Closed consultation

Diogelu mannau addoli holiadur ymgynghoriad (Welsh) (accessible version)

Updated 31 August 2021

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 15 Mawrth 2020.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben am 23:59 ar 10 Mai 2020.

Cyflwyniad

Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymateb i’r Ymgynghoriad Diogelu Mannau Addoli. Mae’r ddogfen hon yn nodi cwestiynau’r ymgynghoriad, a gallwch ei defnyddio i baratoi eich ymateb. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 10 Mai 2020. Ni allwn dderbyn ymatebion ar ôl y dyddiad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan NatCen Social Research, ar ran y Swyddfa Gartref. Mae ymateb i’r ymgynghoriad yn hollol wirfoddol.

Sut i ymateb

Pryd bynnag y bydd yn bosibl, anfonwch eich ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein gan ddefnyddio’r ddolen ar dudalen we’r ymgynghoriad.

Os, am resymau eithriadol, nad ydych chi’n gallu defnyddio’r holiadur ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod chi’n defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch ddefnyddio’r fersiwn hon o’r holiadur a phostio eich ymateb ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod:

FAO Jeffrey DeMarco
National Centre for Social Research
35 Northampton Square
London
EC1V 0AX

Am ragor o fanylion am sut i ofyn am fformatau gwahanol, fel rhai Saesneg neu ffont bras, gweler yr adran ‘Ymateb i’r ymgynghoriad hwn’ yn y ddogfen ‘Ymgynghoriad Diogelu Mannau Addoli’, sydd ar gael ar dudalen gwe’r ymgynghoriad.

Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi

Cyhoeddir crynodeb o’r dadansoddiad a’i rannu â rhanddeiliaid. Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolion yn y dadansoddiad hwn. Os nad ydych yn dymuno i’ch ymateb gael ei grynhoi (yn ddienw) yn yr ymateb, rhowch y cais hwn yn yr adran gwybodaeth ychwanegol (cwestiwn 26).

Am fanylion sut a pham yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch yn eich ymateb, a sut y byddwn yn gofalu amdani, gweler y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’. Gellir gweld y ddogfen hon ar dudalen we’r ymgynghoriad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymateb i’r ymgynghoriad neu os oes arnoch angen help, anfonwch e-bost at protectingplacesofworship@natcen.ac.uk neu ffoniwch ar 0207 549 7161 gan ddyfynnu eich rhif ID unigryw. Os hoffech gysylltu â’r Swyddfa Gartref gyda chwestiynau mwy cyffredinol am yr ymgynghoriad, anfonwch e-bost at faithsecurity.consultation@homeoffice.gov.uk. Sylwer, mai dim ond o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 09:00 a 17:00 y bydd mewnflychau a ffonau yn cael eu monitro.

Holiadur

Bydd yr ychydig gwestiynau cyntaf yma yn yr ymgynghoriad yn holi yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymgynghoriad a hefyd am rai nodweddion personol. Defnyddir y wybodaeth hon i gefnogi dadansoddi ac i’n helpu i ddeall pwy sy’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn a chyd-destun eu hatebion.

Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolion mewn unrhyw ddadansoddiad a gynhyrchir. Cyfeiriwch at y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’ am ragor o wybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

1. Dewiswch yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Dewiswch unrhyw un sy’n berthnasol.

  • Arweinydd ffydd
  • Addolwr
  • Gweithiwr i’r llywodraeth neu’r sector cyhoeddus sy’n gweithio gyda mannau addoli a sefydliadau ffydd
  • Sefydliad trydydd sector sy’n gweithio gyda mannau addoli a sefydliadau ffydd
  • Unigolyn sy’n gweithio gyda mannau addoli a sefydliadau ffydd
  • Arbenigwr academaidd
  • Arbenigwr diogelwch
  • Heddlu
  • Y cyhoedd yn gyffredinol
  • Arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Dymuno peidio â dweud

2. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dywedwch wrthym pa sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli.

3. Os ydych yn ymateb yn rhinwedd swydd broffesiynol, pa ffydd ydych chi’n ymwneud â hi fel rhan o’r rôl hon? Dewiswch unrhyw un sy’n berthnasol.

  • Bwdhaidd
  • Cristnogol
  • Hindŵ
  • Iddewig
  • Mwslimaidd
  • Sikh
  • Unrhyw grefydd arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Amherthnasol
  • Dymuno peidio â dweud

4. Faint yw eich oedran?

  • Dan 18 oed
  • 18-24 mlwydd oed
  • 25-44 mlwydd oed
  • 45-64 mlwydd oed
  • 65-74 mlwydd oed
  • 75 mlwydd oed neu hŷn
  • Dymuno peidio â dweud

5. Pa ryw ydych chi?

  • Menyw
  • Gwryw
  • Arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Dymuno peidio â dweud

6. Ym mha ranbarth ydych chi’n byw?

  • Lloegr: Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Lloegr: Dwyrain Lloegr
  • Lloegr: Llundain
  • Lloegr: Gogledd Ddwyrain Lloegr
  • Lloegr: Gogledd Orllewin Lloegr
  • Lloegr: De Ddwyrain Lloegr
  • Lloegr: De Orllewin Lloegr
  • Lloegr: Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Lloegr: Swydd Efrog a’r Humber
  • Cymru
  • Arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Dymuno peidio â dweud

7. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich grŵp ethnig orau?

Gwyn

  • Seisnig/ Cymreig/ Albanaidd/ Gogledd Iwerddon/ Prydeinig
  • Gwyddelig
  • Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Unrhyw gefndir gwyn arall

Cefndir ethnig cymysg/lluosog

  • Gwyn a Du Caribïaidd
  • Gwyn a Du Affricanaidd
  • Gwyn ac Asiaidd
  • Unrhyw gefndir Cymysg / Grwpiau ethnig lluosog arall, disgrifiwch:

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

  • Indiaidd
  • Pacistanaidd
  • Bangladeshaidd
  • Tsieineaidd
  • Unrhyw gefndir Asiaidd/Asiaidd Prydeinig arall

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

  • Affricanaidd
  • Caribïaidd
  • Unrhyw gefndir Du/Du Prydeinig arall

Grŵp ethnig eraill

  • Arab
  • Unrhyw grŵp ethnig arall
  • Dymuno peidio â dweud

8.a) A oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sydd yn parhau, neu y disgwylir iddo barhau, 12 mis neu fwy?

  • Oes
  • Na - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 9
  • Dymuno peidio â dweud - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 9

b Os ydych wedi ateb oes i gwestiwn 8a, a yw eich cyflwr neu salwch/ a yw unrhyw un o’ch cyflyrau neu salwch yn lleihau eich gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd?

  • Ydy, llawer
  • Ydy, ychydig
  • Nac ydy
  • Dymuno peidio â dweud

9. Beth yw eich crefydd?

  • Bwdhaidd
  • Cristnogol
  • Hindŵ
  • Iddewig
  • Mwslimaidd
  • Sikh
  • Unrhyw grefydd arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Dim crefydd
  • Dymuno peidio â dweud

Ar gyfer diben yr ymgynghoriad hwn, diffinnir man addoli fel lleoliad a ddefnyddir yn benodol naill ai dros dro neu yn barhaol, i gyflawni defosiwn, gweddïo, neu i gynnal astudiaeth grefyddol.

10.a) Os ydych chi yn bersonol yn mynd i fan addoli, ar gyfartaledd, pa mor aml ydych chi’n mynychu?

  • O leiaf unwaith y dydd
  • O leiaf unwaith yr wythnos ond ddim bob dydd
  • O leiaf unwaith y mis ond ddim bob wythnos
  • O leiaf unwaith y flwyddyn ond ddim bob mis
  • Ar gyfer digwyddiadau arbennig yn unig (er enghraifft, priodasau or angladdau)
  • Byth/nid wyf fi’n bersonol yn mynychu man addoli – Os ydych wedi dewis hwn, neidiwch i gwestiwn 11a
  • Dymuno peidio â dweud

b Os ydych wedi ateb eich bod yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a, beth sy’n disgrifio lleoliad eich man addoli orau?

  • Canol dinas
  • Maestref neu gyrion dinas
  • Tref
  • Pentref neu leoliad gwledig arall
  • Arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Ddim yn gwybod
  • Dymuno peidio â dweud

c) Os ydych wedi ateb eich bod yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) pa ranbarth y mae eich man addoli?

  • Lloegr: Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Lloegr: Dwyrain Lloegr
  • Lloegr: Llundain
  • Lloegr: Gogledd Ddwyrain Lloegr
  • Lloegr: Gogledd Orllewin Lloegr
  • Lloegr: De Ddwyrain Lloegr
  • Lloegr: De Orllewin Lloegr
  • Lloegr: Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Lloegr: Swydd Efrog a’r Humber
  • Cymru
  • Arall (noder os gwelwch yn dda):
  • Ddim yn gwybod
  • Dymuno peidio â dweud

d) Os ydych wedi ateb eich bod yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a, amcangyfrifwch y nifer o unigolion sy’n mynychu eich man addoli neu ganolfan gymunedol gysylltiedig â ffydd mewn wythnos arferol.

  • 0-25
  • 26-50
  • 51-100
  • 101-200
  • 201-500
  • 501+
  • Ddim yn gwybod
  • Dymuno peidio â dweud

Mae’r cwestiynau canlynol yn holi am amgyffrediad a phrofiadau o broblemau diogelwch mewn ac o gwmpas mannau addoli. Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai’r heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy’n derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’.

11.a) Disgrifiwch pa mor ddiogel y mae mynd i’ch man addoli yn teimlo. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Hollol ddiogel
  • Eithaf diogel
  • Ddim yn ddiogel nac anniogel
  • Eithaf anniogel
  • Hollol anniogel
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch chi yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 12a
  • Nid oes gennyf fan addoli - Os byddwch chi yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 13a

b) Os ydych wedi dewis un o’r dewisiadau ar raddfa yn nghwestiwn 11a, hoffem ddeall y rhesymau pam y gall pobl fod yn teimlo’n ddiogel neu beidio wrth fynychu eu man addoli. Wrth feddwl am yr ateb a roddwyd gennych i’r cwestiwn blaenorol, a allwch esbonio pam eich bod wedi ei ddewis? (uchafswm o 300 gair)









Mae’r ychydig gwestiynau nesaf am droseddau casineb a gyflawnir yn erbyn mannau addoli. Diffinnir Troseddau Casineb fel “unrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd dybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.”

Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai’r heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy’n derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y ‘Ddogfen Gwybodaeth Data’.

12.a) Wrth feddwl am y man addoli yr ydych yn ei fynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi ei dargedu yn y pum mlynedd diwethaf? Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Ydw, mae troseddau casineb wedi digwydd
  • Na, ni fu troseddau casineb - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 13a
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 13a

b) Os ydych wedi ateb ydw i gwestiwn 12a, dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn ystyried eu bod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol. (uchafswm o 300 gair)









13.a) Wrth feddwl am fannau addoli eraill yr ydych yn gyfarwydd â nhw ond nad ydych yn eu mynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi eu targedu yn y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys mannau addoli yn eich ardal leol, rhai yr ydych wedi ymweld â nhw yn y gorffennol, neu rai y mae ffrindiau neu deulu yn eu mynychu. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Ydw, mae troseddau casineb wedi digwydd
  • Na, ni fu troseddau casineb - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 14a
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 14a

b) Os ydych wedi ateb ydw i gwestiwn 13a, dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn ystyried eu bod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol. (uchafswm o 300 gair)









14.a) Yn eich barn chi, a yw patrymau troseddau casineb mewn ac o gwmpas mannau addoli wedi newid o gwbl dros y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys newidiadau yn eu hamlder neu’r math o droseddau casineb a brofwyd, neu newidiadau yn lefel y pryder am droseddau casineb. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Oes, mae newid wedi digwydd
  • Na, nid oes newid wedi digwydd - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 15a
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 15a

b) Os ydych wedi ateb oes i gwestiwn 14a, disgrifiwch sut yr ydych yn meddwl y mae patrymau troseddau casineb wedi newid ac unrhyw dystiolaeth yr ydych wedi ei gweld o hyn. Gall yr enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys profiadau personol, profiadau pobl yr ydych yn eu hadnabod, gwybodaeth ar y cyfryngau, neu ymchwil. (uchafswm o 300 gair)









Yn awr fe fyddem yn hoffi i chi feddwl am bryderon diogelwch a all effeithio ar sefydliadau ffydd yn fwy eang.

15.a) Yn eich barn chi, a oes sefydliadau ffydd heblaw mannau addoli (er enghraifft, canolfannau cymunedol, cartrefi henoed, ysgolion), lle mae pobl yn gallu teimlo yn anniogel? Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Oes, y mae
  • Na, nid oes - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 16
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 16

b) Os ydych wedi ateb oes i gwestiwn 15a, amlinellwch y sefydliadau ffydd yma a pham y gall pobl deimlo yn anniogel yno. (uchafswm o 300 gair)









16. Wrth feddwl am unrhyw bryderon am ddiogelwch a/neu ddigwyddiadau troseddau casineb y gallwch fod wedi eu trafod yn barod, a allwch chi ddisgrifio’r effaith y maen nhw wedi ei gael, os o gwbl? Gall yr effeithiau gynnwys, er enghraifft, rhai emosiynol, ariannol, neu newidiadau mewn ymddygiad, a gallant gynnwys effeithiau arnoch chi, y man addoli/sefydliad ffydd, neu’r gymuned yn ehangach. (uchafswm o 300 gair)









Nod yr adran hon yw deall ffactorau penodol sydd angen eu hystyried wrth ymdrin ag anghenion diogelwch mewn mannau addoli ac o’u cwmpas i wahanol gymunedau ffydd. Yn ychwanegol at hyn, fe fyddem yn hoffi deall pa grwpiau mewn cymuned ffydd sy’n teimlo’n fwyaf bregus, a pham.

17.a) A oes unrhyw anghenion penodol i ffydd yr ydych yn gwybod amdanynt sydd angen eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli? Gall y rhain gynnwys arferion crefyddol neu ddiwylliannol neu rai agweddau ffisegol ar gyfer y mannau addoli fel tynnu esgidiau, nifer o fynedfeydd i addolwyr, neu fannau ar wahân i ddynion a menywod. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Oes, mae anghenion penodol i’w hystyried
  • Na, nid oes anghenion penodol i’w hystyried - Os byddwch yn dewis hwn, ewch ymlaen i gwestiwn 18
  • Ddim yn gwybod - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 18

b) Os ydych wedi ateb oes i gwestiwn 17a, dywedwch ragor wrthym am anghenion penodol i ffydd y dylid eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli. (uchafswm o 300 gair)









Gall rhai grwpiau mewn cymuned ffydd deimlo yn fwy bregus neu fod yn fwy agored i risg fwy nag eraill pan fyddant mewn man addoli neu o’i gwmpas. Gall hyn gynnwys y rhai sy’n cael anhawster defnyddio cyfleusterau, yn mynychu ar amser penodol o’r dydd, yn defnyddio rhannau penodol o’r adeilad, neu yn darged mwy gweladwy ar gyfer troseddau casineb.

18. Isod mae nifer o grwpiau y gall rhai pobl eu hystyried yn fwy agored i niwed nag eraill pan fyddan nhw mewn mannau addoli neu o’u cwmpas. Wrth feddwl am y grwpiau hyn mewn cymuned ffydd, nodwch pa mor agored i niwed yr ydych yn meddwl y mae pob grŵp. Gallai hyn fod yn eich cymuned ffydd chi neu un yr ydych yn gyfarwydd â hi.

Lefel bod yn agored i niwed

Grŵp Ddim yn agored i niwed o gwbl Ychydig yn agored i niwed Eithaf agored i niwed Agored iawn i niwed Eithriadol o agored i niwed Ddim yn gwybod
Menywod            
Dynion            
Pobl hŷn            
Plant            
Arweinyddion crefyddol/ffydd            
Pobl â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch            
Grwpiau lleiafrifol o ran hunaniaeth ryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol            
Grwpiau o leiafrifoedd ethnig            

19. A oes unrhyw grwpiau eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn agored i niwed? Rhestrwch y grwpiau hyn. (uchafswm o 100 gair)









20. Os ydych yn meddwl bod rhai grwpiau yn fwy agored i niwed nag eraill, esboniwch pam yr ydych yn meddwl eu bod yn arbennig o agored i niwed ac unrhyw anghenion penodol sydd ganddynt. Os yw eich ymateb yn ymwneud â chymuned o ffydd benodol, dywedwch yn glir pa ffydd yr ydych yn cyfeirio ati. (uchafswm o 300 gair









Mae llawer o fannau addoli a sefydliadau ffydd ehangach yn cymryd camau i warchod eu safleoedd a’r bobl sy’n eu defnyddio. Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Yn ychwanegol, mae nifer o gynlluniau yn cael eu rhedeg gan y llywodraeth ganolog, gan gynnwys y Cynllun Diogelwch Mannau Addoli a gyflwynwyd i leihau pa mor agored ydyn nhw i droseddau casineb, a chynlluniau ehangach i leihau bygythiadau terfysgol i fannau lle mae tyrfaoedd (er enghraifft, mae ‘Action Counters Terrorism’ (ACT) yn rhoi cyngor ac e-ddysgu a’r ymgyrch ‘Rhed, Cuddia, Dyweda’).

21.a) Wrth feddwl am y pum mlynedd diwethaf, a ydych yn ymwybodol o unrhyw gamau a gymerwyd neu weithgareddau a drefnwyd gyda’r nod o ddiogelu eich man addoli, neu fan addoli yr ydych yn gyfarwydd ag o, a’r bobl sy’n ei ddefnyddio? Gall hyn gynnwys hyfforddiant penodol, cyngor neu osod mesurau diogelwch ffisegol. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Oes, mae camau wedi eu cymryd
  • Na, nid oes camau wedi eu cymryd - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 22
  • Ddim yn gwybod - Os ydych wedi dewis hwn, ewch i gwestiwn 22

b) Os byddwch yn ateb oes i gwestiwn 21a, amlinellwch beth oedd y camau neu weithgareddau hyn ac unrhyw fanylion pam eu bod wedi eu cyflawni, a gan bwy. (uchafswm o 300 gair)









c) Os byddwch wedi ateb oes i gwestiwn 21a, a oedd unrhyw un o’r camau neu weithgareddau hyn wedi eu cyflawni gyda’r nod o ddiogelu grwpiau penodol yn y gymuned ffydd yn well? Gall yr enghreifftiau gynnwys hyfforddiant wedi ei deilwrio i blant neu’r henoed, neu oleuadau diogelwch ar gyfer mynedfeydd penodol. Dewiswch un ateb os gwelwch yn dda.

  • Oedd
  • Na - Os byddwch yn dewis hwn, ewch i gwestiwn 22
  • Ddim yn gwybod - Os ydych wedi dewis hwn, ewch i gwestiwn 22

d) Os ydych wedi ateb oedd i gwestiwn 21c), amlinellwch ar gyfer pwy yr oedd y camau neu weithgareddau hynny, beth oedden nhw’n ei gynnwys, ac unrhyw fanylion pellach pam eu bod wedi eu cyflawni, sut, a gan bwy. (uchafswm o 300 gair)









22. Beth arall fyddech chi’n hoffi ei weld yn y dyfodol i fannau addoli ymdrin â phryderon diogelwch a diogelu’r bobl sy’n eu defnyddio? Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch ffisegol, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl am beth, pwy a sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni. (uchafswm o 500 gair)









23. Wrth feddwl am gynlluniau cyfredol a’r dewisiadau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol, a oes unrhyw fathau o gefnogaeth neu weithgareddau nad ydych yn meddwl bod eu hangen neu na fyddent o gymorth wrth ymdrin â phryderon am ddiogelwch a diogelu mannau addoli a’r bobl sy’n eu defnyddio? Esboniwch beth a pham. (uchafswm o 500 gair)









24. Wrth feddwl am anghenion unrhyw grwpiau agored i niwed y cyfeirir atyn nhw yn gynharach yn yr ymgynghoriad (er enghraifft, menywod, dynion, plant, yr henoed), beth yn fwy ellid ei wneud i leihau’r graddau y maent yn agored i niwed a diwallu eu hanghenion penodol? Er enghraifft, gall hyn gynnwys hyfforddiant, cyngor neu gyfleusterau wedi eu teilwrio. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl. (uchafswm o 500 gair)









Mae gan lawer o sefydliadau rôl i’w chwarae wrth ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd, ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu safleoedd a’r rhai sydd yn eu defnyddio yn ddiogel.

25. Yn eich barn chi, beth ydych chi’n ei feddwl ddylai rôl y sefydliadau canlynol fod? Ystyriwch beth yr ydych yn ei feddwl y mae’r sefydliadau yma yn ei wneud yn dda ar hyn o bryd a beth allen nhw ei wneud yn wahanol.

  • Mannau addoli a sefydliadau neu rwydweithiau ffydd eraill
  • Llywodraeth Ganolog, gan gynnwys y Swyddfa Gartref a/neu’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Elusennau, yr heddlu, llywodraeth leol, cynghorau a sefydliadau lleol eraill (uchafswm o 500 gair)









26. Rhowch unrhyw syniadau neu sylwadau ychwanegol ar sut i ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd ymhellach ar unrhyw anghenion penodol sydd gan gymunedau. (uchafswm o 500 gair)









Diolch i chi am ymateb i’r Ymgynghoriad Diogelu Mannau Addoli.