Consultation outcome

Domestic Abuse Act 2021 statutory guidance consultation: government response (Welsh accessible)

Updated 13 April 2023

Cyflwyniad a chefndir

Ar 29 Ebrill 2021, cafodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 (‘Deddf 2021’) Gydsyniad Brenhinol. Bydd y canllawiau statudol yn cefnogi gweithrediad y diffiniad o gam-drin domestig yn Neddf 2021. Pwrpas y canllawiau yw:

  • darparu gwybodaeth glir ynghylch beth yw cam-drin domestig, gan gynnwys ei effeithiau ar ddioddefwyr sy’n oedolion a phlant, er mwyn cynorthwyo i’w adnabod;

  • darparu canllawiau a chymorth i weithwyr proffesiynol rheng flaen, sydd â chyfrifoldebau am ddiogelu a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig; a

  • cyfleu rhai o’r arferion gorau a nodwyd ar gyfer ymateb asiantaethau ac amlasiantaethol a safonau ar gyfer comisiynu ymatebion.

Nod rhoi’r diffiniad, a’r canllawiau sy’n cyd-fynd ag ef, ar sail statudol yw sicrhau bod cam-drin domestig yn cael ei ddeall yn gywir ac yn llawn a bod asiantaethau cyhoeddus a phartïon perthnasol yn cymhwyso diffiniad cyffredin wrth geisio mynd i’r afael â’r math hwn o drosedd ffiaidd a darparu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr, gan gynnwys plant sy’n ddioddefwyr.

Cyhoeddir y canllawiau o dan adran 84(2) o Ddeddf 2021 ac maent wedi’u hanelu at gyrff statudol ac anstatudol sy’n gweithio gyda dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig, ac at y rhai sy’n delio â chanlyniadau eraill cam-drin. Rhaid i’r rhai sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus y mae’r canllawiau’n ymwneud â hwy roi sylw iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Ganllawiau Statudol Deddf Cam-drin Domestig 2021 ar 3 Awst 2021 a daeth i ben ar 14 Medi 2021. Roedd yn gwahodd adborth gan randdeiliaid perthnasol a phartïon a chanddynt fuddiant ar y canllawiau statudol drafft cyn i’r drafft gael ei gwblhau.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd, gan grynhoi’r themâu allweddol a gododd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, a sut y gwnaeth yr ymatebion lywio’r ddogfen canllawiau statudol terfynol. Roedd rhai materion a godwyd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad, a lle bo’n bosibl mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at y camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd yn y meysydd hyn.

Trosolwg o’r ymatebion

Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus 1,013 o ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion. Nid atebodd yr holl ymatebwyr bob cwestiwn. Mae’r holl ymatebion wedi’u dadansoddi a’u hystyried yn llawn wrth baratoi’r canllawiau statudol terfynol. Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb yn arbennig y rhai hynny sydd â phrofiad o gam-drin ac a oedd yn ddewr wrth rannu eu profiad â ni.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr a dderbyniwyd gan unigolion. Cafwyd ymatebion hefyd gan ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer mathau o Drais yn Erbyn Menywod a Merched[footnote 1] (VAWG) gan gynnwys gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol, plismona, awdurdodau lleol, a grwpiau cymunedol a ffydd. Cafwyd ymatebion i’r ymgynghoriad o bob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr.

Mae Tabl 1 isod yn rhoi dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad fesul math o ymatebydd.

Tabl 1: Mathau o ymatebwyr i’r ymgynghoriad

Mathau o ymatebwyr i’r ymgynghoriad  Canran yr Ymateb Cyfanswm yr Ymateb
Unigolyn Cyfanswm yr ymatebion 77%              775
Unigolyn, fel rhan o sefydliad 8%              80
Unigolyn, ar ran sefydliad 15%             153
Heb ei adnabod -             5
Cyfanswm yr ymatebion -        1,013

Mae Tabl 2 isod yn rhoi dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad fesul math o sefydliad, ar gyfer y bobl hynny a ymatebodd fel rhan o sefydliad neu ar ei ran.

Tabl 2: Math o sefydliad a ymatebodd

Math o sefydliad   Canran yr Ymateb Canran yr Ymateb
Awdurdodau lleol yn Lloegr 18%              22
Heddluoedd 4%              5
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 3%             3
Gwasanaethau Carchardai a Phrawf 1%             1
Gwasanaethau’r System Cyfiawnder Troseddol 2%        2
Gwasanaethau ar gyfer mathau o VAWG, gan gynnwys unrhyw wasanaethau cam-drin domestig arbenigol (gan gynnwys gwasanaethau arbenigol i ddynion a bechgyn) 26%        31
Timau tai a digartrefedd lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 3%        4
Blynyddoedd cynnar, gofal plant, ysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch 3%              3
Darparwyr gofal cymdeithasol plant 1%              1
Darparwyr gofal cymdeithasol oedolion 3%              3
Grwpiau Comisiynu Clinigol GIG 2%              2
Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Sefydledig 3%              3
Grwpiau cymunedol a ffydd 10%              12
Arall 23%              28
Heb ei adnabod -              893
Cyfanswm yr ymatebion -               1013

Mae Tabl 3 isod yn darparu dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ôl y math o ymatebydd i’r ymgynghoriad ac yn ôl y rhanbarth lle mae’r unigolyn neu’r sefydliad wedi’i leoli.

Tabl 3: Ymatebion yn ôl y math o ymatebydd i’r ymgynghoriad ac yn ôl y rhanbarth lle mae’r unigolyn neu’r sefydliad wedi’i leoli

Rhanbarthoedd Unigolyn (%) Unigolyn (ymatebion) Unigolyn, fel rhan o sefydliad Unigolyn, fel rhan o sefydliad (ymatebion) Unigolyn, ar ran sefydliad (%) Unigolyn, ar ran sefydliad (ymatebion) Cyfanswm yr ymatebion (%) Cyfanswm yr ymatebion
Gogledd-ddwyrain Lloegr 5%   31 2% 1 2% 1 4% 33
Gogledd-orllewin Lloegr 11%   66 11% 6 7% 4 10% 76
Swydd Efrog a’r Humber 6%   39 5% 3 8% 5 6% 47
Dwyrain Canolbarth Lloegr 3%   20 4% 2 3% 2 3% 24
Gorllewin Canolbarth Lloegr 8%   49 4% 2 7% 4 7% 55
Gorllewin Canolbarth Lloegr 7%   45 5% 3 8% 5 7% 53
Llundain 19%   118 16% 9 17% 10 19% 137
De-ddwyrain Lloegr 19%   115 14% 8 5% 3 17% 127
De-orllewin Lloegr 13%   81 19% 11 8% 5 13% 97
Cymru 5%   33 4% 2 3% 2 5% 37
Cenedlaethol 4% 23 18% 10 32% 19 7% 52
Heb ei adnabod - 155 - 23 - 93 - 275
Heb ei adnabod - 775 - 80 - 153 - 1,013

Mae gweddill y ddogfen yn darparu crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad. Nid yw’n ceisio cipio pob pwynt a wneir, ac nid yw ychwaith yn cynnwys sylwadau ar agweddau ar bolisi sydd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r newidiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud i’r canllawiau statudol, ar ôl ystyried yn ofalus y pwyntiau a godwyd yn yr ymgynghoriad.

Cwestiynau Allweddol

Ceisiodd yr ymgynghoriad adborth ansoddol ar y canllawiau statudol. Defnyddiwyd yr adborth hwn i lywio a diweddaru’r canllawiau statudol. Cyflwynwyd cyfanswm o 15 cwestiwn fel rhan o’r ymgynghoriad. Roedd cwestiynau 1-6 yn ymwneud â’r ymgynghorai ac maent wedi’u crynhoi yn y ‘Trosolwg o’r ymatebion’. Roedd cwestiynau 7-15 yn ymwneud â’r canllawiau statudol drafft ac fe’u cynlluniwyd i fod yn benagored i geisio gwybodaeth am gynnwys ac eglurder; mae’r rhain wedi’u nodi fel sy’n dilyn:

  • C7. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 1 (‘Amcanion’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C8. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 2 (‘Deall Cam-drin Domestig’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C9. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 3 (‘Effaith ar Ddioddefwyr’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C10. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 4 (‘Ymateb Asiantaeth i Gam-drin Domestig’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C11. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 5 (‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Fynd i’r Afael â Cham-drin Domestig’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C12. A oes gennych unrhyw sylwadau ar Bennod 6 (‘Comisiynu Ymateb i Gam-drin Domestig’) o ran cynnwys neu eglurder? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych farn.

  • C13. A oes unrhyw ffyrdd trosfwaol y gellid gwella’r canllawiau yn eich barn chi? Rhowch sylwadau. Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

  • C14. Ydych chi’n credu bod yr astudiaethau achos yn ddefnyddiol? Os oes unrhyw astudiaethau achos nad oedd yn ddefnyddiol i chi, rhowch sylwadau ychwanegol gan sicrhau eich bod yn cyfeirio at yr astudiaeth achos y mae eich sylw yn berthnasol iddi.

  • C15. A oes unrhyw beth ar goll yn y canllawiau yr hoffech ei weld yn cael ei gynnwys? Nodwch ‘Na’ os nad oes gennych chi farn.

Nid oedd rhaid i ymatebwyr ateb pob un o’r cwestiynau uchod.

Themâu a materion allweddol

Derbyniwyd 1,013 o ymatebion ffurfiol[footnote 2] i’r ymgynghoriad gan unigolion a sefydliadau. Cafodd yr ymatebion eu hadolygu’n ofalus a’u categoreiddio o dan themâu a materion allweddol er mwyn caniatáu dadansoddiad thematig. Roedd y materion a godwyd dro ar ôl tro a’r rhai mwyaf perthnasol a godwyd yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â’r meysydd a amlinellir isod.

  • Disgrifiad o ymddygiadau camdriniol

  • Effaith ar ddioddefwyr, gan gynnwys plant

  • Ymatebion asiantaeth ac amlasiantaethol

  • Mynd i’r afael ag ymddygiad troseddwyr

  • Comisiynu ac ariannu

Rydym hefyd wedi cynnwys esboniad o adborth penodol a ddarparwyd ynghylch naws ac iaith y canllawiau a’r astudiaethau achos a gyflwynwyd.

Disgrifiad o ymddygiadau camdriniol

1. Fel sy’n ofynnol o dan adran 84(2) o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (‘Deddf 2021’), roedd y canllawiau statudol drafft yn canolbwyntio ar ddarparu canllawiau ar y mathau o ymddygiad sy’n gyfystyr â cham-drin domestig. O ganlyniad, roedd llawer o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd yn ystyried sut y disgrifiwyd mathau o gam-drin ac ymddygiadau cysylltiedig. Roedd yr ymatebion cyffredinol i’r ymgynghoriad yn croesawu’r ffaith bod ystod eang o gamdriniaethau wedi’u cydnabod yn Neddf 2021 a’u nodi yn y canllawiau. Roedd yr ymatebion, fodd bynnag, yn adlewyrchu’r angen i ddarparu mwy o eglurder a manylder ar rai o’r ymddygiadau camdriniol. Roedd hyn yn cynnwys ceisio: eglurder ar y newidiadau deddfwriaethol, mwy o gyfeiriad at y ffaith y gall cam-drin barhau ar ôl gwahanu, a lle bo’n briodol gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ymddygiadau a’r cyd-destunau perthnasoedd ar gyfer cam-drin.

2. Mae’r adrannau hyn o’r canllawiau wedi’u hadolygu a darparwyd eglurhad pellach lle bo modd, gan ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd. Mae hyn yn cynnwys mewn rhai achosion ddiwygio neu ychwanegu at yr enghreifftiau a ddarparwyd o ymddygiadau a allai awgrymu cam-drin domestig. Er enghraifft, mae enghreifftiau pellach wedi’u rhestru i ddangos yr hyn y gallai cam-drin economaidd ei olygu ac i gyfleu’r hyn a allai olygu ymddygiad bygythiol. Mae hefyd wedi’i wneud yn gliriach, lle mae ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi yn bodloni’r diffiniad o dan adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, y gallai fod yn drosedd ac y gall tagu nad yw’n angheuol[footnote 3] fod yn fath o gam-drin corfforol a rhywiol. Mae mwy o bwyslais wedi’i roi ar sut mae cam-drin ar sail ‘anrhydedd’, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn berthnasol i’w gilydd ac mae mwy o fanylion wedi’u darparu i egluro sut y gall technoleg hwyluso cam-drin. Mewn perthynas ag ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi, disgwylir i ymestyn y drosedd i gynnwys cam-drin ar ôl gwahanu ddod i rym yn ddiweddarach eleni a bydd y canllawiau statudol ar gyfer y drosedd yn cael eu diweddaru. O ran cam-drin a hwylusir gan dechnoleg, rydym yn disgwyl i’r Bil Niwed Ar-lein ysgogi newid er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n cyflawni mathau o VAWG ar-lein yn cael eu dwyn i gyfrif am eu troseddau.

Ymddygiadau dieithrio

3. Cyfeiriodd nifer llethol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn benodol at y mater o ‘ymddygiad dieithrio’, gyda bron pob un yn cyflwyno safbwyntiau ar naill ai ei gynnwys neu ei eithrio o’r canllawiau statudol. Nid oes unrhyw ddiffiniad swyddogol neu gyffredin o ddieithrio rhiant. Mae Cafcass yn ei ddiffinio fel pan ‘na ellir cyfiawnhau gwrthwynebiad neu elyniaeth plentyn tuag at riant a’i fod yn ganlyniad i driniaeth seicolegol gan y rhiant arall’. Gwnaeth llawer o unigolion ac ystod eang o gyrff sylwadau ar y mater hwn.

4. Roedd ymatebion yn ymwneud â dileu cyfeiriad yn y canllawiau at ddieithrio rhieni ac ymddygiadau dieithrio yn codi mater ynghylch y cysyniad o ‘ddieithrio rhiant’. Amlygodd yr ymatebion fod ‘dieithrwch rhiant’ a’r ‘ymddygiadau dieithrio’ cysylltiedig yn dermau sy’n cael eu herio’n eang. Mae corff cynyddol o dystiolaeth am honiadau ffug a’r effaith y gall ofn honiadau ffug ei chael.[footnote 4] Dadleuir na ddylid derbyn damcaniaethau academaidd ar fodolaeth a chyffredinolrwydd dieithrio rhwng rhieni heb ddadansoddiad o’r effaith ar oroeswyr cam-drin domestig a’u plant. Amlygwyd hefyd bod ymchwil yn dangos bod ofnau ynghylch gwrth-honiadau o’r fath wedi atal goroeswyr rhag datgelu cam-drin domestig i’r llys a chyrchu gwasanaethau cymorth.

5. Roedd ymatebion yn ymwneud â dieithrio rhieni ac ymddygiadau dieithrio yn mynegi bod yr ymddygiad yn gamdriniol, yn bennaf oherwydd yr effeithiau posibl. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod dieithrio rhiant yn dod o fewn cwmpas y diffiniad o gam-drin domestig, fel ffordd o gam-drin y rhiant ac mewn perthynas â’r plentyn fel dioddefwr. Y pryder eang gan gynigwyr yw nad oes, os o gwbl, ddim mynediad ar gael i rieni sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu plentyn, bod yr ymddygiad yn digwydd gyda rhieni a gweithwyr proffesiynol dan sylw yn aml yn methu â gweithredu. Roedd effeithiau dieithrio’n cael eu dyfynnu’n aml gan y rhai a oedd o blaid ei gynnwys yn y canllawiau fel rhywbeth sy’n cynnwys trawma sylweddol i’r oedolyn a’r plentyn. Awgrymwyd y gellid ystyried bod dileu cyfeiriad at ymddygiadau dieithrio o’r canllawiau drafft yn cyfreithloni’r ymddygiad hwn.

6. Amlygodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad ddiffyg dealltwriaeth gyffredin o ‘ddieithrio rhieni’ – ei ddiffiniad a’i oblygiadau, a sut i fynd ati’n ymarferol. Felly, nid oes cyfeiriadau penodol at ‘ddieithrio rhiant’ ac ‘ymddygiad dieithrio’ wedi’u gwneud yn y drafft terfynol. Mae’r canllawiau statudol yn cydnabod bod amrywiaeth o ffyrdd y gall cyflawnwyr geisio cam-drin dioddefwr yn emosiynol neu’n seicolegol neu eu rheoli neu eu gorfodi, megis trwy eu hynysu a’u bychanu, gan gynnwys o flaen trydydd parti, a defnyddio plant i reoli. . Ochr yn ochr â hyn, mae’r canllawiau’n cydnabod bod plant yn ddioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain a’r cwmpas i gam-drin barhau ar ôl gwahanu. O ran ymddygiadau o’r fath, nodir eu bod yn annhebygol o fodoli ar eu pen eu hunain. Yn hytrach, maent yn fwy tebygol o ddangos patrwm ehangach o ymddygiad gan y cyflawnwr. Mae’r canllawiau statudol drafft ar Ymddygiad Rheoli neu Orfodol yn amlinellu effaith ymddygiad o’r fath ar blant mewn perthnasoedd teuluol a rhieni, yn ogystal â pherthnasoedd agos pobl ifanc. Mae hefyd yn cydnabod sut y gall cyflawnwr ddefnyddio plant i reoli dioddefwr neu ei gwneud yn anos iddynt adael perthynas gamdriniol. Bydd y canllawiau’n cefnogi asiantaethau i nodi ac ymateb i ymddygiad sy’n rheoli neu orfodi a lleihau risg i ddioddefwyr, gan gynnwys plant.

7. Mae’r dull hwn o gwblhau’r canllawiau’n adlewyrchu canfyddiadau’r Adroddiad ‘Asesu Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat’ (Mehefin 2020), y cyfeirir ato’n aml fel Adroddiad y Panel Niwed. Roedd ymchwil yn canolbwyntio ar brofiadau plant a rhieni mewn achosion plant cyfraith breifat. Canfu’r Adroddiad fod ‘diwylliant o blaid cyswllt’ o fewn y llysoedd teulu. Un o’r argymhellion oedd y dylid adolygu’r rhagdybiaeth o gyfranogiad rhieni. Cyhoeddwyd yr adolygiad ym mis Tachwedd 2020 ac mae’n canolbwyntio ar gymhwyso’r rhagdybiaeth a’r eithriad statudol mewn achosion lle mae tystiolaeth i awgrymu y bydd cyfranogiad rhiant yn rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed. Argymhellodd yr Adroddiad sefydlu tîm monitro cenedlaethol o fewn swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig i gadw goruchwyliaeth ac adrodd yn rheolaidd ar berfformiad y llysoedd teulu o ran amddiffyn plant a dioddefwyr rhag cam-drin domestig a risgiau eraill o niwed mewn achosion plant cyfraith breifat.[footnote 5]

8. Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei Chynllun Gweithredu[footnote 6], sy’n nodi ymrwymiadau’r Llywodraeth mewn ymateb i argymhellion y Panel. Roedd yr ymrwymiadau hyn yn cynnwys adolygu’r rhagdybiaeth o gyfranogiad rhieni mewn llysoedd teulu, a sefydlu mecanwaith ar gyfer monitro achosion yn y llys teulu sy’n cynnwys cam-drin domestig. Yn ogystal, roeddent yn cynnwys cyflawni newid deddfwriaethol drwy Ddeddf 2021, datblygu Peilot Llys Cam-drin Domestig Integredig, adolygiad o Raglenni Cyflawnwyr Cam-drin Domestig, a gwaith ar y ffioedd a godir gan yr heddlu i ddatgelu tystiolaeth. Mae’r Llywodraeth, ynghyd â phartneriaid ar draws y system cyfiawnder teuluol, yn parhau i weithio i gyflawni’r ymrwymiadau hyn a wnaed mewn ymateb i Adroddiad y Panel Niwed ac yn gweithio’n agos gyda’r sector cam-drin domestig i sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn parhau i fod yn ganolog i ddiwygio.

Cam-drin yn ymwneud â ffydd

9. Roedd ymatebion ynghylch cam-drin yn ymwneud â ffydd yn cyflwyno’r risgiau sy’n bodoli lle mae systemau cred yn cael eu defnyddio i reoli neu ddarostwng dioddefwr. Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cyfleu bod cefnogaeth eang i grybwyll y mater hwn. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i egluro y gall cam-drin domestig ddigwydd mewn perthynas â, a thrwy ddefnyddio, system ffydd a chred unigolyn, ac y gall hyn ddigwydd pan yw cyflawnwr sydd â chysylltiad personol â’r dioddefwr yn ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n gyfystyr â cham-drin domestig. . Mae’r canllawiau’n nodi y gallai ymddygiadau o’r fath gael eu deall er enghraifft fel cam-drin emosiynol neu seicolegol neu fod yn rhan o batrwm systematig o ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi. Rhoddodd yr ymatebion adborth defnyddiol tuag at egluro ymddygiadau a all godi yn y cyd-destun hwn. Roedd rhai pwyntiau a godwyd, fodd bynnag, yn canolbwyntio ar senarios lle na fyddai’r dioddefwr a’r troseddwr yn cael eu diffinio fel rhai oedd wedi’u “cysylltu’n bersonol” ac felly eu bod y tu hwnt i gwmpas y canllawiau hyn. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a roddodd sylw i’r mater hwn yn croesawu bod atal ysgariad crefyddol yn enghraifft o gam-drin yn ymwneud â ffydd. Codwyd pryderon ynghylch unigolion yn cael eu gorfodi i aros mewn priodas ac adlewyrchir hyn yn y canllawiau statudol terfynol.

Effaith ar ddioddefwyr, gan gynnwys plant

10. Mae’r ddogfen hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu canllawiau ar effeithiau cam-drin domestig, yn arbennig ar blant fel sy’n ofynnol gan adran 84(2) o Ddeddf 2021. Codwyd effaith cam-drin domestig ar ddioddefwyr yn gyson yn yr ymgynghoriad. Roedd hyn mewn perthynas â’r effaith ar grwpiau penodol ac o ran amlygu difrifoldeb a’r angen i ddioddefwyr allu cyrchu’r gwasanaethau priodol pan fo angen. Pwysleisiodd yr ymatebwyr effeithiau dwys a hirdymor cam-drin domestig, gan gynnwys effaith cam-drin ar iechyd meddwl a chorfforol, ac, fel y’i profwyd gan ddioddefwyr, yn ystod y berthynas ac ar ôl iddi ddod i ben. Roedd adborth yn cyfeirio at natur cam-drin domestig a allai gyfyngu ar fywyd a galwyd am gydnabyddiaeth i hunanladdiad a chyfraddau hunanladdiad ymhlith dioddefwyr. Roedd llawer o’r ymatebion wedyn yn nodi’r angen am well hyfforddiant i sefydliadau i gefnogi ymyrraeth gynnar a darparu cymorth i ddioddefwyr (a archwilir ymhellach o dan ‘Ymatebion asiantaeth ac amlasiantaethol i gam-drin domestig’). Codwyd pryderon hefyd am rwystrau i gyrchu gwasanaethau a diffyg gwasanaethau arbenigol sydd ar gael mewn ardaloedd lleol. Codwyd hyn hefyd fel rhan o fynegi pryder am brofiadau gwahanol grwpiau:

11. Dioddefwyr mudol – mewn perygl o gael eu cam-drin sy’n ecsbloetio eu statws mewnfudo a’u gwendidau ac yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyrchu cymorth. Amlygodd ymatebion y gallai rhannu gwybodaeth rhwng yr heddlu a gwasanaethau mewnfudo gael effaith ataliol.

12. Dioddefwyr anabl – yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyrchu gwasanaethau cyfiawnder a chymorth, gan gynnwys pan nad yw’r rhain wedi’u cynllunio i ddiwallu eu hanghenion.

13. Dioddefwyr yr henoed – yn cael eu tangynrychioli mewn ffigurau swyddogol a dylid amlygu y gall unrhyw un brofi cam-drin domestig. Gall pobl hŷn fod yn agored i risgiau penodol, yn arbennig lle mae ganddynt anableddau hefyd, a all waethygu eu bregusrwydd.

14. Dioddefwyr LHDT – ni ddylid eu trin fel grŵp homogenaidd, dylid darparu mwy o wybodaeth am wahanol brofiadau unigolion LHDT.

15. Dioddefwyr o leiafrifoedd ethnig – ni ddylid hefyd eu trin fel grŵp homogenaidd. Dywedwyd hefyd fod pryderon dilys am hiliaeth ac ofn stereoteipio hiliol ac y gallai cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ effeithio’n anghymesur ar fenywod du ac Asiaidd. Roedd rhai ymatebion yn galw am ddarparu gwasanaethau ‘gan ac ar gyfer’ ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig, mewn ymdrech i gydnabod eu profiadau personol o gam-drin a helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal dioddefwyr rhag ceisio cymorth.

16. Dioddefwyr gwrywaidd – yn aml yn cael eu hanghredu a’u diystyru wrth geisio adrodd am gam-drin domestig, er enghraifft i’r heddlu, gan eu bod yn cael eu stereoteipio fel y sawl sy’n cyflawni’r cam-drin. Roedd ymatebion yn rhybuddio yn erbyn atgyfnerthu stereoteipiau ac yn dadlau dros iaith niwtral o ran rhywedd a dulliau o gomisiynu gwasanaethau. Mae’r canllawiau’n nodi y gall unrhyw un ddioddef cam-drin domestig, gan gynnwys dynion a bechgyn, a’r rhwystrau a’r effeithiau penodol y gall dioddefwyr cam-drin domestig gwrywaidd eu profi. Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddogfen Cefnogi Dioddefwyr Gwrywaidd yn diweddaru ‘Datganiad Sefyllfa ar ddioddefwyr gwrywaidd troseddau a ystyriwyd yn y strategaeth traws-lywodraethol ar ddod â VAWG i ben’ 2019.

17. Yn y canllawiau mae rhagor o fanylion am yr effeithiau ar ddioddefwyr, gan gynnwys plant. Ychwanegwyd manylion am hunanladdiad a syniadaeth hunanladdiad fel effaith benodol. Mae diweddariadau hefyd wedi’u gwneud i ddarparu data ynghylch mynychder ar gyfer dioddefwyr â nodweddion gwahanol, lle mae’r rhain yn cael eu cadw a’u cyhoeddi, ac i amlygu risgiau penodol a all fodoli mewn perthynas â nodweddion neu ymddygiadau penodol y gallai cyflawnwyr eu mabwysiadu i ddioddefwyr â’r nodweddion hynny.

18.Fel rhan o becyn cymorth ehangach i holl ddioddefwyr troseddau, gan gynnwys y rheini sy’n dioddef cam-drin domestig, ymgynghorodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Fil Dioddefwyr newydd. Bydd y Bil Dioddefwyr yn rhan hanfodol o’n cynllun i chwyddo lleisiau dioddefwyr yn y broses cyfiawnder troseddol, cryfhau atebolrwydd asiantaethau cyfiawnder troseddol a gwella cymorth i ddioddefwyr, gan gynnwys drwy sicrhau bod troseddwyr yn talu mwy tuag ato. Ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, gofynnodd yr ymgynghoriad am ddarpariaeth gwasanaethau yn y gymuned ac am gryfhau’r cymorth sydd ar gael gan Gynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVAs) a Chynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs). Gofynnodd hefyd beth sy’n gweithio ar gyfer comisiynu a chydgysylltu effeithiol ar wasanaethau cymorth yn y gymuned i ddeall sut i wella llwybrau rhwng gwasanaethau a sicrhau bod y gwasanaethau cywir ar gael i ddiwallu anghenion dioddefwyr. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar sut y gall strwythurau cydweithio ffurfiol a rolau a chyfrifoldebau diffiniedig helpu i wella’r gwasanaethau a ddarperir i bob dioddefwr troseddu. Bydd adborth o’r ymgynghoriad yn llywio darpariaethau’r Bil sydd i ddod.

Plant fel dioddefwyr cam-drin domestig

19. Roedd adborth yr ymgynghoriad yn croesawu’r gydnabyddiaeth o blant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn adran 3 o Ddeddf 2021. Cododd rhai ymatebwyr y dylid darparu rhagor o wybodaeth i egluro’r disgwyliadau ynghylch nodi plant sy’n ddioddefwyr a chymhwyso ymyriadau arbenigol mewn perthynas â phlant. Amlygodd adborth hefyd fod angen eglurhad pellach ynghylch sut y dylai Deddf Plant 2004, a deddfwriaeth gysylltiedig arall, fod yn berthnasol. Amlygwyd y gallai’r canllawiau roi mwy o bwyslais ar atal a nodi ymddygiadau niweidiol yn gynnar trwy addysg i helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth o berthnasoedd iach a’r hyn a allai olygu ymddygiad camdriniol.

20. Mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys yn y canllawiau ar blant fel dioddefwyr, gan gynnwys ar ymateb, a mesurau ymyrraeth gynnar, mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac addysg. Mae adran benodol hefyd wedi’i hychwanegu ar waith amlasiantaethol i ddiogelu plant. Mae’r canllawiau terfynol yn ei gwneud yn gliriach y dylid dilyn asesiadau risg, prosesau atgyfeirio, a gweithdrefnau diogelu presennol a bod y canllawiau statudol ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant’ yn nodi’r disgwyliadau ar gyfer gweithio rhyngasiantaethol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a dyletswyddau penodol o dan Ddeddfau Plant 1989 a 2004 a Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017. Disgwylir i’r canllawiau hyn gael eu diweddaru’n ddiweddarach eleni. Bydd gwybodaeth benodol yn cael ei darparu i heddluoedd, ac er gwybodaeth i’r rhai sy’n gweithio gyda heddluoedd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona sy’n gweithio gyda’r Swyddfa Gartref.

Ymatebion asiantaeth ac amlasiantaethol i gam-drin domestig

21. Amlygodd adborth o’r ymgynghoriad rai materion trawsbynciol ynghylch sut mae sefydliadau’n ymateb i gam-drin domestig. Roedd y materion a godwyd yn cynnwys rhagfarn, stereoteipio dioddefwyr, diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau dioddefwyr, ac mewn rhai achosion pryderon ynghylch digonolrwydd prosesau sefydliadol sydd ar waith. Roedd teimlad cryf y dylai fod hyfforddiant gorfodol yn ei le ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dioddefwyr a chyflawnwyr ac yn delio â rhai canlyniadau cam-drin domestig, ac y dylid ystyried safonau hyfforddi cyson. Roedd cefnogaeth i’r gwahanol ddulliau amlasiantaethol megis Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC), Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA), Canolfannau Diogelu Amlasiantaethol (MASH). Cododd rhai ymatebion bryderon ynghylch gorddibyniaeth ar rai o’r fforymau a’r adnoddau hyn a’r ffocws ar achosion risg uchel. Roedd rhai ymatebwyr am weld mwy o Gynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVAs) yn cael eu defnyddio, gan gynnwys eu cydleoli o fewn gwasanaethau eraill. Roedd llawer o ymatebion am weld mwy o atebolrwydd am wahanol wasanaethau a systemau atebolrwydd cliriach a mwy tryloyw.

22. Mae’r fframwaith canllawiau yn annog arfer gorau, yn ogystal â nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol am wasanaethau ac yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth neu gymorth perthnasol pellach. Wrth gwblhau’r canllawiau, mae’r ddogfen wedi’i diweddaru i gyfeirio at wybodaeth fwy penodol i’r sector, lle mae hyn yn berthnasol i helpu i wella cysondeb ac effeithlonrwydd ymatebion i gam-drin domestig. Yn ogystal, mae rhagor o fanylion wedi’u cynnwys ar y dulliau amlasiantaethol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â phartneriaid i ddeall ac i hwyluso’r hyn sy’n gweithio. Mae’r Swyddfa Gartref yn buddsoddi £3 miliwn i ddeall yn well beth sy’n gweithio i atal VAWG – gan fuddsoddi mewn prosiectau atal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys mewn ysgolion, gyda’r nod o addysgu a hysbysu plant a phobl ifanc am berthnasoedd iach, ymddygiad treisgar a chamdriniol a chanlyniadau cam-drin.

Y Llysoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron

23. Roedd adborth ar y llysoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn canolbwyntio ar wella eu prosesau. Roedd sawl ymateb yn galw am gryfhau hyfforddiant, canllawiau a chyfarwyddiadau barnwrol ar gyfer cam-drin domestig. Fe wnaeth rhai ymatebwyr amlygu enghreifftiau o arfer da, megis cyflwyno mesurau arbennig i amddiffyn dioddefwyr sy’n ddiffynyddion mewn achosion troseddol a Llys Cam-drin Domestig Arbenigol Llundain. Roedd y pryderon allweddol ynglŷn â’r broses yn ymwneud â diffyg tryloywder, oedi wrth gyrchu cyfiawnder (wedi’i waethygu gan bandemig Covid-19) a’r ail drawma a brofwyd gan rai dioddefwyr oherwydd y modd yr ymdriniwyd â’u hachos. Cynigiodd nifer o ymatebwyr y gellid gwella arferion rhannu data rhwng llysoedd sifil, troseddol a theulu, ac y gallai data fod ar gael i asiantaethau eraill er mwyn caniatáu dealltwriaeth fwy cyfannol o achosion. Soniodd ymatebwyr hefyd am yr anhawster o gyrchu cymorth cyfreithiol, gan awgrymu y dylid mynd i’r afael â hyn yn y canllawiau.

24. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru i roi rhagor o fanylion am y mesurau arbennig sy’n cael eu cyflwyno, neu a fydd yn cael eu cyflwyno o dan Ddeddf 2021 mewn achosion troseddol, teuluol a sifil i gryfhau’r amddiffyniadau i ddioddefwyr. O ran arferion rhannu data, yn 2021 gwnaed diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Droseddol, a oedd yn gosod dyletswydd ar bartïon i achosion troseddol, i rybuddio’r llys troseddol am unrhyw achosion teuluol cysylltiedig ac annog cyfnewid gwybodaeth berthnasol â llys sy’n delio â’r trafodion hynny. Mewn ymateb i’r mater o gyflawnwyr yn defnyddio’r llysoedd teulu fel modd i barhau â’u cam-drin, mae Deddf 2021 yn egluro argaeledd gorchmynion adran 91(14) yn y llysoedd teulu i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig ymhellach. Mae’r Llywodraeth yn darparu gwybodaeth ar wahân am gymorth cyfreithiol. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal adolygiad o’r prawf modd ar hyn o bryd. Bwriedir cyhoeddi’r adolygiad yn fuan. Bydd yn asesu pa mor effeithiol y mae’r profion modd yn diogelu mynediad at gyfiawnder. Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae profiadau dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu hystyried.

Plismona

25. Roedd adborth yr ymgynghoriad ar ymatebion yr heddlu i gam-drin domestig yn canolbwyntio ar ymddygiad yr heddlu ac yn mynegi pryder am anghysondebau. Roedd llawer o ymatebion yn ystyried sut y gallai gweithredoedd yr heddlu roi dioddefwyr mewn mwy o berygl o niwed ac yn teimlo bod agweddau gwahaniaethol yn ffafriol i ddiwylliant o feio dioddefwyr sy’n atal dioddefwyr rhag parhau ag erlyniadau, neu hyd yn oed riportio cam-drin. Nododd ymatebwyr y dylid gwneud mwy o hyfforddiant ar bwerau cyfreithiol, offer, mentrau a chanllawiau i’r heddlu yn orfodol i sicrhau gwell dealltwriaeth, cysondeb ac yn y pen draw i amddiffyn dioddefwyr yn well. Dywedodd ymatebwyr y gellid gwella arferion cofnodi a rhannu data’r heddlu drwy system rhannu data a gedwir yn ganolog. Nodwyd y gallai cyfyngiadau o ran rhannu data arwain at erlid mynych neu droseddwyr ddim yn cael eu hadnabod yn rhagweithiol.

26. Mae’r canllawiau statudol yn pwysleisio hawliau dioddefwyr o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (‘Cod y Dioddefwyr’). Mae’r canllawiau’n nodi’n glir bod disgwyl i’r heddlu ddilyn gweithdrefnau diogelu perthnasol ac mae’n hyrwyddo mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wybodaeth am drawma ac sy’n ymateb i drawma. Mae’r Coleg Plismona yn y broses o ddiweddaru ei ganllawiau a hyfforddiant ar gam-drin domestig. Mae’r canllawiau hyn a ddatblygwyd gan y Coleg ar gyfer heddluoedd ac yn nodi’r egwyddorion a’r safonau ar gyfer swyddogion sy’n ymchwilio i gam-drin domestig. Mae Canllawiau Statudol Deddf Cam-drin Domestig 2021 wedi’u diweddaru i gyfeirio at rôl lywodraethu a chomisiynu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae’n amlinellu y dylai Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ystyried sut y maent yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer eu hardaloedd lleol, gan gynnwys mewn perthynas â throseddau a digwyddiadau sy’n ymwneud â cham-drin domestig, i gefnogi atal, ymyrraeth gynnar a darparu gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol.

Awdurdodau lleol

27. Roedd rhai ymatebion i’r ymgynghoriad yn sôn am anghysondebau gyda’r gwasanaethau a ddarperir o fewn ardaloedd awdurdodau lleol ac yn nodi bod angen mwy o gydgysylltu, er enghraifft, mewn perthynas â rhannu data. Roedd yr ymatebion hyn yn sôn am anghysondebau o ran pa gymorth oedd yn cael ei ddarparu ledled y wlad ac ansawdd y gwasanaethau cymorth. Nodwyd y gallai systemau atebolrwydd cliriach, a mecanweithiau ar gyfer nodi anghysondebau a mynd i’r afael â hwy, helpu i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu darparu.

28. Mae’r canllawiau’n rhoi pwyslais ar gydweithio ac yn cydnabod yr angen i awdurdodau lleol weithio gyda gwahanol sefydliadau ac asiantaethau yn eu hardaloedd i ddatblygu ymyriadau cynnar a gwasanaethau cydgysylltiedig yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o anghenion lleol. Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn cynnal ymarfer mapio cenedlaethol i ddeall y ddarpariaeth o wasanaethau cam-drin domestig ledled Cymru a Lloegr.

Canolfannau Gwaith

29. Roedd sylwadau a ddarparwyd mewn perthynas â chanolfannau gwaith a’u staff yn canolbwyntio ar y mesurau presennol sydd ar waith ac yn cwestiynu a oeddent yn ddigonol o ran helpu dioddefwyr i gyrchu cymorth lles. Mynegwyd pryderon ynghylch y gofyniad i ddatgelu cam-drin domestig i staff y ganolfan waith er mwyn cael cymorth. Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith y gallai hyn fod yn rhwystr sylweddol i’r rhai sy’n cael mynediad at gymorth, a holwyd pa hyfforddiant a ddarperir i staff y ganolfan gwaith ar ymdrin â datgeliadau.

30. Mae’r canllawiau statudol yn amlinellu’r mesurau sydd ar gael mewn Canolfannau Gwaith i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Neilltuir pwyntiau cyswllt cam-drin domestig i bob canolfan waith, sydd wedi cael hyfforddiant i gefnogi anghenion unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Mae mesurau eraill sydd ar gael yn cynnwys: taliadau ymlaen llaw, cymorth costau tai deuol, cymorth ar gyfer gwneud cais newydd i Gredyd Cynhwysol, ac ar gyfer gwneud taliadau Credyd Cynhwysol rhanedig ar gais. Yn ddiofyn, mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol sengl, lle os yw hawlydd yn cyd-fyw â phartner, bydd angen iddynt wneud hawliad credyd cynhwysol ar y cyd fel cartref. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir rhannu taliad Credyd Cynhwysol rhwng dau aelod o gartref. Ni roddir unrhyw wybodaeth i’r cyflawnwr pam y caniatawyd y cais am daliad rhanedig. Disgwylir i bwyntiau cyswllt cam-drin domestig mewn canolfannau gwaith weithio’n agos gyda gwasanaethau lleol i rannu gwybodaeth a chyfeirio dioddefwyr at gymorth allanol ychwanegol. Mae’r holl staff mewn canolfannau gwaith yn ymgymryd â dysgu i gefnogi cwsmeriaid. Mae Hyfforddwyr Gwaith a staff cynhaliaeth plant yn derbyn hyfforddiant gorfodol, a ddatblygir gyda mewnbwn gan elusennau cam-drin domestig, ar adnabod arwyddion cam-drin. Gellir neilltuo pob hawliwr i Hyfforddwr Gwaith sengl, gyda’r nod o helpu i feithrin perthynas ymddiriedus, ac mae ystafelloedd preifat ar gael i’w defnyddio ym mron pob Canolfan Gwaith fel y gall unigolion drafod materion sensitif gyda’u Hyfforddwyr Gwaith yn gyfrinachol. Mae Pwyntiau Cyswllt Cam-drin Domestig yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn darparu cymorth mewn canolfannau gwaith i staff ac mae’r Tîm Cyflogwyr a Phartneriaethau Cenedlaethol yn darparu dosbarthiadau meistr a gwybodaeth yn rheolaidd. Bellach mae gan Ganolfannau Gwaith Uwch Arweinydd Cymorth Uwch i Gwsmeriaid ym mhob ardal ledled y DU sy’n gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio i gefnogi asiantau ag achosion cymhleth.

Addysg

31. Roedd nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad yn croesawu Addysg Perthnasoedd, Iechyd a Rhyw (RSHE) orfodol. Fodd bynnag, amlygodd rhai adborth ymgynghori y dylai addysg ym maes iechyd rhywiol ac atgenhedlol fod yn fwy eang i helpu plant i nodi pryd y maent yn ddioddefwr neu i nodi problemau ac effeithiau eu hymddygiad eu hunain a allai fod yn niweidiol. Codwyd hefyd y dylai’r holl ddeunydd addysgol fod yn hygyrch i fyfyrwyr anabl ac anghenion addysgol arbennig (SEND) a allai fod ag ymwybyddiaeth gyfyngedig o gam-drin domestig, gan eu rhoi mewn mwy o berygl. Amlygodd rhai ymatebion y dylai athrawon gael eu hyfforddi i gyflwyno addysg cam-drin domestig, ac mewn meysydd mwy ymarferol, megis cydnabod ac ymateb i ddatgeliadau. Ymhellach, codwyd pryderon ynghylch sut yr oedd RSHE yn mynd i gael ei orfodi a’i hyrwyddo mewn ysgolion crefyddol ac anghofrestredig.

32. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at RSHE ac yn nodi’n glir y rhwymedigaeth ar ysgolion i’w hystyried. Mae’r canllawiau’n nodi, pan yw ysgolion yn gwyro oddi wrth rannau o’r canllawiau sy’n gyfarwyddol o ran yr hyn y dylent neu na ddylent ei wneud, y bydd angen iddynt fod â rheswm da dros wneud hynny. Ers mis Medi 2020, mae RSHE wedi bod yn orfodol ym mhob ysgol. Mae’r Llywodraeth wedi datblygu pecyn cymorth i helpu athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yn hyderus i sicrhau bod pobl ifanc yn deall pwysigrwydd perthnasoedd iach. Mae hyn yn cynnwys modiwlau hyfforddi athrawon, canllawiau gweithredu a sesiynau hyfforddi athrawon.[footnote 7] Hefyd, mewn ymateb i adolygiad Ofsted o gam-drin rhywiol mewn ysgolion, mae’r Adran Addysg yn datblygu canllawiau anstatudol pellach ac yn cynnal gweminarau a digwyddiadau rhanbarthol i athrawon. Bydd y Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod athrawon disgyblion sy’n agored i niwed, fel y rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, a’r rhai mewn gofal neu mewn angen, yn cael y cymorth cywir i gyflwyno’r cwricwlwm. Mae modiwl hyfforddi athrawon RSHE wedi’i gynhyrchu i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm i ddisgyblion ag SEND ynghyd â gweminarau i athrawon i sicrhau eu bod yn deall sut i wahaniaethu’r cwricwlwm yn briodol.

Cyflogwyr

33. Cafwyd ymateb cadarnhaol ar y cyfan i’r ymatebion i’r ymgynghoriad a oedd yn rhoi sylwadau ar rôl y cyflogwr, gan y teimlwyd bod y canllawiau’n cydnabod yn gywir bod gan gyflogwyr ran i’w chwarae wrth gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Roedd adborth arall yn nodi y gallai’r adran hon o’r canllawiau fod yn fwy eang, er enghraifft cyfeirio at ddyletswyddau cyfreithiol cyflogwyr mewn perthynas â dioddefwyr cam-drin domestig a darparu manylion am ba bolisïau y dylai fod gan sefydliadau yn eu lle.

34. Mae’r canllawiau’n cyfeirio at ystod o gymorth ac offer sydd ar gael i gyflogwyr ddatblygu eu polisïau a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig. Nod y dull hwn yw cydnabod yr angen i bolisïau gael eu teilwra’n briodol ac mae’n pwysleisio, fel arfer gorau, y dylai polisïau ar yr ymagwedd at gam-drin domestig o fewn gweithluoedd gynnwys: cyfeirio at wasanaethau arbenigol, y cymorth ymarferol a gynigir, unrhyw addysg a hyfforddiant a’r ymagwedd at gyflawnwyr yn y gweithle. Mae’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn glir bod gan gyflogwyr rwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles eu cyflogeion. Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi cynnal adolygiad o gymorth yn y gweithle i ddioddefwyr cam-drin domestig sydd wedi amlygu pwysigrwydd cael hyblygrwydd yn y gwaith i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig. Mae BEIS wedi ymgynghori ar gynigion i ddiwygio rheoliadau gweithio hyblyg gyda golwg ar wneud gweithio hyblyg yn ddiofyn oni bai fod gan gyflogwyr resymau da dros beidio â gwneud hynny. Mae adborth i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd ymateb i’r ymgynghoriad yn cael ei ddarparu maes o law. Drwy ei gwneud yn haws i bawb gyrchu gweithio hyblyg, rydym yn gobeithio helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf, er enghraifft, dioddefwyr cam-drin domestig. Bydd BEIS a’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn monitro lefelau diddordeb a chofrestriad gan gyflogwyr i Gyfamod Cam-drin Domestig y Cyflogwyr (EDAC) a Menter y Cyflogwyr ar Gam-drin Domestig (EIDA).

Iechyd a gofal cymdeithasol

35. Roedd adborth i’r ymgynghoriad ar ymatebion iechyd yn canolbwyntio ar hyfforddiant gorfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn ymateb yn briodol ac yn effeithiol mewn achosion lle gallai claf fod yn ddioddefwr cam-drin domestig. Mynegodd adborth y byddai’r adran hon yn cael ei chryfhau drwy fanylu ar arfer gorau penodol, er enghraifft, o ran ymholiadau arferol yn y gwasanaethau iechyd a phrotocolau i nodi gwahanol fathau o gam-drin. Roedd bron pob sylw am wasanaethau cymdeithasol yn canolbwyntio ar hyfforddiant digonol i staff gofal cymdeithasol fel cysylltiadau allweddol mewn llawer o achosion cam-drin domestig.

36. Mae’r canllawiau statudol wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau strwythurol sy’n cael eu cyflwyno gan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. Bydd y ddeddfwriaeth yn creu Systemau Gofal Integredig ledled Lloegr a fydd yn dyrannu adnoddau ac yn cydlynu gwasanaethau. Bydd hefyd yn cyflwyno Byrddau Gofal Integredig a Phartneriaethau Gofal Integredig. Mae’r canllawiau’n nodi y bydd gan uwch arweinwyr y Bwrdd Gofal Integredig gyfrifoldebau diogelu statudol ac y byddant yn destun gofyniad statudol i gyfrannu at asesiad o anghenion ar gyfer llety diogel. Bydd gan Bartneriaethau Gofal Integredig gyfrifoldeb statudol i ddatblygu cynllun sy’n cwmpasu anghenion iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol, i fynd i’r afael â’r anghenion a nodwyd yn y Cyd-Asesiad Strategol o Anghenion a ddylai gwmpasu cam-drin domestig. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) wedi cyhoeddi adnodd cam-drin domestig ar-lein ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac wedi datblygu modiwlau e-ddysgu a hyfforddi gyda’r Sefydliad Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a’r Colegau Nyrsio Brenhinol a Meddygon Teulu. Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ei Safon Ansawdd ar gyfer Cam-drin Domestig, a diben hyn yw sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi’i hyfforddi’n ddigonol i ddarparu ymateb priodol a chyson i ddatgeliadau cam-drin domestig. Rhaid i holl staff y GIG ddilyn hyfforddiant diogelu gorfodol sy’n cynnwys canolbwyntio ar gam-drin domestig.

37. Mae dulliau hyfforddi mewn gwasanaethau gofal iechyd yn dod yn fwyfwy ystyriol o drawma, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gofal cymunedol a gwasanaethau ymosodiadau rhywiol a cham-drin rhywiol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu ar hyn ac i sicrhau bod arfer sy’n ystyriol o drawma yn cael ei ymgorffori ar draws lleoliadau gofal iechyd. Mae DHSC yn gweithio gyda GIG Lloegr ac NHS Improvement i ddatblygu canllawiau ar gyfer Byrddau Gofal Integredig a Phartneriaethau Gofal Integredig ar ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â thrais a cham-drin. Fel rhan o hyn, byddant yn archwilio sut y gall casglu data cam-drin domestig lleol fod yn sail well i ddarpariaethau seiliedig ar le ar gyfer dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig (i’w defnyddio yn y byrddau partneriaeth cam-drin domestig lleol ac i ystyried mewnbwn y GIG i strategaethau cam-drin domestig lleol). Mae’r canllawiau’n amlygu’r ddeddfwriaeth berthnasol sylfaenol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion a phlant, megis Deddf Gofal 2014 a Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 a rheoleiddio gofal cymdeithasol drwy Social Work England gan gynnwys gosod safonau proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.

Tai

38. Soniodd yr ymatebwyr a gododd faterion yn ymwneud â thai am aneffeithlonrwydd a diffyg hygyrchedd o fewn y system tai brys bresennol. Er mwyn gwella’r canllawiau, nododd rhai cyfraniadau y dylai’r adran hon fanylu ar y gwahanol fathau o anghenion tai, yr hyn sydd ar gael ac egluro dyletswyddau awdurdodau lleol. Roedd rhai ymatebion yn pwysleisio y dylid gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gael lleiafswm o fannau lloches ym mhob ardal awdurdod er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn gyfartal ac yn cael eu darparu â thai diogel digonol.

39. Mae’r canllawiau’n nodi rhai o’r gwahanol fathau o lety a allai fod ar gael i ddioddefwyr gyda ffocws penodol ar y mesurau sydd ar waith i fynd i’r afael â digartrefedd ac angen blaenoriaethol. Maent wedi’u diweddaru i adlewyrchu a chyfeirio at Ran 4 o Ddeddf 2021 sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu llety addas a diogel i bob dioddefwr cam-drin domestig ac yn nodi’r safonau ansawdd priodol o ran yr hyn sy’n gyfystyr â llety addas. Mae’r ddyletswydd hon a’i chyfeiriad yn y canllawiau’n nodi’r pwyslais ar awdurdodau lleol i ddeall yr anghenion a’r gofynion yn eu hardaloedd priodol. O fis Gorffennaf 2021, mae Deddf 2021 wedi rhoi blaenoriaeth i’r rhai sy’n ddigartref oherwydd eu bod yn ddioddefwyr cam-drin domestig, am lety a sicrhawyd gan yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw dioddefwyr yn aros gyda’r camdriniwr rhag ofn dod yn ddigartref.

Mynd i’r afael ag ymddygiad cyflawnwyr

40. Roedd nifer o ymatebion yn galw am fwy o fanylion am reoli cyflawnwyr yn effeithiol ac ymyriadau newid ymddygiad effeithiol. Mynegwyd y byddai dulliau effeithiol yn cynnwys ystyried yr amrywiaeth o gyflawnwyr yn eu cynllun, pa ymyriadau a allai fod yn gysylltiedig â gwahanol ymddygiadau troseddol, a chyd-destun y teulu. Amlygodd adborth y gall tactegau cyflawnwyr fod yn soffistigedig ac yn gynnil, ac y dylid cydnabod hyn a sut i fynd i’r afael â hyn trwy wasanaethau cyflawnwyr. Dywedwyd y dylai gwasanaethau cyflawnwyr fod ar gael ym mhob maes gan nodi, yn gyffredinol, bod angen gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gymhellion cyflawnwyr.

41. Mae’r canllawiau’n darparu gwybodaeth am ymatebion trwy Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol, Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd, Paneli Cyflawnwyr, Rhaglenni Cyflawnwyr, ac ymyriadau eraill i newid ymddygiad. Mae’r ddogfen wedi’i diweddaru i adlewyrchu ei bod yn canolbwyntio ar gymorth i ddioddefwyr, fodd bynnag mae’n dwyn ynghyd rywfaint o’r wybodaeth sydd ar gael ar fynd i’r afael ag ymddygiad troseddwyr. Rydym wedi cyhoeddi, drwy’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig, y strategaeth ar gyfer erlyn a rheoli cyflawnwyr cam-drin domestig, mae’r strategaeth hon yn cynnwys grymuso ardaloedd lleol i ddatblygu strategaethau cyflawnwyr lleol a chefnogi cyflwyno pecyn cymorth i gefnogi asesiadau o anghenion a chomisiynu. Rydym yn cydnabod nad oes gennym ddigon o dystiolaeth o hyd ar yr hyn sy’n gweithio i atal troseddu, gan gynnwys gwybodaeth am yr achosion, y sbardunau, a’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig ag ymddygiad cyflawnwyr. Mae angen i ni hefyd wybod mwy am yr hyn sy’n digwydd pan yw cam-drin domestig yn parhau dros gyfnod o amser ac a yw’r niwed a achosir yn cynyddu o ganlyniad. Felly, rydym yn bwriadu ehangu a gwerthuso ymyriadau fel y Prosiect Drive a rhaglenni cyflawnwyr eraill, yn ogystal â chynnal ymchwil pellach ar gamdrinwyr.

Comisiynu a chyllido

42. Galwodd ymatebwyr ar yr awdurdodau comisiynu perthnasol i flaenoriaethu buddsoddi mewn ymateb i gam-drin domestig, gan gynnwys mwy o ymrwymiad i gomisiynu cymorth gwirfoddol a chymunedol arbenigol. Yn ogystal, mynegodd ymatebion y byddai canllawiau manylach ar y pwnc hwn yn fuddiol, er enghraifft ar gaffael a sut y gellir cefnogi sefydliadau o wahanol feintiau trwy brosesau comisiynu. Mewn perthynas â chyllid, mynegwyd y dylai gwasanaethau gael eu cyllido yn unol â’r galw cynyddol, ac y gallai cyllid hefyd gael ei flaenoriaethu tuag at gapasiti TG (i gefnogi rhannu data er enghraifft), i gymorth i ddioddefwyr (megis gwasanaethau arbenigol ac IDVAs) a chyllid ar gyfer strwythurau amlasiantaethol (megis prosesau Tasgio a Chydgysylltu Amlasiantaethol).

43. Mae’r ddogfen bellach yn nodi bod gwybodaeth am gomisiynu wedi’i chynnwys yn y Datganiad o Ddisgwyliadau Cenedlaethol VAWG a ddiwygiwyd yn ddiweddar a’r Pecyn Cymorth Comisiynu VAWG sy’n sail i’r Datganiad. Mae’r dogfennau hyn yn rhoi canllawiau clir a chyson i ardaloedd lleol ar sut i gomisiynu pob math o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr i sicrhau bod yr ymateb i droseddau VAWG mor gydweithredol, cadarn ac effeithiol ag y gall fod.

44. Roedd cyllid i raddau helaeth y tu allan i gwmpas y canllawiau a’r ymgynghoriad, ond cyhoeddodd y Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, fuddsoddiad o dros £230 miliwn i fynd i’r afael â’r cam-drin hwn. Mae hyn yn cynnwys dros £140 miliwn ar gyfer cefnogi dioddefwyr a dros £81 miliwn ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad y troseddwyr. I gydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau cymorth, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i glustnodi £47.1 miliwn dros dair blynedd ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned a bydd nifer y Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol a Chynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol yn cynyddu i dros 1,000.

Naws, iaith ac ymagwedd

45. Roedd yr ymatebion hefyd yn ystyried naws, iaith ac ymagwedd gyffredinol y canllawiau. Teimlwyd y gallai’r canllawiau fod yn fwy cyfeiriadol i’r unigolion a’r asiantaethau hynny sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus a bod yn gliriach o ran eu hamcanion a’u cynulleidfa. Mynegodd rhai ymatebion y dylid rhoi ystyriaeth bellach i gymhwyso iaith sy’n osgoi rhoi’r cyfrifoldeb ar y dioddefwr ond yn hytrach sy’n dwyn y cyflawnwyr i gyfrif yn gadarn. Gwnaed sylwadau hefyd y dylid ystyried yr iaith a ddefnyddir mewn perthynas â phlant; er enghraifft, lle mae plant yn ymddwyn yn gamdriniol a’r canlyniadau negyddol posibl wrth gyfeirio at blant fel ‘cyflawnwyr’. Mae’r wybodaeth agoriadol yn y canllawiau wedi’i diweddaru i roi mwy o eglurder ynghylch at bwy y mae’r canllawiau wedi’u hanelu a sut y cânt eu cymhwyso i Gymru. Mae hefyd wedi’i hadolygu i fynegi amcanion y canllawiau yn gliriach a’r hyn y mae pob pennod yn ei gynnwys. Mae ystyriaeth wedi’i rhoi i ble y gellir cryfhau iaith i gyfleu disgwyliadau. Mae’r canllawiau’n cyfeirio mwy at yr angen i ddwyn cyflawnwyr i gyfrif ac yn cyfeirio ymhellach at y ddyletswydd gyfreithiol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus, y mae’r canllawiau a gyhoeddwyd yn ymwneud â hwy, i roi sylw i’r canllawiau wrth arfer y swyddogaethau. Mae’r iaith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc wedi’i diweddaru i sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ba ymatebion sy’n briodol ar gyfer y grŵp oedran hwn.

46. Argymhellwyd hefyd gan rai y dylai’r canllawiau ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar rywedd drwyddo draw a chan eraill bod angen ymagwedd niwtral o ran rhywedd, gan roi cydnabyddiaeth ddyledus i ddynion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig. Yn unol â’r gofyniad o dan adran 84(3) o Ddeddf 2021, mae’r canllawiau’n ceisio cymryd i ystyriaeth, cyn belled ag y bo’n berthnasol, mai menywod yw’r mwyafrif o ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod 1.6 miliwn o fenywod a 757,000 o ddynion rhwng 16 a 74 oed wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn ôl yr arolwg, roedd oddeutu un o bob pedair menyw rhwng 16 a 74 oed wedi dioddef cam-drin domestig yn ystod eu hoes. Mae mwyafrif y dioddefwyr lladdiad domestig hefyd yn fenywod. Dangosodd data arolwg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 i 2020 fod 276 o fenywod wedi’u lladd mewn lladdiadau domestig, ac mewn 97% o achosion roedd y sawl a ddrwgdybir yn wrywaidd. Mae’r data a’r dystiolaeth yn y canllawiau wedi’u hadolygu ac mae mwy o ddata wedi’u hymgorffori i roi mwy o fewnwelediad, er enghraifft, am wahanol nodweddion dioddefwyr a’r profiadau gwahanol y gallai dioddefwyr eu cael. Mae’r canllawiau’n nodi’n gliriach bod cam-drin domestig yn drosedd gudd, gan gydnabod nad yw’n cael ei hadrodd yn ddigonol. Mae’n nodi y dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol y gall fod pryderon i ddioddefwyr gwrywaidd am beidio â chael eu credu ac o fewn rhai cymunedau lleiafrifoedd ethnig y gall fod rhwystrau ieithyddol a diwylliannol i adrodd. At hynny, mae’r canllawiau’n amlygu pryderon penodol ynghylch stereoteipio hiliol. Mae’n annog gweithwyr proffesiynol rheng flaen ac ymarferwyr i ystyried sut i ymateb yn briodol ym mhob achos ac i fod yn ymwybodol o wahanol brofiadau ac anghenion dioddefwyr. Mae’n ailadrodd y gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Astudiaethau achos

47. Er nad oedd gan 45% o ymatebwyr yr Arolwg Clyfar unrhyw farn neu na wnaethant ddatgan a oedd yr astudiaethau achos yn ddefnyddiol iddynt, dywedodd y mwyafrif a fynegodd farn (30% o’r ymatebwyr) fod yr astudiaethau achos yn ddefnyddiol iddynt.[footnote 8] Roedd yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd ar yr astudiaethau achos yn nodi eu bod yn darparu gwell dealltwriaeth o rai materion penodol a chymhwyso gwahanol brosesau. Dywedodd ymatebwyr fod y rhan fwyaf o’r astudiaethau achos yn portreadu menywod fel dioddefwyr a dynion fel cyflawnwyr cam-drin domestig. Er bod hyn yn adlewyrchu natur rhywedd cam-drin domestig, wrth gwblhau’r canllawiau, mae astudiaeth achos bellach wedi’i darparu sy’n manylu ar brofiad dioddefwr oedrannus o gam-drin partner agos a’r ymateb a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaethau dan sylw.

Casgliad a’r camau nesaf

Fe wnaeth yr ymgynghoriad amlygu meysydd i’w hystyried ymhellach mewn diweddariadau dilynol wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu ar y gwahanol fathau o ymddygiad camdriniol, ar yr effeithiau ar ddioddefwyr a gweithredu newidiadau i ymatebion asiantaethau drwy ddarpariaethau Deddf 2021 a diwygiadau eraill.

Mae Deddf 2021 a’r canllawiau statudol cysylltiedig yn rhan o’r camau y mae’r Llywodraeth hon yn eu cymryd i drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched. Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddwyd Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched traws-lywodraethol wedi’i diweddaru, sy’n ymrwymo i ysgogi newid sylweddol yn yr ymateb i’r troseddau hyn, gyda dull system gyfan yn canolbwyntio ar flaenoriaethu atal, cefnogi dioddefwyr ac erlid cyflawnwyr, wedi’i ategu gan system gryfach. Ym mis Mawrth 2022, fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig cyflenwol sy’n symud y deial ymhellach tuag at atal cam-drin domestig rhag digwydd yn y lle cyntaf trwy ymyrraeth gynnar, gan gynyddu ein ffocws ar fynd i’r afael â chyflawnwyr cam-drin i leihau aildroseddu ac ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr. Mae’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig yn nodi’r manylion am yr ystod o fesurau y mae Llywodraeth EM yn eu cymryd i alluogi’r system gyfan i weithredu’n fwy cydlynol ac effeithiol.

Manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â:

Tîm Polisi Cam-drin Domestig
Yr Uned Cam-drin Rhyngbersonol
5ed Llawr, Adeilad Fry
Y Swyddfa Gartref
2 Stryd Marsham
Llundain
SW1P 4DF

domesticabuseenquiries@homeoffice.gov.uk

  1. Mae’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’ yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gam-drin y gwyddom sydd yn effeithio ar fenywod a merched yn anghymesur. Yn gynwysiedig o fewn y troseddau ac ymddygiad hyn mae trais a throseddau rhyw eraill, cam-drin domestig, stelcio, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’ (gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfodaeth, a lladd ar sail ‘anrhydedd’), yn ogystal â nifer o rai eraill, gan gynnwys troseddau a gyflawnwyd ar-lein. Er y defnyddir y term ‘trais yn erbyn menywod a merched’ mae hyn yn cyfeirio at holl ddioddefwyr y troseddau hyn. 

  2. Mae’r data cryno yn cyfeirio at yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad a dderbyniwyd drwy e-bost i flwch post yr ymgynghoriad neu drwy Smart Survey a roddodd ddigon o ddata am yr ymgynghorai, a ymatebodd i o leiaf un cwestiwn ymgynghori am y canllawiau statudol ac a gyflwynwyd mewn pryd (h.y. cyn y dyddiad cau ar gyfer ymateb lle na chytunwyd ar estyniad cyn y dyddiad cau). Fodd bynnag, adolygwyd yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. 

  3. Y drosedd o dagu heb fod yn angheuol o dan adran 70 o Ddeddf 2021. 

  4. Cascade. Adolygiad o ymchwil a chyfraith achos ar ddieithrio rhiant, Comisiynwyd gan Cafcass Cymru: 2018. 

  5. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Asesu Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat - Adroddiad terfynol: 2020 

  6. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Asesu Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat – Cynllun Gweithredu: 2020. 

  7. Ofsted. Adolygiad o gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau: 2021. 

  8. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli’r 704 o ymatebion cyflawn a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r Arolwg Clyfar a oedd ar gael ar GOV.UK.