei gyflawni drwy ymgorffori SVROs o fewn strategaethau lleihau trais a throseddu ehangach yr ardal a chynlluniau tactegol. Mae hyn yn golygu y gall y graddau y defnyddir SVRO mewn perthynas ag unigolyn penodol amrywio yn sylweddol, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ystyried gwybodaeth am y gymuned, a’r ystod o ffactorau diogelu a risg ynghylch yr unigolyn hwnnw dros gyfnod y gorchymyn. Er enghraifft, efallai y bydd achosion lle mae troseddwyr am i’r heddlu ddefnyddio’r pŵer er mwyn eu helpu i gadw i ffwrdd o ddylanwadau negyddol, cyfoedion, neu gysylltiadau troseddol.

Cwestiwn 8: Sut effaith gallai SVROs gael ar gymunedau?

80.Gofynnwyd am sylwadau ar sut effaith gallai SVROs gael ar gymunedau. Ni roddodd bob ymateb i’r ymgynghoriad sylw ar gyfer y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, fel rhan o’n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, ymarferwyr y system cyfiawnder troseddol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau statudol, rydym wedi derbyn adborth ychwanegol.

81.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 241 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Rhoddwyd barn gan y mwyafrif o’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd drwy e-bost.

82.Nododd lawer o ymatebwyr yr effaith gadarn y gallai SVROs gael ar gymunedau. Nodwyd gan rai ymatebwyr y gallai SVROs roi sicrwydd i gymunedau bod rhai sy’n cario cyllyll yn fwy tebygol o gael eu dal, helpu cymunedau i deimlo yn fwy diogel, a lleihau aildroseddu, a fyddai’n arwain yn ei dro at lai o ddioddefwyr troseddau cyllyll a thrais difrifol.

83.Mynedgwyd pryder gan rai ymatebwyr am effaith bosibl y gorchymyn newydd ar gymunedau lleiafrifol, a’r risg y byddai hyn yn difa ymddiriedaeth a ffydd yn yr heddlu a’r system gyfiawnder ehangach. Codwyd pwynt am risg nad yw defnyddio pwerau stopio a chwilio mewn sefyllfaoedd lle nad yw swyddog heddlu yn ymateb i ymddygiad penodol, ond yn hytrach i droseddau blaenorol, yn annhebygol o gynyddu ffydd yn yr heddlu.

84.Awgrymwyd hefyd pe bai pobl o grwpiau BAME, yn enwedig dynion duon, yn fwy tebygol o dderbyn SVRO (o ystyried eu bod hefyd yn anghymesur o fwy tebygol o gael eu collfarnu o drais difrifol) yna gallai hyn arwain at ddefnydd anghymesur bellach o bwerau’r heddlu yn erbyn unigolion BAME. Yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, roedd unigolion duon 7 gwaith yn fwy tebygol o gael eu collfarnu neu eu rhybuddio am drosedd cyllell neu arf ymosodol o gymharu ag unigolion gwynion, a 9 gwaith yn fwy tebygol o dderbyn euogfarn neu rybudd a yr ail dro[footnote 10]. Nodwyd mewn ymatebion y byddai angen i’r Llywodraeth roi prosesau clir a gofalus iawn mewn lle ar gyfer defnyddio SVROs, er mwyn osgoi ystyried hyn yn bŵer y gellid ei ddefnyddio mewn ffordd anffafriol yn erbyn pobl dduon a phobl lleiafrifoedd ethnig eraill.

85.Nodwyd gan rai y gallai gweithio mewn partneriaeth yn lleol, ymgysylltu â chymunedau ac arwain dull gwybodaeth gan ddefnyddio pwerau presennol hefyd gael effaith gryfach ar leihau ymddygiad troseddol yn y tymor hir na defnyddio SVROs.

Ymateb y Llywodraeth

86.Byddai SVROs ond ar gael i’r llys pan fydd rhywun yn cael ei gollfarnu o drosedd berthnasol. Ni fyddent yn cael eu defnyddio ar gyfer pobl yn seiliedig ar eu hoedran, rhyw, hil nac unrhywnodwedd gwarchodedig. Er hynny, rydym yn cydnabod er bod y mwyafrif o bobl sy’n cael eu dedfrydu am droseddau cyllell neu arfau ymosodol yn ddynion ac yn wyn, mae oedolion duon yn fwy tebygol o gael eu collfarnu neu eu rhybuddio am drosedd cyllell neu arfau ymosodol.

87..

88.Er ein bod yn cydnabod y gall defnyddio pwerau stopio a chwilio gael effaith anghymesur ar bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, yn yr un modd, mae pobl o gefndiroedd BAME yn fwy tebygol i ddioddef troseddau treisgar ac felly gallai’r polisi fod yn fwy o fudd iddynt.

89.Fel y nodwyd eisoes, mae dioddefwyr yn anghymesur o debygol i fod o grwpiau ethnig BAME, neu grwpiau duon yn benodol. Ers 2000, mae cyfraddau erledigaeth dynladdiad wedi bod tua phum gwaith yn uwch ar gyfer dioddefwyr duon o gymharu â dioddefwyr gwynion[footnote 11], ac yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, roedd y cyfraddau ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer ymosod â gwrthrych miniog bum gwaith yn uwch ar gyfer unigolion duon o gymharu ag unigolion gwynion[footnote 12].

90.Bydd y Llywodraeth yn rhoi mesurau diogelu clir a gofalus mewn lle ynghylch defnyddio SVROs yn briodol. Byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod gan yr heddlu ganllawiau statudol clir i ddefnyddio’r pŵer hwn a bod SVROs yn cael eu monitro yn effeithiol ac yn llym yn lleol ac yn genedlaethol. Dylai’r heddlu ymgysylltu â chymunedau i fagu hyder yn y defnydd teg ac effeithiol o ddefnyddio pwerau stopio a chwilio SVROs a chaiff hyn ei fonitro yn ystod y cyfnod peilot ac wedi hynny.

Cwestiwn 9: Sut y gall SVROs gael effaith ar unigolion â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

91.Gofynnwyd am sylwadau ar sut y gallai SVROs gael effaith ar unigolion â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ni roddodd pob ymateb i’r ymgynghoriad sylw ar gyfer y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, fel rhan o’n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, ymarferwyr y system cyfiawnder troseddol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau statudol, rydym wedi derbyn adborth ychwanegol.

92.O’r 476 o ymatebion a dderbyniwyd ar-lein, atebodd 200 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Rhoddwyd adborth am y cwestiwn hwn gan y mwyafrif o’r 73 o ymatebion a dderbyniwyd drwy e-bost. Roedd yr ymatebion yn canolbwyntio ar themâu allweddol, gan gynnwys yr effaith bosibl ar bobl o gefndiroedd pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â phobl ifainc.

93.Tynnodd rhai ymatebion sylw at y dyletswydd ar y Llywodraeth yn sicrhau bod SVROs yn cael eu gweithredu yn deg, gyda llawer o ymatebwyr yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur bosiblar unigolion BAME, yn enwedig dynion duon. Tynnodd rhai ymatebion sylw at yr effaith bosibl ar bobl ifanc sy’n iau na 18 oed.

94.Roedd rhai ymatebion yn awgrymu gostyngiadau i’r risg y gallai’r gorchmynion gael effaith anghymesur ar unigolion â nodweddion gwarchodedig. Roedd thema gyffredin y dylid monitro SVROs yn llym er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn gymesur. Roedd rhai o’r awgrymiadau yn cynnwys syniad y dylai asiantaethau sicrhau bod ganddynt banel craffu annibynnol mewn lle, ac y dylai data ynghylch defnydd o SVROs fod ar gael i’r cyhoedd.

Ymateb y Llywodraeth

95.MaeDyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw ar yr angen i ddileu anffafriaeth, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol bobl wrth wneud eu gwaith.

96.O ystyried y gwahaniaethau sy’n gysylltiedig â gor-gynrychioli dynion ac unigolion BAME fel dioddefwyr a throseddwyr treisgar a amlinellir eisoes yn y ddogfen hon, mae’r SVRO, wrth geisio lleihau trais difrifol, yn cyd-fynd â dyletswydd y Llywodraeth.

97.Rydym wedi ystyried y pryderon a fynegwyd gan ymatebwyr ynghylch ein dyletswydd cydraddoldeb, yn ogystal â’u hawgrymiadau. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu diwygio ein cynigion cychwynnol i sicrhau bod gan y llysoedd awdurdod ynghylch a ddylid gwneud gorchymyn ai peidio. Rydym hefyd yn cynnig cynnal cynllun peilot i fonitro a gwerthuso effaith SVROs yn gadarn cyn gwneud penderfyniad ar gyflwyno yn genedlaethol. Byddwn yn datblygu canllawiau statudol ar gyfer sut y caiff y gorchmynion eu gweithredu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, a bydd y ddeddfwriaeth yn cael eu hadolygu yn rheolaidd.

Swyddfa Gartref

9 Mawrth 2021

Atodiad A: Methodoleg Dadansoddir Ymgynghoriad

1. Y cwestiynau a nodwyd yn y ddogfen hon oedd y cwestiynau fel y geiriwyd nhw yn yr ymgynghoriad 45 tudalen a restrwyd ar gov.uk.

2. Dadansoddwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriada bu’nrhaid ystyried hefyd pa ohebiaeth i’w defnyddio ar gyfer ymateb yn ffurfiol. Penderfynwyd i beidio â chynnwys ymatebion anghyflawn yr arolwg ar-lein (roedd 168 o’r rhain) ar sail nad oedd yr ymatebwr wedi cyflwyno’r data yn ffurfiolac efallai nad oedd wedi sylweddoli bod eu hymatebion yn cael eu darllen.

3. Tynnwyd a dadansoddwyd data o ymatebion i’r cwestiynau meintiol (caeedig) yn yr ymgynghoriad (h.y. y rhai a ofynnodd i’r ymatebwr ddewis ateb). Cofnodwyd a dadansoddwyd ansawdd yr holl ymatebion hefyd (h.y. yr ymatebion hynny ar gyfer cwestiynau agored neu lle’r oedd ymatebwr wedi cyflwyno papur, llythyr neu e-bost yn hytrach nag ateb cwestiynau penodol). Gwnaed hyn drwy godio’r ymatebion gan nodi themâu a oedd yn codi yn aml. Adroddwyd y canfyddiadau yn y ddogfen hon..

4. Maeelfen o fias anymwybodol wrth godio ansawdd ymatebion, mae hyn wedi’i leihau drwysicrhau gwiriadau ansawdd ychwanegol.

5. Derbyniwyd nifer o ymatebion manwl i’r ymgynghoriad nad oeddent yn cadw at y strwythur a’r cwestiynau ffurfiol a ofynnwyd. Cafodd y rhain eu defnyddio ar gyfer ymateb y Llywodraeth.

  1. Y Swyddfa Gartref (2020): Tueddiadau a ffactorau dynladdiad: Prif ganfyddiadau a Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  2. Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  3. Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  4. https://digital.nhs.uk/data-and-information/supplementary-information/2020/hospital-admissions-for-assault-by-sharp-object-from-2012-to-2020 

  5. Y Swyddfa Gartref (2020): Tueddiadau a ffactorau dynladdiad: Prif ganfyddiadau (publishing.service.gov.uk) a Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  6. Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  7. https://digital.nhs.uk/data-and-information/supplementary-information/2020/hospital-admissions-for-assault-by-sharp-object-from-2012-to-2020 

  8. https://www.gov.uk/government/statistics/knife-and-offensive-weapon-sentencing-statistics-year-ending-march-2020 

  9. https://www.gov.uk/government/statistics/knife-and-offensive-weapon-sentencing-statistics-year-ending-march-2020 

  10. https://www.gov.uk/government/statistics/knife-and-offensive-weapon-sentencing-statistics-year-ending-march-2020. – Tabl pivot yn dadansoddi troseddau cyllyll ac arfau ymosodol blaenorol, a data ethnigrwydd Cyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd. 

  11. Y Swyddfa Gartref (2020): Tueddiadau a ffactorau dynladdiad: Prif ganfyddiadau (publishing.service.gov.uk) a Kumar, Sherman a Strang (2020): Anghyfartaleddau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad: Sut i wella eglurder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr 

  12. Derbyniadau i’r ysbyty am ymosodiad drwy wrthrych miniog rhwng 2012 a 2020 - NHS Digidol