Diwygio canllawiau ar leihau risg grwpiau agored i niwed o gael listeriosis
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pwrpas yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar eglurder y diweddariadau i’r canllawiau diwygiedig, yn ogystal â’n hasesiad o effaith y diwygiadau hyn.
Byddem yn enwedig yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y canlynol:
- a yw’r canllawiau’n rhoi digon o wybodaeth i helpu cydymffurfiaeth â’r gyfraith?
- a yw’r gwahaniaeth rhwng y cyngor ar arfer gorau a’r gofynion cyfreithiol yn glir?
- a yw’r canllawiau’n glir ac yn hawdd eu dilyn?
- a yw ein hasesiad o effaith y diweddariadau’n ddigonol?
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
- pob math o sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy’n darparu bwyd i grwpiau agored i niwed yng Nghyrmu, Gogledd Iwerddon a Lloegr
- manwerthwyr, arlwywyr a gweithgynhyrchwyr sy’n cyflenwi bwyd i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn sefydliadau o’r fath
- Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth
Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yw’r awdurdod annibynnol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn yr Alban. Mae gan FSS ei fersiwn ei hun o’r canllawiau hyn, a bydd hi’n ystyried unrhyw newidiadau i’r canllawiau hyn ar wahân fel rhan o’i hadolygu ei hun.
Manylion yr ymgynghoriad
Mae’r canllawiau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar leihau risg grwpiau agored i niwed o gael listeriosis wedi’u diweddaru. Gallwch weld y canllawiau diwygiedig ar waelod y dudalen hon. Mae fersiwn bresennol y canllawiau hefyd ar gael i chi weld (PDF).
Roedd y diweddariadau ar sail canfyddiadau’r arolwg o sut mae busnesau bwyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi canllawiau’r ASB ar listeriosis ar waith, yn ogystal ag adborth gan awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth.
Nid yw’r canllawiau’n newid polisïau presennol. Mae’r prif newidiadau, sydd wedi’u rhestru yn adran ‘Hanes diwygio’ y canllawiau, yn cynnwys (heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):
- diweddaru’r fformat er mwyn gwella hygyrchedd
- diweddaru cyfeiriadau deddfwriaethol a chyfeiriadau dolenni drwy’r ddogfen gyfan
- cadarnhau rhwymedigaethau cyfreithiol busnesau bwyd sy’n gweithredu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- ychwanegu adran newydd ar gofrestru busnesau bwyd sy’n gweithredu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol
- ychwanegu adran newydd ar ddigwyddiadau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol
- diweddaru’r rhestr bwydydd sy’n peri risg mewn perthynas â listeria
- adolygu ac addasu blychau ‘arfer gorau’ lle bo angen
- ychwanegu rhestr adnoddau arall
- newidiadau bach eraill i’r geiriau
Byddem yn croesawu safbwyntiau gan randdeiliaid ar y newidiadau i’r canllawiau, Yn enwedig, a ydych chi’n cytuno bod y canllawiau diwygiedig yn well na’r fersiwn bresennol, ac a yw’r canllawiau diwygiedig yn cyflawni’r gwelliannau sydd wedi’u rhestru uchod.
Effeithiau
Mae’r fersiwn ddiwygiedig yn cynnwys newidiadau golygyddol ac ychwanegiadau i sicrhau bod y canllawiau’n adlewyrchu’r gofynion cyfreithiol yn llwyr ar adeg yr ymgynghoriad, a hynny ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Nid oes newid i bolisïau na’r sail wyddonol gan fod Adolygiad Annibynnol o fwyd yn ysbytai’r GIG wedi dod i’r casgliad fod y canllawiau’n addas i’r diben.
Mae’r diweddariadau wedi’u gwneud er mwyn egluro’n well a chryfhau dealltwriaeth o sut dylai arfer gorau gael ei roi ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i leihau risg grwpiau agored i niwed o gael listeriosis.
Roedd canfyddiadau’r arolwg o sut mae busnesau bwyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi canllawiau’r ASB ar listeriosis ar waith, yn ogystal â’r adborth gan awdurdodau lleol a chynghorau dosbarth wedi nodi sawl maes allweddol i’w wella. Mae’r rhain yn cynnwys:
- yr angen i godi ymwybyddiaeth o’r canllawiau
- rhoi gwybodaeth fwy cynhwysfawr am gofrestru yn y fath feysydd
- gwahaniaethu’n well rhwng gofynion cyfreithiol statudol ac argymhellion o ran safonau arfer gorau
Cafodd y canfyddiadau hyn eu hystyried yn systematig drwy gydol y broses ddiwygio er mwyn mynd i’r afael â bylchau a oedd wedi’u nodi’n flaenorol a meysydd amwys yr oedd rhanddeiliaid perthnasol wedi tynnu sylw atyn nhw.
Yn ôl asesiad yr ASB, bydd y newidiadau i’r canllawiau presennol yn galw am gyfnod ymgyfarwyddo cymharol byr i ddefnyddwyr arfaethedig y canllawiau hyn.
Mae disgwyl i’r eglurhad yn y canllawiau diweddaraf helpu defnyddwyr drwy egluro pethau’n well ac yn fwy cryno, tra bo cynnwys y ddeddfwriaeth ddiweddaraf yn gwella’u perthnasedd yn gyffredinol.
Sut i ymateb
Defnyddiwch ein ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i roi eich sylwadau.
Os nad oes modd i chi gyflwyno’ch ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch chi gyflwyno’ch ymateb drwy anfon e-bost i Food.Policy.Wales@food.gov.uk yn lle hynny. Defnyddiwch yr un cwestiynau o’r ffurflen yn eich ymateb, chofiwch gynnwys:
- a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni
- ym mha genedl yr ydych chi wedi’ch lleoli
Sylwch fod fersiwn Saesneg y canllawiau’n destun yr ymgynghoriad. Bydd y fersiwn Gymraeg ddiweddaraf ar gael ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. Defnyddiwch y fersiwn Saesneg wrth ymateb i’r ymgynghoriad.
Ymatebion
Mae’n rhaid ymateb erbyn 11.59pm ar 16 Rhagfyr 2026.
Mae gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol yn hysbysiad preifatrwydd yr ASB ar gyfer ymgynghoriadau.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion i Food.Policy.Wales@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghoriadau Llywodraeth EF.
Yn yr Alban, FSS sy’n hyrwyddo’r canllawiau hyn.
Bydd fersiwn Gymraeg o’r canllawiau ar gael ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. Yn eich ymatebion, cyfeiriwch at y fersiynau Saesneg lle bo angen gwneud hynny.
Diolch ar ran yr ASB am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.