Consultation outcome

Domestic homicide review legislation consultation: government response (Welsh accessible version)

Updated 5 March 2024

Ionawr 2024

Cyflwyniad

Dyma ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad deddfwriaeth yr Adolygiad o Laddiad Domestig (DHR), a lansiwyd ar 16 Gorffennaf 2023 ac a barhaodd am 8 wythnos, gan ddod i ben ar 11 Awst. Roedd yr ymgynghoriad yn agored i’r cyhoedd a gwahoddwyd adborth gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau trais yn erbyn menywod a merched, cyrff proffesiynol, gwasanaethau ac asiantaethau, ac unigolion mewn profedigaeth oherwydd lladdiad domestig neu hunanladdiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r ymgynghoriad a’r ymatebion a dderbyniwyd, yn crynhoi’r themâu allweddol a gododd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn amlygu canlyniadau penodol yr ymgynghoriad.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio’n bersonol gan gam-drin domestig angheuol.

Os hoffech wneud unrhyw sylwadau ynghylch y ddogfen ymateb hon, yr ymgynghoriad cyhoeddus neu’r diwygiadau deddfwriaethol, cysylltwch â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad a ganlyn:

Y Tîm Adolygu Dynladdiad Domestig
Yr Uned Cam-drin Rhyngbersonol
5th floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: DHRReform@homeoffice.gov.uk

Mae’r adroddiad hwn hefyd ar gael yn: https://www.gov.uk/government/consultations/domestic-homicide-review-legislation-consultation

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r cyhoeddiad hwn mewn fformatau eraill drwy DHRReform@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod

Cefndir

Cam-drin domestig yw’r math mwyaf cyffredin o drais yn erbyn menywod a merched ac mewn rhai achosion, gall fod yn angheuol. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddeall ac atal cam-drin domestig angheuol yn well.

Deddfwriaethir ar gyfer DHRs drwy Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004. Maent yn adolygiadau aml-asiantaeth sy’n ceisio nodi a gweithredu gwersi a ddysgwyd o farwolaeth lle:

mae marwolaeth person 16 oed neu drosodd wedi, neu’n ymddangos ei bod wedi deillio o drais, cam-drin neu esgeulustod gan (a) person yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd, neu y bu, mewn perthynas bersonol agos ag ef, neu ( b) aelod o’r un aelwyd ag ef’.

Dylid ystyried pob lladdiad a hunanladdiad domestig sy’n bodloni’r meini prawf a nodir yn Neddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 a’r canllawiau statudol ar gyfer DHR. Dylai DHRs gael eu comisiynu gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol wrth iddynt ganolbwyntio ar argymhellion ar gyfer asiantaethau lleol, fodd bynnag gallant hefyd gynnwys argymhellion cenedlaethol i wella diogelu dioddefwyr er mwyn atal trasiedïau pellach.

Camaliniad rhwng Adolygiadau Lladdiad Domestig a Deddf Cam-drin Domestig 2021

Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 ddiffiniad statudol o gam-drin domestig sy’n ymgorffori ystod o gam-drin y tu hwnt i ‘drais, cam-drin ac esgeulustod’ i gynnwys ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, cam-drin emosiynol a cham-drin economaidd. Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 hefyd yn rhoi diffiniad cliriach o ba berthnasoedd y gall cam-drin domestig ddigwydd o’u mewn, gan nodi y gall ymddygiad camdriniol rhwng unigolion sydd â ‘chysylltiad personol’ drwy berthnasoedd agos neu deuluol [footnote 1] gael ei ddosbarthu fel cam-drin domestig. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, nid yw DHRs yn cyd-fynd â’r diffiniad o gam-drin domestig a ddarperir gan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Ar hyn o bryd gellir comisiynu DHRs pan fydd lladdiad domestig yn digwydd mewn achosion lle mae unigolion yn cyd-fyw ond heb gysylltiad personol, nad yw’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig.

Y term ‘lladdiad’

Ar hyn o bryd, gellir comisiynu DHRs lle mae marwolaeth yn gysylltiedig â cham-drin domestig, naill ai o ganlyniad i laddiad, dioddefwr yn cymryd ei fywyd ei hun neu mewn amgylchiadau sy’n anesboniadwy ond sy’n peri pryder. Roedd canllawiau statudol Aml-asiantaeth 2016 ar gyfer cynnal Adolygiadau Lladdiad Domestig yn egluro y gellid cynnal DHRs ar gyfer hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig i gydnabod nifer y dioddefwyr sy’n marw drwy hunanladdiad o ganlyniad i gam-drin domestig, a’r angen i ddeall yn well ac atal y marwolaethau hyn. Gan nad yw natur marwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR yn lladdiadau yn unig, gall y term ‘lladdiad’ mewn DHR fod yn ddryslyd ac yn broblematig i deuluoedd ar ôl i’w hanwyliaid farw trwy hunanladdiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Nid yw’r term ‘lladdiad’ ychwaith yn berthnasol wrth gynnal adolygiad o farwolaethau a ddyfarnwyd fel rhai ‘anesboniadwy’ neu ‘annisgwyl’ gan Grwner.

Er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion hyn yn y ddeddfwriaeth DHR bresennol, cynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus yn gwahodd safbwyntiau ar ddiwygio Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 er mwyn:

  • Sicrhau bod DHR yn cael ei gomisiynu pan yw’r farwolaeth, neu pan yw’n ymddangos ei bod wedi, deillio o gam-drin domestig fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021; a

  • Diwygio’r term ‘lladdiad’ mewn DHRs i adlewyrchu ystod y marwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas adolygiad.

Crynodeb o’r ymatebion

Crynodeb Gweithredol

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi diwygio’r amgylchiadau lle cynhelir DHR yn Neddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 o ‘drais, cam-drin ac esgeulustod’ i’r diffiniad o gam-drin domestig yn Neddf Cam-drin Domestig 2021. Mae’r diffiniad statudol yn cydnabod ymddygiad rheoli neu orfodi, cam-drin emosiynol a cham-drin economaidd fel cam-drin domestig (yn ogystal ag ymddygiadau camdriniol eraill) ac mae’n pennu’r cyd-destun perthynol lle gall cam-drin domestig ddigwydd fel rhywbeth rhwng unigolion sydd â ‘chysylltiad personol’ drwy berthnasoedd agos neu deuluol[footnote 2], yn hytrach nag unigolion yn cyd-fyw yn unig. Byddai cynnwys y diffiniad hwn yn benodol mewn deddfwriaeth DHR yn sicrhau bod DHRs yn canolbwyntio ar farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ac felly’n cyfrannu’n well at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig ac yn dal yr hyn a ddysgwyd i atal cam-drin domestig angheuol.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig ailenwi DHRs, ac o’r awgrymiadau a gynigiwyd gan ymatebwyr, ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cysylltiedig â Cham-drin Domestig’ (neu eiriad tebyg i gyfleu’r pwynt hwn) oedd yr enw mwyaf cyffredin a gyflwynwyd. Bydd yr enw hwn yn sicrhau bod pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn cael ei thrin yr un mor ddifrifol â lladdiad domestig, ac mae’r adolygiadau’n adlewyrchu amgylchiadau marwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas adolygiad.

Trosolwg o’r ymgynghoriad

Mae’r ddeddfwriaeth DHR a nodir yn Neddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 yn berthnasol i sefydliadau ac asiantaethau sy’n gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, aelodau o’r teulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd cam-drin domestig angheuol a chyflawnwyr cam-drin domestig. Efallai y bydd gan rai o’r sefydliadau hyn hefyd ddyletswyddau statudol i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig. Ceisiodd y Swyddfa Gartref ymgysylltu â’r grwpiau canlynol drwy’r ymgynghoriad:

  • asiantaethau gorfodi’r gyfraith (cyrff heddlu/plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron)

  • sefydliadau gofal iechyd

  • awdurdodau lleol

  • sefydliadau addysgol/cyrff myfyrwyr

  • sefydliadau trais yn erbyn menywod a merched

  • gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol

  • sefydliadau lladdiad/hunanladdiad domestig -gysylltiedig-â-gam-drin domestig

  • aelodau o’r teulu neu ffrindiau sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd lladdiad domestig

  • aelodau o’r teulu neu ffrindiau sydd wedi dioddef profedigaeth oherwydd marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig (nid lladdiad)

Gan fod yr ymgynghoriad hefyd ar gael i’r cyhoedd, roedd aelodau o’r cyhoedd a oedd â diddordeb arbennig yn y pwnc hefyd yn gallu ymateb.

Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion, trwy arolwg ar-lein, cyflwyniadau e-bost a thrwy’r post. Roedd rhai cwestiynau yn orfodol i’r ymateb cyffredinol i’r arolwg eu cynnwys yn y dadansoddiad. At ddibenion dadansoddi, y cwestiynau gorfodol oedd, C1 (A ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad?), C4 (A ydych chi o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR fel bod DHR yn cael ei ystyried ar gyfer pob marwolaeth sydd wedi neu sy’n ymddengos ei bod wedi digwydd yn ganlyniad i gam-drin domestig, fel y mae cam-drin domestig yn cael ei ddiffinio yn Neddf Cam-drin Domestig 2021?) a C5 (A ydych chi o blaid ailenwi ‘adolygiadau dynladdiad domestig’?). Cafwyd cyfanswm o 331 o ymatebion cyflawn. Roedd mwyafrif yr ymatebion gan neu ar ran sefydliadau (222; 67%), gyda’r gweddill gan unigolion (109; 33%). O’r rhai a ymatebodd fel neu ar ran sefydliad, roedd mwyafrif y sefydliadau yn Awdurdodau Lleol (26%), a’r ail gategori mwyaf oedd sefydliadau gofal iechyd (21%).

Tabl 1: Sefydliadau a gynrychiolir yn yr ymgynghoriad

Sefydliadau a gynrychiolir yn yr ymgynghoriad Canran Ymateb (o ymatebion nad ydynt yn wag) Cyfanswm yr ymatebion
Awdurdod Lleol 26% 56
Sefydliad Gofal Iechyd 21% 46
Elusen/darparwr gwasanaeth trais yn erbyn menywod a merched 18% 40
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 14% 30
Asiantaeth gorfodi’r gyfraith (yr heddlu, corff plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron) 7 % 16
Sefydliad/Partneriaeth Cam-drin Domestig 4 % 8
Arall 4 % 8
Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu 3 % 6
Gwasanaeth Tân ac Achub 1% 3
Corff/rhwydwaith diogelu 1% 3
Sefydliad addysgol/ymchwil neu gorff myfyrwyr 1 % 2
Cyfanswm yr ymatebion nad ydynt yn wag 100% 218
Ymatebion gwag - 4
Cyfanswm yr ymatebion - 222

Tabl 2: Unigolion a gynrychiolir yn yr ymgynghoriad

Unigolion a gynrychiolir yn yr ymgynghoriad Canran Ymateb (o ymatebion nad ydynt yn wag) Cyfanswm yr ymatebion
Gweithio yn y Sector Iechyd/Gofal Cymdeithasol/Diogelu 19 % 20
Awdur DHR /Cadeirydd DHR/Panel DHR 14% 15
Aelod o’r teulu neu ffrind mewn profedigaeth oherwydd lladdiad domestig 12% 13
Aelod o’r teulu neu ffrind mewn profedigaeth oherwydd math arall o farwolaeth yn ymwneud â cham-drin domestig (nid lladdiad) 11% 12
Gweithio yn y sector cam-drin domestig 10% 11
Dioddefwr/Goroeswr/Profiad Bywyd/Wedi’i effeithio’n bersonol 9% 10
Academydd/ymchwilydd/myfyriwr 8% 9
Gweithiwr cymorth/Eiriolwr/Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol 6% 7
Gweithio yn y sector plismona/diogelwch cymunedol 5% 5
Arall 4% 4
Gweithio yn y Sector trais yn erbyn menywod a merched 2% 2
Cyfanswm yr ymatebion nad ydynt yn wag 100% 108
Ymatebion gwag - 1
Cyfanswm yr ymatebion - 109

Cafwyd ymatebion i’r ymgynghoriad o bob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer y cwestiwn dewisol ‘Ble ydych chi’n byw’, rhoddwyd cyfanswm o 284 o ymatebion. Yr ateb mwyaf cyffredin i sylwadau oedd De-ddwyrain Lloegr (22%). Roedd y dadansoddiad llawn fel a ganlyn:

Tabl 3: Lleoliadau ymatebwyr

Lleoliad Canran Ymateb (o ymatebion nad ydynt yn wag) Cyfanswm yr ymatebion
De-ddwyrain Lloegr 22% 63
De-orllewin Lloegr 15% 43
Gogledd-orllewin Lloegr 10% 27
Llundain Fwyaf 10% 27
Swydd Efrog a’r Humber 8% 23
Dwyrain Lloegr 8% 22
Gorllewin Canolbarth Lloegr 7% 21
Gogledd-ddwyrain Lloegr 7% 19
Dwyrain Canolbarth Lloegr 7% 19
Gwell gennyf beidio â dweud 3% 8
Arall (nodwch) 2% 6
Cymru 2% 5
Yr Alban 0% 1
Gogledd Iwerddon 0% 0
Cyfanswm yr ymatebion nad ydynt yn wag 100% 284
Ymatebion gwag - 47
Cyfanswm yr ymatebion - 331

Cwestiynau allweddol

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am adborth ar y newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth DHR. Roedd yr arolwg ar-lein yn cynnwys cyfanswm o 17 cwestiwn. Roedd cwestiynau 1-3 a 7-17 yn ymwneud â’r ymatebydd ac maent wedi’u crynhoi yn yr adran ‘Math o ymatebwyr’. Roedd cwestiynau 4-6 yn ymwneud â deddfwriaeth DHR. Roedd y 3 chwestiwn hyn i gyd yn gwestiynau caeedig, gyda’r opsiwn i roi sylwadau pellach neu eglurhad mewn ymateb testun rhydd. Gosodwyd y rhain fel a ganlyn:

Cwestiwn 4. A ydych chi o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR fel bod DHR yn cael ei ystyried ar gyfer pob marwolaeth sydd wedi neu sy’n ymddangos fel ei bod wedi digwydd o ganlyniad i gam-drin domestig, fel bod cam-drin domestig wedi’i ddiffinio yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 (gweler isod)?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 5. A ydych chi o blaid ailenwi ‘adolygiadau lladdiad domestig’?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Cwestiwn 6. Os caiff ‘adolygiadau lladdiad domestig’ eu hailenwi, a ddylai’r Llywodraeth:

  • Cyflwyno’r term ‘adolygiad o farwolaethau cam-drin domestig’ ar gyfer achosion o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig nad ydynt yn laddiadau, gan gadw’r termau ‘adolygiad lladdiad domestig’ ar gyfer lladdiadau domestig
  • Ail-enwi pob ‘adolygiad lladdiad domestig’ yn ‘adolygiadau marwolaeth cam-drin domestig’
  • Defnyddio term (neu dermau) arall i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR (nodwch os gwelwch yn dda)

Methodoleg

Roedd y gwaith dadansoddi’n cynnwys cynhyrchu tablau amlder (cyfrif a chanran) ar gyfer cwestiynau arolwg ymateb sefydlog a datblygu fframweithiau codio ar gyfer ymatebion testun rhydd.

Nodwyd tri chod amlycaf ar gyfer pob ymateb unigryw, er y gallai fod mwy na thair thema yn bresennol yn ateb yr ymatebydd. Roedd mwyafrif yr ymatebion a gyflwynwyd drwy e-bost yn dilyn strwythur yr arolwg ar-lein, ond nid oedd hyn yn ofynnol. Cyfunwyd ymatebion all-lein ag ymatebion ar-lein cyn eu dadansoddi.

Mae’r canrannau a amlygwyd drwy gydol y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad wedi’u talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Mae’n bosibl bod pob cwestiwn wedi cael nifer wahanol o ymatebion, yn seiliedig ar y math o gwestiwn a dewis yr atebwr ynghylch a ddylai ateb.

Dim ond i gofnodi barn amrywiol y cyfranogwyr sydd wedi dewis ymateb i gynigion yr ymgynghoriad y gellir defnyddio canfyddiadau’r ymgynghoriad. Oherwydd natur hunan-ddewisol y dull ymgynghori cyhoeddus, ni ddylid ystyried bod y canfyddiadau’n gynrychioliadol yn ystadegol o farn grŵp neu sector.

Ymatebion i gwestiynau penodol

Cwestiwn 4

A ydych chi o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR fel bod DHR yn cael ei ystyried ar gyfer pob marwolaeth sydd wedi bod, neu sydd yn ymddangos i fod yn ganlyniad cam-drin domestig, gan fod cam-drin domestig wedi’i ddiffinio yn Neddf Cam-drin Domestig 2021?

Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 ddiffiniad statudol o gam-drin domestig sy’n ymgorffori ystod o gam-drin y tu hwnt i ‘drais, cam-drin ac esgeulustod’ i gynnwys ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, cam-drin emosiynol a cham-drin economaidd (yn ogystal ag ymddygiadau camdriniol eraill). Byddai cynnwys y diffiniad hwn yn benodol yn Neddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 yn sicrhau bod DHRs yn cyfrannu’n well at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig, ac yn dal yr hyn a ddysgwyd i atal cam-drin domestig angheuol.

Mae cwmpas y cyd-destun perthynol y gall cam-drin domestig ddigwydd ynddo hefyd wedi’i ddiffinio yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 fel rhwng unigolion sydd â ‘chysylltiad personol’. Ar hyn o bryd, gellir comisiynu DHRs pan fydd lladdiad domestig yn digwydd mewn achosion lle mae unigolion yn cyd-fyw ond heb gysylltiad personol, nad yw’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig.

Roedd cwestiwn 4 yn gofyn i ymatebwyr ateb y cwestiwn naill ai ag ymateb “Ydw”, “Nac ydw” neu “Ddim yn gwybod”.

Roedd gan ymatebwyr hefyd yr opsiwn o wneud sylwadau pellach ar eu hateb i C4 i egluro’r rhesymeg y tu ôl i’w hateb.

Ymateb i’r Ymgynghoriad

Cafwyd cyfanswm o 331 o ymatebion i C4.

Atebodd 311 o ymatebwyr (94%) “Ydw” o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR fel bod DHR yn cael ei ystyried ar gyfer pob marwolaeth sydd wedi neu’n ymddangos fel ei bod wedi digwydd o ganlyniad i gam-drin domestig, atebodd 12 ymatebydd (4%) ‘Nac ydw’ ac atebodd 8 ymatebydd (2%) ‘Ddim yn gwybod’.

Tabl 4: A ydych chi o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR fel bod DHR yn cael ei ystyried ar gyfer pob marwolaeth sydd wedi neu sy’n ymddangos ei bod yn ganlyniad cam-drin domestig, gan fod cam-drin domestig wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021?

Ateb Canran ymateb Cyfanswm yr ymatebion
Ydw 94% 311
Nac ydw 4% 12
Ddim yn Gwybod 2% 8
Cyfanswm 100% 331

O’r 311 o ymatebion ‘Ie’ i C4, gwnaeth 158 o ymatebwyr sylwadau pellach i egluro eu rhesymau o blaid diweddaru deddfwriaeth DHR.

Y thema fwyaf cyffredin ar draws yr atebion oedd y byddai diweddaru deddfwriaeth DHR yn helpu i gysoni DHRs â deall cam-drin domestig, gan gynnwys cefnogi cysondeb mewn penderfyniadau i gynnal DHRs pan nodir rheolaeth orfodol, cam-drin economaidd neu gam-drin seicolegol. Y thema fwyaf cyffredin nesaf oedd y byddai angen canllawiau pellach i egluro’r ddeddfwriaeth DHR bresennol sy’n nodi bod DHR wedi’i sefydlu yn dilyn marwolaeth y mae marwolaeth person 16 oed neu hŷn wedi, neu’n ymddangos i fod wedi deillio o drais, cam-drin neu esgeulusdod. Roedd y geiriad hwn y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn, ond mae rhagor o fanylion am sut y mae’r Llywodraeth yn ymateb wedi’u cynnwys yn Adran 4 o’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad.

Mae’r ddeddfwriaeth DHR bresennol yn cynnwys cyfeiriad penodol at ‘esgeulustod’ a chodwyd pryderon y gallai dileu’r term fod â goblygiadau negyddol i gydnabyddiaeth gyhoeddus o gam-drin ymhlith dioddefwyr hŷn a phobl ag anabledd. Gellid colli cam-drin domestig rhwng y rhai nad ydynt yn ‘bersonol gysylltiedig’ neu o fewn teuluoedd a chymunedau estynedig, megis cam-drin ar sail ‘anrhydedd’, neu unigolion sy’n byw gyda’i gilydd e.e. cyd-letywyr, pe bai’r diffiniad statudol o gam-drin domestig yn cael ei fabwysiadu mewn deddfwriaeth DHR. Nodwyd hefyd y gallai fod gorgyffwrdd o adolygiadau statudol sy’n cael eu comisiynu ar gyfer marwolaethau unigolion 16-18 oed, gan fod DHRs yn cael eu comisiynu ar gyfer unigolion dros 16 oed ac mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn diffinio plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain os ydynt yn 18 oed neu’n iau ac yn gweld, yn clywed, neu’n profi effeithiau cam-drin domestig, ac yn perthyn i’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd neu’r dioddefwr.

Ymateb y Llywodraeth

Gan fod cefnogaeth aruthrol i ychwanegu’r diffiniad statudol o gam-drin domestig i ddeddfwriaeth DHR, bydd y Llywodraeth yn diweddaru’r amgylchiadau pan ystyrir bod DHR yn cynnwys y diffiniad o gam-drin domestig yn unol â Deddf Cam-drin Domestig 2021. Y canlyniad fydd y dylid ystyried DHR pan fo marwolaeth person, 16 oed neu hŷn, wedi bod, neu’n ymddangos fel ei bod wedi bod o ganlyniad i gam-drin domestig, fel y’i diffinnir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021.

Mae’r Llywodraeth yn adolygu’r canllawiau statudol sy’n sail i DHRs a bydd yn egluro pan yw marwolaeth wedi bod, neu’n ymddangos felei bod wedi deillio o gam-drin domestig fel y’i diffinnir yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 (ac mae’r dioddefwr yn 16 oed neu’n hŷn), ac felly a yw Dylid comisiynu DHR. Bydd rhagor o fanylion hefyd yn cael eu cynnwys i gefnogi gwneud penderfyniadau ar gyfer DHRs ar gyfer marwolaethau o ganlyniad i esgeulustod, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ ac ar gyfer cynnal adolygiadau cyfochrog ar gyfer unigolion 16-18 oed. Ein barn ni yw na fyddai comisiynu DHRs mewn achosion lle bu marwolaeth y dioddefwr o ganlyniad i weithredoedd gan unigolyn nad oedd yn ‘bersonol gysylltiedig’ ag ef, ac felly heb ei ddiffinio fel cam-drin domestig, yn hybu ein dealltwriaeth o gam-drin domestig ac felly bydd yn cael ei eithrio o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004.

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau diwygiedig.

Cwestiwn 5

A ydych chi o blaid ailenwi ‘adolygiadau lladdiad domestig’?

Mae DHRs hefyd yn cael eu comisiynu mewn achosion o hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, marwolaethau anesboniadwy ac mewn achosion o esgeulustod ac felly nid yw’r term ‘lladdiad’ yn cynrychioli’n ddigonol yr ystod o farwolaethau y gellir eu hadolygu.

Ceisiodd yr ymgynghoriad hwn ddeall y consensws ynghylch ailenwi DHRs mewn ymateb i adborth gan ymarferwyr DHR fod y term ‘lladdiad’ yn ddryslyd wrth adolygu achos nad yw wedi’i ddyfarnu’n lladdiad. Roedd teuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn gysylltiedig â cham-drin domestig hefyd wedi bod yn galw am gonfensiynau enwi amgen ar gyfer DHRs. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn cael ei thrin yr un mor ddifrifol â lladdiad domestig, ac i’r adolygiadau adlewyrchu’r amgylchiadau.

Roedd cwestiwn 5 yn gofyn i ymatebwyr ateb y cwestiwn naill ai ag ymateb “Ie”, “Na” neu “Ddim yn gwybod”.

Ymateb i’r Ymgynghoriad

O’r 331 o ymatebion a roddwyd, dewisodd 299 o ymatebwyr ‘ydw’, a oedd yn fwyafrif llethol (90%). Dewisodd 19 o ymatebwyr ‘nac ydw’ (6%), ac fe wnaeth13 o ymatebwyr ddewis ‘ddim yn gwybod’ neu roi ateb arall (4%). Roedd y cwestiwn hwn yn cynnwys yr opsiwn i ymatebwyr egluro eu rhesymau mewn blwch testun rhydd. Y thema fwyaf cyffredin oedd ailenwi DHRs i gyd-fynd â’r ddealltwriaeth ehangach a’r diffiniad statudol o gam-drin domestig. Cododd ymatebwyr enghreifftiau o deulu a ffrindiau’r dioddefwr yn dibynnu ar y DHR i ddeall cam-drin domestig yn well, dryswch ynghylch y term lladdiad pan gymerodd y dioddefwr ei fywyd ei hun ac awgrym y byddai enw arall yn fwy addas i gynrychioli ehangder y marwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.

Yr ail themâu mwyaf cyffredin oedd ailenwi DHRs a fyddai’n egluro bod DHRs hefyd yn cael eu cynnal ar gyfer hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, a chais am gynnwys mwy o eglurder mewn canllawiau statudol ar gyfer cynnal DHRs yn yr achosion hyn. Dywedodd ymatebwyr y byddai ailenwi DHRs yn hybu gwell dealltwriaeth o hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r marwolaethau hyn, ac yn sicrhau bod DHRs yn cael eu comisiynu yn yr achosion hyn. Nodwyd hefyd y gallai ailenwi DHRs ganiatáu mwy o synnwyr o gyfiawnder i deulu a ffrindiau dioddefwyr cam-drin domestig a gymerodd eu bywydau eu hunain gan fod eu hanwylyd yn cael ei gydnabod yn haeddiannol.

Ymateb y Llywodraeth

Gan fod mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno y dylid ailenwi DHRs, bydd y Llywodraeth yn ailenwi DHRs. Fe fu cwestiwn 6 o’r ymgynghoriad yn gymorth pellach i lywio’r confensiwn enwi newydd, a drafodir isod. Ystyriwyd yr ymatebion a oedd yn egluro pam na ddylid ailenwi DHRs.

Mae rhagor o fanylion am ddarparu canllawiau ychwanegol i gefnogi’r broses DHR wedi’u cynnwys yng nghasgliad ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad hwn.

Cwestiwn 6

Os caiff ‘adolygiadau lladdiad domestig’ eu hailenwi, a ddylai’r Llywodraeth: * Cyflwyno’r term ‘adolygiad o farwolaethau cam-drin domestig’ ar gyfer achosion o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig nad ydynt yn laddiadau, tra’n cadw’r termau ‘adolygiad lladdiad domestig’ ar gyfer lladdiadau domestig? * Ail-enwi pob ‘adolygiad lladdiad domestig’ yn ‘adolygiadau marwolaeth cam-drin domestig’? * Defnyddio term (neu dermau) arall i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR (nodwch os gwelwch yn dda)?

Ymateb i’r ymgynghoriad

Roedd mwyafrif clir o blaid sut y dylai’r Llywodraeth symud ymlaen pe byddai DHRs yn cael eu hail-enwi. Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (52%) o blaid ailenwi’r holl DHRs yn ‘adolygiadau marwolaeth cam-drin domestig’. Roedd chwarter (25%) yr ymatebwyr o blaid defnyddio term (neu dermau) amgen i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR, ac roedd 23% arall o blaid cyflwyno’r term ‘adolygiad marwolaeth cam-drin domestig’ ar gyfer achosion o farwolaethau cysylltiedig â cham-drin domestig nad ydynt yn laddiadau, tra’n cadw’r term ‘adolygiad laddiad domestig’ ar gyfer lladdiadau domestig. Ni roddodd deuddeg o ymatebwyr ateb i’r cwestiwn hwn.

Tabl 5: Barn am ailenwi DHRs

Os caiff DHRs eu hailenwi, a ddylai’r llywodraeth: Canran ymateb (o ymatebion nad ydynt yn wag) Nifer yr Ymatebion
Ail-enwi pob ‘Adolygiad Lladdiad Domestig’ yn ‘Adolygiadau Marwolaethau Cam-drin Domestig’ 52% 166
Defnyddio term (neu dermau) arall i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR (nodwch) 25% 79
Cyflwyno’r term ‘adolygiad o farwolaethau cam-drin domestig’ ar gyfer achosion o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig nad ydynt yn laddiadau, tra’n cadw’r term ‘adolygiad lladdiad domestig’ ar gyfer lladdiadau domestig 23% 74
Cyfanswm yr ymatebion nad ydynt yn wag 100% 319
Ymatebion gwag - 12
Cyfanswm yr ymatebion - 331

Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn teimlo y dylid ailenwi DHRs yn ‘adolygiadau marwolaeth cam-drin domestig’, roedd yr ymatebion testun rhydd yn codi pryderon ynghylch addasrwydd y term ‘marwolaeth’ ar gyfer marwolaethau o fewn cwmpas DHR. Nododd ymatebwyr fod y gair marwolaeth (fel y’i diffinnir yn gyffredin) yn dileu beiusrwydd cyflawnwyr ac na fyddai’n addas wrth gyfeirio at DHRs ar gyfer hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig neu farwolaethau anesboniadwy.

Mae diffiniadau o ‘farwolaeth’ yn cynnwys cyfeiriad at ‘farwolaeth a achosir gan ddamwain neu drais’[footnote 3], ‘marwolaeth o ganlyniad i drychineb’[footnote 4] a ‘marwolaethau o ganlyniad i ryfel neu ddamweiniau traffig’[footnote 5].

Roedd cyfran uwch o’r ymatebion o blaid ailenwi pob DHR yn hytrach na chael enwau gwahanol ar DHRs ar gyfer hunanladdiad yn gysylltiedig â cham-drin domestig a DHRs. Awgrymodd y rhai a oedd o blaid defnyddio un enw ar gyfer pob DHR y byddai cael enwau lluosog yn ddryslyd a nodwyd y byddai un enw yn sicrhau bod cydraddoldeb ar draws pob marwolaeth sy’n dod o fewn cwmpas DHR. Awgrymodd y rhai a oedd o blaid cadw’r term ‘lladdiad’ ar gyfer DHR fod y term yn dal cryn bwysau ac y gallai dileu’r cyfeiriad penodol at laddiad olygu nad yw difrifoldeb y drosedd yn cael ei amlygu’n ddigonol.

Cynigiodd 47 o ymatebwyr derm amgen i ‘adolygiad marwolaeth cam-drin domestig’. Roedd yr ymatebwyr yn gallu cynnig mwy nag un term amgen. O’r holl dermau amgen a awgrymwyd ac a ddadansoddwyd, argymhellodd oddeutu hanner y dylid ailenwi’r Adolygiadau o Farwolaethau sy’n Gysylltiedig â Cham-drin Domestig yn DHRs (neu ddefnyddio geiriad tebyg i gyfleu’r pwynt hwn) i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas DHR. Roedd awgrymiadau eraill yn amrywio o ddefnyddio lladdiad a hunanladdiad yn enw’r adolygiadau ac ystumio tuag at ddiogelu, gweithio amlasiantaethol, a bod yn agored i niwed.

Ymateb y Llywodraeth

Gan fod y rhan fwyaf o’r ymatebion (166; 52%) o blaid ailenwi DHRs ag un term/ymadrodd, bydd y Llywodraeth yn gweithredu un enw ar gyfer pob DHR i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas adolygiad. Codwyd pryderon sylweddol ynghylch awgrym y Llywodraeth o ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cam-drin Domestig’, a’r dewis arall mwyaf poblogaidd oedd ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cysylltiedig â Cham-drin Domestig’.

Mae ailenwi DHRs yn Adolygiadau o Farwolaethau Cysylltiedig â Cham-drin Domestig yn ymgorffori ‘cam-drin domestig’ yn uniongyrchol a bydd yn sicrhau bod yr adolygiadau’n parhau i adeiladu ar ein dealltwriaeth o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Ar gyfer hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, efallai na fydd cyflawnwr neu gyhuddiadau troseddol clir am gam-drin domestig ac felly nid yw’r term ‘lladdiad’ yn berthnasol. Nid yw’r term lladdiad ychwaith yn addas pan fydd Crwner yn ystyried bod marwolaeth yn anesboniadwy neu’n annisgwyl.

Nod DHR yw nodi gwersi y gellir eu dysgu o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, yn hytrach na chynnal ymchwiliad troseddol i’r sawl sy’n gyfrifol am y farwolaeth.

Themâu ychwanegol y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad

Roedd nifer o themâu ychwanegol wedi’u codio o’r ymatebion testun rhydd sy’n disgyn y tu allan i gwmpas diwygiadau i ddeddfwriaeth DHR. Mae’r themâu hyn, ynghyd â’r camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â nhw i sicrhau y gall DHRs barhau i adeiladu ar ein dealltwriaeth o gam-drin domestig ac atal lladdiad domestig, wedi’u hamlinellu isod.

Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng adolygu lladdiadau domestig a phan oedd y dioddefwr wedi lladd ei hun yn dilyn cam-drin domestig. Mae’r Llywodraeth yn adolygu canllawiau statudol DHR a bydd yn cynnwys manylion ar sut i gynnal adolygiadau ar gyfer hunanladdiadau yn dilyn marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Bydd y canllawiau hefyd yn ceisio rhoi mwy o eglurder i gefnogi ardaloedd lleol i benderfynu pa hunanladdiadau y dylid eu hystyried ar gyfer adolygiad. Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar y fersiwn wedi’i diweddaru o’r canllawiau statudol yn y misoedd nesaf.

Mynegodd ymatebwyr bryderon hefyd am yr amser a gymerir i gwblhau a chyhoeddi’r Adolygiadau yn dilyn proses sicrhau ansawdd y Swyddfa Gartref. Rydym yn ceisio lleihau’r amser a gymerir i gwblhau DHRs a gwella eu hansawdd trwy roi hyfforddiant gorfodol ar waith i unigolion a gomisiynir i gynnal DHRs (Cadeiryddion DHR). Mae cadeirio DHR yn gofyn am lefel uchel o sgil, llywio asiantaethau a rhanddeiliaid lleol, ymgysylltu â theulu a ffrindiau dioddefwyr lladdiad domestig a gwybodaeth ymarferol am gam-drin domestig. Bydd gweithredu hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer Cadeiryddion DHR yn sicrhau y gall unigolion gynnal DHR yn effeithiol, nodi argymhellion a chynhyrchu adroddiad o ansawdd uchel.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu mecanwaith goruchwylio cryfach ar gyfer DHRs i sicrhau bod eu hargymhellion yn cael eu gweithredu a chyflawni newid gwirioneddol mewn polisi a darpariaeth gwasanaeth i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig ac atal lladdiad domestig. Yn gyffredinol, rydym yn ceisio creu agwedd fwy rhagweithiol at y broses adolygu ac yn y pen draw lleihau graddfeydd amser.

Fel yr amlinellwyd yn y Nodyn Economaidd a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, nid yw’r Llywodraeth yn rhagweld y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cynyddu nifer y DHRs a gomisiynir. Er ein bod yn gwerthfawrogi y gall DHRs gymryd llawer o amser a bod yn ddrud, maent yn hollbwysig i wella ein dealltwriaeth o gam-drin domestig ac atal rhagor o laddiadau domestig.

Casgliad a’r camau nesaf

Hoffem ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn, yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio’n bersonol gan gam-drin domestig angheuol.

O’r ymatebion a dderbyniwyd, roedd consensws ynghylch ychwanegu’r diffiniad statudol o gam-drin domestig i ddeddfwriaeth DHR, felly bydd y Llywodraeth yn diweddaru’r amgylchiadau pan ystyrir bod DHR yn cynnwys y diffiniad o gam-drin domestig yn unol â Deddf Cam-drin Domestig 2021.

Roedd y mwyafrif llethol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad o blaid ailenwi DHRs i adlewyrchu’n well yr ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas adolygiad. Cytunodd hanner yr ymatebion i ailenwi pob DHR i un enw yn hytrach na chadw DHR mewn achosion o laddiad domestig a defnyddio enw arall ar gyfer adolygiadau o hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad yn dangos llai o gefnogaeth i awgrym y Llywodraeth o ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cam-drin Domestig’, a’r dewis arall mwyaf poblogaidd a awgrymwyd oedd ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cysylltiedig â Cham-drin Domestig’. O ganlyniad i’r consensws i ailenwi DHRs, ffafriaeth am derm sengl ac enw amgen mwyafrifol a gynigir, bydd y Llywodraeth yn diwygio enw DHRs i ‘Adolygiadau o Farwolaethau Cysylltiedig â Cham-drin Domestig’.

Bydd y Llywodraeth yn ceisio gwneud y gwelliannau arfaethedig drwy’r Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Mae Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 yn cwmpasu Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 a’r diffiniad statudol cysylltiedig o gam-drin domestig yn berthnasol. Oherwydd hynny, bydd y gwelliant hwn yn newid enw DHRs a’r amgylchiadau pan gomisiynir adolygiadau ar gyfer marwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn unig.

Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r canllawiau statudol sy’n sail i DHRs a byddwn yn cynnwys rhagor o fanylion am gynnal adolygiadau o hunanladdiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, cynnal adolygiadau statudol cyfochrog a sicrhau bod cam-drin domestig ymhlith dioddefwyr hŷn yn parhau i gael ei gydnabod. Bydd y canllawiau yn destun ymgynghoriad.

Fel rhan o’r ymrwymiadau diwygio DHR a amlinellir yn y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig 2022, rydym yn caffael hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cadeiryddion DHR ac yn rhoi systemau goruchwylio mwy cadarn ar waith i sicrhau bod argymhellion a gwersi a ddysgir o adolygiadau yn cael eu gweithredu i gyflawni newid gwirioneddol.

Rydym yn gwneud cynnydd tuag at wella’r broses DHR ac yn ddiolchgar i deulu a ffrindiau dioddefwyr cam-drin domestig a lladdiad domestig a’r rhai sy’n ymwneud â’r broses DHR am eu cefnogaeth barhaus yn y dasg hollbwysig o ddeall ac atal lladdiad domestig yn well.

Egwyddorion ymgynghori

Mae’r egwyddorion y dylai adrannau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth wedi’u nodi yn [Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa’r Cabinet 2018](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/691383/Consultation_Principles__1.pdf](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/691383/Consultation_Principles__1.pdf)