Consultation outcome

Supplementary government response (Welsh)

Updated 6 October 2023

1. Cefndir

Ar 15 Ionawr 2018, cyhoeddodd Defra a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar “gynigion i fynd i’r afael â throseddu a pherfformiad gwael yn y sector gwastraff ac i gyflwyno cosb benodedig newydd ar gyfer y ddyletswydd gofal gwastraff” (ymgynghoriad 2018). Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar safon cymhwysedd gweithredwyr safleoedd gwastraff trwyddedig, ar ddiwygio’r elfen eithriadau gwastraff o fewn y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol er mwyn atal y defnydd o eithriadau i gelu gweithgarwch anghyfreithlon, ac ar gyflwyno hysbysiad cosb benodedig am dorri’r ddyletswydd gofal gwastraff cartref. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ar 3 Gorffennaf 2018. Ar 26 Tachwedd 2018, cyhoeddwyd ymateb y llywodraeth o ran gwella safon cymhwysedd gweithredwyr mewn safleoedd gwastraff trwyddedig a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am dorri’r ddyletswydd gofal gwastraff cartref.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein dull o ddiwygio’r drefn eithriadau gwastraff ar ôl ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad 2018.

Mae’r drefn eithriadau gwastraff yn darparu system lle gall rhai gweithgareddau gwastraff risg isel gael eu cynnal o dan gynllun cofrestru, lle rhoddir eithriadau rhag gorfod dal trwydded amgylcheddol. Gwnaeth ymgynghoriad 2018 atgyfnerthu ein penderfyniad i ddiwygio, a hynny er mwyn lleihau’r risg i bobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y risg a ddaw o’r gamddefnyddio’r drefn bresennol. Rydym wedi gwneud newidiadau i fanylion ein cynigion mewn ymateb i ymgynghoriad 2018 er mwyn sicrhau bod y newidiadau’n gymesur ac yn parhau i gyflawni’r nod o leihau’r risg i bobl a’r amgylchedd.

Ers ymgynghoriad 2018, mae hefyd wedi dod i’r amlwg bod angen diwygio’r codau gwastraff ar gyfer rheoli slwtsh carthion o dan:

  • Eithriad S3 – Storio slwtsh
  • Eithriad T21 - Adfer gwastraff mewn gwaith trin dŵr gwastraff

Yn Lloegr, aethpwyd i’r afael â’r diwygiadau angenrheidiol i S3 a T21 gyda Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol [footnote 1] (RPS) dros dro gan Asiantaeth yr Amgylchedd, ac yng Nghymru gyda Phenderfyniad Rheoleiddio 66 - codau gwastraff ar gyfer slwtsh carthion a slwtsh sy’n cynnwys deunyddiau eraill.Cyn cyhoeddi RPS231 ym mis Ionawr 2020, ymgynghorodd Asiantaeth yr Amgylchedd â rhanddeiliaid perthnasol y diwydiant ynghylch y cynigion. Ceir manylion y newidiadau hyn yn Atodiad 7.

1.1 Crynodeb o’r newidiadau

Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o’r newidiadau cyffredinol sydd i’w gwneud i’r gyfundrefn eithriadau gwastraff. Mae Tabl 2 yn nodi’r newidiadau sydd i’w gwneud i’r deg eithriad gwastraff sy’n peri’r pryder mwyaf yn ogystal â nodi’r Atodiad lle gellir cael rhagor o fanylion.

Tabl 1 Crynodeb o’r newidiadau cyffredinol sydd i’w gwneud i’r gyfundrefn eithriadau gwastraff

Gwahardd y defnydd o eithriadau gwastraff o dan amodau penodol – Adran 2 Manylion Pellach
Gwahardd y defnydd o eithriadau mewn/yn agos i safleoedd trwyddedig Adran 2.1
Cyfyngu ar nifer yr eithriadau sydd wedi’u cofrestru ar safle Adran 2.2
Yr angen am wybodaeth ychwanegol i gefnogi rheoleiddio effeithiol – Adran 3 Manylion Pellach
Gofyniad gorfodol i weithredwyr gadw cofnodion ac i sicrhau eu bod ar gael ar gais Adran 3.1
Gofyniad i weithredwyr gadw cofnodion mewn fformat electronig Adran 3.2
Y gallu i reoleiddwyr osod gofynion gwybodaeth ychwanegol Adran 3.3
Gwella’r rheoleiddiad o eithriadau – Adran 4 Manylion Pellach
Taliadau eithriadau Adran 4.1
Newidiadau technegol i eithriadau – Adran 6 Manylion Pellach
Codau Gwastraff Adran 6.1
Cysondeb amodau ar draws eithriadau Adran 6.2
Diwygiadau eraill i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Adran 6.3

Tabl 2 Crynodeb o’r newidiadau cyffredinol sydd i’w gwneud i’r deg cyfundrefn eithriadau gwastraff sy’n peri’r pryder mwyaf: Newidiadau i eithriadau unigol – Adran 5

Eithriad (enw cyfredol) Newid Manylion Pellach
U1 – Defnyddio gwastraff wrth adeiladu Newid amodau Adran 5.1 ac Atodiad 1
U16 – Defnyddio rhannau o gerbydau ELV sydd wedi’u dadlygru Dileu Adran 5.2
T4 – Triniaethau paratoadol Newid amodau Adran 5.3 ac Atodiad 2
T6 – Trin pren gwastraff Newid amodau Adran 5.4 ac Atodiad 3
T8 – Triniaeth fecanyddol o deiars ar ddiwedd eu hoes Dileu Adran 5.5
T9 – Adfer metel sgrap Dileu Adran 5.6
T12 – Triniaeth â llaw Newid amodau Adran 5.7 ac Atodiad 4
D7 – Llosgi llystyfiant yn y man lle’i cynhyrchir yn unig Newid amodau Adran 5.8 ac Atodiad 5
S1 – Storio mewn cynwysyddion Newid amodau Adran 5.9 ac Atodiad 6
S2 – Storio mewn man diogel Newid amodau Adran 5.9 ac Atodiad 6

Darperir gwybodaeth hefyd ar gyfer:

  • Trwyddedau safonol newydd – Adran 7
  • Darpariaethau pontio – Adran 8
  • Newidiadau rheoleiddiol i’r drefn eithriadau gwastraff yn y dyfodol – Adran 9

2. Gwahardd y defnydd o eithriadau gwastraff o dan amodau penodol

Mae gweithredwyr gwastraff yn aml yn cofrestru sawl eithriad ar yr un safle, yn aml gyda’r bwriad o’u defnyddio ynghyd ag eithriadau eraill neu eu gweithgarwch trwyddedig. Mae hyn yn:

  • Dwysáu gweithrediadau gwastraff ac yn cynyddu proffil risg safleoedd;
  • Ei gwneud yn anodd sefydlu pa weithgareddau a wneir dan drwydded a pha rai a wneir dan eithriadau lluosog, gan ei gwneud yn anodd penderfynu â oes cydymffurfiaeth reoleiddiol neu ddim;
  • Cymhlethu monitro ac yn cynyddu costau i’r rheolyddion; ac
  • Mae’n gyffredin mewn safleoedd sy’n peri pryder a lle gwelir gweithgarwch anghyfreithlon.

Felly, rydym wedi ymgynghori ar nifer o gynigion i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

2.1 Gwahardd y defnydd o eithriadau mewn/yn agos i safleoedd trwyddedig

Roedd ymgynghoriad 2018 yn cynnig diwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol fel na ellid defnyddio eithriadau gwastraff o fewn gweithrediadau gwastraff trwyddedig. Roedd y cynnig yn cynnwys gweithgarwch a wneir dan eithriadau gwastraff ac a gynhelir yn gyfagos i safleoedd gwastraff trwyddedig ac sydd â chysylltiadau technegol uniongyrchol.

Er ein bod yn cydnabod y pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad, o ystyried y sylwadau yn eu cyfanrwydd byddwn yn gwahardd defnyddio eithriadau gwastraff mewn safleoedd trwyddedig. Mae eithriadau gwastraff ar gyfer gweithgareddau lle aseswyd bod y risg yn isel ar sail y gweithgaredd hwnnw’n unig. Yn yr un modd, mae trwyddedau amgylcheddol yn cael eu rhoi ar y ddealltwriaeth mai’r gweithgaredd trwyddedig yw’r unig weithrediad gwastraff a wneir ar y safle. Pan fo gweithgarwch trwyddedig a gweithgarwch eithriedig yn cael eu cyflawni gyda’i gilydd ni fydd y risg cronnol wedi’i asesu, a gallai’r risg i bobl a’r amgylchedd fod yn annerbyniol. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eithriadau gwastraff i ganiatáu mwy o wastraff, mathau ychwanegol o wastraff, neu brosesau trin sydd yn wahanol ac yn ychwanegol i’r rhai a awdurdodwyd gan y drwydded amgylcheddol. Mewn sefyllfaoedd lle mae gweithredwyr wedi cofrestru eithriadau sy’n ymestyn eu gweithgareddau gwastraff y tu hwnt i derfynau ac amodau eu trwydded amgylcheddol, bydd angen iddynt wneud cais am amrywiad trwydded.

Mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth bellach i’r term ‘cysylltiadau technegol uniongyrchol’. Byddwn yn ei symleiddiotrwy ddefnyddio “cyswllt uniongyrchol”, gan ddiffinio’r term yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ac yn ehangu arno yn y canllawiau.

Ystyr “cyswllt uniongyrchol” yw pan fo gweithgaredd gwastraff wedi’i eithrio:

  • yn cael ei gynnal wrth ymyl gweithrediad gwastraff trwyddedig
  • yn cael ei wneud o dan reolaeth yr un gweithredwr
  • yn defnyddio’r un staff, yr un cyfarpar neu’r un seilwaith, a phan na allai’r gweithgaredd gwastraff eithriedig gael ei gwblhau hebddynt

Mae’r term hwn yn gymorth i adnabod pan fo eithriad yn cael ei wahardd wrth ymyl safle sydd â thrwydded ar gyfer gweithgareddau rheoli gwastraff.

Yn debyg i’n gwaharddiad ar gofrestru eithriadau ar safleoedd trwyddedig, rydym hefyd yn gwahardd cofrestru eithriadau ar safleoedd cyfagos pan fo cyswllt uniongyrchol rhyngddynt. Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru brosesau ar waith i ganiatáu i dreialon sy’n ymwneud â gwastraff gael eu cynnal a dylai’r rheoleiddwyr gytuno ar y rhain fesul achos cyn iddynt gael eu dechrau.

Byddwn yn diwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i ddileu’r rheoliad sydd, pan fo eithriad wedi’i gofrestru ar safle gwastraff trwyddedig, yn dapraru bod y rhan honno o’r drwydded sy’n awdurdodi’r eithriad yn cael ei dirymu [footnote 2]. Yn hytrach, bydd y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ei gwneud yn glir y bydd unrhyw eithriad sydd wedi’i gofrestru ar safle sy’n gweithredu o dan drwydded amgylcheddol, neu lle mae cyswllt uniongyrchol, yn annilys. Deiliad y drwydded fydd yn gyfrifol am sicrhau nad ydynt yn defnyddio eithriad i ymestyn eu gweithgareddau trwyddedig yn y modd hwn. Bydd canllawiau ar gyfer eithriadau gwastraff yn cael eu diwygio i egluro ym mha fath o sefyllfaoedd y bydd hyn yn berthnasol.

Mae Rheoliad 5 o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol eisoes yn gwahardd gweithrediadau gwastraff eithriedig o fewn gweithfa. Bydd y diwygiadau hyn felly’n sicrhau cysondeb â’r dull hwnnw, drwy ei gwneud yn glir na ellir cofrestru eithriadau gwastraff pan fo Cyswllt Uniongyrchol â gweithfa neu safle trwyddedig.

2.2 Cyfyngu ar nifer yr eithriadau sydd wedi’u cofrestru ar safle

Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn caniatáu i sawl eithriad gael eu cofrestru ar yr un safle, gan olygu y gallai cynnal sawl gweithgaredd risg isel ar raddfa fach arwain at broffil risg cymhleth ar raddfa fawr. Mae’r gweithgareddau cyfunol hyn yn aml yn peri mwy o risg amgylcheddol a dylid eu rheoleiddio â thrwyddedau. Yn ymgynghoriad 2018, gwnaethom gynnig lleihau’r risg hon drwy gyfyngu ar nifer neu gwmpas yr eithriadau a gofrestrir ar un safle.

Ni fynegwyd unrhyw duedd y naill ffordd neu’r llall o ran yr opsiynau a gyflwynwyd yn ymgynghoriad 2018. Fodd bynnag, cafwyd sylwadau a oedd yn croesawu rhoi cyfyngiadau ar yr eithriadau a gofrestrir ar safle, a’r farn oedd y byddai hyn yn helpu tegwch o ran gweithgareddau trwyddedig, gan arwain at fanteision i weithredwyr cyfreithlon a chan ddiogelu pobl a’r amgylchedd yn well.

Rydym wedi ystyried y sylwadau a gafwyd ochr yn ochr ag amcan y diwygiad i atal y defnydd o eithriadau lluosog i ehangu’r terfynau a ganiateir ac i osgoi trwyddedu. Teimlwyd bod Opsiynau 2 – 4, sy’n cyfyngu ar gyfanswm nifer neu ar gyfuniadau o eithriadau, yn rhy gyfyngol ac o bosibl yn rhy gymhleth ac felly nid oeddent yn briodol. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen ag Opsiwn 1 o ymgynghoriad 2018:

  • Egluro’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol er mwyn ei gwneud yn amlwg, pan fo mwy nag un eithriad wedi’i gofrestru ar safle, bod y terfyn storio ar gyfer pob math gwahanol o wastraff wedi’i gyfyngu i’r terfyn isaf a nodir yn yr eithriadau hynny a gofrestrwyd. Er enghraifft, pe bai eithriad yn cael ei gofrestru sy’n caniatáu storio 50 metr ciwbig o bren, ynghyd ag eithriad arall sy’n caniatáu storio 60 metr ciwbig o bren, ni fyddai hyn yn caniatáu i 110 metr ciwbig o bren gael ei storio. Yn hytrach, byddai terfyn storio cyffredinol o 50 metr ciwbig, sef y terfyn isaf o’r ddau eithriad a gofrestrwyd, yn cael ei ganiatáu. Nid oes ots ym mha drefn y caiff yr eithriadau hyn eu cofrestru. Er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd, y terfyn storio isaf yw’r terfyn y mae’n rhaid i weithredwr eithriedig gydymffurfio ag ef yn eu gweithrediadau.

Mae eithriadau S1 ac S2 ar gyfer storio gwastraff yn ddiogel cyn ei adfer mewn man arall. Felly ni ellir cofrestru eithriadau S1 ac S2 ar safle lle mae cysylltiad uniongyrchol ag unrhyw eithriad gwastraff arall.

Pan fo gweithredwr yn cofrestru mwy nag un eithriad ar safle;

  • Rhaid iddynt gydymffurfio â holl amodau a chyfyngiadau’r eithriadau cofrestredig
  • Rhaid iddynt sicrhau nad yw cyfanswm y gwastraff ar y safle hwnnw, ar unrhyw un adeg ac mewn unrhyw gyfnod o amser, yn fwy na therfyn isaf yr eithriadau a gofrestrwyd

Ystyr “Safle” yw darn o dir neu lain linellol barhaus o dir lle mae gweithgaredd gwastraff eithriedig yn digwydd. Bydd y canllawiau cysylltiedig yn rhoi mwy o eglurder ynghylch ystyr safle, gan gynnwys ar ffermydd a rhwydweithiau llinellol.

3. Yr angen am wybodaeth ychwanegol i gefnogi rheoleiddio effeithiol

Ychydig iawn o wybodaeth sy’n cael ei chasglu am weithgareddau gwastraff eithriedig. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i’r rheolyddion flaenoriaethu gweithgarwch cydymffurfio ac arolygiadau. Roedd ymgynghoriad 2018 yn ceisio barn ar elfennau amrywiol yn ymwneud â gofyn am wybodaeth ychwanegol.

3.1 Gofyniad gorfodol i weithredwyr gadw cofnodion ar gyfer pob eithriad ac i sicrhau eu bod ar gael ar gais

Roedd cefnogaeth gref (94%) i weithredwyr gadw cofnodion ac i sicrhau eu bod ar gael i reoleiddwyr ar gais. Felly, byddwn yn gweithredu’r gofyniad hwn drwy ddiwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i gynnwys dyletswydd gynhyrchu a chadw cofnodion cyffredinol mewn perthynas â’r holl weithrediadau gwastraff eithriedig. Mae rhai gofynion cadw cofnodion eisoes yn bodoli ar gyfer is-set o eithriadau sydd wedi’u rhestru ar hyn o bryd ym mharagraff 17 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Bydd y gofyniad hwn yn dod i rym ar unwaith pan fo’r rheoliadau diwygiedig yn dod i rym.

Bydd disgwyl i weithredwyr lenwi ffurflen gan y rheolyddion ar gyfer yr eithriadau penodol y maent yn eu cofrestru. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys gwybodaeth fel y mathau penodol o wastraff y maent yn ei drin yn eu gweithgarwch eithriedig a manylion am y llif gwastraff. Rhaid i’r cofnod hwn fod ar gael ar gais yn y safle cofrestredig neu erbyn dyddiad penodedig os yw’r gweithredwr yn cael cais ysgrifenedig gan y rheoleiddiwr.

Bydd disgwyl i weithredwyr gweithgareddau gwastraff eithriedig gadw cofnodion drwy gydol eu gweithgarwch eithriedig ac am flwyddyn ar ôl i’w gweithgarwch ddod i ben. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu drwy’r canllawiau.

3.2 Y gofyniad i weithredwyr gadw cofnodion ar ffurf electronig a/neu mewn system a nodwyd gan y rheoleiddiwr

Roedd tri chwarter (75%) yr ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig hwn. Byddwn felly yn diwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i nodi bod yn rhaid i gofnodion fod ar gael i’r awdurdod cofrestru eithriadau ar ffurf electronig a/neu mewn system TG a nodwyd gan y rheoleiddiwr pan fo angen hynny.

Yn yr un modd â’r gofyniad i gadw cofnodion, bydd y gofyniad hwn yn dod i rym ar unwaith pan fo’r rheoliadau diwygiedig yn dod i rym. Mater i’r rheoleiddiwr fydd penderfynu pryd a pha mor aml y byddent angen i gofnodion fod ar gael (e.e. fel rhan o wiriad cydymffurfio wedi’i dargedu, neu’n rheolaidd).

O ran cofnodion o symudiadau gwastraff, mae Deddf yr Amgylchedd 2021 [footnote 3] yn cynnwys pŵer a fydd yn galluogi cyflwyno system olrhain gwastraff electronig i wella ansawdd a chywirdeb data gwastraff. Lansiodd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Defra yng Ngogledd Iwerddon ymgynghoriad ar “gyflwyno tracio gwastraff digidol gorfodol” ar 21 Ionawr 2022.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar sut i gasglu gwybodaeth gan y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol pan gyflwynir y gwasanaeth olrhain gwastraff. Bydd y rheolyddion yn ystyried y gofynion interim ar gyfer y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol o ran gwneud cofnodion sy’n ymwneud ag eithriadau. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu drwy’r canllawiau.

3.3 Gallu rheoleiddwyr i osod gofynion gwybodaeth ychwanegol mewn rhai achosion ar gyfer eithriadau unigol, unai wrth gofrestru, yn barhaus, neu ar ddiwedd gweithrediad

Roedd cefnogaeth gref i’r cynnig hwn, gydag 89% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai’r rheolyddion allu gosod gofynion gwybodaeth ychwanegol ar gyfer eithriadau unigol. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw deimlad cryf i ychwanegu gofynion ychwanegol penodol ar unwaith.

Mae’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol[footnote 4] eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sy’n ceisio cofrestriad gyfer gweithrediad gwastraff hysbysu’r awdurdod cofrestru eithriadau gyda disgrifiad o’r gweithrediad gwastraff. Byddwn yn ymestyn y manylion perthnasol yn Atodlen 2 Paragraff 10 i roi cyfle i’r rheolyddion ofyn am wybodaeth ychwanegol unai wrth gofrestru, yn barhaus, neu ar ddiwedd gweithrediad os oes angen. Gallai’r wybodaeth ychwanegol hon gynnwys, er enghraifft, pa mor hir y mae’r gweithredwr yn disgwyl i’r gweithrediad bara, ac, pan fyddent yn adnewyddu, cofnodion y gwastraff a driniwyd yn ystod y cyfnod cofrestru diwethaf.

4. Rheoleiddio eithriadau yn well

Roedd ymgynghoriad 2018 yn nodi cynigion i wneud rhagor o welliannau i’r ffordd y mae defnyddwyr eithriadau yn cael eu rheoleiddio.

4.1 Taliadau Eithriadau

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod y gwiriadau cywir ar waith pan fo eithriadau yn cael eu cofrestru, a hynny i ddiogelu rhag troseddau gwastraff. Awgrymodd nifer o ymatebwyr hefyd y dylid codi tâl am eithriadau er mwyn ariannu’r gwiriadau angenrheidiol ar y pwynt cofrestru.

Mae Deddf yr Amgylchedd 2021 yn rhoi’r pwerau i’r rheolyddion i godi tâl am gofrestriadau eithriadau. Bydd y taliadau hyn yn helpu i fuddsoddi mewn gwasanaethau cofrestru eithriadau ar-lein, a byddent yn rhwystr rhag cofrestru eithriadau yn ddiangen. Bydd taliadau hefyd yn helpu i gefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgarwch cydymffurfio sy’n seiliedig ar risg. Bydd unrhyw daliadau newydd am eithriadau yn destun ymgynghoriad pellach gan y rheolyddion.

5. Newidiadau i eithriadau unigol

Rydym wedi ystyried yr ymatebion i’n cynigion ar gyfer y deg eithriad lle bu ymgynghoriad ar unai eu dileu neu newid yr amodau. Roedd ymgynghoriad 2018 yn cynnwys tri opsiwn, ac eithrio eithriad U16 pan na ystyriwyd Opsiwn 2, ac eithriadau D7, S1 ac S2 pan na ystyriwyd Opsiwn 3:

  • Opsiwn 1 - Cadw’r eithriad heb unrhyw newidiadau i’w amodau
  • Opsiwn 2 - Newid yr eithriad, diwygio ei amodau
  • Opsiwn 3 - Dileu’r eithriad a’i gwneud yn ofynnol i’r gweithgareddau y mae’n eu cwmpasu gael eu cyflawni o dan drwydded

Ar ôl ystyried ymatebion 2018 i’r ymgynghoriad, a’r angen i leihau’r risg i bobl a’r amgylchedd, byddwn yn newid amodau saith o’r deg eithriad gwastraff ac yn cael gwared ar dri. Nodir y manylion a’r rhesymeg dros bob eithriad yn yr adran hon.

5.1 Eithriad U1 - Defnyddio gwastraff wrth adeiladu

Roedd y mwyafrif (60%) o’r ymatebwyr o blaid newid amodau eithriad U1. Mynegwyd pryderon ynghylch disgrifio gwastraff yn anghywir a chamddefnyddio’r tunelli a ganiateir o dan eithriad U1. Dywedwyd hefyd y byddai diwygio’r amodau yn helpu i greu tegwch ymhlith busnesau.

Rydym wedi ystyried ymatebion ymgynghoriad 2018 ac wedi ailasesu’r amodau a gynigiwyd er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion y diwydiant a’r angen i gynnal lefel gymesur o ddiogelwch amgylcheddol.

Byddwn felly’n newid amodau eithriad U1 er mwyn lleihau’r risg y mae camddefnydd yn ei beri i’r amgylchedd ac i iechyd pobl. Byddwn yn gwneud hyn drwy gyfyngu ar ba fath o wastraff, maint y gwastraff, a pha weithgareddau gwastraff a ganiateir mewn gweithgareddau adeiladu penodol yn hytrach na phennu terfyn cyffredinol ar gyfer yr eithriad. Byddwn hefyd yn newid enw eithriad U1 o “Defnyddio gwastraff mewn adeiladu” i “Defnyddio gwastraff i adeiladu a chynnal arwynebau a rhwystrau”. Bydd hyn yn rhoi mwy o eglurder o ran diben a bwriad eithriad U1.

Mae’r diwygiadau arfaethedig yn golygu y bydd yr eithriad U1 yn fwy cyfyngol nag y mae ar hyn o bryd mewn perthynas â’r defnydd o wastraff. Fodd bynnag, mae opsiynau eraill ar gael sy’n osgoi’r angen am drwydded amgylcheddol. Gellir defnyddio deunyddiau sy’n deillio o wastraff heb drwydded os ydynt wedi’u hadfer yn llawn ac yn cwrdd â gofynion diwedd gwastraff. Er enghraifft, drwy ddefnyddio deunydd sy’n cydymffurfio â phrotocol ansawdd [footnote 5] (Bydd Protocolau Ansawdd yn cael eu galw’n Fframweithiau Adnoddau yn y dyfodol).

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn Atodiad 1.

Gan ystyried yr egwyddorion yr ymgynghorwyd arnynt, rydym yn cynnig cyfnod pontio o 12 mis o’r dyddiad y daw’r gwelliannau i rym. Ceir rhagor o fanylion yn Adran 8.

5.2 Eithriad U16: Defnyddio rhannau o gerbydau ELV sydd wedi’u dadlygru

Mae’r rheolyddion wedi nodi lefelau uchel o weithgarwch anghyfreithlon yn gysylltiedig ag eithriad U16. Oherwydd hyn, roedd ymgynghoriad 2018 yn ceisio barn ar unai cadw eithriad U16 heb unrhyw newidiadau i’w amodau, neu ddileu’r eithriad yn gyfan gwbl. Y teimlad oedd na fyddai newid yr amodau yn mynd i’r afael â’r risg a achosir gan weithgarwch anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag eithriad U16, ac felly ni chafodd yr opsiwn hwn ei ddatblygu.

Roedd cefnogaeth gryf (86%) i ddileu’r eithriad hwn, gydag ymatebwyr yn pwysleisio’r effaith negyddol y mae gweithgarwch anghyfreithlon yn ei chael ar fusnesau cyfreithlon.

Oherwydd effaith negyddol camddefnydd o’r eithriad hwn ar yr amgylchedd a’r pryderon a godwyd gan y diwydiant rheoli gwastraff, byddwn yn dileu eithriad U16. Bydd hyn yn golygu y bydd gweithredwyr sy’n defnyddio’r eithriad hwn ar hyn o bryd angen trwydded amgylcheddol i weithredu, neu bydd rhaid iddynt roi’r gorau i unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig ag eithriad U16.

Nid ydym yn rhagweld unrhyw effeithiau negyddol o ddileu’r eithriad hwn. Bydd y rhai sy’n dymuno parhau â gweithrediadau gwastraff o’r fath yn gorfod gwneud hynny o dan drwydded, a bydd hynny’n yn darparu rheolaeth reoleiddiol fwy cadarn.

Bydd cyfnod pontio byr o 3 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Adran 8.

5.3 Eithriad T4: Triniaethau paratoadol, megis bwndelu, didoli, a darnio

Roedd bron i dri chwarter (72%) yr ymatebwyr yn cefnogi naill ai newid neu ddileu’r eithriad hwn, gyda mwyafrif bychan (51%) yn ffafrio ei ddileu.

Gan ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad 2018, mae Defra a Llywodraeth Cymru o’r farn bod gan yr eithriad T4 rôl i’w chwarae o ran cefnogi’r farchnad casglu ac adfer gwastraff, ar yr amod bod cyfyngiadau ar y gweithgareddau gwastraff dan sylw er mwyn sicrhau eu bod yn risg isel. Am y rheswm hwn, byddwn yn newid amodau eithriad T4. Byddwn yn lleihau’r terfynau storio ac yn diwygio’r amodau ar gyfer mathau penodol o wastraff er mwyn sicrhau trosiant cyflymach ac i leihau pentyrru. Byddwn hefyd yn diwygio’r amodau cyffredinol i leihau’r risg o dân. Byddwn yn diwygio teitl yr eithriad o: “Triniaethau paratoadol (bwndelu, didoli, darnio etc.)” i “T4 Triniaeth baratoadol o wastraff”.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn Atodiad 2.

Bydd cyfnod pontio o 6 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym. Ceir rhagor o fanylion am y cyfnod pontio yn Adran 8.

5.4 Eithriad T6: Trin deunydd pren gwastraff a phlanhigion gwastraff drwy greu sglodion, darnio, torri neu falurio

Roedd tri chwarter (75%) o’r ymatebwyr yn cefnogi naill ai newid neu ddileu’r eithriad hwn, gyda thuedd clir tuag at newid y darpariaethau yn hytrach na dileu’r eithriad.

Er gwaethaf bod lefel y gweithgarwch anghyfreithlon sy’n gysylltiedig â’r eithriad hwn (10%) yn is o gymharu ag eraill, mae’r risgiau tân a’r disgrifiad anghywir o bren gwastraff yn cyfiawnhau’r angen am newid. Mae Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Lloegr yn nodi dull strategol o ymdrin â throseddau gwastraff yn Lloegr, sy’n cynnwys edrych ar fesurau pellach i atal a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Gynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon a fydd yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd a byddwn yn newid amodau eithriad T6 er mwyn lleihau’r risg i bobl ac i’r amgylchedd. Byddwn yn lleihau’r terfynau storio ac yn diwygio’r amodau ar gyfer mathau penodol o wastraff er mwyn sicrhau gwell trosiant ac i leihau pentyrru. Byddwn yn diwygio teitl yr eithriad o: “Trin pren gwastraff a deunydd planhigion gwastraff drwy greu sglodion, darnio, torri neu falurio” i “Drin pren gwastraff a deunydd planhigol”.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn Atodiad 3.

Bydd cyfnod pontio o 6 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Adran 8.

5.5 Eithriad T8: Triniaeth fecanyddol o deiars ar ddiwedd eu hoes

Roedd mwy na thri chwarter (78%) o’r ymatebwyr o blaid newid neu ddileu’r eithriad hwn.

O ystyried lefel y risg o dân mewn perthynas â storio teiars, a thystiolaeth terfynau’r eithriadau yn cael eu rhagori’n sylweddol, rydym wedi dod i’r casgliad na ellir cadw eithriad T8.

Byddwn felly’n dileu eithriad T8 o’r gyfundrefn eithriadau gwastraff. Bydd hyn yn golygu y bydd gweithredwyr sy’n defnyddio’r eithriad hwn ar hyn o bryd angen gweithredu â thrwydded, neu bydd rhaid iddynt roi’r gorau i unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig ag eithriad T8.

Nid ydym yn rhagweld y bydd costau dileu’r eithriad hwn yn drech na’r manteision o ran diogelu’r amgylchedd a diogelwch y cyhoedd, ac rydym yn disgwyl gweld gwell cydymffurfiaeth gan y rhai sy’n symud i’r gyfundrefn drwyddedu. Rydym hefyd yn disgwyl gweld gostyngiad yn y mathau o weithgarwch troseddol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio eithriad T8. Rydym yn rhagweld y bydd hyn o fudd i weithredwyr cyfreithlon sydd ar eu colled oherwydd gweithredwyr twyllodrus.

Ni fydd dileu eithriad T8 yn effeithio ar y rhai sy’n cynhyrchu teiars gwastraff ac ond yn eu storio fel rhan o’u busnes (e.e. gosodwyr teiars, garejys, gweithredwyr adfer ar ochr y ffordd), gan fod storio teiars yn eu hadeiladau eu hunain cyn iddynt gael eu casglu yn dod o dan eithriadau’r NWFD [footnote 6].

Oherwydd effeithiau negyddol gweithgarwch anghyfreithlon ar fusnesau cyfreithlon a’r risg gysylltiedig i’r amgylchedd ac i iechyd pobl, bydd cyfnod pontio byr o 3 mis o’r dyddiad y daw’r gwelliannau i rym. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Adran 8.

5.6 Eithriad T9: Adfer metel sgrap

Roedd y mwyafrif (82%) o’r ymatebwyr o blaid newid neu ddileu’r eithriad hwn, gyda mwyafrif bychan yn ffafrio ei ddileu.

O ystyried lefel y risg mewn perthynas â thân, a’r angen am ddraenio safleoedd a monitro cydymffurfiaeth yn briodol, y dull priodol o reoleiddio’r gweithgarwch gwastraff hwn yw drwy’r gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol.

O’r herwydd, byddwn yn dileu eithriad T9. Bydd hyn yn golygu y bydd gweithredwyr sy’n defnyddio’r eithriad hwn ar hyn o bryd angen gweithredu â thrwydded, neu bydd rhaid iddynt roi’r gorau i unrhyw weithgareddau a ganiateir dan eithriad T9. Bydd dileu’r eithriad T9 yn helpu i wella’r sector ailgylchu metel a bydd yn berthnasol i bob gweithredwr yn y sector yn yr un modd.

Oherwydd nifer yr achosion o weithgarwch anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag eithriad T9 a’r effeithiau negyddol ar fusnesau cyfreithlon, bydd cyfnod pontio byr o 3 mis o’r dyddiad y daw’r gwelliannau i rym. Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pontio yn Adran 8.

5.7 Eithriad T12: Trin gwastraff â llaw

Roedd bron i dri chwarter (74%) o’r ymatebwyr yn cefnogi naill ai newid neu ddileu’r eithriad hwn, gyda thuedd clir tuag at newid y darpariaethau yn hytrach na dileu’r eithriad.

O ystyried gwerth isel rhai mathau o wastraff a ganiateir o dan eithriad T12, gan gynnwys y broses gostus o ailgylchu matresi i’w hailddefnyddio, ac oherwydd bod yr elw’n aml yn dod o’r dderbyn y ffi glwyd ac yna anwybyddu’r gwastraff, mae Defra a Llywodraeth Cymru yn credu y byddai rheolaeth dynnach yn fuddiol. Mae’n anodd gwahanu matresi i’w rhannau cyfansoddol ar gyfer prosesu, maent yn hylosg iawn, ac felly byddant yn cael eu rheoleiddio’n well o dan drwydded.

Am y rheswm hwn, byddwn yn newid amodau eithriad T12. Byddwn yn cyflwyno amodau llymach er mwyn lleihau’r risg (gan gynnwys tân) o bentyrru gwastraff ac yna’u hanwybyddu o dan eithriad T12. Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau yn Atodiad 4.

Bydd cyfnod pontio o 6 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym. Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pontio yn Adran 8.

5.8 Eithriad D7: Llosgi gwastraff yn yr awyr agored

Fel y nodir yn y Crynodeb o’r Ymatebion, byddai’n well gan 67% o ymatebwyr newid amodau eithriad D7 yn hytrach na chadw’r amodau presennol.

Mae Defra a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon a godwyd yn ystod ymgynghoriad 2018. Fodd bynnag, ystyrir bod angen y diwygiadau hyn er mwyn lleihau’r risgiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r eithriad hwn ac i sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch i’r amgylchedd ac i iechyd dynol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, a phan fo gofynion rheoliadol eraill o ran llosgi gwastraff ar y safle byddant yn ystyried dull rheoleiddio priodol. Er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi RPS 071 ar gyfer gwaredu coed a phlanhigion sydd wedi’u heintio â chlefydau planhigion penodedig [footnote 7] ac RPS 178 ar gyfer trin a gwaredu planhigion anfrodorol ymledol [footnote 8]. Mae CNC wedi mabwysiadu Penderfyniadau Rheoleiddio tebyg, sef RD58 ar gyfer trin a gwaredu planhigion anfrodorol ymledol ac RD59 ar gyfer gwaredu coed a phlanhigion sydd wedi’u heffeithio gan glefyd neu blâu. Mae’r penderfyniadau rheoleiddio hyn ar gael gan CNC ar gais.

Am y rheswm hwn, byddwn yn newid amodau eithriad D7. Byddwn yn addasu’r terfynau amser a’r amodau storio ac yn dileu’r defnydd o fathau penodol o wastraff er mwyn lleihau’r risg i’r amgylchedd ac i iechyd pobl. Byddwn yn diwygio teitl eithriad D7 o: “Llosgi gwastraff yn yr awyr agored” i “Llosgi llystyfiant ar y safle lle’i cynhyrchir”. Bydd y newid enw hwn yn rhoi mwy o eglurder ar gwmpas y gweithgareddau y mae eithriad D7 yn eu cwmpasu. Bydd angen i weithredwyr sy’n dymuno cynnal gweithgareddau na fydd yn cael eu cwmpasu gan yr eithriad D7 diwygiedig gael awdurdod i wneud hynny o dan drwydded amgylcheddol, neu bydd rhaid iddynt roi’r gorau i unrhyw weithgarwch sy’n gysylltiedig ag eithriad D7.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau yn Atodiad 5.

Bydd cyfnod pontio o 6 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym. Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pontio yn Adran 8.

5.9 Eithriadau S1: Storio gwastraff mewn cynwysyddion diogel, Eithriad S2: Storio gwastraff ar safle diogel, ac Eithriad S3: Storio slwtsh

Roedd ychydig dros hanner (57%) yr ymatebwyr yn ffafrio newid y rheolau yn hytrach na pheidio, ac roedd 80% yn cefnogi’r cynigion i rannu eithriadau S1 ac S2 yn chwe eithriad newydd (rhif S1, S2, S4, S5, S6, ac S7).

Cawsom nifer o sylwadau mewn ymateb i ymgynghoriad 2018 a oedd yn benodol i’r newidiadau manwl a gynigiwyd gyntaf gennym ar gyfer yr eithriadau S1-S7 newydd. Gan ystyried y sylwadau hyn, ac i sicrhau bod y gyfundrefn eithriadau gwastraff yn parhau i fod yn eglur ac yn ddefnyddiol i weithredwyr a rheoleiddwyr, rydym wedi penderfynu cadw eithriadau S1, S2 ac S3 yn hytrach na’u rhannu’n saith eithriad newydd a diwygiedig. Yn hytrach na gwahanu eithriadau S1 ac S2 er mwyn gwahaniaethu rhwng mathau o wastraff, rydym wedi diwygio ac ailenwi eithriadau S1 ac S2 er mwyn iddynt fod yn fwy eglur o ran pa ddeunyddiau sydd i’w storio un ai mewn cynhwysyddion diogel neu mewn safle diogel cyn eu hadfer mewn man arall. Bydd ein diwygiadau ehangach i’r drefn eithriadau gwastraff a’r gwaharddiad ar gofrestru eithriadau lluosog ar safle, neu pan fo cysylltiad uniongyrchol â thrwydded amgylcheddol, yn sicrhau’r amddiffyniadau a fwriedir drwy gynigion ymgynghori 2018.

Mae diwygiadau gofynnol pellach i fathau penodol o wastraff a ganiateir o dan eithriadau S1 ac S2 wedi dod i’r amlwg ers ymgynghoriad 2018. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol y diwydiant ynghylch y cynigion hyn lle bo angen.

Byddwn hefyd yn cynyddu’r terfynau storio yn eithriad NWFD 3 (storio gwastraff dros dro ar safle a reolir gan y cynhyrchydd) ac eithriad NWFD 4 (storio dros dro mewn man casglu) o 50 metr ciwbig i 100 metr ciwbig. Mae’r eithriadau NWFD hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu ond maent yn caniatáu i wastraff gael ei storio heb fod angen trwydded amgylcheddol neu gofrestru eithriad.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau y byddwn yn eu gwneud yn Atodiad 6.

Bydd cyfnod pontio o 12 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym ar gyfer eithriadau S1 ac S2. Ceir rhagor o fanylion am y trefniadau pontio yn Adran 8.

6. Newidiadau technegol i eithriadau

6.1 Codau gwastraff

Byddwn yn newid codau gwastraff mewn rhai eithriadau er mwyn ei gwneud yn fwy eglur pa fathau o wastraff a gwmpesir gan yr eithriadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (83%) yn cefnogi ein newidiadau arfaethedig. Nododd yr ymatebwyr bod y newidiadau’n synhwyrol ac yn bragmatig, y byddent yn cywiro gwallau blaenorol, ac y byddent yn lleihau’r potensial o wastraff yn cael ei ddosbarthu’n anghywir er mwyn cyd-fynd ag eithriadau.

Fel y nodwyd yn y crynodeb o’r ymatebion, cawsom amryw o gynigion a phryderon ychwanegol i rai o’r newidiadau a awgrymwyd gennym. Rydym wedi ystyried yr awgrymiadau a’r pryderon a dderbyniwyd ac wedi sicrhau bod y rhain wedi’u cydbwyso yn erbyn yr angen am y newidiadau arfaethedig. Mae manylion ein newidiadau i’r codau gwastraff i’w gweld yn Atodiad 7.

Ers ymgynghoriad 2018, mae wedi dod i’r amlwg bod hefyd angen diwygio’r codau gwastraff ar gyfer rheoli slwtsh carthion o dan eithriad S3 (Storio slwtsh) ac eithriad T21 (Adfer gwastraff mewn gwaith trin dŵr gwastraff). Ceir crynodeb o’r newidiadau hyn isod:

Eithriad T21: Adfer gwastraff mewn gwaith trin dŵr gwastraff

Mae angen ymestyn yr eithriad i ganiatáu trin slwtsh carthion sydd eisoes wedi ei drin yn rhannol. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynnwys yn ddiweddar yn RPS 231 yn Lloegr ac ym Mhenderfyniad Rheoliadol RD66 yng Nghymru. Er mwyn cwblhau’r RPS a’r RD ymgynghorwyd â rhanddeiliaid perthnasol yn y diwydiant. Bydd yr ychwanegiadau hyn yn adlewyrchu arferion y diwydiant ac maent yn risg isel.

Mae manylion y newidiadau hyn i’w gweld yn Nhabl B o Atodiad 7.

Eithriad S3: Slwtsh Carthion

Byddwn yn cywiro gwall gyda’r codau gwastraff sydd wedi’u rhestru ar hyn o bryd ar gyfer rheoli slwtsh carthion. Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar y terfynau storio na’r gweithgareddau a gwmpesir gan yr eithriadau hyn. Ymdrinnir â’r newidiadau hyn hefyd yn RPS 231 yn Lloegr ac ym Mhenderfyniad Rheoliadol RD66 yng Nghymru.

6.2 Cysondeb amodau ar draws eithriadau

Mae’r newidiadau a gynigir i’r saith eithriad sy’n cael eu cadw yn cynnwys newidiadau i gyfaint storio a therfynau amser rhai mathau o wastraff. Mae’n bwysig, cyn belled ag y bo’n ymarferol, bod y newidiadau a wneir yn cyd-fynd â’r amodau a osodir gan eithriadau nad ydynt wedi’u rhestru yma. Felly, yn ymgynghoriad 2018, gwnaethom nodi ein bwriad ar gyfer y newidiadau arfaethedig er mwyn osgoi unrhyw anghysondeb. Roedd mwy na thri chwarter (76%) yr ymatebwyr yn cefnogi ein dull gweithredu ac rydym wedi cynnal ymarfer i sicrhau bod ein newidiadau arfaethedig yn gyson ag amcanion eithriadau gwastraff eraill ar gyfer yr un math o wastraff neu wastraff tebyg.

6.3 Diwygiadau eraill i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Ers ein hymgynghoriad yn 2018, rydym wedi nodi mân ddiwygiadau pellach i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Mae’r diwygiadau hyn yn rhoi eglurder, yn cywiro gwallau, neu’n sicrhau cysondeb ar draws y gyfundrefn eithriadau gwastraff yn dilyn y cynigion a nodwyd yn ymgynghoriad 2018. Nid yw’r newidiadau hyn yn newid diben y gyfundrefn eithriadau. Pan nad yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i godau gwastraff, nodir hyn yn Atodiad 8.

Yn ogystal â’r cynigion a nodwyd yn ymgynghoriad 2018, nodwyd bod angen mân ddiwygiad i ddiwygiad o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a wnaed gan y Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio). Bydd y diwygiad y byddwn yn ei wneud yn cywiro gwall teipograffyddol ac nid yw’n newid diben y gyfundrefn eithriadau na’r Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio).

7. Trwyddedau rheolau safonol

Rydym yn cydnabod y gall fod angen trwyddedau rheolau safonol newydd a diwygiedig o ganlyniad i newid neu ddileu eithriadau trwy’r diwygiadau hyn. Mae ceisiadau am drwyddedau rheolau safonol yn ddewis amgen i geisiadau am drwyddedau pwrpasol mwy cymhleth. Mae’r rheolyddion yn cynnal ymgynghoriadau ar wahân lle bo angen ar drwyddedau rheolau safonol newydd. Cynhelir ymgynghoriadau mewn achosion lle mae’r rheoleiddiwr yn ystyried gweithrediadau gwastraff cyffredin sydd angen trwydded o ganlyniad i’r diwygiadau i’r gyfundrefn eithriadau gwastraff pan nad ydynt yn dod o dan y trwyddedau rheolau safonol presennol (fel y nodir ar GOV.UK [footnote 9] a gwefan CNC [footnote 10]).

8. Darpariaethau pontio

Bydd y diwygiadau rydym yn eu gwneud yn golygu y bydd nifer o’r gweithgareddau a ganiateir ar hyn o bryd gan eithriad cofrestredig angen trwydded amgylcheddol i’w cyflawni.

Egwyddorion cyffredinol ein dull o ymdrin â threfniadau pontio yw:

  • Blaenoriaethu newidiadau yn ystod y cyfnod pontio yn seiliedig ar risg amgylcheddol ac unrhyw angen i wella gallu’r rheolyddion i arfer rheolaethau priodol
  • Caniatáu cyfnodau rhesymol o amser i weithredwyr wneud penderfyniadau gwybodus am yr opsiynau sydd ar gael i’w busnes, ac i gymryd y camau angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion rheoliadol newydd
  • Caniatáu cyfnodau rhesymol o amser i weithredwyr wneud cais am drwydded amgylcheddol, lle bo hynny’n berthnasol, ac i’r rheolyddion benderfynu ar y ceisiadau hynny
  • Lleihau’r ymdrech weinyddol a’r gost sy’n gysylltiedig â gwneud newidiadau ar gyfer pawb sy’n parhau i weithredu dan eithriadau gwastraff. Y gweithgareddau hyn sy’n peri’r risg isaf ac felly dylai’r system newydd ei gwneud mor hwylus ag sy’n bosibl i’r gweithredwyr reoleiddio eu sefyllfaoedd
  • Ni fydd angen i’r rhai sy’n gweithredu o dan eithriad sydd heb ei restru yn y ddogfen hon ailgofrestru, oni bai ei fod yn rhan o’r broses adnewyddu arferol
  • Ni fydd angen i’r rhai sy’n gweithredu o dan eithriad lle newidir yr amodau ailgofrestru, ond bydd disgwyl iddynt gydymffurfio â’r amodau newydd

Yn wreiddiol, cynigiom gynnwys cyfnod pontio cyffredinol o 18 mis o’r dyddiad y daw’r diwygiadau i rym, neu hyd nes y daw’r eithriadau presennol i ben, pa un bynnag oedd y cynharaf. Roedd ychydig dros hanner (52%) yr ymatebwyr yn teimlo bod y cynigion gwreiddiol yn annigonol i weithredu’r newidiadau i’r drefn eithriadau gwastraff. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y crynodeb o’r ymatebion, roedd y safbwyntiau’n gymysg ynghylch a oedd y cyfnod pontio yn ormodol neu’n annigonol.

Roedd pryder penodol y dylai’r cyfnod pontio ar gyfer eithriadau lle ceir y lefelau uchaf o weithgarwch anghyfreithlon fod yn fyr iawn, neu iddynt ddod i rym ar unwaith mewn rhai achosion.

O ganlyniad i’r ymatebion a’r trafodaethau a gafwyd gyda’r rheolyddion, byddwn yn diwygio’r gyfundrefn eithriadau gwastraff mewn camau. Byddwn yn cynnwys dyddiad pontio i nodi pryd y bydd eithriadau yn cael ei dileu neu pryd daw’r gwelliannau i rym.

Mae’r cyfnod pontio ar gyfer pob eithriad wedi’i ystyried yn unol â’r egwyddorion cyffredinol a nodir uchod. Bwriedir i’r diwygiadau i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol gael eu gwneud o fewn y flwyddyn nesaf. Bydd rhagor o fanylion ynghylch pryd y daw’r gwelliannau i rym yn cael eu rhannu maes o law.

Eithriad Newid Cyfnod pontio (amser hyd nes y daw’r rheoliadau i rym, ar ôl eu cyhoeddi)
– U1 Defnyddio gwastraff i adeiladu a chynnal arwynebau a rhwystrau Newid amodau 12 mis
U16 – Defnyddio rhannau o gerbydau ELV sydd wedi’u dadlygru Dileu 3 mis
T4 – Triniaeth baratoadol o wastraff Newid amodau 6 mis
T6 – Trin pren gwastraff a deunydd planhigion Newid amodau 6 mis
T8 – Triniaeth fecanyddol o deiars ar ddiwedd eu hoes Dileu 3 mis
T9 – Adfer metel sgrap Dileu 3 mis
T12 – Triniaeth â llaw Newid amodau 6 mis
D7 – Llosgi llystyfiant yn y man lle’i cynhyrchir Newid amodau 6 mis
S1 – Storio gwastraff dros dro mewn cynwysyddion diogel cyn iddo gael ei adfer mewn man arall Newid amodau 12 mis
S1 – Storio gwastraff dros dro mewn safle diogel cyn iddo gael ei adfer mewn man arall Newid amodau 12 mis
Eithriad Cyfnod pontio (amser hyd nes y daw’r rheoliadau i rym, ar ôl eu cyhoeddi)
Gwahardd y defnydd o eithriadau mewn/yn agos i safleoedd trwyddedig 6 mis
Cyfyngu ar nifer yr eithriadau sydd wedi’u cofrestru ar safle 6 mis
Gofyniad gorfodol i weithredwyr gadw cofnodion ac i sicrhau eu bod ar gael ar gais Yn syth
Gofyniad i weithredwyr gadw cofnodion mewn fformat electronig Yn syth
Newidiadau i godau gwastraff Yn syth

O ran yr eithriadau gwastraff sydd i’w dileu, byddwn yn gwneud darpariaeth yn y rheoliadau i weithredwyr barhau i weithredu o dan eu heithriadau presennol ar ôl y dyddiad pontio, cyn belled â’u bod wedi cyflwyno cais am drwydded i’r rheolyddion cyn y dyddiad pontio. Bydd yr amodau eithrio presennol yn parhau i fod yn gymwys ar ôl y dyddiad pontio, hyd nes y daw cofrestriad yr eithriad i ben neu hyd nes y penderfynir ar y cais am drwydded. Bydd y rheolyddion yn sefydlu dull o reoli eithriadau lle mae’r cais am drwydded yn anghyflawn neu wedi’i wrthod, a byddent yn cyfleu hyn i’r diwydiant yn uniongyrchol.

O ran yr eithriadau gwastraff sydd ag amodau i’w diwygio, bydd gweithredwyr yn gallu gweithredu o dan eu heithriadau presennol (gan gynnwys eithriadau sydd angen eu hadnewyddu) tan ddiwedd y cyfnod pontio. Ar ddiwedd y cyfnod pontio, bydd rhaid i bob gweithredwr sydd ag eithriad un ai gydymffurfio â’r amodau newydd, bod wedi gwneud cais am drwydded amgylcheddol, neu roi’r gorau i’r gweithgareddau.

Bydd eithriadau newydd sy’n ddarostyngedig i ddarpariaethau pontio ac sydd wedi’u cofrestru ar ôl y diwygiadau i’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol hefyd yn gweithredu o dan yr eithriadau presennol tan ddiwedd y cyfnod pontio.

9. Newidiadau rheoleiddiol i Eithriadau yn y dyfodol

Fel y cyfeirir ato yn Adran 4.1, drwy Ddeddf yr Amgylchedd 2021 byddwn yn rhoi’r pwerau i’r rheolyddion godi tâl am eithriadau.

Mae Deddf yr Amgylchedd 2021 hefyd yn rhoi pwerau i’r rheolyddion ddiwygio amodau eithriadau penodol heb fod angen newid deddfwriaethol. Bydd y manylion ar gyfer hyn yn cael eu datblygu’n nes ymlaen, ond ystyrir ei bod yn debygol o fod yn debyg i’r arfer presennol ar gyfer amrywio amodau trwyddedau rheolau safonol i adlewyrchu amgylchiadau newidiol ac arferion newydd. Y bwriad yw caniatáu hyblygrwydd tebyg ar gyfer gweithgareddau eithriedig sydd â risg is.

Ers Ymgynghoriad 2018 mae’r rheolyddion wedi nodi enghreifftiau lle cafodd cofrestriadau gweithredwyr eu dadgofrestru oherwydd camau gorfodi. Mewn rhai achosion, aeth gweithredwyr ati ar unwaith i ailgofrestru eithriadau er mwyn parhau i reoli gwastraff ac i dderbyn y ffi glwyd gysylltiedig, er gwaethaf bod hanes gweithgarwch troseddol yn gysylltiedig â’u gweithgarwch gwastraff. Er mwyn mynd i’r afael â throseddau gwastraff, bydd y rheolyddion yn nodi’r mecanwaith mwyaf priodol i atal y gweithgarwch anghyfreithlon hwn yn y dyfodol.