Consultation outcome

Domestic homicide review legislation consultation (Welsh accessible version)

Updated 5 March 2024

Rhagair y Gweinidog

Mae cam-drin domestig a lladdiad domestig yn droseddau ffiaidd a dinistriol. Mae’n rhaid cael ymateb drwy’r system gyfan i fynd i’r afael â nhw. Mae diogelu’r cyhoedd, p’un a ydyn nhw gartref, allan yn crwydro, neu ar-lein, yn flaenoriaeth i mi ac i’r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.

Dyna pam mae’r Llywodraeth yn cymryd camau i drawsnewid y ffordd mae cymdeithas yn ymdrin â’r mater hwn, gan ganolbwyntio ar atal, rhoi cymorth i ddioddefwyr, ac ymlid troseddwyr. Ym mis Mawrth 2022 fe wnaethom gyhoeddi’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig er mwyn sbarduno’r ymdrechion hynny. Roedd y Cynllun yn amlinellu diwygiadau i’r broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig, gan gynnwys canllawiau statudol diwygiedig a mwy o wybodaeth am gynnal Adolygiadau o’r fath mewn achosion o hunanladdiad yn dilyn cam-drin domestig. Er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddysgir o’r Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn cael ei roi ar waith ac yn arwain at newid go iawn, rydym hefyd wedi ymrwymo i greu rolau ffurfiol i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud cynnydd. Ond rydym yn gwybod bod angen gwneud llawer mwy, ac mae arnom ddyled i’r dioddefwyr a’u hanwyliaid i gynnal y momentwm. Dydy dysgu gwersi yn unig ddim yn ddigon; rydym am fynd ymhellach a gwneud yn siŵr ein bod yn adolygu’r holl ddata sydd ar gael i ni er mwyn deall lladdiadau domestig yn well. Dyna pam ein bod yn adeiladu ystorfa ar-lein o’r holl Adolygiadau o Laddiadau Domestig; bydd yn mynd yn fyw yn yr haf. Bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth cymdeithas gyfan o sbardunau a phatrymau lladdiadau domestig.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu ein hymrwymiad i barhau i wella’r ffordd mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn cael eu cynnal mewn partneriaeth agos â theulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd cam-drin domestig, y sector cam-drin domestig, academyddion, a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol. Diolch i chi am roi o’ch amser i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac am eich cyfraniadau at y broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn gyffredinol. Mae’n waith eithriadol o bwysig; hoffwn estyn fy niolch, yn ogystal â’m parch ac edmygedd parhaus tuag atoch.

Cyd-destun

Cam-drin domestig yw’r math mwyaf cyffredin o drais yn erbyn menywod a genethod, ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w ddeall a’i atal yn well. Mewn rhai achosion, gall cam-drin domestig arwain at farwolaeth. Mae’n erchyll ac yn dreiddiol, ac yn rhy aml yn cael ei guddio o’r golwg.

Mae’r llywodraeth hon eisoes wedi cymryd camau i wella ei hymateb i gam-drin domestig. Rydym wedi ymrwymo i roi cyllid i gynyddu’r cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, rydym wedi pasio Deddf Cam-drin Domestig 2021 bwysig ac rydym wedi cyhoeddi’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn 2022. Roedd y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn nodi sut y bydd dros £230 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn cyflawni nifer o ddarpariaethau Deddf Cam-drin Domestig 2021 i ennyn ymateb gan bob rhan o gymdeithas i oresgyn cam-drin domestig. Roedd hefyd yn nodi bwriad y Llywodraeth i ddiwygio’r broses Adolygiadau o Laddiadau Domestig; er ein bod wedi ymrwymo i egwyddorion sylfaenol yr Adolygiadau rydym yn cydnabod bod lle i wella’r ffordd maen nhw’n cael eu cynnal.

Mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn gyfle i asiantaethau lleol a chenedlaethol, cymunedau lleol a chymdeithas roi sylw i bob dioddefwr unigol a thrin pob marwolaeth fel rhywbeth y gellir ei hatal. Deddfwyd ar gyfer yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig drwy Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004, ac yn 2016 diweddarodd y Llywodraeth y canllawiau statudol i gyfarwyddo’r Adolygiadau hynny mewn achosion ‘lle’r oedd dioddefwr wedi cymryd ei fywyd ei hun (hunanladdiad), a’r amgylchiadau’n achosi pryder’.

Rhaid i ni sicrhau bod yr Adolygiadau hynny’n parhau i hybu dysgu a gweithredu sy’n atal cam-drin domestig, ac yn y pen draw, pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Dylai gwersi o’r 10 mlynedd diwethaf hefyd gyfrannu at wneud y broses yn fwy effeithiol ac ymateb i adborth rhanddeiliaid ar sut y gallem ddal ati i wella.

Disgrifiad o’r ymgynghoriad

Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn gofyn am farn ar ddiwygio’r Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr er mwyn:

  • Sicrhau bod Adolygiad o Laddiadau Domestig yn cael ei gomisiynu pan fydd marwolaeth wedi digwydd o ganlyniad i gam-drin domestig fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, neu pan fydd yn ymddangos bod hynny wedi digwydd.
  • Diwygio’r term ‘lladdiad’ yn yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig i adlewyrchu’r ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas adolygiad.

Ymgorffori diffiniad Deddf Cam-drin Domestig 2021 o ‘gam-drin domestig’

Cyflwynodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 ddiffiniad statudol o gam-drin domestig sy’n ymgorffori ystod o gamdriniaethau y tu hwnt i ‘drais, cam-drin ac esgeuluso’ i gynnwys ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, cam-drin emosiynol ac economaidd. Byddai cynnwys y diffiniad hwn yn benodol yn y Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr yn sicrhau bod Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn parhau i gyfrannu at ein dealltwriaeth o gam-drin domestig, ac yn cofnodi’r gwersi a ddysgwyd i atal cam-drin domestig angheuol.

Mae cwmpas y cyd-destun perthynol lle gall cam-drin domestig ddigwydd hefyd yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 fel rhywbeth rhwng unigolion sydd â ‘chysylltiad personol’. Ar hyn o bryd gellir comisiynu Adolygiadau o Laddiadau Domestig pan fydd lladdiad domestig yn digwydd mewn achosion lle mae unigolion yn cyd-fyw ond heb gysylltiad personol, nad yw’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o Laddiad Domestig na’n gallu i’w atal.

Diwygio’r term ‘lladdiad’ mewn Adolygiadau o Laddiadau Domestig

Mae Adolygiadau o Laddiadau Domestig hefyd yn cael eu comisiynu mewn achosion o hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, marwolaethau heb esboniad ac mewn achosion o esgeuluso, felly nid yw’r term ‘lladdiad’ yn cynrychioli’r ystod o farwolaethau y gellir eu hadolygu yn ddigonol.

Mae’r Llywodraeth yn ymateb i adborth gan randdeiliaid y gall y term ‘lladdiad’ beri dryswch i deuluoedd a ffrindiau mewn profedigaeth, yn ogystal ag ymarferwyr, wrth adolygu achos sydd heb ei ddyfarnu’n lladdiad. Yn anad dim, mae teuluoedd a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn gysylltiedig â cham-drin domestig wedi bod yn galw am gonfensiwn enwi arall ar gyfer yr Adolygiadau o Laddiadau Domestig. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yn cael eu trin yr un mor ddifrifol â lladdiad domestig, a bod yr adolygiadau’n adlewyrchu’r amgylchiadau.

Mae’r Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr yn berthnasol i sefydliadau ac asiantaethau sy’n gweithio gyda dioddefwyr, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd cam-drin domestig angheuol, neu’r rhai sy’n cyflawni cam-drin domestig. Efallai y bydd gan rai o’r sefydliadau hyn ddyletswyddau statudol hefyd i ddiogelu dioddefwyr cam-drin domestig.

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i Gymru a Lloegr.

Rydym yn awyddus i glywed gan y grwpiau canlynol drwy’r ymgynghoriad hwn:

  • Asiantaethau gorfodi’r gyfraith (yr heddlu, corff plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron)
  • Sefydliadau gofal iechyd
  • Awdurdodau Lleol (gan gynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol)
  • Sefydliadau addysgol neu gyrff myfyrwyr
  • Sefydliadau Trais yn erbyn Menywod a Genethod
  • Gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ arbenigol a allai gynnig arbenigedd penodol ar faterion sy’n effeithio ar gymunedau lleol
  • Sefydliadau Lladdiad Domestig neu Hunanladdiad sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig
  • Aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd lladdiad domestig.
  • Aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig (nid lladdiad)

Os ydych chi’n methu llenwi ffurflen yr arolwg ar-lein, neu os hoffech chi gael fersiwn fwy hwylus neu mewn iaith arall, mae fersiynau ychwanegol o’r arolwg ar gael.

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Cwestiynau Drafft ar gyfer yr Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth Adolygiadau o Laddiadau Domestig

1. A ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad?

  • Unigolyn
  • Sefydliad

[os Unigolyn ewch i C2, os Sefydliad ewch i C3]

2. Os ydych chi’n ymateb fel unigolyn, dewiswch yr opsiwn sy’n disgrifio eich statws orau.

  • Aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd lladdiad domestig
  • Aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi cael profedigaeth oherwydd math arall o farwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig (nid lladdiad)
  • Ymchwilydd academaidd/ myfyriwr
  • Arall (rhowch fanylion) [Testun agored]

3. Os ydych chi’n ymateb ar ran sefydliad, dewiswch yr opsiwn sy’n disgrifio eich cysylltiad orau.

  • Asiantaeth gorfodi’r gyfraith (yr heddlu, corff plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron)
  • Sefydliad gofal iechyd
  • Awdurdod Lleol
  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Sefydliad addysgol neu gorff myfyrwyr
  • Darparwr gwasanaeth/ elusen trais yn erbyn menywod a genethod
  • Arall (Rhowch fanylion) [Testun agored]

Cynnal Adolygiad o Laddiadau Domestig

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer Adolygiadau o Laddiadau Domestig yn golygu y gellir eu comisiynu mewn achosion lle’r oedd y dioddefwr a’r troseddwr yn byw yn yr un cartref, nad yw’n gwella ein dealltwriaeth o gam-drin domestig na’r ffyrdd o’i atal.

4. Ydych chi o blaid diweddaru’r ddeddfwriaeth Adolygiadau o Laddiadau Domestig fel eu bod yn cael eu comisiynu ar gyfer pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, yn unol â’r diffiniad o gam-drin domestig yn y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (gweler isod)?

  • Ydw + [blwch testun rhydd]
  • Nac ydw + [blwch testun rhydd]
  • Ddim yn gwybod + [blwch testun rhydd]

Mae Adran 1 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn diffinio cam-drin domestig fel:

(2)Mae ymddygiad person (“A”) tuag at berson arall (“B”) yn “gam-drin domestig” os—

(a)yw A a B yn 16 oed neu hŷn ac â chysylltiad personol â’i gilydd, a

(b)mae’r ymddygiad yn gamdriniol.

(3)Mae ymddygiad yn “gamdriniol” os yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—

(a)camdriniaeth gorfforol neu rywiol;

(b)ymddygiad treisgar neu fygythiol;

(c)ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi;

(d)camdriniaeth economaidd (gweler is-adran (4));

(e)camdriniaeth seicolegol, emosiynol neu arall;

ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth a yw’r ymddygiad yn cynnwys un digwyddiad neu ymddygiad.

(4)Ystyr “camdriniaeth economaidd” yw unrhyw ymddygiad sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar allu B i wneud y canlynol—

(a)cael, defnyddio neu gynnal arian neu eiddo arall, neu

(b)cael nwyddau neu wasanaethau.

(5)At ddibenion y Ddeddf hon gall ymddygiad A fod yn ymddygiad “tuag at” B er ei fod yn cynnwys ymddygiad a gyfeirir at berson arall (er enghraifft, plentyn B).

(6)Rhaid i gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ymddygiad camdriniol tuag at rywun arall gael eu darllen yn unol â’r adran hon.

(7)Am ystyr “cysylltiad personol”, gweler adran 2.

Mae Adran 2 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn diffinio “cysylltiad personol” fel:

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae dau berson â “chysylltiad personol” â’i gilydd os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol—

(a)maent yn briod, neu wedi bod yn briod;

(b)maent yn bartneriaid sifil, neu wedi bod yn bartneriaid sifil;

(c)maent wedi cytuno i briodi (p’un a yw’r cytundeb wedi’i derfynu ai peidio);

(d)maent wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (p’un a yw’r cytundeb wedi’i derfynu ai peidio);

(e)maent mewn perthynas bersonol agos, neu maent wedi bod mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd;

(f)mae ganddynt, neu roedd adeg pryd roedd ganddynt, berthynas rhiant yn gysylltiedig â’r un plentyn (gweler is-adran (2));

(g)maent yn perthyn.

(2)At ddibenion is-adran (1)(f) mae gan berson berthynas rhiant yn gysylltiedig â phlentyn os—

(a)yw’r person yn rhiant y plentyn, neu

(b)mae gan y person gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(3)Yn yr adran hon—

mae “plentyn” yn golygu person o dan 18 oed;

mae “cytundeb partneriaeth sifil” yn meddu ar yr ystyr a roddir yn adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004;

mae gan “gyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr â’r un yn y Ddeddf Plant 1989 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno);

mae “perthyn” yn meddu ar yr ystyr a roddir yn adran 63(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

Confensiwn enwi ar gyfer Adolygiadau o Laddiadau Domestig

Gall yr enw ‘Adolygiad o Laddiadau Domestig’ fod yn gamarweiniol pan nad yw’r farwolaeth yn yr adolygiad wedi’i dyfarnu’n lladdiad (e.e. hunanladdiad a marwolaeth heb esboniad).

5. Ydych chi o blaid ailenwi ‘Adolygiadau o Laddiadau Domestig’? - Ydw - Nac ydw - Ddim yn gwybod

[os ydw, ewch i 6, os nac ydw neu ddim yn gwybod, ewch i C7]

6. Os ydych chi o blaid ailenwi ‘Adolygiadau o Laddiadau Domestig’, a ddylai’r Llywodraeth: - Cyflwyno’r term ‘Adolygiad o Farwolaethau yn Gysylltiedig â Cham-drin Domestig’ ar gyfer achosion o farwolaethau yn gysylltiedig â cham-drin domestig nad ydynt yn lladdiadau, gan gadw’r term ‘Adolygiad o Laddiadau Domestig’ ar gyfer lladdiadau domestig. - Ail-enwi’r holl ‘Adolygiadau o Laddiadau Domestig’ yn ‘Adolygiadau o Farwolaethau yn Gysylltiedig â Cham-drin Domestig’ - Defnyddio term (neu dermau) arall i adlewyrchu’r ystod o farwolaethau sy’n dod o fewn cwmpas Adolygiad o Laddiadau Domestig (rhowch fanylion) yn well

[(blwch testun rhydd) Gall enghreifftiau o enwau eraill gynnwys: Adolygiad o Laddiadau Partneriaid Agos, Adolygiad o Laddiadau Oedolion y Teulu, marwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig drwy hunanladdiad neu farwolaethau eraill sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, neu y gellir eu holrhain mewn rhyw fodd at gam-drin domestig, gan gynnwys marwolaethau annisgwyl neu anesboniadwy, lladdiadau canlynebol].

7. Os mai ‘na’ oedd eich ateb i gwestiwn 5, esboniwch eich rhesymau dros eich ymateb yn gryno. - [blwch testun rhydd]

Mae Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004, Adran 9, Rhan 1 yn nodi y dylid cynnal Adolygiad o Laddiadau Domestig pan fydd:

“marwolaeth person 16 oed neu hŷn wedi digwydd o ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeuluso, neu pan fydd yn ymddangos bod hynny wedi digwydd gan—

(a)person yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd mewn perthynas bersonol agos ag ef, neu yr oedd wedi bod mewn perthynas bersonol agos ag ef yn y gorffennol, neu

(b)aelod o’r un aelwyd ag ef,

a gynhelir gyda’r bwriad o nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth”

Deddfwriaeth Bresennol

Amdanoch chi

Mae’r cwestiynau canlynol yn holi am eich nodweddion personol. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i weld a oes gan wahanol bobl wahanol safbwyntiau a phrofiadau. Mae pob cwestiwn yn ddewisol, a does dim rhaid i chi ddarparu unrhyw ran o’r wybodaeth os nad ydych chi eisiau.

Demograffeg

Ym mha un o’r grwpiau oedran hyn ydych chi?

Dan 16 oed

16-19

20-24

25-34

35-44

45-54

55-64

65-74

75-84

85 oed a hŷn

Mae’n well gen i beidio â dweud


Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau sut rydych chi’n gweld eich hun?

Gwryw

Benyw

Anneuaidd

Mae’n well gen i beidio â dweud

Arall (rhowch fanylion):


A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un fath â’r rhywedd a gofrestrwyd adeg eich geni?

Ydy

Nac ydy

Mae’n well gen i beidio â dweud


Beth yw eich ethnigrwydd?

Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig

Gwyddelig

Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

Cefndir Gwyn arall


Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig

Indiaidd

Pacistanaidd

Bangladeshaidd

Tsieineaidd

Unrhyw gefndir Asiaidd arall


Cymysg/grwpiau aml-ethnig

Gwyn a Du Caribïaidd

Gwyn a Du Affricanaidd

Gwyn ac Asiaidd

Unrhyw gefndir cymysg arall


Du neu Ddu Prydeinig

Caribïaidd

Affricanaidd

Unrhyw gefndir du arall


Grŵp ethnig arall

Arabaidd

Unrhyw grŵp ethnig arall

Mae’n well gen i beidio â dweud

Os ydych chi wedi dewis unrhyw gefndir arall, rhowch fanylion:



Beth yw eich crefydd?

Bwdhydd

Cristion

Hindŵ

Iddew

Moslem

Sikh

Arall (rhowch fanylion):

Dim crefydd

Mae’n well gen i beidio â dweud


Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol orau?

Heterorywiol/Strêt

Hoyw

Lesbiad

Deurywiol

Mae’n well gen i beidio â dweud

Arall (rhowch fanylion):


Oes gennych chi unrhyw salwch neu anabledd tymor hir?

Oes

Nac oes

Mae’n well gen i beidio â dweud


Ble rydych chi’n byw?

Gogledd-ddwyrain Lloegr

Gogledd-orllewin Lloegr

Swydd Efrog a Humber

Gorllewin Canolbarth Lloegr

Dwyrain Canolbarth Lloegr

Dwyrain Lloegr

De-orllewin Lloegr

De-ddwyrain Lloegr

Llundain Fwyaf

Cymru

Mae’n well gen i beidio â dweud

Arall (rhowch fanylion):

Amdanoch chi

Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch eich hun – nid yw’r adran hon yn orfodol

Enw llawn
Teitl eich swydd neu ym mha swyddogaeth yr ydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghori hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)  
Dyddiad  
Enw’r cwmni/sefydliad (os yw’n berthnasol)  
Cyfeiriad/Cod post  
Os hoffech chi i ni gydnabod ein bod wedi derbyn eich ymateb, ticiwch y blwch hwn  
I ba gyfeiriad y dylid anfon y gydnabyddiaeth, os yw’n wahanol i’r uchod  

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein: https://www.homeofficesurveys.homeoffice.gov.uk/s/DHRlegislation/

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i:

E-bost: DHRReform@homeoffice.gov.uk

Neu drwy’r post i:

Domestic Homicide Review Reform Consultation
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref gan ddefnyddio’r cyfeiriad uchod.

Cyhoeddi ymateb

Cyhoeddir papur yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ar GOV.uk maes o law.

Grwpiau cynrychioladol

Gofynnir i grwpiau cynrychioladol roi disgrifiad cryno o’r bobl a’r sefydliadau maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Mae’n bosibl y cyhoeddir neu y datgelir gwybodaeth a roddir wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r trefniadau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych chi am i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei chadw’n gyfrinachol, rhaid i ni eich atgoffa bod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef sy’n ymwneud, ymhlith pethau eraill, ag ymrwymiadau cyfrinachedd. Oherwydd hyn, byddai’n fuddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn credu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os ydym yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, rhoddwn ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn addo y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir unrhyw ymwrthodiad cyfrinachedd a gynhyrchir yn awtomatig gan eich system Technoleg Gwybodaeth, ynddo’i hun, yn rhwymedigaeth ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a dan y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.