Diwygio Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Derbynom 1,526 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd a’r Senedd DU, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’r diwygiadau rheoleiddiol arfaethedig ar gyfer y 3 Phrif Ddiwygiad a’r 9 Diwygiadau Technegol a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn awyddus i gael clywed eich barn am y canlynol:
- peidio â thynnu’r dynodiad yn awtomatig ar ôl pum mlynedd o ansawdd dŵr ‘gwael’
- newidiadau i’r meini prawf ar gyfer dynodi safleoedd ymdrochi
- dileu dyddiadau penodedig y tymor ymdrochi o’r rheoliadau
Mae arnom hefyd angen eich barn am newidiadau technegol arfaethedig, yn ogystal â diwygiadau posibl sydd ar y gweill:
- y diffiniad o ‘ymdrochwyr’
- cyflwyno nifer o fannau monitro mewn safleoedd ymdrochi
Mae’n bosibl y bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn ymateb yn wahanol i ganlyniadau’r ymgynghoriad.