Publication

Ymateb y Llywodraeth

Updated 21 October 2023

Cyflwyniad 

Rydym am ei gwneud hi’n haws olrhain gwastraff, ac adnoddau a gynhyrchir o wastraff, ym mhob rhan o’r economi drwy gyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol sy’n galluogi defnyddwyr i ddarparu’r wybodaeth iawn ar yr adeg iawn.  

Mae’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad yn rhan o gynlluniau ehangach y llywodraeth y DU i gyflwyno rheoleiddio callach i dyfu’r economi. Mae rheoleiddio callach yn ymwneud â gwella rheoleiddio a chanllawiau i fusnesau yn gyffredinol, gan sicrhau ei fod mor glir, cymesur ac nad yw’n gosod beichiau ar fusnesau sy’n cyfyngu ar arloesi a thwf yn ddiangen. 

Rydym yn datblygu’r gwasanaeth TG gyda chymorth y rhai yn y diwydiant gwastraff, gan gynnal profion a chael adborth yn rheolaidd gan aelodau o’n panel defnyddwyr, a newid ac addasu’r gwasanaeth o ganlyniad i ddiwallu anghenion y defnyddwyr. 

Rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2022, bu llywodraeth y DU, llywodraeth yr Alban, llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, yn ymgynghori ar y cyd ar gyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol

Cafwyd cyfanswm o 713 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae crynodeb o’r ymatebion wedi’i gyhoeddi.  

Er bod y rhan fwyaf o’r polisi gwastraff yn fater datganoledig, mae llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno i gydweithio i ddatblygu gwasanaeth olrhain gwastraff ar gyfer y DU gyfan er mwyn darparu system ddi-dor ledled y DU. O’r herwydd, mae’r llywodraethau a’r rheoleiddwyr amgylcheddol ledled y DU wedi adolygu’r ymatebion a ddarparwyd ac wedi cydweithio i gytuno ar y safbwyntiau a nodir yn y ddogfen hon. Bydd y penderfyniadau terfynol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael eu gwneud gan weinidog y dyfodol yng Ngogledd Iwerddon.

Pan fo ymateb yn ymdrin â sawl cwestiwn a ofynnwyd yn yr ymgynghoriad, manylwyd ar hyn yn yr adran berthnasol.  

Mathau o Wastraff 

Dyma’r ymateb i gwestiwn 7 yr ymgynghoriad. 

Rydym yn bwriadu y bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi am symudiadau pob math o wastraff rheoledig a gwastraff echdynnol fel y’i diffinnir gan y pwerau olrhain gwastraff yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (mewn perthynas â Phrydain Fawr) ac yng Ngorchymyn Gwastraff a Thir Halogedig (Gogledd Iwerddon) 1997 (ar gyfer Gogledd Iwerddon).  

Mae hyn yn cynnwys pob math o wastraff cartrefi, masnachol a diwydiannol, p’un a yw wedi’i ddosbarthu fel gwastraff peryglus neu wastraff nad yw’n beryglus. 

Yn fras, bydd y gofynion i ddechrau olrhain y gwastraff hwn yn dechrau o’r man lle mae’n cael ei gynhyrchu. Bydd rhai eithriadau i hyn ar gyfer rhai ffrydiau gwastraff neu ar gyfer gweithgareddau penodol lle rydym wedi ystyried ei bod yn dderbyniol i’r broses o olrhain gwastraff ddechrau ar bwynt ymhellach i lawr y gadwyn wastraff. Mae mwy o fanylion am yr eithriadau hyn i’w gweld yn yr adran ganlynol. 

O ran gwastraff echdynnol (gwastraff o fwyngloddiau neu chwareli), ni fyddwn yn mynnu cofnodion olrhain gwastraff oni bai bod y gwastraff hwn yn cael ei symud oddi ar y safle.  

Yn gyffredinol, mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu heithrio o’r diffiniad o ‘wastraff rheoledig’, felly nid ydynt fel arfer o fewn cwmpas y pwerau olrhain gwastraff cyfreithiol, ond roedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad o’r farn y bydd peidio â chofnodi sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy’n mynd i safleoedd derbyn gwastraff ar y gwasanaeth olrhain gwastraff yn arwain at anghysondeb rhwng mewnbynnau gwastraff ac allbynnau gwastraff ar gyfer safle. Ar ôl adolygu, gwelsom nad yw deddfwriaeth sy’n ymwneud â chofnodi gwybodaeth am symudiadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn rhwystro defnyddwyr rhag gwneud hyn ar y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol, ond ni fyddai ein pwerau yn Neddf yr Amgylchedd 2021 yn ein galluogi i fandadu hyn ar gyfer holl sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Ar bwynt priodol, felly, byddwn yn ystyried cynnwys yn y gwasanaeth olrhain gwastraff y swyddogaeth angenrheidiol i alluogi’r rhai sy’n ymwneud â symudiadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid i gofnodi’r wybodaeth hon ar y gwasanaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny.   

Beth fydd yn cael ei olrhain 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 8, 9 a 10 yr ymgynghoriad. 

Bydd gofynion y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol yn disodli’r gofynion presennol i gwblhau nodiadau trosglwyddo gwastraff a nodiadau cludo gwastraff peryglus. Ar gyfer llwythi o wastraff o dan fesurau rheoli Gwastraff y Rhestr Werdd (allforio neu fewnforio gwastraff nad yw’n beryglus i’w ailgylchu), bydd angen i ddogfennaeth Atodiad VII deithio gyda’r gwastraff o hyd i sicrhau bod pob parti, gan gynnwys y rhai y tu allan i’r DU, yn gallu asesu’r gwastraff. Fodd bynnag, pan fydd gwasanaeth olrhain gwastraff y DU yn cael ei gyflwyno, bydd angen i’r wybodaeth sydd ar y ffurflen Atodiad VII gael ei mewnbynnu ar y gwasanaeth hefyd. 

Ar y cyfan, lle mae cofnod o symudiad gwastraff o fewn y DU yn ofynnol o dan y gofynion cyfreithiol presennol, bydd cofnod ar wasanaeth olrhain gwastraff y DU yn ofynnol hefyd. 

Y prif wahaniaeth yw y bydd cofnodion olrhain gwastraff digidol yn ofynnol pan fydd gwastraff cartrefi yn cael ei gasglu o safleoedd domestig gan drydydd partïon (yn amodol ar yr eithriadau).  Mae bron i ddau o bob tri achos o dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff cartrefi, felly mae’n bwysig gwella tryloywder fel y gall deiliaid tai wirio i weld i ble aeth eu gwastraff os ydynt yn dymuno gwneud hynny.  

Lle mae safleoedd yn y DU yn derbyn gwastraff ar hyn o bryd o dan drwydded sy’n gysylltiedig â gwastraff neu eithriad cofrestredig (neu’n gweithredu o dan ryw fath o sefyllfa reoleiddio leol), fel arfer bydd gan y rhain amodau cysylltiedig sy’n mynnu bod y gweithredwr yn cofnodi manylion am y gwastraff sy’n cael ei gludo i’r safle. Os nad oes gofyniad penodol, byddai rheoleiddwyr yn dal i ddisgwyl yn rhesymol bod cofnodion yn cael eu cadw fel y gall y gweithredwr sicrhau ei hun ei fod yn cydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad, megis y mathau o wastraff neu gyfeintiau’r wastraff a ganiateir. Felly, byddwn yn mynnu bod gwybodaeth am wastraff sy’n cael ei dderbyn gan safle derbyn gwastraff yn cael ei chofnodi ar y gwasanaeth olrhain gwastraff fel rhan o symudiad gwastraff. 

Yn gyffredinol, bydd cofnodion gwasanaeth olrhain gwastraff yn ofynnol pan fydd gwastraff yn cael ei drin o dan yr amgylchiadau isod ond, fel y soniwyd eisoes, bydd rhai eithriadau i’r rhain yn berthnasol. 

  • gwastraff yn cael ei drosglwyddo i sefydliad neu berson gwahanol. 

  • gwastraff yn cael ei symud rhwng safleoedd a weithredir gan yr un sefydliad, er enghraifft, symud gwastraff rhwng gwahanol safleoedd gwastraff trwyddedig a weithredir gan yr un endid. 

  • gwastraff yn cael ei drosglwyddo o reolaeth un sefydliad i reolaeth sefydliad arall ar yr un safle, er enghraifft, lle mae cyfleusterau gwastraff gwahanol yn cael eu gweithredu gan endidau gwahanol mewn un lleoliad. 

  • gwastraff yn cael ei symud rhwng awdurdodiadau a weithredir gan yr un endid ar yr un safle, er enghraifft, gwastraff yn cael ei symud o reolaeth cyfleuster trwyddedig i’w drin o dan eithriad cofrestredig a weithredir gan yr un endid o fewn yr un ardal.  

Os na fydd gwastraff yn gadael y safle lle cafodd ei gynhyrchu’n wreiddiol, bydd yn ofynnol i gofnodion olrhain gwastraff gael eu mewnbynnu i’r gwasanaeth olrhain gwastraff hefyd pan fydd: 

  • gwastraff yn cael ei ddyddodi, ei adfer neu ei drin o dan drwydded gwastraff amgylcheddol. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd pan fydd y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol yn cael ei weithredu, ni fydd ffurflenni gwastraff safle trwyddedig ar wahân yn ofynnol mwyach.  

  • gwastraff peryglus yn cael ei drin o dan eithriad cofrestredig. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd drwy weithredu gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol, ni fydd ffurflenni gwastraff peryglus ar wahân yn ofynnol mwyach.  

Bydd rhai o’r mathau hyn o weithgareddau’n gofyn am gofnodi llai o wybodaeth nag eraill a byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr drwy’r gwaith datblygu TG i bennu pa lefel o wybodaeth fyddai ei hangen a pha mor aml y bydd angen yr wybodaeth.  

Eithriadau 

Rydym yn bwriadu creu eithriadau o’r gofynion cyffredinol ar gyfer cofnodion olrhain gwastraff digidol, lle’r ydym yn teimlo bod dull pragmatig, seiliedig ar risg yn bosibl, ochr yn ochr â diogelu’r amgylchedd yn ddigonol. Bydd gwybodaeth am y gwastraff sy’n cael ei drin o dan yr eithriadau hyn yn dal i gael ei chofnodi yn y gwasanaeth olrhain gwastraff, ond bydd y cofnodion yn dechrau yn ddiweddarach yn y gadwyn wastraff. Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol i wastraff sy’n cael ei reoli o fewn y DU yn unig; nid ydynt yn berthnasol i lwythi o Wastraff y Rhestr Werdd. 

Gwastraff cartrefi sy’n cael ei gasglu o adeiladau domestig gan awdurdodau lleol  

Ni fyddwn yn mynnu bod cofnod olrhain gwastraff ar gyfer pob casgliad unigol o o wastraff o adeiladau domestig gan awdurdodau lleol neu gontractwyr sy’n gweithio ar ran awdurdodau lleol. Bydd cofnodion olrhain gwastraff ar gyfer y gwastraff hwn yn dechrau pan fydd yn cael ei gludo i safle derbyn gwastraff. 

Canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi (HWRCs) 

Ni fydd yn ofynnol i ddeiliaid tai gofnodi unrhyw beth ar y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol am wastraff y maent wedi’i gynhyrchu y maent yn ei symud eu hunain. Ni fydd chwaith angen i weithredwyr HWRCs gofnodi eu bod wedi derbyn gwastraff gan ddeiliaid tai ar y gwasanaeth olrhain gwastraff.  

Bydd angen i weithredwyr HWRCs gofnodi gwybodaeth am unrhyw wastraff busnes masnachol sy’n cael ei dderbyn ar safleoedd. Mae hyn yn debyg i’r gofynion presennol i gwblhau cofnodion am y mathau hyn o drosglwyddiadau. Bydd cofnodion olrhain gwastraff yn ofynnol hefyd pan fydd gwastraff yn cael ei symud o HWRC. 

Sbwriel 

Ni fydd yn ofynnol i berson neu sefydliad sy’n casglu sbwriel (gan gynnwys awdurdodau sy’n casglu sbwriel fel dyletswydd statudol) greu cofnodion olrhain gwastraff digidol ar gyfer symud y gwastraff hwnnw i fan casglu.  

Mân wastraff 

Pan fydd mân wastraff yn cael ei greu a’i symud gan bobl nad ydynt yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff penodol, er enghraifft crefftwyr a gweithredwyr gwasanaethau symudol, na fydd angen cofnodion olrhain gwastraff digidol ar gyfer y tro cyntaf mae gwastraff yn cael ei symud i fan casglu sbwriel. Bydd angen cofnodion olrhain gwastraff digidol pan fydd y gwastraff yn cael ei symud o’r man casglu.  

Samplau o wastraff 

Lle mae samplau unigol o wastraff yn cael eu hanfon i safle arall at ddiben dadansoddi a phennu ei ddosbarthiad neu ei ddisgrifiad cywir, ni fydd cofnodion gwasanaeth olrhain gwastraff digidol yn ofynnol ar gyfer symud y sampl o’r cynhyrchydd i’r safle sy’n cynnal y profion. Mae’n debygol y byddwn yn cynnwys terfyn pwysau neu gyfaint ar gyfer yr eithriad hwn.  

Eithriadau posibl eraill 

Rydym hefyd yn parhau i drafod eithriadau posibl eraill, gan gynnwys y rhai isod, a byddwn yn gwneud rhagor o waith gyda rhanddeiliaid ar fanylion y rhain i sicrhau dull ymarferol o weithredu. Am fod gwastraff at ei gilydd yn fater datganoledig, mae eisoes amrywioldeb rhwng gwledydd y DU mewn perthynas â’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion gwastraff, ac mae’n bosibl y bydd hyn yn parhau. 

  • symudiadau gwastraff nad yw’n wastraff peryglus rhwng safleoedd a weithredir gan yr un person neu sefydliad lle nad oes unrhyw weithgareddau sy’n gofyn am drwydded amgylcheddol neu drwydded rheoli gwastraff 

  • cynlluniau cymryd yn ôl manwerthwyr, gan gynnwys cynlluniau dychwelyd ernes yn y dyfodol 
  • rhoddion elusennol 
  • safleoedd aml-gynhyrchydd megis canolfannau siopa a chyfleusterau gofal iechyd lle mae gwastraff yn cael ei reoli ar y cyd 

Yn Lloegr bwriedir alinio’r rhestr derfynol o ofynion ar gyfer olrhain gwastraff â’r gofynion o dan y diwygiadau newydd ar gyfer cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff, fel os nad oes angen cofnodion olrhain gwastraff digidol o dan y diwygiadau ar gyfer cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff, yna na fydd angen cofnodion olrhain gwastraff digidol.  

Cynhyrchion diwedd gwastraff  

Codwyd rhai pryderon am ein cynnig i fynnu gwybodaeth ynghylch cynhyrchion a deunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu o wastraff i safonau neu feini prawf penodol ac, o’r herwydd, nad ydynt yn cael eu hystyried yn wastraff mwyach. 

Er ein bod yn gwerthfawrogi bod y cynhyrchion a’r deunyddiau hyn yn disgyn y tu allan i ddogfennaeth olrhain gwastraff bresennol, fel rhan o’n hymrwymiad i symud tuag at economi gylchol, mae’n bwysig i ni ddeall pa ddeunyddiau eilaidd sy’n cael eu gwneud o wastraff ac ar ba raddfa, er mwyn cefnogi ac annog defnyddio’r rhain yn lle deunyddiau crai.  

Gofynion adrodd data presennol 

Dyma’r ymateb i gwestiwn 11 yr ymgynghoriad. 

Bydd yn ofynnol i’r data sy’n cael ei gofnodi yn y gwasanaeth olrhain gwastraff gael ei gofnodi mewn ffordd llawer mwy amserol nag y mae ar hyn o bryd ac ar lefel fanylach. 

Bydd yn disodli’r gofynion ar gyfer adroddiadau gwastraff cyfanredol megis ffurflenni gwastraff peryglus neu ffurflenni safle chwarterol ac, i awdurdodau lleol, bydd yn darparu’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chasglu a’i hadrodd ar hyn o bryd ar y system WasteDataFlow am symud a thrin gwastraff. 

Bydd gofynion y gwasanaeth olrhain gwastraff hefyd yn disodli’r angen i raghysbysu am nodiadau llwythi gwastraff peryglus a chyflwyno ffurflenni Atodiad VII i NIEA. Yn yr Alban, bydd y gofynion olrhain gwastraff yn disodli cyflwyno ffurflenni Atodiad VII cyn y cludo a chyflwyno copïau adneuo nodiadau llwythi gwastraff peryglus neu arbennig i Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban (SEPA).  

I’r rhai sy’n defnyddio’r data o WasteDataFlow neu o ffynonellau eraill sy’n darparu mynediad at ddata gwastraff cyfanredol, megis StatsCymru, y Waste Data Interrogator yn Lloegr neu’r Environment web yn yr Alban, dylai’r gwasanaeth olrhain gwastraff ddarparu gwell hyblygrwydd a chywirdeb gan fod y data unigol yncael ei gofnodi’n llawer agosach at yr amser y mae gweithgarwch gwastraff yn digwydd.  

Bydd y llywodraethau a’r rheoleiddwyr amgylcheddol yn datblygu cynlluniau pontio ar gyfer symud o ffurflenni data i ddefnyddio data’r gwasanaeth olrhain gwastraff. 

Pa wybodaeth fydd angen ei chofnodi 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 12, 13, 14 a 18 yr ymgynghoriad. 

O ystyried y bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff yn disodli nodiadau trosglwyddo gwastraff a nodiadau llwythi gwastraff peryglus ac yn mynnu bod yr wybodaeth ar ffurflenni Atodiad VII ar gyfer llwythi gwastraff y rhestr werdd yn cael ei chofnodi ar y gwasanaeth, bydd yr holl wybodaeth sy’n ofynnol ar hyn o bryd ar y dogfennau hyn yn ymddangos yn y gwasanaeth olrhain gwastraff. 

Nododd ein hymgynghoriad wybodaeth arall i ni gynnig y byddai angen ei chofnodi yn y gwasanaeth olrhain gwastraff ac, er bod lefelau uchel o gefnogaeth i gofnodi’r darnau ychwanegol hyn o wybodaeth, roedd rhai pryderon ac mae ein hymateb i’r rhain fel a ganlyn: 

Llygryddion organig parhaus (POPs) 

Rydym yn cydnabod nad oes gwybodaeth neu gymhwysedd manwl bob amser wrth nodi a yw POPs yn bodoli mewn gwastraff o fewn y diwydiant gwastraff, ond mae hyn yn gwella. Mae nodi POPs mewn gwastraff yn rhan o’r dosbarthiad a disgrifiad o wastraff cyffredinol y mae’n rhaid ei drosglwyddo rhwng y rhai sy’n ei reoli i gydymffurfio â’u dyletswydd gofal o ran gwastraff. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i helpu i nodi a darparu pa gymorth ychwanegol sydd ei angen i allu cydymffurfio â’r ddyletswydd gofal hon.  

Dosbarthiad gwastraff 

Er bod cefnogaeth dda yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar gyfer cofnodi gwybodaeth am bwy sy’n dosbarthu gwastraff, rydym yn deall nad un person yn unig fydd yn pennu’r dosbarthiad bob amser. 

Drwy’r diwygiadau arfaethedig i’r system cludwr, brocer a deliwr yn Lloegr, rydym yn ceisio gwella cymhwysedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch sut y dylid rheoli gwastraff. O dan y diwygiadau hyn, bydd yn ofynnol i ‘reolwyr’ gwastraff (y rhai sy’n gwneud y penderfyniad ynglŷn â’r hyn ydyw a ble y bydd yn mynd), gael trwydded amgylcheddol ac ennill cymhwyster cymhwysedd. Bydd yn ofynnol cofnodi manylion y drwydded yn y gwasanaeth olrhain gwastraff lle bo hynny’n berthnasol. 

Yn y dyfodol, mae Defra’n bwriadu ystyried opsiynau ar wahân i gyflwyno gofynion cymhwysedd dosbarthiad gwastraff, a bydd llywodraeth yr Alban hefyd yn ymgynghori yn y misoedd nesaf ar gynigion ar gyfer diwygiadau i’r system cludwr, brocer a deliwr yn yr Alban. Byddwn yn parhau i ystyried sut y gall olrhain gwastraff gefnogi’r diwygiadau hyn yn y dyfodol.  

Codau dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC)  

Mae angen yr wybodaeth a ddarperir drwy godau SIC arnom i ddeall pa fathau o wastraff a chyfeintiau gwastraff sy’n cael eu cynhyrchu yn y DU gan wahanol sectorau a phrosesau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer polisi, strategaeth a chynllunio gwastraff. Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o’r data hwn yn cael ei amcangyfrif gan ddefnyddio arolygon gwastraff ad hoc, gyda chywirdeb cyfyngedig a diweddariadau anaml.  

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dibynnu ar godau SIC i gynhyrchu ystadegau eraill, felly gall eu cynnwys yn y gwasanaeth olrhain gwastraff ein galluogi i integreiddio ystadegau gwastraff cenedlaethol â setiau data eraill, gan arwain at wneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth ehangach. 

Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod peth dryswch ar hyn o bryd ynghylch pa godau SIC y dylid eu cofnodi ar y dogfennau gwaith papur presennol, felly byddwn yn ceisio darparu rhywfaint o arweiniad ar gyfer hyn pan fyddwn yn symud i’r gwasanaeth digidol. 

Trin gwastraff a’i dynged derfynol  

Ar ôl i wastraff gael ei dderbyn i safle derbyn gwastraff, deallwn y gall fynd drwy amrywiaeth o wahanol brosesau trin sy’n gwneud parhau i olrhain llwythi unigol o wastraff yn anodd iawn. Fodd bynnag, rydym o’r farn ei bod yn bwysig i gynhyrchwyr gwastraff ddeall beth sydd wedi digwydd i’w gwastraff, felly rydym yn cynnig, pan fo gwastraff yn dod i safle derbyn gwastraff, y bydd y gweithredwr yn cofnodi’r ddau ddarn canlynol o wybodaeth ar y cofnod gwasanaeth olrhain gwastraff sy’n berthnasol i’r gwastraff hwnnw: 

1) Opsiwn hierarchaeth gwastraff a fwriedir, er enghraifft, Paratoi i Ailddefnyddio, Ailgylchu, Adfer Fel Arall neu Waredu a, 

2) Dull rheoli gwastraff a fwriedir, er enghraifft, tirlenwi, compostio, darnio ac ati.  

Yn amlwg, bydd y dulliau hyn yn cael eu cyfyngu gan y math o awdurdodiad sydd gan y safle derbyn sy’n eu galluogi i gynnal rhai gweithgareddau penodedig. Felly, ni ddylai’r broses o nodi pa un o’r gweithgareddau hyn y mae’r gweithredwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn perthynas â’r gwastraff fod yn feichus.  

Rydym yn debygol o ddefnyddio codau D ac R presennol fel sail i’r dulliau hyn, ond rydym yn cydnabod bod problemau gyda’r codau hyn weithiau fel y disgrifir ar y dudalen nesaf. Byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr yn ystod y profion i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn. 

Bydd yr wybodaeth hon yn helpu cynhyrchwyr gwastraff i wneud dewisiadau mwy gwybodus dros reoli eu gwastraff yn unol â’r hierarchaeth gwastraff. 

Rydym yn gwybod bod WasteDataFlow yn mynd gam ymhellach na hyn ar hyn o bryd ar gyfer awdurdodau lleol, drwy ddarparu gwybodaeth am gyfraddau ailgylchu gwirioneddol a thynghedau terfynol gwastraff arall o fewn eu hardaloedd, gyda thargedau gwastraff a phenderfyniadau rheoli yn cael eu gwneud ar sail yr wybodaeth hon. Ein nod yw efelychu hyn yn y gwasanaeth olrhain gwastraff gan ddefnyddio model data l i ddarparu’r ystadegau hyn a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod hyn yn diwallu eu hanghenion. 

Cynhyrchion a deunyddiau diwedd gwastraff  

Rydym wedi adolygu ein gofynion o amgylch hyn ac ni fyddwn ond yn gofyn am y wlad lle mae’r cynnyrch neu’r deunydd yn cael ei anfon. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gosod amodau ar y gofynion hyn fel nad yw’n ofynnol i werthiannau symiau bach o gynhyrchion a deunyddiau megis cydrannau ceir unigol, er enghraifft, gael eu cofnodi. 

Ffynhonnell gwastraff  

Roedd sawl awgrym ar gyfer cofnodi ffynhonnell generig gwastraff, er enghraifft, gwastraff cartrefi neu fusnes ac ati, a byddwn yn archwilio hyn gyda’r nod o’i chynnwys lle bo hynny’n briodol. 

Rydym hefyd yn parhau i archwilio lle gellir defnyddio’r gwasanaeth olrhain gwastraff i gefnogi polisïau gwastraff eraill sy’n datblygu megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynwaith a gweithredu casglu gwastraff ar wahân. 

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer llwythi Gwastraff y Rhestr Werdd 

Er mwyn cefnogi rheoleiddio llwythi Gwastraff y Rhestr Werdd yn effeithiol, byddwn hefyd yn ystyried ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth ganlynol gael ei chofnodi yn y gwasanaeth olrhain gwastraff, a byddwn yn profi hyn gyda defnyddwyr wrth ddatblygu’r gwasanaeth: 

  • y math o ddaliedydd; er enghraifft, cynhwysydd morgludiant, trelar ac ati a’r rhif(au) adnabod perthnasol 

  • man cyrraedd neu fan gadael y DU  

Cofnodi gwybodaeth am waredu ac adfer 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 15, 16 a 17 yr ymgynghoriad. 

O’r ymatebion i’r ymgynghoriad, er bod defnyddio codau D ac R i gofnodi gwybodaeth am weithgareddau gwaredu ac adfer yn gyfarwydd i lawer, mae’n amlwg bod problemau ynghylch eu perthnasedd i bob senario, gyda rhai gweithgareddau trin gwastraff yn gallu cael eu cwmpasu gan fwy nag un cod neu rai nad ydynt yn cael eu cwmpasu o gwbl. 

Fel rhan o ddatblygu’r TG, byddwn yn profi ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion gyda’r codau hyn i ddiwallu anghenion y defnyddwyr. Ar gyfer llwythi Gwastraff y Rhestr Werdd, bydd cynnwys codau D ac R yn parhau yn unol â’r ffurflen Atodiad VII. 

Gwybodaeth am Nwyddau Peryglus 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 19, 20 a 21 yr ymgynghoriad. 

Rhaid i fusnesau sy’n cludo nwyddau peryglus gydymffurfio â’r gofynion dogfennaeth a nodir yn y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chludo nwyddau peryglus, sy’n cael ei gorfodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ymhlith eraill. Mae gan y templed nodyn llwythi gwastraff peryglus presennol adran lle gellir cofnodi’r wybodaeth sydd ei hangen, ond nid yw’n orfodol cofnodi’r wybodaeth hon ar y nodyn llwythi gwastraff peryglus ac, yn wir, mae llawer eisoes yn ei chofnodi ar ddogfennaeth ar wahân. Er bod cefnogaeth gref i gynnwys yr wybodaeth hon yn y gwasanaeth olrhain gwastraff, rydym wedi penderfynu na fyddwn yn cynnwys blychau ar gyfer cofnodi’r wybodaeth hon yn y gwasanaeth, gan y byddai hyn yn golygu y byddai angen i ni alluogi grŵp arall o ddefnyddwyr megis y gwasanaethau brys i gael mynediad at y gwasanaeth olrhain gwastraff mewn ystod o sefyllfaoedd, gan ychwanegu cymhlethdod ychwanegol at y gofynion datblygu TG a mynediad at ddata. 

Unwaith y bydd y gwasanaeth yn weithredol, byddwn yn adolygu’r sefyllfa hon. 

Hierarchaeth wastraff 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 22 a 23 yr ymgynghoriad. 

Mynegodd ymatebwyr i’r ymgynghoriad safbwyntiau cymysg ynghylch arddangos cydymffurfiaeth â’r hierarchaeth wastraff yn y gwasanaeth olrhain gwastraff. 

Wrth i ni weithio drwy ddatblygu’r gwasanaeth, byddwn yn profi opsiynau ar gyfer hyrwyddo dealltwriaeth o’r opsiynau hierarchaeth wastraff ac ymgysylltiad â nhw, gan gyflwyno cyn lleied â phosibl o ofynion ychwanegol. Un opsiwn y byddwn yn ei brofi yw defnyddio cwymplen yn hytrach na blwch ticio, gan ofyn i gynhyrchwyr ddewis (neu gadarnhau) yr opsiwn hierarchaeth wastraff y maent yn bwriadu i’w gwastraff fod yn destun iddo. Bydd modd cymharu hwn â’r opsiwn hierarchaeth wastraff y bydd y safle sy’n derbyn y gwastraff yn ei ddewis fel y manylir yn yr adran ‘Trin gwastraff a’i dynged derfynol’ uchod. 

Defnyddio’r gwasanaeth 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 24 a 25 yr ymgynghoriad. 

Gwasanaeth ar y we sy’n cael ei ddatblygu gan y llywodraeth yn unol â safonau digidol agored yw’r gwasanaeth olrhain gwastraff. Mae hynny’n golygu y bydd yn hygyrch ac yn gallu cael ei ddefnyddio’n rhwydd ar draws pob math o ddyfeisiau electronig.  

Ni fydd angen i ddefnyddwyr gael meddalwedd benodol na phrynu trwyddedau. 

Bydd y gwasanaeth yn darparu gwahanol ffyrdd o ryngweithio ag ef, p’un a ydych chi am gofnodi manylion un symudiad yn unig neu symudiadau lluosog mewn swp. 

Cofnodi gwybodaeth mewn amser real 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 26, 27 a 28 yr ymgynghoriad. 

Gan y bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff yn hygyrch ar draws pob math o ddyfeisiau electronig, byddem yn disgwyl y bydd yn well gan lawer ddefnyddio’r gwasanaeth mewn amser real. Er enghraifft, pan fydd cludwr gwastraff yn mynd i gasglu gwastraff, bydd ganddo fynediad at y cofnod gwasanaeth olrhain gwastraff perthnasol yn y fan a’r lle i gadarnhau ei fod wedi ei gasglu. 

Fodd bynnag, rydym hefyd yn deall y gall gorfodi pawb i weithio fel hyn o’r diwrnod y caiff y gwasanaeth olrhain gwastraff ei gyflwyno fod yn heriol i rai mathau o ddefnyddwyr yn y diwydiant gwastraff ac y gall hyn arwain at ddata o ansawdd gwael yn cael ei fewnbynnu i’r gwasanaeth. 

Felly, am gyfnod cychwynnol pan nad yw pawb yn cael eu gorfodi i adrodd mewn amser real, lle mae gofyniad i ddiweddaru, mewnbynnu neu gadarnhau gwybodaeth ar y gwasanaeth olrhain gwastraff, er enghraifft, pan mae gwastraff yn cyrraedd safle derbyn gwastraff, bydd angen gwneud hyn cyn gynted â phosibl ond, ym mhob achos, o fewn 48 awr. 

Dywedodd mwyafrif y rhai a ymatebodd i’r cwestiynau hyn yn yr ymgynghoriad (tua 80% ar gyfer pob math o symudiad gwastraff) eu bod yn teimlo y byddent yn gallu trosglwyddo i gofnodi mewn amser real mewn llai na 3 blynedd. Felly, 2 flynedd ar ôl i’r gwasanaeth ddod yn weithredol, byddem yn disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr naill ai’n defnyddio’r gwasanaeth mewn amser real neu’n trosglwyddo i ddefnyddio’r gwasanaeth mewn amser real, a byddem yn ceisio gorfodi hyn ymhellach. Yn y cyfamser, byddwn yn disgwyl pan fydd gofyniad i ddiweddaru, cofnodi neu gadarnhau gwybodaeth ar y gwasanaeth olrhain gwastraff, er enghraifft pan fydd gwastraff yn cael ei gasglu neu’n cyrraedd ar safle derbyn gwastraff, y bydd angen gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd, ond ym mhob achos o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd bob amser achosion lle na fydd cofnodi mewn amser real yn bosibl, megis mewn ardaloedd lle mae cysylltedd Wi-Fi gwael neu le mae gwastraff yn cael ei gasglu o safleoedd nad ydynt yn caniatáu dyfeisiau electronig. Yn yr achosion hyn, byddai’r gofyniad i gofnodi gwybodaeth ‘cyn gynted â phosibl’ ond, ym mhob achos, o fewn dau ddiwrnod gwaith, yn parhau. 

Prosesau cofnodi 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 29 i 34 yr ymgynghoriad. 

Byddwn yn parhau i brofi’r gwasanaeth TG gyda defnyddwyr wrth iddo gael ei ddatblygu i sicrhau bod ei ddyluniad yn ei gwneud yn hawdd i bobl fewnbynnu gwybodaeth ar yr adegau iawn ond, ar y cyfan, bydd ein dull gweithredu fel a ganlyn: 

Bydd un broses i gofnodi gweithgareddau a symudiadau gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus o fewn y DU, gan gynnwys gofyniad am i wybodaeth ragarweiniol am symudiadau gwastraff gael ei mewnbynnu i’r gwasanaeth olrhain gwastraff digidol cyn i’r gwastraff gael ei symud ond bydd yr amserlen hiraf bosibl yn cael ei hystyried er mwyn cefnogi camau rheoleiddio effeithiol. Trwy gyflwyno’r wybodaeth gychwynnol hon caiff cyfeirnod unigryw ei greu sy’n gysylltiedig â’r symudiad hwnnw. 

Bydd yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n trefnu symud y gwastraff yn cofnodi’r brif wybodaeth i gynhyrchu’r cyfeirnod unigryw. Rydym yn credu, yn y rhan fwyaf o achosion, y bydd hyn yn gludwr gwastraff ar ran cynhyrchwr gwastraff. 

Bydd angen i’r cludwr gwastraff a’r safle derbyn gwastraff ddiweddaru manylion yn ôl yr angen gan ddefnyddio’r cyfeirnod unigryw a chadarnhau eu rhan yn symud y gwastraff, cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ond, ym mhob achos, o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Ar gyfer allforion Gwastraff y Rhestr Werdd, bydd gwybodaeth ragarweiniol yn ofynnol hyd at 3 diwrnod gwaith cyn dechrau cludo’r gwastraff. Y person sy’n trefnu’r cludiant fydd yn gyfrifol am fewnbynnu’r wybodaeth hon. Bydd 3 diwrnod gwaith yn berthnasol i gludiant o Gymru a Lloegr, ond mae’r gwledydd eraill yn ystyried amserlen fyrrach. Bydd terfyn amser uchaf hefyd ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth hon i atal defnyddwyr rhag mewnbynnu cofnodion yn rhy bell cyn i’r symudiad ddigwydd, gan y gallai hyn atal rheoleiddwyr rhag gallu targedu archwiliadau o lwythi i’w cludo.  

Bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff yn gallu cynhyrchu ffurflen ‘Atodiad VII’ o’r wybodaeth a ddarparwyd a rhaid i’r ffurflen hon deithio gyda’r gwastraff. Fel arall, gall allforwyr ddefnyddio eu ffurflenni Atodiad VII ar wahân eu hunain ond, os ydynt yn dewis gwneud hyn, bydd gofyniad i gofnodi’r rhif cofnod gwasanaeth olrhain gwastraff arni a sicrhau bod yr wybodaeth ar y ffurflen yn cyfateb i’r wybodaeth ar y gwasanaeth olrhain gwastraff. Gall hyn olygu cynhyrchu atodiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ychwanegol megis rhif cynhwysydd, man gadael y DU ac ati. 

Yr unig eithriad i hyn yw lle mae amcangyfrifon ar gyfer dyddiad cludo a maint y gwastraff wedi’u mewnbynnu i’r cofnod olrhain gwastraff digidol neu le nad oedd manylion y cludwr yn hysbys o’r blaen. Yn yr achos hwn, rhaid i’r ffurflenni Atodiad VII sy’n teithio gyda’r gwastraff adlewyrchu’r wybodaeth go iawn a rhaid i’r cofnod olrhain gwastraff digidol gael ei ddiweddaru gyda’r gwerthoedd gwirioneddol hyn dim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith ar ôl i’r cludiant ddechrau.  

Ar gyfer mewnforion gwastraff y Rhestr Werdd, mewn newid i’r broses a nodwyd yn yr ymgynghoriad, ni fyddwn yn mynnu bod unrhyw wybodaeth yn cael ei nodi ar y gwasanaeth olrhain gwastraff am wastraff sy’n cael ei fewnforio i’r DU hyd nes i’r gwastraff hwnnw gyrraedd ei safle derbyn gwastraff cyntaf yn y DU. Gallai hwn fod yn gyfleuster dros dro cyn i’r gwastraff fynd i rywle ar gyfer ei adferiad terfynol bwriadedig.  

Sut bynnag, bydd yn ofynnol i weithredwr y safle derbyn gwastraff cyntaf wirio’r manylion ar y ffurflen Atodiad VII a fyddai’n dod gyda’r gwastraff. Os mai’r safle hwn yw’r cyfleuster adfer terfynol ar gyfer y gwastraff, byddai’r gweithredwr yn cwblhau Adran 14 o’r ffurflen Atodiad VII. Os nad y safle hwn yw’r cyfleuster adfer terfynol ar gyfer y gwastraff, byddai’r gweithredwr yn gadael yr adran hon yn wag.  

Oni bai mai gweithredwr y cyfleuster gwastraff yw’r derbynnydd hefyd (yneu’r mewnforiwr), rhaid iddo drosglwyddo’r wybodaeth Atodiad VII i’r derbynnydd a fydd angen mewnbynnu’r holl fanylion o’r ffurflen Atodiad VII yn union fel y maent i’r gwasanaeth olrhain gwastraff. Mae’r amserlenni ar gyfer hyn i’w penderfynu ond mae’n debygol y byddant yn cyd-fynd â gofynion olrhain gwastraff eraill felly. cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ond, ym mhob achos, o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Tocynnau tymor 

Dyma’r ymateb i gwestiwn 35 yr ymgynghoriad. 

Gwnaeth ymatebwyr i’r ymgynghoriad godi pryderon am faich tybiedig y gofynion newydd ar y rhai sy’n symud yr un mathau o wastraff yn rheolaidd rhwng yr un lleoliadau a deiliaid gwastraff. Roedd yr enghreifftiau a roddwyd yn cynnwys casglu gwastraff ystafelloedd ymolchi a symudiadau slwtsh yn y sector dŵr gwastraff. 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ffordd syml o gofnodi symudiadau rheolaidd ac aml o’r un mathau o wastraff rhwng yr un partïon o fewn y DU nad yw’n cynnwys cofnodion unigol cyflawn ar gyfer pob symudiad. Byddwn yn profi opsiynau ar gyfer hyn gyda defnyddwyr fel rhan o’r datblygiad digidol. 

Rolau a chyfrifoldebau 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 36 a 37 yr ymgynghoriad. 

Roedd y rhan fwyaf o’r pryderon a godwyd gyda’n cynigion am rolau a chyfrifoldebau deiliaid gwastraff yn ymwneud â lefel cymhwysedd a gallu cynhyrchydd i ddosbarthu gwastraff. 

Rydym yn deall y bydd cynhyrchydd, mewn llawer o achosion, yn gofyn am gymorth gan rywun yn y diwydiant gwastraff i gwblhau cofnodion gwastraff presennol, gan gynnwys dosbarthu’r gwastraff, er enghraifft drwyddewis y cod chwe digid EWC cywir ac unrhyw godau neu briodweddau cemegol eraill sy’n berthnasol. 

Fodd bynnag, cynhyrchwyr yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i hysbysu’r person hwnnw am yr hyn yw eu gwastraff mewn termau cyffredinol a sut mae wedi’i gynhyrchu. Mae hon yn wybodaeth hanfodol i helpu trydydd parti i bennu’r dosbarthiad gwastraff a chwblhau cofnod gwasanaeth olrhain gwastraff yn gywir. Mae cynhyrchwyr gwastraff hefyd yn destun dyletswydd gofal gwastraff ac, yn y pen draw, nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu gwastraff wedi’i drin yn briodol.  

Os caiff cofnodion eu mewnbynnu ar y gwasanaeth gan rywun heblaw am y cynhyrchydd gwastraff rydym yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr gwastraff gadarnhau bod y y manylion sydd wedi’u mewnbynnu yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Byddai hyn yn cynnwys manylion fely disgrifiad cyffredinol o’r gwastraff, manylion y cynhyrchydd, y cyfeiriad casglu a’rdyddiadau casglu, er enghraifft. Byddwn yn profi gyda defnyddwyr y ffordd orau neu’r ffyrdd gorau o gael y cadarnhad hwn.  

Gofynion ar gyfer y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 38, 39 a 40 yr ymgynghoriad. 

Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch y potensial ar gyfer camddefnyddio unrhyw ddarpariaethau olrhain gwastraff amgen, ond mae ein pwerau cyfreithiol ar gyfer olrhain gwastraff yn ei gwneud yn ofynnol i ni naill ai eithrio’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol o’r angen i olrhain eu gwastraff neu ddarparu mecanwaith amgen. Credwn fod mecanwaith amgen yn well na pheidio â chael yr wybodaeth o gwbl. Bydd y rheoleiddwyr amgylcheddol ledled y DU yn parhau i ddatblygu beth ddylai’r mecanwaith hwn fod. 

Nododd llawer o’r ymatebwyr y risg o gael elfen bost fel rhan o’r darpariaethau amgen, a byddwn yn cadw hyn mewn cof. Nawr ein bod wedi adolygu pa wybodaeth sydd i’w chofnodi gan weithredwyr safleoedd derbyn gwastraff pan fydd gwastraff yn cael ei dderbyn (gweler yr adran ‘Trin gwastraff a’i dynged derfynol’), efallai y bydd gwasanaeth ffôn i ddiweddaru cofnodion yn ddigonol. 

Yr egwyddorion ar gyfer datblygu’r mecanwaith amgen yw:  

  • bydd gofyn i unigolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol ddarparu’r un wybodaeth â defnyddwyr eraill y gwasanaeth olrhain gwastraff  
  • bydd angen i unigolion sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gofrestru fel defnyddiwr sydd wedi’i allgáu’n ddigidol drwy’r mecanwaith amgen a ddarperir, a rhoi manylion am unrhyw ganiatadau safle gwastraff perthnasol a ddelir - bydd yr wybodaeth hon wedyn yn cael ei llwytho i’r gwasanaeth olrhain gwastraff (gan y rheoleiddiwr yn ôl pob tebyg) fel bod y manylion ar gael i ddefnyddwyr eraill y gwasanaeth olrhain gwastraff eu dewis yn y gwasanaeth pan fo angen 

  • bydd angen i’r rhai sy’n cofrestru fel defnyddiwr sydd wedi’i allgáu’n ddigidol ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth benodedig ynghylch pam y maent yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol. 

Mynediad at ddata, cadw data a gwybodaeth sensitif 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 41 i 45 yr ymgynghoriad. 

Mynediad at ddata 

Bydd unrhyw ddata y bwriedir ei ddarparu i’r cyhoedd ar lefel gyfanredol fel setiau data gwastraff presennol sydd ar gael yn eang, er enghraifft, StatsCymru, y Waste Data Interrogator yn Lloegr neu Environment Web yr Alban. Ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. 

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom ofyn a ddylai cynhyrchwyr gwastraff allu gweld gwybodaeth am dynged derfynol eu gwastraff. Roedd lefel uchel o gytundeb i’r cynnig hwn ac roedd y rhan fwyaf o awgrymiadau’n cefnogi’r awgrym y dylai cynhyrchwyr allu gweld beth ddigwyddodd i’w gwastraff ar y lefel gyffredinol o ‘ailgylchu’ neu ‘safle tirlenwi’ ac ati. Fel y soniwyd eisoes, mae’n anodd olrhain llwyth penodol o wastraff gan gynhyrchydd gwastraff penodol unwaith y bydd yn cyrraedd cyfleuster trin gwastraff neu orsaf trosglwyddo gwastraff. Fodd bynnag, ni fydd safle derbyn gwastraff ond wedi’i awdurdodi i gyflawni set benodol o weithgareddau yn unol ag amodau’r awdurdodiad sydd ganddo. Felly, fel y manylir yn yr adran ‘Trin gwastraff a’i dynged derfynol’ uchod, pan fydd gwastraff yn cyrraedd safle derbyn gwastraff, bydd gofyn i’r gweithredwr gofnodi ar y cofnod gwasanaeth olrhain gwastraff beth fydd yw’r dull rheoli gwastraff mewn golwg. Rydym yn disgwyl mai dyma fydd y rhan fwyaf o gynhyrchwyr gwastraff yn gallu ei weld o ran tynged derfynol y gwastraff. 

Yn gyffredinol, dim ond y rhai sy’n ymwneud â symudiad gwastraff fydd yn gallu gweld y manylion penodol am y symudiad hwnnw.  

Bydd gan swyddogion yn y rheoleiddwyr amgylcheddol fynediad at wybodaeth fanwl am symudiadau gwastraff i gefnogi eu gweithgareddau cydymffurfio a gorfodi, ond bydd gwahanol lefelau o fynediad a goruchwyliaeth yn dibynnu ar rolau’r swyddogion dan sylw.  

Nid oedd rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn deall pam y byddai angen i awdurdodau trethi gael mynediad at wybodaeth olrhain gwastraff. Mae hyn oherwydd bod awdurdodau trethi yn gyfrifol am gydymffurfiaeth a gorfodi mewn perthynas â rheolau casglu treth tirlenwi. Felly, bydd angen i ni rannu data o’r gwasanaeth olrhain gwastraff gyda nhw ond byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei rannu yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. 

Codwyd rhai pryderon am rôl awdurdodau lleol a’u mynediad at wybodaeth olrhain gwastraff fanwl, yn enwedig pan fo awdurdodau lleol yn gweithredu gweithgareddau gwastraff masnachol ac felly’n gallu cael mantais gystadleuol. Rydym yn cydnabod y pryder hwn a’r ystod eang o weithgareddau y mae awdurdodau lleol yn ymgymryd â nhw o ran gwastraff, gan gynnwys awdurdodau cynllunio gwastraff strategol. Byddwn yn ymgymryd â gwaith pellach i bennu pa wybodaeth sydd ei hangen ar wahanol swyddogaethau awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol a phenderfynu ar broses ar gyfer eu galluogi i gael mynediad at yr wybodaeth honno mewn ffordd na fydd yn rhoi eraill o dan anfantais annheg neu’n rhoi mantais annheg i awdurdodau lleol. 

Cadw data 

Rydym wedi adolygu’r cynigion cadw data ac wedi eu diwygio fel a ganlyn. 

Bydd data llawn mewn cofnodion olrhain gwastraff unigol yn cael ei gadw yn unol â’r gofynion cyfreithiol presennol ar gyfer cadw cofnodion. Felly, bydd cofnodion llawn sy’n ymwneud â gwastraff nad yw’n beryglus yn cael eu cadw ar y gwasanaeth olrhain gwastraff am ddwy flynedd, bydd cofnodion sy’n ymwneud â gwastraff peryglus (neu wastraff nad yw’n beryglus sy’n cynnwys POPs) yn cael eu cadw am dair blynedd a bydd cofnodion sy’n ymwneud â mewnforion neu allforion Gwastraff y Rhestr Werdd hefyd yn cael eu cadw am dair blynedd. Lle mae cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am wastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, caiff y rhain eu cadw ar y gwasanaeth am y cyfnod hwy o dair blynedd. 

Fodd bynnag, rydym yn bwriadu gofyn am safbwyntiau pellach gan randdeiliaid ynghylch a fyddai’n symlach cadw pob math o gofnodion ar y gwasanaeth olrhain gwastraff am 3 blynedd.  

Unwaith y bydd yr amser perthnasol wedi mynd heibio, bydd yr holl ddata personol sydd yn y cofnodion hyn yn cael ei ddileu a bydd unrhyw ddata nad yw’n bersonol sy’n weddill, er enghraifft, gwybodaeth am fathau o wastraff, data busnes ac ati, yn cael ei gadw at sawl diben, gan gynnwys defnydd ystadegol yn y dyfodol, ymchwilio i ddigwyddiad amgylcheddol neu ymchwiliad treth tirlenwi. Bydd y data hwn yn cael ei gadw yn unol â pholisïau cadw data unigol yr asiantaeth amgylchedd dan sylw.  

Bydd gallu o fewn y gwasanaeth i ddefnyddwyr lawrlwytho eu cofnodion cyn iddynt gael eu harchifo os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

Gwybodaeth sensitif 

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r cwestiwn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer rheoli gwybodaeth sensitif yn cytuno gyda’r dull a awgrymir. Gan weithio gyda rhai o’r ymatebwyr, rydym wedi nodi enghreifftiau o’r mathau penodol o wastraff a’r safleoedd lle bydd angen i ni gael mesurau rheoli mynediad gwell, felly byddwn yn parhau i fireinio’r cynigion ymhellach gyda defnyddwyr a phartïon â buddiant wrth i’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth fynd rhagddo.  

Troseddau, gorfodi a swyddogaethau rheoleiddio 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 46, 47 a 48 yr ymgynghoriad. 

Rydym yn deall y bydd y newid hwn i ffurf ddigidol o gofnodi symudiadau gwastraff yn effeithio ar lawer o bobl ac y bydd angen amser ar bobl i ymgyfarwyddo â’r prosesau newydd a’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddynt ei mewnbynnu ar y gwasanaeth. 

O’r herwydd, wrth i’r gwasanaeth ennill ei blwyf, bydd rheoleiddwyr amgylcheddol yn canolbwyntio i gychwyn ar addysg a chefnogi pobl i gydymffurfio â’r gwasanaeth newydd. Os bydd rhywun yn dal i fethu â chydymffurfio ar ôl cael addysg a chanllawiau, bydd opsiynau gorfodi pellach yn cael eu hystyried. 

O ran y sancsiynau sifil a ddylai fod ar gael ar gyfer pob un o’r troseddau, i alluogi rheoleiddwyr i gymhwyso’r ymateb mwyaf cymesur ac effeithiol i drosedd, rydym wedi penderfynu y dylai cosbau ariannol sefydlog ac amrywiol fod ar gael fel opsiynau gorfodi ar gyfer yr holl droseddau arfaethedig. 

Yn unol â’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r cwestiwn ymgynghori ynghylch a fydd terfyn uchaf ar gyfer cosbau ariannol amrywiol (VMP), nid ydym yn teimlo bod angen gosod terfyn penodol yn yr is-ddeddfwriaeth. Yn hytrach, bydd angen i’r rheoleiddwyr bennu’r terfyn yn seiliedig ar sawl ffactor a fydd yn cael eu nodi yn y ddeddfwriaeth. Bydd y rhain yn cynnwys effaith amgylcheddol (neu’r potensial ar gyfer effaith), beiusrwydd y sefydliad a/neu’r person dan sylw, a hanes o beidio â chydymffurfio. Mae hyn yn unol â pholisïau gorfodi’r amgylchedd presennol y rheoleiddwyr. Yn yr Alban, bydd deddfwriaeth arall sy’n bodoli eisoes yn cyfyngu VMP i £40,000. 

Bydd troseddau a sancsiynau presennol am beidio â dilyn y gofynion dyletswydd gofal gofynion Adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990) yn parhau, gan gynnwys y gallu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i’r deiliaid tai hynny sy’n methu â chydymffurfio â’u gofynion dyletswydd gofal i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei drosglwyddo i berson awdurdodedig megis cludwr gwastraff sydd â thrwydded briodol. 

Codi taliadau 

Dyma’r ymateb i gwestiynau 49 i 52 yr ymgynghoriad. 

Bydd tâl gwasanaeth yn gysylltiedig â defnyddio’r gwasanaeth olrhain gwastraff a fydd yn talu’r costau parhaus o redeg y gwasanaeth ac unrhyw ddatblygiadau neu welliannau pellach sydd eu hangen. 

Bydd y tâl gwasanaeth yn ffi sefydlog flynyddol o oddeutu £20 y flwyddyn. 

Bydd angen i’r tâl gwasanaeth gael ei dalu gan y rhai sy’n creu neu’n golygu cofnodion olrhain gwastraff. Ni fydd angen i’r rhai nad oes ond angen iddynt gadarnhau gwybodaeth sydd wedi’i mewnbynnu ar eu rhan, er enghraifft, cynhyrchwyr gwastraff, neu’r rhai nad ydynt ond eisiau gweld cofnodion y maent wedi bod yn rhan ohonynt, dalu’r tâl. 

Ni fydd costau gorfodi’r gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth olrhain gwastraff yn cael eu cynnwys yn y tâl. 

Bydd y rheoleiddwyr yn ymgynghori ar wahân ar unrhyw newidiadau i daliadau am eu gwaith cydymffurfio ar gyfer rhai mathau o wastraff, er enghraifft, ar gyfer gwastraff peryglus.  

Gweithredu 

Dyma’r ymateb i gwestiwn 53 yr ymgynghoriad. 

Mae’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth TG digidol wedi hen ddechrau ac rydym wrthi’n profi’r gwasanaeth wrth iddo gael ei adeiladu gydag aelodau o’n panel defnyddwyr sydd wedi ymrwymo o bob maes yn y diwydiant gwastraff.  

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio tuag at: 

Yn 2024, bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff ar gael i ddefnyddwyr ar sail wirfoddol - mae hyn yn debygol o ddigwydd fesul cam, gyda grwpiau penodol o ddefnyddwyr yn cael eu gwahodd i ddefnyddio’r gwasanaeth dros amser. 

O fis Ebrill 2025 bydd deddfwriaeth yn dod i rym ar draws y DU, yn amodol ar gymeradwyaeth ar draws y pedair deddfwrfa ac ar ôl cymeradwyaeth seneddol drwy offeryn statudol cadarnhaol.  Bydd gofynion y rheoliadau yn orfodol o’r pwynt hwn a bydd taliadau gwasanaeth yn daladwy hefyd. 

Costau, arbedion ac asesu effaith 

Dyma’r ymateb i Gwestiynau 54, 55 a 56 yr ymgynghoriad. 

Mewn ymateb i’n cwestiynau ymgynghori ynghylch costau ac arbedion tebygol i ddefnyddwyr o gyflwyno olrhain gwastraff digidol gorfodol, y thema gyffredinol oedd na allai’r ymatebwyr amcangyfrif yn gywir unrhyw ffigurau hyd nes bod manylion pellach yn hysbys.  

Byddwn yn parhau i asesu costau a manteision ein cynigion a byddwn yn cyhoeddi asesiad effaith terfynol pan fyddwn yn gosod yr is-ddeddfwriaeth yn haf 2024.