Consultation outcome

Summary of government response (Cymraeg)

Updated 23 November 2022

Cyflwyniad

Ym mis Ionawr 2022, lansiodd awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU ymgynghoriad 12 wythnos yn gwahodd safbwyntiau gan ddiwydiant, cyrff anllywodraethol a phawb yr effeithir arnynt gan y polisïau yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd drafft (JFS). Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ar 1 Gorffennaf 2022.

Dyma’r ymateb ar y cyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon i’r ymgynghoriad hwnnw.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y mewnwelediad gwerthfawr ac adeiladol a gafwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid a sectorau, gan gynnwys cynhyrchwyr sy’n dal pysgod yn fasnachol a dyframaeth, pysgotwyr hamdden, proseswyr a grwpiau buddiant. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn croesawu bod y mwyafrif o’r ymatebwyr wedi cefnogi ein dull arfaethedig o reoli pysgodfeydd er mwyn cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni, amcanion pysgodfeydd Deddf Pysgodfeydd 2020 (y Ddeddf).

Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi cydweithio i ystyried yr ymatebion yn fanwl, ac wrth ymateb, wedi anelu at gydbwyso’r ystod o safbwyntiau gwahanol a ddaeth i law. Mae’r JFS drafft wedi’i ddiwygio wedyn i adlewyrchu, lle y bo’n briodol, safbwyntiau’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad, ac mae hefyd yn cynnwys rhai newidiadau i wella llif cyffredinol y ddogfen a chael gwared ar ddyblygu diangen.

Ymateb y Llywodraeth

Er bod yr ymatebwyr wedi croesawu’r JFS drafft yn fras, gan ei weld fel cam tyngedfennol tuag at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd, nodwyd nifer o bryderon cyffredinol. Mae barn y pedwar awdurdod polisi pysgodfeydd ynglŷn â’r ymatebion hynny wedi’i nodi isod, yn unol â’r cwestiynau ymgynghori.

I ba raddau rydych yn credu y bydd y polisïau a ddisgrifir yn y JFS drafft yn cyflawni, neu’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion ar gyfer pysgodfeydd?

Dogfen bolisi strategol yw’r JFS, sy’n gosod fframwaith a thrywydd ar gyfer sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy ar draws y DU yng nghyd-destun y Setliadau Datganoli a materion a gedwir yn ôl.

Bwriad y JFS yw amlinellu polisïau pysgodfeydd y DU ar lefel uchel. Bydd pob awdurdod polisi pysgodfeydd, wedi hynny, yn rhoi rhagor o fanylion ar eu polisïau pysgodfeydd sylweddol priodol maes o law, gan gynnwys i ba raddau y byddai’r polisïau hynny’n cyflawni, neu’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd yn y Ddeddf.

Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd am bwysleisio y bydd y polisïau yn y JFS, ac unrhyw rai eraill sy’n deillio ohono, yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol domestig a rhyngwladol y DU.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, cryfhawyd uchelgais cyffredinol y JFS i adlewyrchu dull polisi a strategol mwy cydlynol o reoli pysgodfeydd, gan gynnwys integreiddiad gwell rhwng iechyd stoc pysgod, yr ecosystem forol ehangach a diwydiant pysgota cydnerth.

Nododd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd sylwadau yn gofyn am fwy o eglurder ar sut y bydd y polisïau yn y JFS yn cyflawni, neu’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd. Mae’r JFS wedi’i ddiwygio, er enghraifft, er mwyn:

  • nodi’n gliriach sut y bydd dull sy’n seiliedig ar ecosystemau yn cael ei ymgorffori mewn polisïau, gan gefnogi amcan yr ecosystem
  • pwysleisio’n gliriach y berthynas rhwng pysgota a’r amgylchedd morol ehangach, gan gydnabod y gallai pwysau a achosir gan bobl, sy’n gynnwys gweithgarwch pysgota, ei pheryglu, ac y gallai bygythiadau amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd effeithio arni
  • tanlinellu ein dealltwriaeth bod rheoli’r pwysau hyn, fel cyfanwaith, yn sylfaenol nid yn unig i gael amgylchedd morol iach, ond hefyd i ddyfodol rheoli pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy
  • cydnabod yn gliriach y gyd-ddibyniaeth rhwng yr amrywiaeth o ddefnyddwyr y môr a’r pwysau gofodol sy’n cystadlu - sut y gall y rhain arwain at ddadleoli, er enghraifft, ac y gallant gael effeithiau andwyol yn ehangach, megis yn gymdeithasol, yn economaidd neu’n amgylcheddol
  • pwysleisio, yn y gofod polisi hwn, fod yn rhaid cydbwyso nifer o ystyriaethau mewn modd priodol oherwydd y gyd-ddibyniaeth rhwng yr amrywiaeth o ddefnyddwyr y môr a’r pwysau gofodol sy’n cystadlu
  • a gwneud yn gliriach yr angen i ystyried y berthynas rhwng mesurau cynllunio gofodol morol a rheoli pysgodfeydd lle mae cydleoli yn digwydd, fel bod polisïau allweddol yn fwy cydgysylltiedig, gan sicrhau bod gofod ac adnoddau morol yn cael eu defnyddio’n effeithiol

Roedd llawer o’r ymatebwyr o’r farn y dylai’r JFS gynnwys rhagor o fanylion penodol am fesurau rheoli ar draws nifer o feysydd polisi - yn arbennig ar sgil-ddalfeydd, datgarboneiddio fflyd y DU, a Chynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPs). Mae’r JFS yn amlinellu ein huchelgais ar y cyd ar gyfer y polisïau a fydd yn llywio’r gwaith o reoli a defnyddio ein pysgodfeydd. Mae’n ddogfen lefel uchel o ran ei natur, sydd, yn ein barn ni, yn darparu’r lefel briodol o fanylion i osod trywydd polisi ar reoli pysgodfeydd ar draws y pedwar awdurdod polisi pysgodfeydd.

Mewn perthynas â galwadau rhai ymatebwyr am gynnwys targedau gydag amserlen yn y JFS, ein barn ydyw na fyddai hyn yn ymarferol, nac ychwaith yn parchu natur ddatganoledig pysgodfeydd yn y DU. Mae gweithredu polisïau JFS yn fater i awdurdodau polisi pysgodfeydd unigol i raddau helaeth, sydd o reidrwydd ag amgylchiadau a blaenoriaethau gwahanol, ac a fydd yn y pen draw ar wahanol gamau yn eu cylchoedd polisi priodol. Felly, nid yw’n briodol rhagnodi o fewn y JFS yr union ddull neu amserlen y bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd (neu eu rheoleiddwyr) yn eu defnyddio i ddatblygu a gweithredu polisïau. Mater i bob awdurdod polisi pysgodfeydd fydd gosod targedau gydag amserlen, lle bo hynny’n briodol, o fewn eu maes cymhwysedd.

Byddai cymhwyso targedau gydag amserlen i bolisïau o fewn y JFS yn amhriodol o ystyried yr angen i ymgysylltu’n deg â rhanddeiliaid a’r diwydiant, casglu tystiolaeth fel rhan o waith datblygu polisi parhaus, ac o bosibl ddatblygu a phrofi technoleg neu addasu ac arloesi offer (lle bo hynny’n briodol neu’n angenrheidiol). Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn modd amserol, gyda gwaith ar lawer o’r meysydd polisi sylfaenol yn y JFS a’r FMPs eisoes ar y gweill. Bydd yr FMPs, lle bo’n briodol, yn rhoi rhagor o fanylion a bydd yr angen am fesurau penodol gydag amserlen yn cael eu penderfynu wrth fynd ati i ddatblygu’r gwaith gyda rhanddeiliaid.

Er y bydd polisïau’r JFS yn cael eu gweithredu drwy strategaethau cyflawni a pholisïau awdurdodau unigol, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydnabod ein bod yn rheoli adnodd ar y cyd, a bod gennym gyfrifoldeb a rennir i sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd lle bynnag y bo’n bosibl neu’n briodol ar fentrau ar y cyd fel Menter Lleihau Sgil-ddalfeydd y DU ac FMPs.

Mae pysgodfeydd yn faes lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli ond, fel y nodir yn ein dull partneriaeth sylfaenol, bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i gydweithio i gyflwyno’r sylfaen dystiolaeth ofynnol. Byddwn yn sicrhau bod ein cyllid ar gyfer y dyfodol yn cefnogi’r trywydd a nodir yn y JFS, gan gynnwys mewn meysydd fel casglu tystiolaeth, arloesi offer ac addasu yn sgil effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae polisïau ar gydweithio ym maes gwyddoniaeth a thystiolaeth yn y JFS yn darparu manteision ledled y DU, gan helpu pob awdurdod polisi pysgodfeydd i ddiwallu ei anghenion o ran casglu data a chyngor gwyddonol, gan hefyd gefnogi’r DU i gyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol.

Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sectorau morol a bwyd môr i sicrhau bod y polisïau o fewn y JFS yn cael eu gweithredu’n effeithiol, a’u bod wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau cyfranogol gwirioneddol a chyd-ddylunio polisi’r dyfodol. Mae hyn yn atseinio safbwyntiau gan ymatebwyr ar nifer o feysydd allweddol, fel cynllunio gofodol morol, gan gynnwys rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gwyddoniaeth ac ymchwil, ac FMPs. Bydd polisïau newydd yn destun ymgynghoriad ac yn cael eu datblygu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd FMPs yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn, gyda’r holl bartïon sydd â diddordeb yn cael cyfle i gyflwyno eu barn i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd perthnasol cyn i bob FMP gael ei gwblhau a’i gyhoeddi.

Beth yw’ch barn am y cynigion ar gyfer datblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPs)?

Bydd FMPs yn ddulliau allweddol i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy a reolir yn dda sy’n bodloni ein hymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn croesawu’r gefnogaeth eang a fynegwyd gan ymatebwyr i’n cynigion ar FMPs.

Rydym wedi cryfhau’r adran FMP drwy bwysleisio pwysigrwydd gwreiddio egwyddorion cynaliadwyedd a defnyddio dull sy’n seiliedig ar ecosystemau o’r cychwyn cyntaf, manteision gweithredu’r egwyddorion hyn, a’u rôl wrth gyflawni, neu gyfrannu at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd.

Er enghraifft, rydym wedi cyfeirio at effaith pysgodfeydd ar yr ecosystem a rhyngweithio â rhywogaethau nad ydynt yn darged, gan gynnwys rhywogaethau a warchodir, ochr yn ochr â sicrhau bod ein stociau sy’n fasnachol bwysig yn cael eu cynaeafu’n gynaliadwy yn y tymor hir. Gellir ymestyn cwmpas FMP hefyd i ystyried materion rheoli pysgodfeydd yn ehangach, megis ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, a ffurfio rhan o’r rhaglen o fesurau ar gyfer ennill Statws Amgylcheddol Da.

Mae’r egwyddor graidd o’r dystiolaeth a’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael yn parhau i gael ei ddefnyddio i ddatblygu FMPs. Er enghraifft, bydd mesurau procsi addas, cyngor rhagofalus a strategaeth ar gyfer datblygu’r dulliau angenrheidiol i sicrhau bod stoc yn cael ei gynaeafu’n gynaliadwy, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stociau data cyfyngedig. Ar gyfer stociau data toreithiog, bydd cynnwys Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf yn cael ei ddefnyddio lle bo modd er mwyn asesu cyfyngiadau ar bysgodfeydd cynaliadwy.

Rydym hefyd wedi nodi pryderon ynghylch y cwmpas ar gyfer rhywogaethau nad yw’r FMPs arfaethedig yn ymdrin â hwy. Mae’r rhain yn cael eu cwmpasu gan fesurau rheoli presennol, y bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i’w hadolygu’n rheolaidd, gan gynnwys a fyddai paratoi FMP yn ychwanegu gwerth pellach i reoli gweithgarwch pysgota ar gyfer stociau o’r fath.

Rydym yn cydnabod y dystiolaeth, yr heriau rheoleiddio a pholisi sylweddol o ran paratoi FMPs effeithiol, gan gynnwys cymryd amser i gasglu barn rhanddeiliaid. Felly, rydym wedi cynllunio amserlen ddiwygiedig sy’n cael ei nodi yn y JFS terfynol, sydd hefyd yn adlewyrchu’r profiad yr ydym wedi’i fagu hyd yma wrth gynllunio a dechrau cyflawni FMPs. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydweithio i baratoi 21 o FMPs ar y cyd ar gyfer ein stociau gogleddol mwyaf gwerthfawr o rywogaethau pysgod asgellog. Mae’r gwaith o ddatblygu’r cynlluniau hyn yn cael ei gydgysylltu gan Lywodraeth yr Alban.

Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth baratoi FMPs. Fel y nodir yn y JFS, bydd pob FMP yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol. Ar ben hynny, rydym wedi egluro y bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried dulliau gwahanol o baratoi FMPs, gwerthuso cynnydd a monitro eu heffeithiolrwydd.

Bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gweithio gyda’i gilydd, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid, i bennu’r lefel briodol o fanylion ar gyfer pob cynllun a gaiff ei lunio. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd natur a manylion penodol y mesurau cadwraeth a gynhwysir yn amrywio gan ddibynnu ar gwmpas ac amcanion y cynllun unigol. Mae’n bosib y bydd angen i FMPs edrych yn dra gwahanol yn ôl y bysgodfa neu’r ardal dan sylw, a gallai, er enghraifft, gynnwys un rhywogaeth neu fabwysiadu ardal ddaearyddol ddiffiniedig.

A oes unrhyw agweddau eraill ar bolisi pysgodfeydd y credwch y dylem eu cynnwys yn y JFS?

Rydym wedi nodi’r ystod eang o bolisïau posibl a gyflwynwyd mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Mewn ymateb, a lle bo’n briodol, rydym wedi rhoi mwy o bwyslais mewn nifer o feysydd polisi, gan gynnwys ychwanegu adran ar fonitro a gorfodi pysgodfeydd, sy’n cryfhau pwysigrwydd mesurau a fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau cydymffurfiaeth.

Rydym yn nodi bod y polisïau yn y JFS yn berthnasol ar draws yr holl weithgareddau pysgota a dyframaethu, gan gynnwys pysgota hamdden yn y môr a sectorau ehangach yn y gadwyn gyflenwi.

Rydym hefyd wedi cydnabod yn gliriach bwysigrwydd strategol ehangach y JFS, gan ddangos yn gliriach y cyfraniad at ddiogeledd bwyd yn ogystal â phwysigrwydd pysgod wedi’u dal yn ddomestig i’r sector prosesu.

Casgliad a’r camau nesaf

Mae’r JFS, ei hun, yn gam sylweddol ymlaen o ran ein huchelgeisiau i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy o’r radd flaenaf. Mae’n nodi polisïau’r awdurdodau polisi pysgodfeydd ar gyfer cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd yn y Ddeddf. Yn ei dro, bydd hyn yn sicrhau bod gennym ddiwydiant pysgota bywiog, modern a chydnerth ac amgylchedd morol iach.

Mae hefyd yn rhan allweddol o’r Fframwaith Cyffredin newydd ar gyfer Rheoli a Chefnogi Pysgodfeydd (y Fframwaith Pysgodfeydd). Mae’r Fframwaith hwn yn nodi sut y bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cyflawni eu gofynion statudol, ac yn cydweithio ar faterion ehangach sy’n ymwneud â rheoli pysgodfeydd, gan barchu’r Setliadau Datganoli ar yr un pryd.

Mae’r JFS terfynol bellach wedi’i gyhoeddi, yn unol ag adran 2(1) o’r Ddeddf, ac mae’r ddogfen ar gael yma.

Bydd y JFS yn parhau ar waith nes iddo gael ei ddiwygio neu ei ddisodli. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd adolygu’r JFS pryd bynnag y byddant yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny, a pha un bynnag o fewn 6 mlynedd i’w gyhoeddi neu’r adolygiad diweddaraf. Fel y nodir yn y JFS, byddwn yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn cyflawni polisïau’r JFS mewn tair blynedd.