Consultation outcome

Gwella arwyddion ar groesfannau rheilffordd preifat: ymateb y llywodraeth

Updated 20 October 2023

Rhagair gan y Gweinidog Rheilffyrdd

Mae hanes yn dangos bod diogelwch ar y rheilffyrdd yn well yn y DU nag yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Ond bydd y llywodraeth bob amser yn gweithredu er mwyn cyflwyno gwelliannau pan fydd eu hangen. Un o’r meysydd y mae angen eu gwella yw croesfannau rheilffordd preifat.

Mae croesfannau rheilffordd preifat yn darparu mynediad hanfodol i lawer o bobl a busnesau ledled Prydain, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Mae llawer o’r croesfannau hyn yn cadw hawliau tramwy a oedd yn bodoli cyn bod sôn am reilffyrdd. Mae amgylchiadau wedi newid llawer ers cyflwyno’r croesfannau cyntaf yn y 19eg ganrif, â gwasanaethau trên cyflymach ac amlach, a grŵp ehangach a mwy amrywiol o ddefnyddwyr posibl, na fyddant i gyd yn gyfarwydd â chynllun croesfan benodol.

Mae gan reolwyr seilwaith rheilffyrdd megis Network Rail gyfrifoldeb pwysig am ddiogelwch ar groesfannau rheilffordd preifat, ac am sicrhau bod y croesfannau hyn yn darparu mynediad diogel sy’n adlewyrchu amgylchiadau’r 21ain ganrif i bobl a busnesau. Er mwyn eu galluogi i wneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod yr arwyddion ar y croesfannau hyn yn rhoi cyfarwyddiadau clir i ddefnyddwyr ynglŷn â sut i’w defnyddio’n ddiogel. Yn anffodus, nid yw’r arwyddion hŷn yn addas i’w diben mwyach, fel y mae digwyddiadau yn ddiweddar wedi dangos. Daeth y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd i’r casgliad, mewn adroddiad i ddau ddigwyddiad difrifol, fod angen diweddaru’r arwyddion presennol i’w gwneud yn gliriach ac yn fwy diogel i ddefnyddwyr.

Dyma pam, ym mis Ebrill 2022, y lansiodd fy adran ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig diwygio Rheoliadau Croesfannau Preifat (Arwyddion a Rhwystrau) 1996 a chyflwyno set newydd o reoliadau yn eu lle. Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, cafodd fy swyddogion adborth gwerthfawr gan weithredwyr croesfannau rheilffyrdd, cyrff rheoleiddio, busnesau ac unigolion sydd â phrofiad o ddefnyddio croesfannau preifat. Rwy’n ddiolchgar i’r rhanddeiliaid am y sylwadau adeiladol a gafwyd ar y cynigion hyn.

Roedd yr ymatebion a gafwyd yn dilyn yr ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth gref i’n cynigion ac yn awgrymu meysydd eraill y gellid eu gwella. Rydym wedi gwrando ar yr adborth hwn, ac o ganlyniad i hynny wedi gwneud newidiadau i’r arwyddion arfaethedig. Cynhaliwyd ymgynghoriad arall, ar ddiweddariadau i ddyluniad yr arwyddion, ym mis Ebrill 2023. Mae’r ddogfen hon hefyd yn darparu ymateb i ymgynghoriad mis Ebrill 2023, a bydd yr adborth a gawsom yn dilyn y ddau ymgynghoriad yn sail i’r dyluniadau arwyddion y bwriadwn eu hymgorffori mewn cyfraith yn awr. Bwriadwn roi’r ddeddfwriaeth gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo modd.

Rwy’n sylweddoli y gall agweddau ar ein cynigion fod yn anodd i rai rhannau o’r sector, gan gynnwys ein hamserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu. Er hyn, rwy’n sicr y bydd y gwelliannau diogelwch y bydd yr arwyddion newydd yn eu cynnig i ddefnyddwyr croesfannau rheilffordd yn werth yr ymdrech. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y newidiadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch parhaus ein rheilffyrdd i bob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai sy’n dibynnu ar groesfannau rheilffordd preifat.

Huw Merriman
Y Gweinidog Gwladol dros Reilffyrdd

Cefndir

Mae croesfannau rheilffordd preifat (‘croesfannau preifat’) yn bodoli lle mae’r rheilffordd yn torri ar draws hawl tramwy preifat a lle nad oes gan y cyhoedd hawl i ddefnyddio’r groesfan. Er hyn, mae’r croesfannau hyn yn chwarae rhan hanfodol drwy ddarparu mynediad i eiddo, caeau ac mewn rhai achosion, busnesau. Mae tua 3,000 o’r mathau hyn o groesfannau ym Mhrydain. Mae’r rhan fwyaf o’r croesfannau hyn ar brif linell y rheilffordd, ond mae rhai i’w gweld hefyd ar linellau rheilffordd treftadaeth a thramiau. Fel sy’n digwydd â chroesfannau cyhoeddus, mae’r prif gyfrifoldeb cyfreithiol am groesfannau preifat yn nwylo rheolwyr y seilwaith rheilffyrdd (y cyfeirir atynt yng ngweddill yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad fel ‘gweithredwyr’), sy’n cynnwys Network Rail. Mae gan berchnogion tir a chyflogwyr hefyd ddyletswyddau cyffredinol dan ddeddfwriaeth fel Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974.

Mae’r croesfannau hyn, y cyfeirir atynt yn aml fel ‘croesfannau a weithredir gan ddefnyddwyr’, at ei gilydd yn dibynnu ar y defnyddiwr i ddilyn cyfarwyddiadau a roddwyd ar arwyddion i benderfynu pa bryd y mae’n ddiogel i groesi, a gallant hefyd gynnwys mesurau eraill i sicrhau defnydd diogel ohonynt. Mae gan rai croesfannau gatiau a weithredir â llaw neu gan bŵer, tra mae eraill yn darparu ffôn i ddefnyddwyr ffonio signalwr i wirio a yw’n ddiogel i groesi. Mae eraill yn dibynnu ar ddefnyddwyr i wirio yn weledol nad oes trên yn agosáu, ac mae gan rai oleuadau stopio bach sy’n goch pan fydd trên yn agosáu ac yn troi’n wyrdd pan mae’n ddiogel i’r defnyddiwr groesi. Mae gan y mesurau hyn rym cyfreithiol a rhaid i bob arwydd neu rwystr a osodir ar, neu yn ymyl, croesfannau preifat fod yn rhai wedi’u rhagnodi mewn rheoliadau neu wedi’u hawdurdodi mewn ffordd arall gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Er hyn, nid yw arwyddion yn orfodol ar groesfannau rheilffordd preifat, a chyfrifoldeb gweithredwr y groesfan yw penderfynu, ar sail asesiad risg, a oes angen arwyddion er mwyn defnyddio croesfan benodol yn ddiogel, ac os oes, pa arwyddion.

Mae nifer ac amrywiaeth y defnyddwyr croesfannau rheilffordd preifat wedi cynyddu’n sylweddol ers cyflwyno Rheoliadau Croesfannau Preifat (Arwyddion a Rhwystrau) 1996 (rheoliadau 1996), yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y cludwyr a’r gyrwyr sy’n danfon nwyddau i gartrefi. Ni fydd pob un o’r defnyddwyr hyn yn gyfarwydd â chroesfannau preifat, ac ni fydd y defnyddwyr hyn ychwaith yn gyfarwydd â defnyddio’r croesfannau hyn yn ddiogel. Yn ogystal, mae traffig rheilffyrdd wedi cynyddu’n sylweddol ar hyd llawer o lwybrau a oedd yn arfer bod yn rhai tawel, gan gynyddu’r risg i ddefnyddwyr y croesfannau hyn.

Mae llawer o ddigwyddiadau difrifol ar groesfannau preifat wedi dangos bod angen diweddaru’r arwyddion a ddefnyddir ar y croesfannau hyn. Yn ei hadroddiadau ar y ddau ddigwyddiad yn Frampton Mansell a Frognal Farm, canfu’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) nad yw’r arwyddion presennol bob amser yn cyflawni’r swyddogaeth hon, a bod angen eu diweddaru i’w gwneud yn gliriach ac yn fwy diogel i ddefnyddwyr. Canfu adroddiad yr RAIB ar Frognal Farm hefyd fod y system lle mae ‘defnyddwyr awdurdodedig’ yn gyfrifol am ddweud wrth ymwelwyr sut i ddefnyddio croesfannau preifat yn ddiogel yn afresymol yn yr amgylchiadau presennol, ac argymhellodd y dylid adolygu ei hymarferoldeb a’i dichonoldeb.

Yr ymgyngoriadau

Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethom lansio ymgynghoriad yn gofyn am farn ynglŷn â diwygiadau arfaethedig i’r arwyddion ar y croesfannau hyn, sut yr ymdrinnir â’r cysyniad o “ddefnyddiwr awdurdodedig”, a chyfnod cyflwyno priodol ar gyfer yr arwyddion newydd. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn ynglŷn â’r newidiadau hyn ac yn caniatáu i ymatebwyr fynegi sylwadau, barn neu bryderon eraill. Derbyniwyd 64 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan gymysgedd o weithredwyr, trigolion preifat a phartïon â budd.

Roedd llawer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ymwneud â’r arwyddion eu hunain, a threuliodd yr adran flwyddyn yn gweithio gyda’r Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd, Network Rail a’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd er mwyn diwygio’r arwyddion i adlewyrchu’r sylwadau hyn a chefnogi effeithiolrwydd yr arwyddion newydd arfaethedig.

Cynhaliwyd ymgynghoriad arall ym mis Ebrill 2023, a chafwyd 39 o ymatebion.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ddau ymgynghoriad ac yn amlinellu ymateb y llywodraeth iddynt a’r camau nesaf a gynlluniwyd gennym.

Ar gyfer pwy roedd yr ymgyngoriadau

Rydym wedi cyhoeddi 2 ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc hwn ar GOV.UK. Y prif gynulleidfaoedd oedd:

  • pob gweithredwr croesfan reilffordd breifat
  • trigolion a busnesau sy’n defnyddio croesfannau rheilffordd preifat i fynd i’w heiddo
  • unrhyw barti arall sydd â budd

Y cyfnod ymgynghori

Roedd yr ymgynghoriad cychwynnol (yr ‘ymgynghoriad cyntaf’) yn 2022 yn para am 8 wythnos o 6 Ebrill i 1 Mehefin 2022. Parhaodd yr ymgynghoriad dilynol ar yr arwyddion diwygiedig (yr ‘ail ymgynghoriad’) am 5 wythnos o 5 Ebrill i 10 Mai 2023, â’r cyfnod byrrach yn adlewyrchu cwmpas mwy cyfyngedig yr ymgynghoriad. Gellid cyflwyno ymatebion drwy ebost neu drwy’r post.

Y cynigion

Roedd yr ymgynghoriad cyntaf a gyhoeddwyd gan yr adran yn cynnig dirymu rheoliadau 1996 a chyflwyno set newydd o reoliadau yn eu lle. Cynigiwyd y rheoliadau newydd er mwyn rhagnodi set newydd o arwyddion sy’n darparu gwybodaeth gliriach ynglŷn â defnydd diogel o groesfannau preifat. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn:

  • cynnig dull o amnewid yr arwyddion yn Rheoliadau 1996 â’r arwyddion sydd yn y rheoliadau newydd, er mwyn sicrhau bod y rhain yn eu lle cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol
  • egluro barn yr adran nad oes gan y cysyniad o ‘ddefnyddwyr awdurdodedig’ â dyletswydd i gyfarwyddo holl ddefnyddwyr posibl eraill croesfannau preifat, a amlygwyd fel pryder gan RAIB, sail gyfreithiol

Roedd yr ail ymgynghoriad yn 2023 yn cynnig set ddiwygiedig o arwyddion yn seiliedig ar adborth o’r ymgynghoriad cyntaf. Roedd y newidiadau’n lleihau cyfanswm yr arwyddion ac yn eu gwneud yn gliriach ac yn haws i’w deall.

Methodoleg

Cynhaliwyd y ddau ymgynghoriad yn unol ag egwyddorion ymgynghori Swyddfa’r Cabinet. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyntaf dros gyfnod o 8 wythnos, ac roedd yr ail ymgynghoriad ar gael am 5 wythnos. Cyhoeddwyd y ddau ymgynghoriad ar wefan GOV.UK, a rhoddwyd cyhoeddusrwydd amdanynt i randdeiliaid ym myd diwydiant, perchnogion tir a phartïon eraill sydd â budd drwy ebost neu lythyr.

Derbyniwyd chwe deg pedwar o ymatebion i’r ymgynghoriad cyntaf gan gymysgedd o weithredwyr, trigolion preifat a phartïon â budd. Fe wnaethom asesu’r sylwadau manwl hyn a gweithio gyda’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Network Rail a’r Bwrdd Diogelwch Rheilffyrdd a Ffyrdd i ddatblygu set o arwyddion wedi’u diweddaru a oedd yn cadw ysbryd y rhai gwreiddiol, ond yn eu symleiddio a’u gwella i’w gwneud yn haws i’w deall. Profwyd yr arwyddion hyn gydag arbenigwyr croesfannau rheilffyrdd, arwyddion a ffactorau dynol i sicrhau eu bod yn glir ac yn ymarferol. Yna ymgynghorwyd eto ynglŷn â’r arwyddion hyn yn ystod ail ymgynghoriad, a derbyniasom 39 o ymatebion mewn cysylltiad â nhw.

Cafodd yr ymatebion o’r ddau ymgynghoriad eu hasesu a’u grwpio dan themâu, a cheir crynodeb ohonynt yn adran nesaf y ddogfen hon sy’n ymateb i’r ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon wedi’i strwythuro yn yr un ffordd â’r ddogfen ymgynghori gyntaf: caiff pob cwestiwn ei restru’n unigol, â chrynodeb o’r adborth a dderbyniwyd ac ymateb y llywodraeth yn union oddi tano. Rydym wedi cynnwys yr adborth ar yr arwyddion wedi’u diweddaru o’r ail ymgynghoriad yn y crynodeb o adborth i gwestiwn 3 o’r ymgynghoriad cyntaf, a oedd hefyd yn ymwneud â dyluniad yr arwyddion. Caiff unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ail ymgynghoriad nad ydynt yn ymwneud â’r arwyddion eu trafod yn y crynodeb o’r adborth i gwestiwn 7 yr ymgynghoriad gwreiddiol.

Yr ymatebion a dderbyniwyd ac ymateb y llywodraeth

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn ynglŷn â’r ddadl dros newid a amlinellir yn y ddogfen hon?

Crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiwn

O’r 39 o ymatebwyr a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, roedd 77% yn cytuno bod y ddadl dros newid yn glir.

Roedd nifer o sylwadau cefnogol gan sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd. Dywedodd un sefydliad:

credwn fod y ddadl dros newid, o ystyried digwyddiadau yn ddiweddar, yn gryf

Er hyn, mynegodd un o’r ymgyngoreion farn y gallai’r ddadl dros newid fod wedi’i gwneud yn gryfach, er ei fod yn cytuno bod gwir angen gwelliannau ar groesfannau preifat. Roedd yr ymgynghorai hwn yn awgrymu y gellid bod wedi defnyddio casgliad ehangach o dystiolaeth wrth ystyried y ddadl dros y ddeddfwriaeth newydd hon, er enghraifft darparu data penodol ar ddefnydd o groesfannau preifat (yn hytrach na defnydd cyffredinol o ffyrdd) a mwy o ddata ar newidiadau yn y defnydd gan gerddwyr neu geffylau.

Yn ychwanegol at hyn, roedd 13% o’r rhai a oedd yn cytuno bod y ddadl dros newid yn glir yn awgrymu bod y ddadl yn gliriach ar gyfer prif linell y rheilffordd. Roeddent yn dadlau bod y ddadl dros newid ar gyfer gweithredwyr rheilffordd treftadaeth, sy’n tueddu i weithredu ar gyflymder is ac sy’n tueddu i fod â phroffil risg cyffredinol is yn deillio o ddefnydd anghywir o groesfannau, yn llai argyhoeddiadol.

Ymateb y Llywodraeth

Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn dangos cytundeb cryf â’r ddadl dros newid. Mae’r llywodraeth yn sicr felly bod y sail ar gyfer gwneud y cynigion hyn yn gadarn ac mae’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ddod â’r arwyddion newydd i rym, gan ddisodli Rheoliadau presennol 1996. Rydym yn ffyddiog y bydd hyn yn helpu i wella diogelwch ar groesfannau rheilffordd preifat.

Er ein bod yn nodi’r awgrym y gellid cyflwyno tystiolaeth ehangach, credwn fod y canfyddiadau o adroddiadau blaenorol a gyhoeddwyd gan y corff ymchwilio i ddiogelwch annibynnol, RAIB, a oedd yn nodi arwyddion fel un o’r problemau ar groesfannau rheilffordd preifat, yn ogystal â’r gefnogaeth gref a fynegwyd yn yr ymgynghoriad hwn, yn sail fwy na digonol i wneud newidiadau yn y maes hwn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r gefnogaeth i’r newidiadau hyn gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a’r Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd yn rhoi hyder ychwanegol i ni mai’r dull gweithredu rydym yn ei ddilyn yw’r un cywir.

Cydnabyddir bod rheilffyrdd treftadaeth yn gweithredu’n wahanol i brif linellau, ond mae’n bwysig bod gan groesfannau rheilffyrdd preifat arwyddion cyson er mwyn osgoi dryswch i ddefnyddwyr, a allai ynddo’i hun achosi risg i ddiogelwch. O ganlyniad, gellir defnyddio’r arwyddion a ragnodir yn y rheoliadau newydd ar bob croesfan reilffordd breifat. Er hyn, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r cynigion er mwyn ystyried cymeriad unigryw rheilffyrdd treftadaeth, ar sail yr adborth a dderbyniwyd gan ymgyngoreion. Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w weld yn yr ymateb i Gwestiwn 3.

Cwestiwn 2

Beth ydych chi’n ei feddwl am y cyfnod o amser a awgrymwyd ar gyfer cyflwyno’r arwyddion newydd? A ydych yn meddwl y gallai neu y dylai’r cyfnod hwn gael ei gwtogi eto?

Crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiwn

Awgrymwyd yn yr ymgynghoriad cyntaf y dylai’r broses o gyflwyno’r arwyddion newydd ddigwydd cyn 2029 (diwedd Cyfnod Rheoli 7) a chyn hynny i Network Rail yn y rhan fwyaf o achosion. O’r 34 o ymatebion a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn, roedd 35% yn cefnogi’r cyfnod o amser a awgrymwyd ar gyfer cyflwyno’r arwyddion newydd. Roedd 32% arall o’r ymatebwyr yn meddwl, gan fod yr arwyddion yn ymwneud â diogelwch, y dylid cwtogi’r ffrâm amser. Golyga hyn fod 67% o’r ymatebwyr o blaid cadw neu gwtogi’r ffrâm amser presennol.

Er hyn, awgrymodd ymatebwyr eraill y gallai gosod yr arwyddion newydd dros gyfnod byrrach gymryd adnoddau oddi wrth fesurau diogelwch eraill sydd eu hangen ar y rhwydwaith, ac y dylid ymestyn y cyfnod cyflwyno. Mynegwyd y farn hon gan 12% o’r ymatebwyr.

Thema gyffredin ymysg yr ymatebion, ni waeth pa ffrâm amser roeddent yn ei ffafrio, oedd y dylai’r broses o gyflwyno’r arwyddion newydd fod yn seiliedig ar risg, â’r croesfannau lle mae’r risgiau mwyaf yn cael eu diweddaru yn gyntaf. Awgrymodd un o’r ymatebwyr y dylid rhoi sylw i groesfannau rheilffyrdd lle mae problemau gweld wedi’u nodi yn gyntaf gan fod y rhain yn risg uwch i bobl sydd ag anawsterau clyw.

Pryder arall a nodwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn oedd y byddai rheilffyrdd treftadaeth yn cael anhawster i gydymffurfio â’r ffrâm amser a awgrymwyd, oherwydd effeithiau parhaus pandemig COVID-19 ac anawsterau cyllid ehangach sy’n effeithio ar eu gallu i dalu costau gwneud y newidiadau.

Awgrymwyd hefyd ei bod yn bosibl y byddai prinder cyflenwad o’r arwyddion newydd, oherwydd bod mwy o alw am arwyddion yn ystod y cyfnod cyflwyno a bod cyn lleied o gwmnïau’n eu cynhyrchu.

Ymateb y Llywodraeth

Gan gymryd bod 67% o’r ymatebwyr o blaid naill ai’r ffrâm amser presennol ar gyfer cyflwyno’r arwyddion newydd, neu ei gwtogi, mae hyn yn dangos cytundeb cyffredinol y dylid gwneud hyn yn fuan. Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi dod i’r casgliad bod ein terfyn amser arfaethedig ar gyfer cwblhau’r gwaith o uwchraddio arwyddion yn yr holl groesfannau rheilffordd preifat, sef mis Mawrth 2029, yn rhesymol ac yn briodol. Bydd hyn yn rhoi nifer o flynyddoedd i weithredwyr, gan gynnwys rheilffyrdd treftadaeth, uwchraddio i’r arwyddion newydd, ac mae’n adlewyrchu Cyfnod Rheoli 7 ar gyfer rheilffyrdd prif linell. Credwn fod hon yn sefyllfa realistig a theg.

Credwn y dylai gweithredwyr ddefnyddio dull gweithredu sy’n seiliedig ar risgiau wrth uwchraddio’r arwyddion yn eu croesfannau rheilffyrdd preifat, gan ddefnyddio modelau asesu risg addas. Byddem yn disgwyl gweld gweithredwyr yn targedu’r croesfannau lle mae’r risgiau mwyaf yn gyntaf, â’r nod o leihau digwyddiadau angheuol a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Byddwn yn ysgrifennu at weithredwyr i gadarnhau ein disgwyliadau yn y cyswllt hwn.

Credwn fod y cyfnod cyflwyno presennol o nifer o flynyddoedd yn lleihau’r risg o brinder cyflenwad o’r arwyddion hyn oherwydd cyfnod o alw mawr amdanynt. Bydd y dull gweithredu seiliedig ar risg a amlinellir uchod yn golygu dull cyflwyno graddol, a fydd yn lleihau’r pwysau o ran adnoddau ar gwmnïau sy’n cynhyrchu’r rhain, tra’n sicrhau bod ardaloedd lle mae risg diogelwch yn cael sylw cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn am gynnwys a fformat yr arwyddion a gynigir yn Atodiad B? A oes gwelliannau neu awgrymiadau rydych yn eu hargymell, yn enwedig o ran pobl a allai fod ag anableddau?

Crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiwn

Derbyniasom nifer fawr o sylwadau yn ymwneud â dyluniad yr arwyddion, ac roedd rhai ohonynt yn dechnegol iawn. Er mwyn sicrhau bod arbenigwyr wedi rhoi ystyriaeth briodol i bob sylw, fe wnaethom ailsefydlu’r gweithgor a sefydlwyd yn wreiddiol i ddatblygu’r arwyddion, â’r Adran Drafnidiaeth, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Network Rail a’r Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd yn cael eu cynrychioli. Bu’r grŵp hwn yn ystyried y sylwadau ac yn datblygu dyluniadau terfynol yr arwyddion, a oedd wedyn yn destun ail ymgynghoriad ym mis Ebrill 2023. Mae’r adran a ganlyn yn rhoi crynodeb o’r prif sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf, ynghyd ag eglurhad a oedd y sylw’n arwain at newid yn nyluniadau’r arwyddion.

Sylwadau ar ddyluniadau’r arwyddion

Adborth gan ymgyngoreion

Dylid egluro pa gyfarwyddiadau sy’n gymwys i ba grwpiau o ddefnyddwyr, oherwydd mae’n bosibl nad yw’n glir i ddefnyddwyr a ddylent ddilyn yr arwydd cyfarwyddyd lefel uchel ynteu’r arwydd gwybodaeth fanwl lle mae gwrthdaro.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cytuno bod angen osgoi unrhyw risg o wrthdaro rhwng yr arwyddion hyn. Er mwyn cywiro hyn, rydym yn cynnig ymgorffori pictogramau, ym mhob adran o’r arwydd cyfarwyddyd manwl, sy’n rhoi cyfarwyddiadau cyffredinol i’r grwpiau defnyddwyr perthnasol (er enghraifft, ‘Stop Look and Listen’). Er mwyn osgoi unrhyw sefyllfa lle mae gwrthdaro rhwng yr arwydd lefel uchel a’r arwydd cyfarwyddyd manwl, rydym hefyd yn cynnig arwydd ‘STOP’ lefel uchel ychwanegol. Trafodir hyn yn fanylach yn y blwch isod.

Adborth gan ymgyngoreion

Ailystyried cynllun arwyddion ar groesfannau unigol, yn fwyaf arbennig, pa arwydd gwybodaeth ‘lefel uchel’ sy’n cael ei ddarparu ynghyd â’r arwydd rhybudd cyffredinol ar gyfer croesfannau a weithredir gan ddefnyddwyr. Gallai’r cynnig i gael arwydd ‘lefel uchel’ yn dweud wrth ddefnyddwyr am Aros, Edrych a Gwrando, defnyddio’r ffôn neu ddefnyddio’r goleuadau stopio bach fod yn ddryslyd ar groesfannau lle caiff gwahanol gyfarwyddiadau eu hargymell ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddwyr.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cytuno y gallai’r cynnig blaenorol fod yn ddryslyd, felly rydym yn awr yn cynnig amrywiad llai o’r arwydd STOP cyffredinol. Bydd hyn yn darparu cyfarwyddyd ‘lefel uchel’ cychwynnol i ddefnyddwyr aros cyn darllen yr arwydd cyfarwyddyd perthnasol sy’n cynnwys gwybodaeth fanylach i grwpiau penodol o ddefnyddwyr. Bydd arwyddion gwybodaeth lefel uchel eraill (er enghraifft ‘Stop Look and Listen’) yn dal i gael eu defnyddio lle rhoddir yr un cyfarwyddiadau i bob grŵp o ddefnyddwyr.

Adborth gan ymgyngoreion

Ailystyried pa bictogramau o grwpiau defnyddwyr sy’n cael eu cynnwys yn yr arwyddion (er enghraifft symbol beic). Er enghraifft, dywedodd rhai o’r ymgyngoreion eu bod yn marchogaeth ceffylau, ond nid oedd symbol marchogaeth ceffylau ar yr arwydd a oedd yn cael ei argymell ar gyfer y groesfan roedden nhw’n ei defnyddio.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym wedi ailystyried pa grwpiau o ddefnyddwyr ddylai gael eu cynrychioli gan bictogramau ar arwyddion unigol. Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol, roedd y pictogramau arfaethedig yn cynnwys dim ond rhai grwpiau o ddefnyddwyr. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai’r defnydd fod yn ehangach na hyn ar lawer o groesfannau preifat. Er enghraifft, mae defnydd o feiciau oddi ar y ffordd a beiciau mynydd yn gyffredin ar rai croesfannau gwledig. Mewn achosion eraill, gallai llwybr cyhoeddus ddefnyddio’r un pwynt mynediad, neu un heb fod ymhell, sydd ar gyfer defnydd preifat yn unig.

Er mwyn lleihau’r risg o ddryswch, rydym wedi ehangu’r arwyddion i gynnwys pob grŵp disgwyliedig o ddefnyddwyr yn ddiofyn. Mae hyn yn lleihau nifer yr arwyddion hefyd, gan olygu bod modd tynnu 20 o’r arwyddion cyfarwyddiadau manwl (DI) blaenorol yn ôl ar gyfer yr ail ymgynghoriad. Bydd angen i weithredwyr benderfynu pa fathau o ddefnyddwyr sy’n defnyddio pob croesfan, ar sail eu hasesiadau risg eu hunain, a dewis pa arwyddion i’w gosod o’r rhestr a ragnodwyd.

Mewn achosion lle mae pwyntiau mynediad cyhoeddus yn ymyl croesfannau preifat, gosodir arwyddion “mynediad a ganiateir yn unig” hefyd er mwyn nodi’n glir mai’r unig rai a gaiff ddefnyddio’r groesfan breifat yw’r grwpiau a gynrychiolir ar yr arwydd, os caniateir iddynt wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am yr arwydd “mynediad a ganiateir yn unig” wedi’i gynnwys yn nes ymlaen yn y tabl hwn.

Adborth gan ymgyngoreion

Lleihau nifer yr arwyddion.

Ymateb y Llywodraeth

Fel y nodwyd yn ein hymateb i’r sylw uchod, rydym wedi lleihau nifer yr arwyddion arfaethedig. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i leoli’r arwyddion newydd a bydd yn gwella cysondeb yr wybodaeth a roddir i ddefnyddwyr croesfannau.

Adborth ymgyngoreion

Mae’r arwyddion gwybodaeth manwl yn rhagdybio y bydd gan bob croesfan y gall defnyddwyr sy’n symud yn araf ei defnyddio, naill ai ffôn wedi’i osod neu signalwr sy’n cael ei gyflogi i gynghori a yw’n ddiogel i groesi. Nid yw hyn yn wir yn achos llawer o groesfannau rheilffyrdd treftadaeth a weithredir gan ddefnyddwyr, nad ydynt yn cyflogi signalwyr a/neu lle nad oes ffôn yn cael ei ddarparu.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym wedi ailystyried ein dull o arlwyo ar gyfer gofynion penodol gweithredwyr rheilffyrdd treftadaeth.

O ystyried y ffaith nad yw gweithredwyr rheilffyrdd treftadaeth yn aml yn cyflogi signalwyr, dangosir rhif ffôn unigolyn sy’n cael ei argymell gan y gweithredwr (neu’r signalwr ar brif linell y rheilffordd) ar yr arwyddion cyfarwyddyd manwl a ddarperir ar groesfannau heb ffôn lle rhoddir cyfarwyddyd i ddefnyddwyr sy’n symud yn araf neu ddefnyddwyr eraill ffonio cyn croesi.

Yn ail, rydym wedi ychwanegu arwydd ‘Stop Look and Listen’ (DI25H yn yr ail ymgynghoriad) y gellir ei leoli ar groesfannau a weithredir gan ddefnyddwyr lle nad oes ffôn, goleuadau stopio bach (MSL), neu agorwyr gatiau wedi’u pweru (POGO) ar reilffyrdd treftadaeth. Mae hyn wedi’i gynllunio ar gyfer defnydd cyffredinol ar groesfannau cerbydau, llwybrau troed a llwybrau ceffylau lle nad oes signalwr amser llawn a/neu lle gall gwasanaethau fod yn afreolaidd, fel sy’n digwydd ar rai rheilffyrdd treftadaeth. Mae’r arwydd ychwanegol hwn yn adlewyrchu’r ffaith mai Aros, Edrych a Gwrando yw’r dull croesi a ddarperir i bob grŵp o ddefnyddwyr ar rai croesfannau dros reilffyrdd treftadaeth. Disgwyliwn y bydd yr arwydd newydd hwn yn cael ei ddefnyddio ar reilffyrdd treftadaeth yn unig ac na fydd yn addas i unrhyw groesfannau sy’n cael eu rheoli gan Network Rail.

Adborth gan ymgyngoreion

Mae’r frawddeg isod yn ddryslyd: ‘Always telephone before crossing with a vehicle which is large, low, slow moving or with animals.’

A oes angen cael atalnod yn y frawddeg, ynteu a yw’r cyfarwyddiadau ddim ond yn gymwys i gerbydau gydag anifeiliaid?

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cytuno â’r gwelliant a awgrymir, ac rydym wedi rhoi atalnod yn y frawddeg hon i nodi’n glir bod y cyfarwyddyd yn gymwys i unrhyw ddefnyddiwr sy’n croesi gydag anifail (oni bai fod symbol marchogaeth ceffylau i’w weld mewn rhan arall o’r arwydd). Erbyn hyn mae’r frawddeg yn darllen: ‘Always telephone before crossing with a vehicle which is large, low, slow moving, or with animals.’

Adborth gan ymgyngoreion

Ailystyried geiriad arwydd BA02, gan nad yw ‘bi-directional’ yn ddigon clir.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym wedi addasu geiriad yr arwydd hwn i gyfleu’r neges hon yn gliriach.

Adborth gan ymgyngoreion

Gwneud yr ‘arwydd rhybudd cyffredinol’ yn driongl hafalochrog, yn hytrach na’r dimensiynau a roddir, sef 600mm o led a 530mm o uchder.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r 530mm yn y diagram yn cyfeirio at uchder y triongl, yn hytrach na hyd pob ochr, a fydd yn 600mm. Mae hyn yn gyson â chyfraneddau sefydledig arwyddion rhybudd safonol, sydd i’w gweld yn lluniad gweithio rhif P500 yr adran. Ar y sail hon, rydym yn cytuno â’r sylw y dylai’r arwydd fod yn hafalochrog, ond nid oes angen newid hyn.

Adborth gan ymgyngoreion

Ar groesfannau lle mae dau bwynt mynediad (er enghraifft gât gyhoeddus i gerddwyr a gât ar wahân ar gyfer cerbydau preifat), gallai dryswch godi ynglŷn â pha gyfarwyddiadau sy’n gymwys.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cytuno bod posibilrwydd o ddryswch, felly rydym wedi cynnig y dylid cynnwys arwyddion ategol ar groesfannau o’r fath i ddangos i ddefnyddwyr pa gyfarwyddiadau sy’n gymwys i bob pwynt mynediad.

Adborth gan ymgyngoreion

Ar groesfannau sydd â dau bwynt mynediad (er enghraifft gât gyhoeddus i gerddwyr a gât ar wahân i gerbydau preifat), mae risg o gamddealltwriaeth ynglŷn â pha ddefnyddwyr gaiff ddefnyddio’r gwahanol bwyntiau mynediad.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cytuno y gallai dryswch godi yn y senario hon, felly rydym wedi cynnwys arwydd newydd “mynediad a ganiateir yn unig” y gellir ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng hawliau mynediad y cyhoedd a defnyddwyr preifat ar y mathau hyn o groesfannau.

Adborth gan ymgyngoreion

Credwn fod arwydd rhybudd cyffredinol yn cael ei ddefnyddio’n barod ar ffyrdd ym Mhrydain a fyddai’n cyflawni’r swyddogaeth o ddangos bod croesfan reilffordd breifat o’ch blaen (er enghraifft Diagramau 770 a 771 o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016).

Ymateb y Llywodraeth

Canfu prosiect ymchwil T756 y Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd y dylai rhagflaenydd i arwydd UV01 gymryd lle diagramau 770 a 771 ar groesfannau preifat a weithredir gan ddefnyddwyr. Ym mhrosiect ymchwil dilynol T983, canfuwyd bod cysylltiad cryf rhwng arwydd newydd UV01 â threnau yn gyffredinol, yn ogystal â chroesfannau rheilffyrdd, gatiau a rhybuddion, a chytunwyd ar y dyluniad hwn. Roedd treialon defnyddwyr eraill yn cadarnhau’r canfyddiad hwn. Rydym felly’n fodlon bod yr arwydd rhybudd cyffredinol newydd yn cyfathrebu bodolaeth croesfannau a weithredir gan ddefnyddwyr yn well i ddarpar ddefnyddwyr na Diagram 770 neu 771.

Er nad ydym yn cynnig cynnwys Diagramau 770 a 771 yn y dyluniadau arwyddion newydd, caniateir eu defnyddio nhw (ac ambell un arall o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig) ar groesfannau rheilffordd preifat sydd â phroffil defnyddwyr tebycach i groesfan gyhoeddus. Enghraifft o hyn fyddai lle mae croesfan reilffordd breifat, a oedd ar un adeg yn darparu mynediad i gaeau, bellach yn darparu mynediad i safle ffatri brysur, neu ystad fasnachu. Bydd y mathau hyn o groesfannau, fel nawr, yn cael eu gwasanaethu’n well drwy ddefnyddio symbolau ffyrdd cyhoeddus.

Adborth gan ymgyngoreion

Ystyried ychwanegu lleoliadau ‘What 3 Words’ at yr arwydd, yn cynnwys gwybodaeth i helpu i adnabod y groesfan, gan ei bod yn haws cyfathrebu’r wybodaeth hon dros y ffôn.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn fodlon bod yr wybodaeth adnabod sydd ar yr arwydd hwn yn ddigonol er mwyn cyfathrebu lleoliad y groesfan dros y ffôn. Yn ychwanegol at hyn, cwmni preifat yw ‘What 3 Words’ ac mae risg y gallai defnydd o’r system hon ddod i ben, gan achosi i’r arwyddion a ragnodir yn y rheoliadau fod yn ofer.

Adborth gan ymgyngoreion

Ar gyfer yr arwydd am drenau yn canu eu corn rhybudd dim ond rhwng 6am a hanner nos, roedd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2009 am ddigwyddiad angheuol ar Groesfan Cults Mill yn yr Alban yn cyfeirio at chwibanu’n dod i ben am 23:00 er mwyn aflonyddu llai ar gymdogion. O ganlyniad, nid ydym yn siŵr a yw’r arwydd hwn yn adlewyrchu’r arferion gweithredol ar draws y rhwydwaith.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn fodlon bod y geiriad presennol yn gywir a’i fod yn adlewyrchu’r rhan fwyaf o’r arferion gweithredol. Mae hyn yn gyson â chanllawiau a luniwyd gan Network Rail ar y Cyfnod Tawel yn y Nos (PDF), sy’n cadarnhau y dylai trenau ganu eu corn rhybudd o 6AM tan hanner nos (ac o ganlyniad, nid y tu allan i’r oriau hyn). Ni fyddai angen i weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth na gweithredwyr eraill nad ydynt yn rhedeg trenau ar yr adegau hyn osod yr arwydd hwn. Er hyn, rydym wedi cynnwys hyblygrwydd yn y rheoliadau sy’n caniatáu i wahanol amseroedd gael eu harddangos pe bai gweithredwyr eraill yn defnyddio arferion gweithredol gwahanol.

Adborth gan ymgyngoreion

Ar gyfer yr arwyddion sy’n cael eu cario drosodd o reoliadau presennol 1996 (er enghraifft Diagram 113), dylid gwneud newidiadau i wneud y rhain yn fwy cyson â’r arwyddion newydd eraill a gynigir (h.y. dylai’r gair ‘Danger’ fod mewn coch yn Niagram 113).

Ymateb y Llywodraeth

Cafodd rhai o’r arwyddion sy’n bodoli’n barod o reoliadau 1996 eu cynnwys yn y rheoliadau newydd oherwydd eu bod yn dal yn berthnasol ac yn cyfleu lefel ddigonol o wybodaeth. Daeth y gweithgor i’r casgliad bod yr arwyddion penodol hyn yn dal yn addas ar gyfer y rhwydwaith yn eu ffurf bresennol ac nad oedd angen rhai newydd yn eu lle. Ar sail hyn, nid ydym yn credu bod angen rhagor o ddiweddaru.

Adborth gan ymgyngoreion

Dylid ystyried y cyfle i gynnwys ‘cod QR’ (neu rywbeth tebyg) i alluogi defnyddwyr i gael mynediad at gyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gyfer safleoedd penodol, ynghyd â chefnogaeth glywedol a gweledol. Bydd hyn yn gwella’r darpariaethau hygyrchedd ar groesfannau preifat.

Ymateb y Llywodraeth

Ar gyfer prif linell y rheilffordd, mae Network Rail wedi bod yn trafod gyda’i gyflenwyr yr opsiwn o ddarparu cod QR neu dechnoleg debyg i ddarparu rhybuddion neu gyfarwyddiadau clyweledol i ddefnyddwyr. Mae’r ymarfer hwn yn cael ei gynnal ar wahân i’r rheoliadau hyn, gan fod angen ystyriaeth fanylach ynglŷn ag ymarferoldeb mesurau o’r fath cyn y gellir eu cyflwyno’n ehangach.

Arwyddion 148 a DI25H

Yn y cyfnod rhwng y ddau ymgynghoriad, cafwyd digwyddiad angheuol ar Groesfan Lady Howard yn Surrey lle cafodd defnyddiwr ei daro gan drên a oedd yn mynd heibio i gyfeiriad gwahanol i un a oedd newydd fynd drwy’r groesfan. Yn dilyn hyn cyfeiriodd y Bwrdd Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd argymhelliad i Network Rail yn ymwneud â’r risg i ddefnyddwyr croesfannau pan mae trenau’n mynd drwy groesfan yn fuan ar ôl ei gilydd (neu yr un pryd) i gyfeiriadau gwahanol. I helpu i fynd i’r afael â’r risg hon, cynigiasom arwydd ychwanegol (Arwydd SI48 – diagram 156 nawr) yn yr ail ymgynghoriad, sy’n tynnu sylw defnyddwyr at risgiau mwy nag un trên yn agosáu o wahanol gyfeiriadau.

Cafodd y dyluniadau y gwnaethom ymgynghori arnynt yn ystod yr ail ymgynghoriad dderbyniad da ar y cyfan, ag 88% o’r 18 a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn dweud bod y set o arwyddion yn welliant o’i gymharu â’r dyluniadau blaenorol.

Derbyniwyd dau sylw a oedd yn awgrymu y dylid addasu arwydd SI48 i adlewyrchu ei ddefnydd posibl ar groesfannau sy’n croesi dros fwy na 2 drac. Ar sail hyn, roedd yr ymatebwyr hyn yn awgrymu y dylid addasu’r arwyddion i roi cyfarwyddyd i ddefnyddwyr i beidio â chroesi nes bydd ‘pob’ llinell yn glir, yn hytrach na’r ‘ddwy’ linell. Roedd y 2 ymatebydd hyn hefyd yn awgrymu y dylid gwneud y pictogram yn yr arwydd yn gliriach.

Derbyniwyd nifer o sylwadau yn ystod yr ail ymgynghoriad ynglŷn â’r arwydd newydd (DI25H – diagram 133 yn awr), a ychwanegwyd ar gyfer defnydd cyffredinol ar reilffyrdd treftadaeth lle nad oes signalwr amser llawn neu lle gall gwasanaethau fod yn afreolaidd. Gofynnodd rhai o’r ymatebwyr am eglurder ynglŷn â’r amgylchiadau pan fyddai’r arwydd hwn yn cael ei ddefnyddio. Gofynnodd ymatebwyr eraill a ddylai’r arwydd hwn annog defnyddwyr i gau’r gatiau ar droed, fel y mae rhai o’r arwyddion gwybodaeth fanwl eraill wedi gwneud.

Derbyniwyd nifer o sylwadau yn y ddau ymgynghoriad ynglŷn â lleoliad yr arwyddion ar groesfannau preifat. Er enghraifft, yn ystod yr ail ymgynghoriad, derbyniwyd un sylw yn holi a ddylid gosod yr arwydd rhybudd cyffredinol (UV01 – diagram 101 yn awr) cyn cyrraedd at y groesfan, ynteu ar y groesfan ei hun.

Awgrymwyd yn y gweithgor y dylai gweithredwyr ddal i gael gosod rhai arwyddion a marciau ffordd Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 ar groesfannau rheilffordd preifat, fel sy’n cael ei ganiatáu ar hyn o bryd gan Reoliadau 1996, er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa ar rai croesfannau rheilffordd yn well.

Ymateb y Llywodraeth

Fel y nodwyd uchod, fe wnaethom nifer o newidiadau i’r arwyddion arfaethedig mewn ymateb i’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad cyntaf, a fu wedyn yn destun ymgynghoriad arall, manylach. O ystyried y consensws clir a ddaeth i’r amlwg o’r ail ymgynghoriad bod y dyluniadau diwygiedig yn welliant, rydym yn awr yn bwriadu symud ymlaen i gynnwys y set ddiwygiedig hon o arwyddion mewn deddfwriaeth.

Er hyn, yn dilyn adborth a dderbyniwyd yn yr ail ymgynghoriad, rydym wedi gwneud rhai newidiadau eraill i wella dyluniad yr arwyddion.

Rydym wedi newid arwydd SI48 i ddweud y dylai ‘pob’ llinell fod yn glir cyn i ddefnyddwyr groesi, yn hytrach na’r ‘ddwy’ linell, fel bod modd gosod yr arwydd hwn yn fwy diogel ar groesfannau lle mae mwy nag un trac. Rydym hefyd wedi addasu’r diagram ac ychydig o’r testun arall i’w wneud yn haws i ddefnyddwyr ei ddeall, ar sail adborth gan ymgyngoreion. Mae’r dyluniad diwygiedig, a fydd yn cael ei gynnwys yn y rheoliadau newydd, i’w weld yn y ddogfen diagramau delweddau ar dudalen gartref GOV.UK ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.

Mae ychydig o newidiadau wedi’u gwneud hefyd o ran gramadeg a fformat i’r arwyddion “MSLau gyda Chyfarwyddiadau Defnyddwyr Integredig” er mwyn sicrhau cysondeb rhyngddynt. Cyfeirir at yr arwyddion hyn yn awr fel diagramau 158 ac 159. Gwnaethpwyd newidiadau tebyg i fformat arwyddion DI23 a DI28 (y cyfeirir atynt yn awr fel diagramau 130 ac 136).

Rydym hefyd wedi defnyddio’r term “signalwr” yn lle “gweithredwr croesfan” er mwyn sicrhau cysondeb ar yr arwyddion o bob dyluniad.

Gwnaethom hefyd fân newidiadau eraill i ddelweddau rhai o’r arwyddion, i’w gwneud yn gliriach yn y rheoliadau newydd, ond mae’r dyluniadau eu hunain yr un fath ag yr oeddent yn yr ail ymgynghoriad.

Penderfynwyd tynnu arwyddion 107 ac 108 hefyd, sy’n arwyddion MSL sydd eisoes yn bodoli yn Rheoliadau 1996. Mae hyn oherwydd bod gan y dyluniadau mwy newydd rydym wedi eu cynnig (MSLau gyda Chyfarwyddiadau Defnyddwyr Integredig, arwyddion 158 a 159) fyrddau cefnu cysylltiedig a lensys mwy ar gyfer goleuadau LED mwy, felly nid oes angen rhagnodi’r arwyddion hŷn mwyach.

Mewn ymateb i’r sylwadau am y defnydd bwriadedig o’r arwydd newydd, DI25H, a ddyluniwyd i’w ddefnyddio ar reilffyrdd treftadaeth yn unig, rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am hynny yn yr adran hon o ymateb y llywodraeth uchod.

Byddwn yn ceisio hwyluso’r gwaith o rannu arferion da drwy drafodaethau gyda’r sector rheilffyrdd treftadaeth ar ôl cyflwyno’r rheoliadau hyn.

Er ein bod yn deall y sail resymegol dros gynnwys cyfarwyddyd i gau’r gatiau ar droed yn arwydd DI25H, rydym wedi penderfynu cadw’r dyluniad presennol. Gan fod posibilrwydd y gallai’r ychwanegiad a gynigir olygu na fydd yr arwydd yn cael ei ddefnyddio gan bob gweithredwr rheilffordd treftadaeth yn unol â’r bwriad (er enghraifft drwy ofyn i bobl sy’n marchogaeth ceffylau ddod oddi ar eu ceffylau ar bob croesfan), rydym wedi cadw’r dyluniad gwreiddiol i roi mwy o hyblygrwydd i weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth.

Mae’r dyluniadau arwyddion terfynol a fydd yn cael eu rhagnodi yn y rheoliadau newydd i’w gweld yn y ddogfen diagramau delweddau ar dudalen gartref GOV.UK ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Dylid nodi bod rhifau llawer o’r arwyddion yn wahanol i’r fersiynau cyfatebol yn y ddogfen ymgynghori flaenorol. Pwrpas hyn yw sicrhau bod rhifau’r arwyddion yn dilyn trefn resymegol a chlir yn y rheoliadau terfynol. Yn y tabl yn y ddogfen diagramau delweddau rydym wedi cynnwys croesgyfeiriad at y rhifau arwyddion cyfatebol yn yr ail ymgynghoriad, i helpu i ddangos ble mae newidiadau wedi’u gwneud.

Bwriadwn weithio gyda Network Rail er mwyn sicrhau bod canllawiau ar leoliad a chyfluniad cywir arwyddion ar y rhan fwyaf o’r croesfannau preifat ar gael i’r holl weithredwyr rheilffyrdd, gan gynnwys y rhai sydd yn y sector treftadaeth. Er enghraifft, bydd y canllawiau hyn yn nodi’n glir y dylid gosod yr arwydd rhybudd cyffredinol (UV01) ar y groesfan ei hun, ac nid ar y ffordd sy’n arwain ati, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Bwriadwn gyhoeddi’r canllawiau hyn ochr yn ochr â’r Rheoliadau.

Mae’r llywodraeth yn cytuno y dylid dal i ganiatáu gosod rhai arwyddion a marciau ffyrdd Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 lle mae eu hangen ar groesfannau rheilffordd preifat, er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa ar y croesfannau hyn yn well. Rydym yn ymwybodol bod rhai croesfannau rheilffordd preifat sydd wedi datblygu, dros gyfnod, o fynedfeydd ffyrdd i lwybrau prysur sydd, er enghraifft, yn cysylltu ystad ddiwydiannol â’r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Bydd caniatáu i rai arwyddion a marciau ffyrdd Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 gael eu gosod ar y croesfannau hyn yn sicrhau cysondeb ag arwyddion a ddefnyddir ar y rhwydwaith ffyrdd a dylai fod yn llai dryslyd i lawer o’r defnyddwyr ffyrdd sy’n eu defnyddio’n aml. Yr arwyddion a’r marciau ffyrdd a gaiff eu rhagnodi yn y rheoliadau yw 770, 771,772, 773, 774, 775, 776, 777, 778, 778.1, 779, 781, 782, 783, 784.1, 785.1, 786, 787, 788, 790, 602, 963. 3, 1001, 1002.1, 1003A, 1003.2, 1004, 1012.1, 1013.1, 1022, 1023A, 1026, 1045 a 3014.

Cwestiwn 4

Mae’r ymgynghoriad hwn yn awgrymu bod y cysyniad o ddefnyddiwr awdurdodedig wedi dyddio ac, o ganlyniad, nad oes angen ei gynnwys mewn deddfwriaeth. Mae’r ddyletswydd gofal a orfodir gan y Deddfau Atebolrwydd Meddianwyr a’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn cael ei hystyried yn ddigonol. Yn hytrach, bydd yr arwyddion diwygiedig a gynigir yn y ddogfen hon a’r allgymorth a’r briffio parhaus a ddarperir gan weithredwyr croesfannau yn helpu i sicrhau diogelwch defnyddwyr croesfannau rheilffyrdd. Beth ydych chi’n ei feddwl o’r cynnig hwn?

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos bod mwyafrif helaeth o blaid y cynnig hwn, â 78% o’r ymatebwyr yn cytuno bod y cysyniad o ddefnyddiwr awdurdodedig wedi dyddio.

Er hyn, mynegodd rhai ymatebwyr bryder y gallai hyn leihau diogelwch gan ei bod yn bosibl nad oes gan weithredwyr rheilffyrdd yr adnoddau neu’r wybodaeth gysylltu sydd ei hangen er mwyn briffio pob defnyddiwr posibl. Awgrymwyd hefyd y dylid annog perchnogion tir a thenantiaid i ddal i gymryd pob cam rhesymol i egluro wrth ymwelwyr sut i ddefnyddio’r croesfannau hyn yn ddiogel.

Dywedodd rhai o’r ymatebwyr y dylai’r adran neu’r gweithredwyr estyn allan at ddefnyddwyr croesfannau preifat, i helpu i’w haddysgu ynglŷn â sut i’w defnyddio.

Ymateb y Llywodraeth

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn yr ymgynghoriad, rydym yn parhau’n hyderus yn ein hasesiad cynharach bod y term ‘defnyddiwr awdurdodedig’ wedi dyddio ac y gallai fod yn ddryslyd. Yn ychwanegol at hyn, mae’n ystyried bod deddfwriaeth arall sy’n bodoli’n barod yn darparu dull cadarn o orfodi cyfrifoldebau perchnogion tir a chyflogwyr tuag at eu tenantiaid, gweithwyr ac ymwelwyr er mwyn defnyddio’r croesfannau hyn yn ddiogel. Mae felly’n ystyried nad oes dadl dros ddeddfu i greu diffiniad statudol o ‘ddefnyddiwr awdurdodedig’ fel yr oedd rhai ymatebwyr wedi gofyn amdano, ac y dylid annog gweithredwyr i beidio â defnyddio’r term. Mae hyn yn gyson â chanfyddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd yn adroddiad Frognal Farm fod y system lle mae ‘defnyddwyr awdurdodedig’ yn gyfrifol am ddweud wrth ymwelwyr sut mae defnyddio croesfannau preifat yn ddiogel yn ‘afresymol’ yn ein hamgylchiadau ni heddiw.

Fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori, rydym yn glir bod gweithredwyr rheilffyrdd yn cadw’r prif gyfrifoldeb am sicrhau defnydd diogel o groesfannau rheilffordd preifat. Mae’n disgwyl i weithredwyr gyflawni eu cyfrifoldebau drwy gyflwyno’r arwyddion diwygiedig sydd yn y rheoliadau newydd yn fuan, drwy waith ymgysylltu wedi’i dargedu â pherchnogion tir lleol, cyflogwyr a grwpiau eraill o ddefnyddwyr, a thrwy fabwysiadu technoleg well lle mae’r dechnoleg honno ar gael ac yn briodol.

Bwriadwn ysgrifennu at weithredwyr er mwyn egluro eu rhwymedigaethau dan y ddeddfwriaeth bresennol a’i disgwyliadau ehangach mewn perthynas â diogelwch ar groesfannau rheilffyrdd preifat. Yn fwyaf arbennig, bydd yn egluro ei barn nad oes gan gyflogwyr a pherchnogion tir lleol rwymedigaeth gyfreithiol, fel sy’n cael ei awgrymu gan y term ‘defnyddiwr awdurdodedig’, i roi cyfarwyddyd i bob defnyddiwr arall posibl ynglŷn â defnydd diogel o groesfannau preifat i gael mynediad i’w tir. Yn hytrach, bydd yn cyfeirio at rwymedigaethau presennol y cyrff hyn dan ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys Deddfau Atebolrwydd Meddianwyr 1957 ac 1984 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, er mwyn sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â’u heiddo, a bydd yn nodi’n glir bod disgwyl i weithredwyr ymgysylltu â’r cyrff hyn ar sail hynny.

Byddwn hefyd yn ymgysylltu â’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Network Rail, y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd a gweithredwyr rheilffyrdd treftadaeth er mwyn nodi sut y gall gweithredwyr rheilffyrdd ymgysylltu’n ymarferol â grwpiau eraill o ddefnyddwyr posibl, megis cludwyr a gyrwyr sy’n danfon nwyddau, lle nad yw’n realistig o bosibl disgwyl i berchennog neu ddeiliad y tir y mae croesfan breifat wedi’i lleoli arno egluro ymlaen llaw sut mae defnyddio’r groesfan yn ddiogel.

Cwestiwn 5

Beth yw eich barn ynglŷn â’r costau ar gyfer gosod arwyddion a ddefnyddiwyd yn y ddogfen hon? Beth yw effeithiau ariannol gwahanol raddfeydd amser ar gyfer gosod arwyddion newydd? A oes unrhyw sylwadau eraill rydych yn dymuno eu gwneud ynglŷn â chostau, naill ai yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â’ch sefydliad?

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos bod cryn bryder ymysg rhai o’r ymatebwyr ynglŷn â’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r arwyddion newydd.

O’r ymatebwyr hynny a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, mynegodd dros 50% bryder ynglŷn â’r costau posibl. Er bod yr ymatebion hyn yn amrywio, dywedodd y rhan fwyaf o’r rhai a fynegodd bryder y byddai cyfanswm y gost o osod nifer o arwyddion ar draws rhan o drac yn uchel, ac y gallai hyn gael effaith anghymesur ar gyllidebau gweithredwyr o’i gymharu â manteision y lleihad mewn risg a ddarperir gan yr arwyddion newydd.

Roedd yr ymatebwyr, yn enwedig y rhai o’r diwydiant rheilffyrdd treftadaeth, yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith ariannol gosod yr arwyddion newydd ar weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth. Roedd llawer o’r ymatebwyr hyn yn cwestiynu a oedd yr effaith ar weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth wedi’i deall yn llawn, yn enwedig gan eu bod wedi gorfod cau am gyfnod maith yn ystod pandemig Covid-19. Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn debyg yn y cyswllt hwn i’r rhai i’r cwestiynau am linellau amser (Cwestiwn 2). Awgrymodd rhai o’r ymatebwyr y dylai’r llywodraeth ddarparu cymorth ariannol i weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth i helpu â chostau gosod yr arwyddion newydd o fewn y graddfeydd amser gofynnol.

Holodd nifer o’r ymatebwyr ynglŷn â’r amcangyfrif o’r gost a oedd yn y ddogfen ymgynghori, a oedd yn amcangyfrif cost o tua £2k yr arwydd ar groesfannau syml a £4k ar y rhai mwy cymhleth, ar sail prisiau a gafwyd gan Network Rail. Gofynnodd yr ymatebwyr a oedd y costau hyn yn cynnwys costau gosod y cyfarpar sy’n gysylltiedig â’r arwyddion (er enghraifft pyst) ac effaith chwyddiant. Mynegwyd pryder hefyd nad oedd y ffigurau’n cynnwys y costau sy’n gysylltiedig â gosod yr arwyddion hyn ar groesfannau cyhoeddus neu gost gosod arwyddion newydd ar safleoedd lle byddai amodau geotechnegol penodol yn golygu y byddent yn dod i ddiwedd eu hoes yn fuan.

Nododd Network Rail hefyd y gallai eu rhaglen foderneiddio cynnal a chadw barhaus effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael ac ar raddfeydd amser. O ganlyniad, roeddent yn cynnig na ddylai’r dasg hon gael ei chyflawni gan y sawl sy’n gwneud y gwaith cynnal a chadw fel gweithgaredd busnes fel arfer, ond yn hytrach y dylai fod yn ddarostyngedig i gyllid wedi’i glustnodi rhag amharu ar y graddfeydd amser ar gyfer gosod arwyddion newydd yn genedlaethol.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn derbyn y bydd y gofyniad i osod yr arwyddion ar groesfannau rheilffyrdd preifat newydd erbyn 2029 yn golygu costau ychwanegol i weithredwyr rheilffordd. Bydd y rhan fwyaf o’r costau hyn yn disgyn ar ysgwyddau Network Rail, ond rydym yn cydnabod y bydd costau i weithredwyr eraill hefyd, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu rheilffyrdd treftadaeth. Fel y nodwyd yn ein hymateb i Gwestiwn 2, rydym yn glir bod yr angen i sicrhau diogelwch parhaus pobl sy’n defnyddio’r croesfannau hyn, drwy gyflwyno’r arwyddion hyn mewn pryd, yn cyfiawnhau cost ychwanegol eu gosod i weithredwyr.

Ar ôl adolygu’r amcangyfrif o’r costau, ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda Network Rail, credwn fod y ffigurau sy’n cael eu hamlinellu yn ein dogfen ymgynghori yn amcangyfrif realistig o gostau gosod yr arwyddion newydd, gan gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â gosod yr arwyddion newydd, er enghraifft gosod polion. Yn ystod yr ymarfer ymgynghori cawsom hefyd ddiweddariad gan Network Rail ynglŷn â nifer y croesfannau preifat sydd ar eu hystad, sydd wedi cynyddu o 2237 i 2506. Mae hyn felly’n cynyddu ystod y costau gosod i rhwng £5 miliwn a £10 miliwn ar eu hystad.

Rydym yn nodi’n arbennig y pryderon a fynegwyd ynglŷn â’r effaith ar weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth a’r ceisiadau am gyllid gan y llywodraeth i helpu gweithredwyr o’r fath i gyflwyno’r arwyddion nesaf. Rydym yn cydnabod y trafferthion ariannol real iawn sy’n wynebu llawer o weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth ar hyn o bryd. Er hyn, mae gan y llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario’n briodol ac nad yw, fel mater o egwyddor, yn darparu cyllid i alluogi busnesau preifat i dalu cost cydymffurfio â rheoliadau diogelwch. Byddai’n gosod cynsail annheg i’r sector ei hun, ac i sefydliadau preifat neu wirfoddol eraill, pe bai’r llywodraeth yn rhoi arian i’r sector rheilffyrdd treftadaeth i’w helpu i gyflawni ei rwymedigaethau fel hyn.

Rydym yn nodi’r pryderon a fynegwyd ynglŷn â chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gosod yr arwyddion hyn ar groesfannau cyhoeddus. Rydym yn disgwyl y bydd angen i weithredwyr osod yr arwyddion hyn ar groesfannau llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffylau drwy gael caniatâd i wneud hynny gan yr adran. Er hyn, nid yw’r costau hyn yn cael eu gorfodi’n uniongyrchol gan y ddeddfwriaeth hon, felly nid ydynt wedi cael eu cyfrif yn yr asesiad o’r rheoliadau hyn. Bydd yr awdurdodiadau sy’n bodoli’n barod ar gyfer croesfannau cyhoeddus yn parhau’n ddilys nes bydd eu hoes wedi dod i ben (oni bai fod terfyn amser arnynt pan gawsant eu derbyn).

Er ein bod yn nodi’r pryderon a godwyd ynglŷn â chost ychwanegol gosod arwyddion newydd oherwydd amodau geotechnegol lleol, rydym yn hyderus na fydd y cynigion yn cynyddu costau yn y cyswllt hwn. Fel sy’n digwydd â’r arwyddion presennol, bydd angen i’r gweithredwyr ddal i ystyried amodau’r ddaear wrth osod yr arwyddion newydd ac ystyried unrhyw gynnydd mewn costau cynnal a chadw neu osod arwyddion newydd lle mae’r amodau yma yn debygol o alw am hyn.

Ar sail hyn, rydym yn ystyried bod yr amcangyfrifon wedi’u diweddaru o’r gost, a amlinellwyd mewn ymateb i gwestiwn 5, yn realistig, a bod y baich ariannol ychwanegol ar weithredwyr rheilffyrdd yn rhesymol ac yn un y gellir ei gyfiawnhau ar sail diogelwch. Rydym hefyd yn ystyried y bydd y graddfeydd amser rydym yn eu pennu ar gyfer cyflwyno’r arwyddion newydd yn rhoi i weithredwyr yr amser sydd ei angen i gynllunio a chyllidebu ar gyfer y newidiadau hyn, ac i ledaenu’r costau dros nifer o flynyddoedd, heb orfod gofyn am arian cyhoeddus penodol neu ychwanegol i’w helpu – ond wrth wneud hynny, byddem yn gofyn i weithredwyr rheilffyrdd treftadaeth gymryd camau cyn gynted ag y bo modd ar groesfannau lle maent yn credu bod y risg fwyaf.

Cwestiwn 6

Beth yw eich barn ynglŷn ag a ddylai’r adran gyhoeddi canllawiau i helpu gweithredwyr croesfannau rheilffordd i wneud cais am awdurdodiad i arwyddion nad ydynt wedi eu rhagnodi?

O’r ymatebion a dderbyniwyd i’r cwestiwn hwn, roedd 71% o blaid gweld yr adran yn cyhoeddi canllawiau ar awdurdodi arwyddion nad ydynt wedi eu rhagnodi.

Fodd bynnag, gofynnodd llawer o’r ymatebwyr a fyddai’n bosibl cael ffocws ehangach i’r canllawiau. Awgrymodd yr ymatebwyr hyn y dylai’r canllawiau ymdrin â’r trefniadau arwyddion disgwyliedig ar groesfannau nodweddiadol, a nodi beth y dylid ei wneud ar gyfer defnyddwyr croesfannau rheilffordd sy’n ddall ac yn rhannol ddall. Cawsom awgrym hefyd y dylid rhoi canllawiau ar y cyfrifoldebau gorfodi dan y rheoliadau hyn.

Awgrymodd yr ymatebwyr fformatau amrywiol ar gyfer y canllawiau hyn, gan gymwys eu modelu ar daflen draffig gynghorol. Cyhoeddir taflenni traffig cynghorol gan yr adran ac maent yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar ddefnyddio cyfarpar traffig a gweithredu rheoliadau a pholisïau traffig.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn derbyn bod awydd amlwg am ganllawiau o’r fath. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ar ôl i’r rheoliadau newydd ddod yn gyfraith.

Caiff union gynnwys a fformat y canllawiau hyn ei gadarnhau a byddant yn seiliedig ar drafodaethau â gweithredwyr croesfannau rheilffordd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, fel y corff rheoleiddio diogelwch, a phartïon eraill sydd â budd. Er hyn, bwriadwn nodi’n glir yn y canllawiau ein bod yn disgwyl y bydd awdurdodi arwyddion nad ydynt wedi’u rhagnodi yn ddigwyddiad anghyffredin, ac y bydd yr arwyddion a ragnodwyd yn y rheoliadau newydd yn addas yn y rhan fwyaf o’r amgylchiadau.

Cwestiwn 7

A oes unrhyw sylwadau eraill y byddech yn hoffi eu gwneud mewn cysylltiad â’r cynigion hyn?

Daeth nifer o themâu i’r amlwg o’r sylwadau a dderbyniasom mewn ymateb i’r cwestiwn hwn yn yr ymgynghoriad cyntaf. Rydym hefyd wedi cynnwys yn ein crynodeb o ymatebion i’r cwestiwn hwn unrhyw sylwadau o sylwedd a wnaethpwyd fel rhan o’r ail ymgynghoriad nad oeddent yn gysylltiedig â dyluniad yr arwyddion. Rydym wedi crynhoi pob un o’r prif themâu, a’n hymateb iddynt, dan yr is-benawdau isod.

Ystyriaethau yn ymwneud â’r iaith Gymraeg

Yr ymateb mwyaf cyffredin i’r cwestiwn hwn oedd gofyn am gael gwneud yr arwyddion hyn mewn ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg. Gofynnodd nifer o’r ymatebwyr am gael rhagnodi amrywiadau Cymraeg o’r arwyddion yn y rheoliadau, neu dywedasant y byddai angen amrywiadau Cymraeg ar groesfannau yng Nghymru. Dywedodd nifer o’r ymatebwyr fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn darparu gofyniad cyfreithiol am arwyddion Cymraeg. Mynegodd rhai o’r ymatebwyr bryder ynglŷn â’r costau y byddai gweithredwyr yn eu hwynebu wrth orfod gosod dwy set o arwyddion os oedd angen arwyddion Cymraeg hefyd, ac awgrymodd un o’r ymatebwyr y byddai’r gost “i bob pwrpas yn dyblu”. Holodd nifer o’r ymatebwyr ynglŷn ag ymarferoldeb gofyn am awdurdod i osod amrywiadau Cymraeg unigol, gan awgrymu y byddai’n faich ychwanegol ar weithredwyr yng Nghymru. Gwnaethpwyd sylwadau tebyg ynglŷn â darparu arwyddion mewn ieithoedd eraill.

Yn ystod yr ail ymgynghoriad, pan wnaethom gadarnhau ein bwriad i ragnodi set o arwyddion Cymraeg (ceir mwy o wybodaeth isod), awgrymodd nifer o’r ymatebwyr y dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog mewn un plât arwydd, yn hytrach na chael dau arwydd ar wahân yn cynnwys Cymraeg a Saesneg.

Ymateb y Llywodraeth

Dan Reoliadau 1996, nid yw arwyddion wedi bod ar gael yn Gymraeg, oni bai eu bod wedi’u hawdurdodi’n benodol. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr ail ymgynghoriad, rydym yn cydnabod yn llwyr y dylai’r iaith Gymraeg fod yn gyfartal â’r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai siaradwyr Cymraeg allu darllen arwyddion yn eu prif iaith. O ganlyniad, rydym yn cytuno y dylai deddfwriaeth, ar gyfer croesfannau preifat yng Nghymru, hefyd nodi set o arwyddion yn y Gymraeg, fel bod modd gosod y rhain ochr yn ochr â’r arwyddion sydd yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r dull gweithredu hwn yn unol ag egwyddorion cynllun iaith Gymraeg yr Adran Drafnidiaeth, ac yn unol ag addewid maniffesto’r llywodraeth i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bwriadwn ymgynghori ynglŷn â’r arwyddion Cymraeg cyn gynted ag y bo modd, i’w cynnwys mewn set ar wahân o reoliadau a fyddai’n gymwys yng Nghymru. Gall gymryd ychydig o amser i ddatblygu’r arwyddion Cymraeg hyn, gan ei bod yn hollbwysig bod unrhyw arwyddion yn darparu cyfarwyddiadau clir a diogel i ddefnyddwyr croesfannau rheilffordd. Bydd angen i ni sicrhau cysondeb rhwng yr arwyddion yn y ddwy iaith, a bydd angen ystyried y rhyngwyneb rhwng yr arwyddion yn y ddwy iaith ar y groesfan. Efallai y bydd angen rhagor o ymchwil a phrofi cyn dechrau ymgynghori ynglŷn â’r dyluniadau, ond ar hyn o bryd mae’r adran yn anelu at ddeddfu ar gyfer arwyddion Cymraeg ar groesfannau rheilffordd preifat yn 2024.

Yn y cyfamser, gall gweithredwyr ddal i ofyn i’r adran am awdurdodiad i osod arwyddion Cymraeg ar groesfannau unigol. Dylai gweithredwyr y mae arnynt angen canllawiau ar ddefnyddio’r llwybr hwn gysylltu â PrivateLX.Authorisations@dft.gov.uk.

Rhwystrau a gatiau

Cyfeiriodd un o’r ymatebwyr at fwriad yr adran i beidio â gwneud newidiadau sylweddol i Atodlenni 2 a 3 yn y rheoliadau, sy’n rhagnodi rheolau penodol ar gyfer rhwystrau a gatiau yn y drefn honno. Roedd yr ymatebwr hwn yn dadlau bod Atodlenni 2 a 3 yn rhagnodol iawn, ac yn arwain at reolau llymach ar gyfer croesfannau preifat o’i gymharu â rhai cyhoeddus. Roedd yr ymatebwr hefyd yn meddwl y gallai hyn atal arloesi ac achosi problemau ar groesfannau nad ydynt yn gallu agor at allan o’r rheilffordd. Holodd yr ymatebwr cyn cyflwyno ymateb ffurfiol a ellid diwygio Atodlen 3 i ganiatáu i gatiau agor i’r rheilffordd mewn amgylchiadau penodol.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r llywodraeth yn nodi’r sylw sy’n gysylltiedig â’i bwriad i gadw Atodlenni 2 a 3 o’r rheoliadau 1996 presennol, ac yn fwyaf arbennig y cais i ddiwygio Atodlen 3 fel bod modd agor gatiau i’r rheilffordd. Fodd bynnag, credwn na fyddai diwygio Atodlen 3 yn y modd hwn yn briodol am resymau diogelwch, gan fod gatiau sy’n agor ar draws rheilffordd yn cyflwyno risg ddiangen.

Yn ychwanegol at hyn, byddai diwygio Atodlen 3 fel hyn yn golygu bod angen diwygiad i Adran 68 o Ddeddf Cydgrynhoi Cymalau’r Rheilffyrdd 1845 (“Deddf 1845”), sy’n cynnwys y gofyniad i agor gatiau oddi wrth y rheilffordd ac sy’n ddeddfwriaeth sylfaenol. Gwneir diwygiadau i’r math hwn o ddeddfwriaeth drwy Ddeddf Seneddol, tra mae’r rheoliadau arfaethedig, Rheoliadau Croesfannau Preifat (Arwyddion a Rhwystrau) (Diwygio) 2023, yn cael eu gwneud drwy bŵer wedi’i ddirprwyo dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992.

Mae paramedrau’r pŵer dirprwyedig hwn yn gyfyngedig ac ni fyddent yn caniatáu gwneud newidiadau i Ddeddf 1845 dan y rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni fyddai’n bosibl defnyddio’r rheoliadau hyn i ganiatáu i gatiau agor ar draws y rheilffordd, hyd yn oed drwy ddefnyddio awdurdodiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gan y byddai hyn yn torri Deddf 1845.

Gellir defnyddio’r broses awdurdodi mewn amgylchiadau lle mae’r rheoliadau yn atal gosod technoleg newydd neu arloesiadau ar groesfannau preifat. Er hyn, mae Network Rail wedi ein sicrhau bod yr Atodlenni presennol yn ymdrin â’r amgylchiadau mwyaf tebygol.

Ymgyngoreion

Roedd ymatebion eraill i’r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar y ‘Rhestr o’r rhai yr ymgynghorwyd â hwy’ sydd i’w weld yn Atodiad D y ddogfen ymgynghori a ddarparwyd gyda’r ymgynghoriad cyntaf. Awgrymodd ymatebwyr i’r ymgynghoriad cyntaf y dylid cynnwys nifer o sefydliadau ychwanegol yn y rhestr hon, er enghraifft Heddlu Trafnidiaeth Prydain, y Post Brenhinol a chwmnïau cyfleustodau.

Ymateb y Llywodraeth

Fel y nodwyd yn ein trosolwg o fethodoleg yr ymgynghoriad, cynhaliwyd y ddau ymgynghoriad yn unol ag egwyddorion ymgynghori Swyddfa’r Cabinet. Gwnaethpwyd yr ymgynghoriad cyntaf yn gyhoeddus am 8 wythnos, ac mae’r llywodraeth o’r farn fod hynny’n rhoi digon o amser i unrhyw sefydliad ystyried y materion ac ymateb, yn unol â’r egwyddorion. Cyhoeddwyd y rhestr o ymgyngoreion yn Atodiad D o’r ddogfen ymgynghori gyntaf at ddibenion tryloywder.

Ni chyhoeddwyd rhestr o’r fath yn ystod yr ail ymgynghoriad, ond fe wnaethom gysylltu â’r un sefydliadau eto a’r sefydliadau ychwanegol a awgrymwyd gan ymgyngoreion yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf. Yn ychwanegol at hyn, nid oedd Atodiad D yn darparu rhestr hollgynhwysol o’r sefydliadau a hysbyswyd ynglŷn â’r ymgynghoriad drwy ddulliau eraill, megis ymgysylltiad drwy’r cyfryngau, gweithdai rhanddeiliaid a bwletinau ebost. Rydym felly’n hyderus bod pob sefydliad â budd posibl wedi cael digon o gyfle i ymateb yn ystod y broses ymgynghori.

Y cyfarpar sydd ar gael ar groesfannau rheilffyrdd

Roedd nifer o’r ymatebion yn gofyn cwestiynau neu roeddent yn gwneud awgrymiadau ynglŷn â’r arwyddion a’r trefniadau ar gyfer cyfarpar ar groesfannau unigol.

Ymateb y Llywodraeth

Ni allwn gynghori neu ateb cwestiynau ynglŷn â’r trefniadau gorau ar gyfer arwyddion neu gyfarpar ar groesfannau unigol. Mater i’r gweithredwr perthnasol fyddai hyn, yn seiliedig ar ddull asesu risg sy’n ystyried proffil penodol y groesfan ac unrhyw ganllawiau perthnasol, fel y rhai a gyhoeddir gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd. Ar gyfer unrhyw bryderon penodol ynglŷn â chroesfan arbennig, byddai’r llywodraeth yn cynghori siarad â gweithredwr croesfan unigol yn y lle cyntaf.

Gosod arwyddion mewn ardaloedd o harddwch naturiol

Awgrymodd rhai ymatebwyr fod gosod arwyddion mewn parciau cenedlaethol a lleoedd eraill o harddwch naturiol arwyddocaol yn ddadleuol. Awgrymasant y dylid ystyried effaith maint a nifer yr arwyddion ar safleoedd o’r fath.

Ymateb y Llywodraeth

Fel y nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon, credwn fod angen y newidiadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch parhaus ein rheilffyrdd a’r bobl sy’n rhyngweithio â nhw. Yn ystod y broses ymgynghori fe wnaethom gysylltu â sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwarchod ardaloedd o harddwch naturiol, i roi cyfle iddynt fynegi eu barn. Fel y nodwyd yn gynharach, ar sail adborth a dderbyniwyd gan ymgyngoreion, rydym wedi addasu’r cynigion i leihau maint a nifer yr arwyddion i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Credwn fod y cynigion yn darparu cydbwysedd teg rhwng yr angen i ddarparu cyfarwyddiadau defnydd diogel i ddefnyddwyr a’r angen i warchod ardaloedd o harddwch naturiol. Os oes gwrthwynebiadau cynllunio i faint yr arwyddion ar groesfannau penodol, gellir gofyn am awdurdodiad gan yr Adran.

Gorchmynion rheilffyrdd sy’n bodoli’n barod

Gofynnodd un ymatebydd sut roedd yr arwyddion hyn yn rhyngweithio â Gorchmynion rheilffordd sy’n bodoli’n barod ar gyfer rhai croesfannau rheilffyrdd.

Ymateb y Llywodraeth

Yn yr achosion prin hyn, dylai’r gweithredwr gysylltu â’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i drafod y sefyllfa. Gellir cysylltu â hwy drwy contact.pct@orr.gov.uk.

Y camau nesaf

Rydym wedi amlinellu ein hymateb yn y ddogfen hon i’r sylwadau a dderbyniwyd o’r ymarfer ymgynghori hwn. Rydym yn awr yn bwriadu deddfu ar gyfer yr arwyddion newydd sydd yn y ddogfen diagramau delweddau ar dudalen gartref GOV.UK ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, a dyddiad dod i rym disgwyliedig yn nes ymlaen yn 2023.

Byddwn yn ysgrifennu at weithredwyr croesfannau rheilffordd, gan nodi’r disgwyliadau mewn cysylltiad â’r ffrâm amser ar gyfer gosod yr arwyddion newydd ar groesfannau rheilffordd preifat, yn ogystal â’r farn ynglŷn â’r term ‘defnyddiwr awdurdodedig’, a byddwn hefyd yn darparu canllawiau ar awdurdodi arwyddion nad ydynt wedi’u rhagnodi cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Fel y crybwyllwyd yn gynharach, bydd gwaith ar ddeddfu ar gyfer arwyddion Cymraeg yn dechrau ar unwaith, ond oherwydd yr angen i sicrhau bod unrhyw arwyddion yn darparu cyfarwyddiadau clir a diogel i ddefnyddwyr croesfannau rheilffordd mewn dull cyson, gall y gwaith o ddatblygu’r arwyddion hyn gymryd amser. Ar sail hyn, rydym yn ceisio deddfu ar gyfer y datblygiad hwn yn 2024.