Consultation outcome

Ymgynghoriad ar ganllawiau i gefnogi'r defnydd o Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll: Ymateb y Llywodraeth

Updated 31 August 2021

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Llywodraeth ganllawiau drafft ar gyfer ymgynghori ar weithredu Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll ar 15 Awst 2019. Darperir ar gyfer Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll gan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019. Bwriedir iddynt fod yn orchmynion sifil ataliol a ddarperir gan y llysoedd i alluogi’r heddlu a phartneriaid eraill i weithio gydag oedolion a phobl ifanc sydd mewn perygl arbennig i’w llywio i ffwrdd o gario a defnyddio cyllyll mewn troseddau treisgar.

Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu y bydd Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll ar gael i’r Llysoedd ar gyfer oedolion a phobl ifanc o 12 oed i fyny. Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ofynion a gwaharddiadau gael eu hatodi gan y Llys i’r Gorchymyn er mwyn diogelu’r cyhoedd ac unigolion rhag y risg o gael eu niweidio, a hefyd i roi cymorth i’r deiliad i’w helpu i fynd i’r afael â ffactorau yn eu bywydau a allai gynyddu’r siawns o droseddu yn y dyfodol.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 25 Medi 2019.Mae’r ddogfen hon yn nodi Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad, gan fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y rhai a ymatebodd.

Cyhoeddir canllawiau’r Llywodraeth ar Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll ochr yn ochr â’r ddogfen ymateb hon.

Trosolwg o’r ymatebion

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus 36 o ymatebion ar wahân gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion.Cafodd rhai o’r ymatebion hyn eu cydlofnodi gan sefydliadau ychwanegol nad oeddent yn gallu cyflwyno eu hymateb eu hunain.

Daeth y rhan fwyaf o’r ymatebion a gafwyd oddi wrth sefydliadau sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid a lles pobl ifanc. Cafwyd ymatebion hefyd gan aelodau’r cyhoedd, adrannau eraill y llywodraeth a sefydliadau sy’n ymwneud yn benodol â throseddau treisgar.

Hoffai’r llywodraeth ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddatblygu’r canllawiau ar Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll, drwy’r ymatebion ar-lein i’r ymgynghoriad a thrwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd a gweithdai.

Daeth chwe thema benodol i’r amlwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Y rhain oedd:

  1. Ystyriaethau oedran
  2. Diogelu
  3. Ystyriaethau cyn ymgeisio
  4. Gofynion a Gwaharddiadau
  5. Cymesuredd
  6. Rôl Timau Troseddau Ieuenctid

Trafodir y themâu hyn isod a, lle y bo’n briodol, maent wedi llywio’r gwaith dilynol o ddrafftio’r canllawiau terfynol. Mae rhai ymatebion hefyd wedi llywio’r gwaith o ddrafftio’r Canllawiau Ymarferwyr Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll mwy technegol a fwriedir yn bennaf ar gyfer yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ymdrin â materion gweithdrefnol wrth wneud cais i’r llysoedd am y Gorchmynion hyn.

Cyhoeddir copi o’r Canllawiau Ymarferwyr Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll ar wefan gov.uk.

1. Ystyriaethau oedran

Awgrymodd nifer o ymatebwyr y byddai gwerth mewn amlygu’n gliriach drwy gydol y canllawiau lle’r oedd gwahanol ddulliau neu ystyriaethau’n berthnasol oherwydd oedran derbynnydd bwriadedig y Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll, gan nodi’n benodol y byddai ystyriaethau gwahanol yn berthnasol pe bai’r derbynnydd yn blentyn neu’n berson ifanc yn hytrach nag yn oedolyn.

Awgrymodd ymatebwyr fod hyn yn arbennig o berthnasol i’r agweddau hynny ar y canllawiau sy’n cwmpasu:

  • y cais i’r llys: Mae hyn yn ymwneud â rôl y Timau Troseddau Ieuenctid yn y cais, dealltwriaeth gyffredinol o’r broses gan bobl ifanc a’r gofynion statudol sy’n ymwneud â diogelu.
  • cynnwys y gorchymyn: Yn benodol, o ran dewis y gofynion a’r gwaharddiadau cadarnhaol sydd wedi’u cynnwys yn y gorchymyn. Rhaid ystyried nad yw’r rhain yn ymyrryd yn anfwriadol ag agweddau ar fywydau plant fel eu haddysg.
  • hyd y gorchymyn
  • adolygu’r gorchymyn
  • toriadau

Ymateb y Llywodraeth

Mae canllawiau Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll bellach yn mynd i’r afael yn benodol â’r ystyriaethau hyn ac yn nodi’n gliriach ble y dylid dilyn gweithdrefnau gwahanol mewn ymateb i ystyriaethau oedran. Mae hyn yn cynnwys lle y gall ystyriaethau ychwanegol fod yn berthnasol i’r rhai 18-24 oed nad ydynt yn elwa o’r amddiffyniadau statudol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed a amlygir yn adrannau ‘plant’ y canllawiau.

2. Diogelu

Awgrymodd nifer o ymatebwyr fod angen mwy ar faterion diogelu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc y gellid eu hystyried ar gyfer Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll neu eu gwneud yn destun un.

Yn benodol, pwysleisiodd ymatebwyr y prif bwysigrwydd o ddiogelu plant a phobl ifanc gyda chanllawiau ar sut y dylai partneriaethau diogelu amlasiantaethol lleol fod yn rhan o’r broses Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll, er mwyn amddiffyn plant rhag niwed.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r canllawiau bellach yn rhoi canllawiau ychwanegol ar faterion a chyfrifoldebau diogelu.
Mae’r canllawiau bellach hefyd yn nodi’r angen i ystyried atgyfeirio at wasanaethau gofal cymdeithasol plant ar gyfer asesiad o dan Ddeddf Plant 1989; ac asesu a oes angen atgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer asesiad o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

3. Ystyriaethau cyn ymgeisio

Awgrymodd sawl ymatebydd fod angen i’r canllawiau fod yn gliriach ynglŷn â’r camau y dylid eu cymryd cyn penderfynu gwneud cais am Orchymyn Atal Troseddau Cyllyll. Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft, pryd ac a ddylid gwneud ymdrechion yn gyntaf i gynnwys yr unigolyn mewn gweithgareddau ataliol a dargyfeiriol mwy anffurfiol, ar sail wirfoddol.

Ymateb y Llywodraeth

Mewn ymateb i hyn, mae adran ymgeisio’r canllawiau wedi’i diwygio.Bydd Canllawiau’r Ymarferydd yn adlewyrchu hyn wrth ystyried pryd y gallai KCPO fod yn offeryn priodol.

4. Gofynion a Gwaharddiadau

Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddai’r canllawiau’n elwa o fod yn fwy penodol wrth nodi ar ba ffurf y gallai gofynion cadarnhaol ynghlwm wrth Orchymyn Atal Troseddau Cyllyll ei chymryd, er mwyn gwella dealltwriaeth o fwriadau’r Llywodraeth wrth gynnwys darpariaeth i ganiatáu i ofynion gael eu hychwanegu at y Gorchmynion.

Nododd ymatebwyr hefyd, er bod y canllawiau drafft yn nodi’n benodol bod yn rhaid cymryd gofal i sicrhau nad yw gwaharddiadau neu ofynion sy’n gysylltiedig â Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll yn gwrthdaro â chredoau crefyddol y derbynnydd, eu gwaith na’u hymrwymiadau addysgol, nid yw’r canllawiau’n cyfeirio’n benodol at nodweddion neu grwpiau gwarchodedig eraill, y dylid gwneud addasiadau priodol ar eu cyfer yn unol â deddfwriaeth cydraddoldeb.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Canllawiau Ymarferwyr y Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll yn cynnwys rhestr o enghreifftiau o ofynion a gwaharddiadau posibl y gellid eu hychwanegu at Orchymyn.

Mae’r canllawiau bellach yn cynnwys cyfeiriad at yr holl nodweddion a grwpiau gwarchodedig yng nghyd-destun ystyried a ddylid gwneud addasiadau priodol i Orchymyn Atal Troseddau Cyllyll mewn unrhyw achos unigol.

5. Cymesuredd

Mynegodd rhai ymatebwyr bryder y gallai Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll, yn ymarferol, effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc ac oedolion o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Ymateb y Llywodraeth

Byddai Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll ar gael waeth beth fo’u hoedran neu gefndir ethnig. Felly, nid yw’r Llywodraeth yn disgwyl gweld unrhyw grŵp neu gymuned yn cael ei thargedu’n negyddol neu’n annheg drwy gyflwyno KCPOs. Ymdrinnir ag unigolion sy’n cael KCPO cyn eu collfarnu a’u dargyfeirio i ffwrdd o fywyd o droseddu cyn iddynt effeithio ar y gwasanaeth carchardai neu hyd yn oed y system gyfiawnder ehangach. Fodd bynnag, mewn perthynas â throseddwyr, mae’r data’n dangos bod gan y boblogaeth Ddu gyfradd anghymesur o ddedfrydu ar gyfer troseddau cyllyll ac arfau fesul 100,000 na’r boblogaeth Gwyn neu Asiaidd yn genedlaethol. Felly, er ein bod yn cydnabod nad yw’n bosibl diystyru’r posibilrwydd y bydd KCPOs yn cael eu gweithredu mewn cyfran uwch i droseddwyr gwrywaidd ifanc du a lleiafrifoedd ethnig, mae’r canlyniad yn debygol o fod yn llawer mwy cadarnhaol i’r unigolion eu hunain, y cymunedau y maent yn dod ohonynt a’r gymdeithas ehangach yn ei chyfanrwydd.

6. Rôl y Timau Troseddau Ieuenctid

Roedd nifer o ymatebwyr am weld eglurhad o rôl Timau Troseddau Ieuenctid mewn perthynas â Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll, a chanllawiau wedi’u hehangu arnynt. Wrth ddelio â phobl ifanc, awgrymwyd y dylid cael asesiad gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid lleol a’r Gwasanaethau Plant lleol, a chael eu barn, ar bob cam o’r broses ymgeisio ac y dylid cynrychioli eu barn yn glir i’r llys pan ystyrir y cais.

Ymateb y Llywodraeth

Mae canllawiau Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio â Thimau Troseddau Ieuenctid mewn perthynas â Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll a geisir mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Eir i’r afael â’r materion hyn hefyd yng Nghanllawiau Ymarferwyr y Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll sy’n cynnwys canllawiau gweithredol ar gyfer rhyngweithio asiantaethau â Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid a Thimau Troseddau Ieuenctid yn ystod proses y Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll.

I gloi

Cyhoeddir canllawiau’r Llywodraeth ar Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll ochr yn ochr â’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y canllawiau drafft.

Yn ystod yr ymgynghoriad, gofynnodd rhai ymatebwyr a allai’r canllawiau gynnwys astudiaethau achos i ddangos sut y gellid gweithredu’r canllawiau yn ymarferol. Mewn ymateb i hyn, mae astudiaethau achos enghreifftiol wedi’u cynnwys yng Nghanllawiau Ymarferwyr Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll, sy’n cwmpasu ceisiadau oedolion a phobl ifanc. Mae’r astudiaethau achos enghreifftiol hyn, er nad ydynt yn hollgynhwysol o bob amgylchiad posibl, wedi’u cynnwys i ddangos rhai enghreifftiau ymarferol o pryd a sut y dylid bwrw ymlaen â chais am Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll a’i ddatblygu.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn public.enquiries@homeoffice.gov.uk.