Consultation outcome

Summary of responses (Welsh version)

Updated 8 November 2021

Rhagair

Rhagymadrodd

Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cyd rhwng 12/07/2021 a 09/08/2021 er mwyn casglu barn y diwydiant ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliad (EC) 543/2008, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011 a Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011.

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniadau’r arolwg ymgynghori a’r prif themâu a nodwyd yn yr adborth ysgrifenedig.

Cafwyd cyfanswm o wyth ymateb i’r ymgynghoriad gan un unigolyn a busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi. Ar draws yr wyth ymatebydd, cynrychiolwyd sefydliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn yr ymatebion.

Dyma’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn:

  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr
  • NFU Cymru
  • Lakeside Food Group
  • Stara Foods (UK Ltd)
  • Y Gymdeithas Masnach Cig Ryngwladol
  • Awdurdod Iechyd Porthladd Llundain
  • Cyngor Dofednod Prydain

Yr ymatebion i’r ymgynghoriad

Ein cwestiwn ni: Oeddech chi neu’ch sefydliad yn ymwybodol o’r safonau marchnata a nodir yn Rheoliad (EC) 543/2008 ac a orfodir gan Reoliadau Cig Dofednod (Lloegr) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, Rheoliadau Cig Dofednod (Yr Alban) 2011?

Atebodd pob ymatebydd eu bod yn ymwybodol o’r safonau marchnata a nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Ein cwestiwn ni: Fyddech chi ar eich ennill o gael canllaw ynghylch cydymffurfio cyn i’r dull newydd o wneud gwiriadau ar safonau marchnata cig dofednod gael ei gyflwyno?

Atebodd pob ymatebydd yr hoffen nhw gael canllawiau cydymffurfio cyn i wiriadau ar safonau marchnata gael eu cyflwyno.

Ein cwestiwn ni: Ydych chi’n rhag-weld unrhyw faterion yn y fan a’r lle o ran sicrhau bod y cig dofednod sy’n cael ei brosesu yn eich sefydliad(au) chi neu’ch aelodau neu’r sefydliadau rydych chi’n eu cynrychioli yn cydymffurfio, os bydd ein cynnig yn dod i rym?

Dywedodd rhai o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n rhag-weld unrhyw faterion uniongyrchol ynghylch cydymffurfiaeth cig dofednod sy’n cael ei brosesu pan gyflwynir y gyfres lawn o wiriadau PMMR.

Pwysleisiodd ambell un o’r ymatebwyr fod angen darparu canllawiau clir i’r diwydiant a’r cyrff rheoleiddio cyn gweithredu’r ddeddfwriaeth hon.

Ein cwestiwn ni: Beth yw’r rhwystrau allweddol, os oes rhai o gwbl, rhag cyflwyno’r gwiriadau hyn y dylen ni fod yn ymwybodol ohonynt?

Atebodd rhai ymatebwyr nad oedden nhw’n gweld unrhyw rwystrau rhag cyflwyno’r gwiriadau hyn. Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn cefnogi’r dull seiliedig ar risg a gynigiwyd yn y ddogfen ymgynghori.

Atebodd rhai ymatebwyr mai un rhwystr i gyflwyno’r gwiriadau hyn fyddai’r adnoddau rheoleiddio sydd ar gael i weithredu newidiadau PMMR a chynnal gwiriadau mewn modd amserol, sef staffio ac oedi mewn porthladdoedd i gynnal y gwiriadau.

Atebodd rhai ymatebwyr hefyd yr hoffen nhw weld system o wiriadau sy’n sicrhau tegwch a chysondeb rhwng rhanbarthau a busnesau, yn ogystal â sicrhau bod newidiadau deddfwriaethol yn gyson ledled Prydain Fawr.

Atebodd un o’r ymatebwyr: “the nature of business model for imported poultry makes it challenging [sef rhoi’r gwiriadau ar waith], a large % of produce arrives chilled in mixed consignment on lorries that have multiple delivery points, with multiple final customers.”

Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod am ddeall beth fyddai’r gwiriadau’n ei olygu cyn gallu ateb y cwestiwn hwn yn llawn.

Ein cwestiwn ni: Pa mor aml, yn eich barn chi, y dylid cynnal gwiriadau mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau, i asesu safonau marchnata, heb achosi gormod o faich ar eich busnes chi/y busnesau rydych chi’n eu cynrychioli?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn y dylai amlder y gwiriadau ddilyn dull sy’n seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth busnesau bwyd.

Atebodd rhai ymatebwyr eu bod yn credu y dylai’r gwiriadau ddigwydd bob dydd.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwirio uchafswm o un llwyth yr wythnos (mewn safleoedd rheoli ar y ffin).

Ein cwestiwn ni: Ydych chi’n credu y dylai amlder y gwiriadau newid, gan ddibynnu ar y risg o beidio â chydymffurfio mewn lladd-dai, safleoedd torri, mangreoedd manwerthu a warysau?

Atebodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr ‘ydw.’ Atebodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod o blaid dull seiliedig ar risg a hynny ar sail hanes cydymffurfiaeth pob busnes. Ychwanegodd un ymatebydd: “the legislation should allow competent authorities to carry out targeted checks when systemic issues are identified.”

Mynegodd rhai ymatebwyr hefyd y bydden nhw’n disgwyl i’r gwiriadau hyn fod yn hyblyg ac yn gymesur.

Atebodd un ymatebydd na fyddai dull ‘one size fits all’ yn briodol ac y dylid asesu ystyriaethau fel trwybwn y busnes pan fydd gwaelodlin yn cael ei sefydlu.

Ein cwestiwn ni: Sut, yn eich barn chi, y dylid sefydlu’r waelodlin ar gyfer amlder y gwiriadau?

Atebodd rhai ymatebwyr y dylid defnyddio gwiriadau untro i sefydlu gwaelodlin cydymffurfiaeth. Yna dylid asesu gwiriadau yn y dyfodol yn seiliedig ar lefel y gydymffurfiaeth a ganfuwyd yn ystod yr ymarfer i sefydlu’r waelodlin.

Atebodd un ymatebydd y dylid gwneud hyn fesul gwlad (ar gyfer mewnforion).

Ein cwestiwn ni: Yn achos mewnforion, beth yw’ch barn chi ar ddefnyddio dull risg SPS i bennu amlder y gwiriadau o dan y PMMR?

Nododd rhai ymatebwyr eu bod yn gweld defnyddio dull risg SPS fel ffordd gymesur a phragmatig o bennu lefel y gwiriadau (PMMR). Ychwanegodd rhai y dylai’r ddeddfwriaeth ganiatáu i’r amlder gael ei gynyddu’n briodol os ceir problemau neu ddiffyg cydymffurfiaeth ar gyfer mewnforion.

Atebodd rhai ymatebwyr y dylai archwiliadau ar fewnforion gael eu hasesu ar yr un lefel â chig dofednod a gynhyrchir yn ddomestig a chael eu seilio ar gydymffurfiaeth hanesyddol.

Ein cwestiwn ni: Ydych chi’n credu mai dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer amlder gwiriadau’r PMMR a ddylai gael ei ddefnyddio ar gyfer cig dofednod sy’n cael ei fewnforio o’r UE a thrydydd gwledydd eraill?

Atebodd pob ymatebydd ‘ydw’.

Dywedodd un ymatebydd yr hoffai weld arolygwyr rhanbarthol yn cael eu hanfon i’r cyrchfannau terfynol i wneud gwaith gwirio er mwyn atal oedi ar y ffin.

Ein cwestiwn ni: Mae gwiriadau cynhwysiad dŵr yn un o ofynion y ddeddfwriaeth. Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu farn ar sut mae’r profion hyn yn cael eu rhoi ar waith?

Mynegodd un ymatebydd bryderon am y cynnig i ddisodli ffioedd sefydlog ar gyfer gwiriadau cynhwysiad dŵr. Atebodd ymatebwyr yr hoffen nhw gael mwy o eglurder ynghylch sut y bydd y cymal codi tâl hyblyg yn gweithio.

Mynegodd un ymatebydd fod gwiriadau cynhwysiad dŵr yn bwysig ar gyfer toriadau penodol: “IE 0207 1310 00 Chilled chicken breast / thigh boneless and also 2007 1410 00 Frozen chicken breast & thigh.”

Ein cwestiwn ni: Fyddai gennych chi ddiddordeb dod i gyfarfod bwrdd crwn i drafod y broses o roi gwiriadau’r PMMR ar waith ymhellach?

Atebodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddai, dywedodd un na fyddai.

Ein cwestiwn ni: Oes gennych chi sylwadau pellach ar y bwriad i roi’r gwiriadau hyn ar waith?

Tynnodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr sylw at yr angen am eglurder ynghylch pwy sy’n mynd i gynnal y gwiriadau a sut.

Dywedodd ymatebwyr fod y dirwedd ddeddfwriaethol newydd yn gymhleth i gwmnïau lywio drwyddi. Er bod y diwydiant yn croesawu cynigion i gynnwys darpariaethau i wneud y rheoliadau’n glir, mae’n hanfodol bod yna gysondeb ar draws y gweinyddiaethau datganoledig.

O ran mewnforion, awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid cynnal gwiriadau mewndirol mewn gweithfeydd torri, warysau neu gyfleusterau manwerthu er mwyn atal oedi ar y ffin. Mynegodd un ymatebydd bryderon bod proseswyr mewn trydydd gwledydd yn anwybyddu’r gyfraith ynghylch gwiriadau cynhwysiad dŵr gan fynegi y dylai camau cadarn a chyflym ddilyn os ceir hyd i ddiffyg cydymffurfiaeth.

Ychwanegodd un ymatebydd fod angen mwy o eglurder ynghylch pryd y defnyddir cyfuniad o ddulliau oeri.

Nododd sawl ymatebydd fod dyddiad cau yr ymgynghoriad pedair wythnos yn ystod y gwyliau yn ei gwneud yn anodd casglu digon o dystiolaeth ac adborth i gymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad.

Ein cwestiwn ni: Oes unrhyw welliannau pellach yr hoffech eu gweld yn cael eu hystyried wrth i’r PMMR gael eu hadolygu yn y dyfodol?

Cafwyd ymatebion manwl a dynnodd sylw at nifer o faterion yr hoffai ymatebwyr eu gweld yn cael eu hystyried mewn adolygiadau yn y dyfodol. Amlinellir y rhain isod.

Dileu’r cyfeiriad at niferoedd yn y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â nifer yr ieir a’r cyfraddau stocio yn Atodiad V(b) ac Atodiad V(c)ii o Reoliad (EC) 543/2008.

Adolygiad o’r gofynion ynglŷn â dwysedd stocio ac oedrannau lladd sy’n berthnasol i wahanol dermau marchnata er mwyn sicrhau eu bod yn fwy perthnasol i systemau cynhyrchu modern.

Pe bai’r llywodraeth yn gwneud gorchymyn cartrefu oherwydd achosion hysbysadwy o ffliw adar, dywedodd nifer o ymatebwyr yr hoffen nhw weld y geiriad yn cael ei ddiwygio i egluro bod cyfnod y rhanddirymiad o 12 wythnos yn cael ei gymhwyso fesul diadell, sy’n gyson â’r ddarpariaeth a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017.

Ystyried dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer arolygiadau ar y fferm i gynhyrchwyr cig maes fel bod modd lleihau’r rhain i unwaith y flwyddyn pan fo cydymffurfiaeth dda yn cael ei dangos yn gyson, gan gysylltu hyn ag arolygiadau sicrwydd er mwyn osgoi dyblygu ymweliadau

Dylai termau a ddefnyddir i ddisgrifio proteinau penodol fel cyw iâr, cig eidion, cig oen, porc, neu doriad penodol o gig fel stêc gael eu rhestru yn y ddeddfwriaeth fel termau sydd wedi’u cadw ar gyfer cynhyrchion cig yn unig.

Y camau nesaf

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, bellach rydym yn nodi camau nesaf y Llywodraeth i wneud diwygiadau i’r PMMR i adlewyrchu dull wedi’i seilio ar risg. Mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cytuno i gydweithio’n agos i gysoni’r gwelliannau arfaethedig. Byddai hynny’n fodd i’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig roi dull cyson, wedi’i seilio ar risg, ar waith ar draws Prydain Fawr, gan greu’r baich lleiaf posibl i’r diwydiant. Ni fydd gofynion y PMMR yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu diwygio gan eu bod ar hyn o bryd yn cyd-fynd â’r UE, yn unol â’r gofynion o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd canllawiau ynghylch rhoi’r PMMR ar waith yn cael eu drafftio a’u hanfon i’r diwydiant cyn i’r drefn wirio newydd ddod i rym.