Skip to main content
Consultation outcome

Tyfu i Fyny yn y Byd Ar-lein

Updated 19 August 2026

Sylwch ein bod wedi ysgrifennu’r ddogfen hon yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Pam mae newidiadau’n digwydd?

Ein nod yw i bob person ifanc gael y dechrau gorau mewn bywyd.

  • Gofynnwyd i bobl ledled y DU sut i wneud y byd ar-lein yn well i blant fel chi, a rhannodd 116,211 o bobl eu syniadau, gan gynnwys plant, rhieni, athrawon, yn ogystal â llawer o sefydliadau.

  • Rydym yn gwneud newidiadau fel y gall pobl ifanc ddefnyddio technoleg mewn ffyrdd mwy diogel a chadarnhaol. Mae’r ddogfen hon yn egluro popeth y mae’r llywodraeth wedi dweud ei bod yn bwriadu ei wneud.

  • Bydd yn rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r deddfau newydd cyn i unrhyw gynlluniau ddod i rym.

Mae’r llywodraeth eisiau i’r byd ar-lein fod yn fwy diogel, yn decach ac yn fwy cadarnhaol i chi. 

Fe wnaethon ni ofyn i lawer o bobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc fel chi, beth ddylai newid i wneud i hyn ddigwydd. Fe wnaethon ni hefyd ofyn i rieni, athrawon, arbenigwyr a sefydliadau ledled y DU am hyn.  

Rhannodd llawer o bobl eu barn, gan gynnwys o leiaf 14,000 o blant a phobl ifanc drwy’r ymgynghoriad a 100oedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

Dywedodd y rheini ohonoch a ymatebodd i’r ymgynghoriad wrthym fod bod ar-lein yn gallu bod yn hwyl ac yn ddefnyddiol. Gall eich helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, dysgu pethau newydd, bod yn greadigol a defnyddio adnoddau defnyddiol.

Ond fe ddywedoch chi wrthym hefyd eich bod yn poeni am bethau fel:

  • gweld cynnwys ar-lein sy’n eich ypsetio 

  • bwlio ar-lein 

  • treulio gormod o amser ar-lein 

  • pobl ddieithr yn gallu cysylltu â chi  

  • nodweddion peryglus, fel ffrydio byw neu rannu lluniau a fideos â phobl nad ydych chi’n eu hadnabod

Dyna pam mae’r llywodraeth yn cynllunio rheolau newydd. Y nod yw gwneud y byd ar-lein yn fwy diogel, yn decach ac yn well ar gyfer eich llesiant; i’w wneud yn lle da i dreulio eich amser. Rydyn ni am iddo fod yn rhywle lle gallwch chi deimlo bod gennych chi reolaeth dros sut rydych chi’n ei ddefnyddio, nid eich bod chi’n cael ei reoli ganddo.

Beth sy’n newid i bobl ifanc dan 16 oed?

Dywedodd dwy ran o dair o’r plant a ymatebodd i’r ymgynghoriad wrthym y byddent yn cefnogi cyfyngiadau oedran ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed ar o leiaf rai cyfryngau cymdeithasol.1 Dywedodd 90% o rieni wrthym y byddent yn cefnogi peidio â chaniatáu i bobl ifanc o dan 16 oed fod ar gyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi dan 16 oed, mae’r llywodraeth yn bwriadu atal cwmnïau cyfryngau cymdeithasol rhag cynnig eu gwasanaethau i chi. 

Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd y rheolau’n dechrau, yn debygol yng ngwanwyn 2027, os ydych chi o dan 16 oed, na fyddwch chi’n gallu parhau i ddefnyddio gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol sy’n dod o dan y rheolau newydd, hyd yn oed os oes gennych chi ganiatâd rhiant neu ofalwr.  

Bydd y llywodraeth yn nodi rhagor o fanylion yn ddiweddarach eleni ynghylch pa wasanaethau yn union y bydd y rheolau’n berthnasol iddyn nhw. 

Mae Awstralia wedi cyflwyno cyfyngiadau tebyg, a bwriadwn ni weithredu model tebyg. Yn Awstralia, mae gwasanaethau fel Facebook, Instagram, Snapchat, Threads, TikTok, Twitch, X, Bluesky YouTube, Kick a Reddit wedi’u cyfyngu rhag cynnig eu gwasanaethau i bobl ifanc dan 16 oed. 

Drwy’r ymgynghoriad, fe wnaethoch chi ddweud wrthym eich bod yn defnyddio’r rhyngrwyd am lawer o resymau cadarnhaol - i siarad â ffrindiau, dysgu, bod yn greadigol a chael hwyl. Bydd y llywodraeth yn sicrhau bod ffyrdd diogel a chadarnhaol o hyd i chi gysylltu, dysgu a mwynhau amser ar-lein ac all-lein. 

Ni fydd gwasanaethau negeseuon yn dod o dan y cyfyngiadau hyn ar gyfryngau cymdeithasol.

Drwy’r ymgynghoriad, dywedodd plant wrthym eu bod yn cefnogi’r syniad o gyfyngu ar y swyddogaethau hyn: Anfon delweddau anweddus (63%), cysylltu â phobl ddieithr (49%) a ffrydio byw (45%).

Nid yw’r rheolau newydd hyn yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol yn unig. Bydd angen i rai gwasanaethau ar-lein eraill, fel gwasanaethau gemau, wneud newidiadau hefyd. Os ydych chi dan 16 oed, ni fyddan nhw’n gallu cynnig rhai nodweddion peryglus i chi, fel ffrydio byw neu ffyrdd i bobl ddieithr gyfathrebu â chi.

Beth sy’n newid i bobl ifanc 16 a 17 oed?

Ar gyfryngau cymdeithasol a rhai gwasanaethau ar-lein eraill, bydd gennych chi swyddogaethau peryglus fel ffrydio byw neu ffyrdd i bobl ddieithr gysylltu â chi wedi’u diffodd yn awtomatig.

Dywedodd plant wrthym hefyd eu bod yn cefnogi’r syniad o osod terfynau am ba hyd y gallwch chi ddefnyddio ap bob dydd (48%) a pheidio â gadael i blant ddefnyddio apiau penodol yn ystod y nos (54%).

Os ydych chi’n 16 ac 17 oed, bydd angen i wasanaethau cyfryngau cymdeithasol hefyd roi mesurau diogelu awtomatig ychwanegol i chi er mwyn helpu i annog defnydd iachach o gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu: 

  • cyfyngiadau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gyda’r nos rhwng hanner nos a 6am, gan gynnwys hysbysiadau 

  • terfynau ar nodweddion sy’n eich annog i barhau i sgrolio, fel awtochwarae a ffrydiau personol. 

Wrth i chi fynd yn hŷn, rydyn ni’n cydnabod y dylech chi gael mwy o annibyniaeth a dewis, a dyna pam mae’r llywodraeth yn cymryd agwedd fwy cytbwys. Mae’r gosodiadau hyn wedi’u cynllunio i helpu plant hŷn fel chi i gysgu, astudio, treulio amser all-lein a theimlo bod gennych chi fwy o reolaeth a chynnig mesurau diogelu ychwanegol rhag nodweddion peryglus.  

Byddan nhw’n cael eu troi ymlaen yn awtomatig, ond byddwch chi’n gallu eu newid os nad ydych chi’n teimlo bod eu hangen arnoch chi.

Sgwrsfotiaid Deallusrwydd Artiffisial

Dywedodd y rheini ohonoch chi a ymatebodd i’r ymgynghoriad wrthym hefyd eich bod yn poeni am sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial.

Drwy’r ymgynghoriad, dywedodd plant wrthym fod rhai nodweddion sgwrsfot deallusrwydd artiffisial yn beryglus i blant, yn enwedig sgwrsfotiaid sy’n gweithredu fel cariad (84%). Dywedodd 59% o bobl ifanc wrthym eu bod eisiau cyfyngiadau ar sgwrsfotiaid a oedd yn annog sgyrsiau hirach.

Gall sgwrsfotiaid fod yn ddefnyddiol weithiau ar gyfer dysgu, dod o hyd i wybodaeth neu gael syniadau. Ond gall sgwrsfotiaid achosi risgiau hefyd.  

Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n ceisio eich cadw i siarad am gyfnodau hir, yn gwneud i chi deimlo ei fod yn berson go iawn neu mae’n bosib na fyddan nhw weithiau’n eich helpu chi yn y ffordd iawn os nad ydy eich iechyd meddwl mewn lle da.  

Dyna pam, yn y dyfodol, y bydd angen i sgwrsfotiaid sicrhau eich bod yn cael seibiant pan fyddwch chi wedi bod yn defnyddio’r sgwrsfot am amser hir.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Byddwch yn dal i allu defnyddio llawer o wasanaethau ar-lein, gan gynnwys: 

  • gwefannau ysgolion a dysgu 

  • newyddion a gemau 

  • gwasanaethau anfon negeseuon 

  • ffyrdd diogel o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu 

  • gwasanaethau sy’n ailddylunio eu hunain i fod yn ddiogel i blant 

Gwirio oedran: Bydd angen i gwmnïau wneud y gwaith o wybod beth yw oedran eu defnyddwyr yn well. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi am brawf o’ch oedran neu’n defnyddio technoleg gywir i amcangyfrif eich oedran. Rydyn ni am sicrhau y bydd eich data a’ch preifatrwydd yn cael eu diogelu pan fydd y gwiriadau hyn yn cael eu gwneud a’u bod yn gyfleus ac yn ymarferol i bobl ifanc  

Addysg: Byddwn hefyd yn sicrhau bod mwy o wersi mewn ysgolion ar lywio diogelwch y byd ar-lein, gan ddechrau o fis Medi ymlaen. Rydyn ni eisiau i chi ddysgu mwy am sut mae cadw’n ddiogel ar-lein a sut mae meddwl yn feirniadol am yr hyn rydych chi’n ei weld ar-lein. Mae’r llywodraeth hefyd yn gweithio gyda sefydliadau ieuenctid, llyfrgelloedd, grwpiau cymunedol ac elusennau er mwyn i chi allu dysgu’r sgiliau hyn mewn llefydd dibynadwy y tu allan i’r ysgol hefyd.  

Bydd ysgolion hefyd yn sicrhau nad oes ffonau symudol ar gael yn ystod y diwrnod ysgol er mwyn i chi allu canolbwyntio ar astudio a threulio amser gyda’ch ffrindiau. 

Beth fydd yn digwydd nesaf: Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Does dim byd yn newid ar unwaith. Bydd y llywodraeth yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chi i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed wrth i ni ddatblygu a gweithredu’r polisi hwn. Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth glir â chi cyn i unrhyw beth newid ac yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i brofiadau gwell ar-lein ac all-lein. Rydyn ni’n disgwyl i’r newidiadau ddechrau yng Ngwanwyn 2027. 

Cefnogaeth i blant: Os ydych chi’n poeni am y newidiadau, does dim rhaid i chi ddelio â nhw ar eich pen eich hun. Gallwch chi siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel rhiant neu ofalwr, a byddwn ni’n gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth clir ar-lein ac all-lein. Os oes angen cymorth brys arnoch chi ar gyfer eich iechyd meddwl, gallwch chi gael help gan GIG 111 ar-lein neu ffonio 111. Fel arall, gallwch chi hefyd gysylltu â www.childline.org.uk

Cefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr: Bydd rhieni a gofalwyr yn cael mwy o help i’ch cefnogi chi ar-lein. Bydd y llywodraeth yn rhoi cyngor cliriach ac adnoddau ymarferol i helpu teuluoedd i reoli bywydau ar-lein. 

Bydd y llywodraeth yn parhau i wrando arnoch chi, yn parhau i rannu gwybodaeth mewn ffyrdd sy’n hawdd eu deall, ac yn parhau i weithio gyda chi i wneud y byd ar-lein yn fwy diogel ac yn well.